Os bydd angen cymorth arnoch â thasgau dydd i ddydd, neu angen symud i gartref gofal, efallai gall eich cyngor lleol helpu â’r costau gofal. Bydd yr union swm a gewch yn dibynnu ar eich anghenion gofal a faint gallwch fforddio ei dalu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa wasanaethau gofal sy’n cael eu darparu gan gynghorau lleol?
- Sut i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal
- Cael asesiad cyngor lleol o anghenion gofal
- Asesiad ariannol a chymhwyster
- Canlyniad yr asesiad ariannol
- Penderfynu pwy sy’n rheoli’ch cyllideb ar gyfer gofal personol
- Beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad y cyngor lleol
- Newidiadau i gap gofal cymdeithasol yn Lloegr o Hydref 2023
Pa wasanaethau gofal sy’n cael eu darparu gan gynghorau lleol?
Yn ogystal â darparu llefydd mewn cartrefi gofal, gall gynghorau lleol eich helpu i aros yn eich cartref eich hun os oes gennych anghenion gofal.
Mae’r gwasanaethau a gynigiant yn cynnwys:
- prydau bwyd
- gofalwyr
- trafnidiaeth
- addasiadau i’r cartref
- cyfarpar sy’n helpu â thasgau bywyd bob dydd.
Gall cynghorau lleol ddarparu rhai o’r gwasanaethau hyn am ddim i bawb sydd eu hangen. Ond ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau gofal, bydd eich gynghorau lleol ond yn talu os yw eich incwm a’ch cynilion yn isel.
Hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael y mwyafswm o ariannu gan eich cyngor lleol, fel rheol bydd dal angen i chi dalu rhywbeth tuag at eich costau gofal. Os oes gennych lawer o gynilion neu incwm uchel, mae’n debyg y bydd rhaid i chi dalu’r gost lawn eich hun.
Os oes gennych anabledd neu gyflwr meddygol cymhleth sy’n golygu bod gennych anghenion gofal iechyd yn hytrach nag anghenion gofal cymdeithasol, gallech fod yn gymwys am gyllid y GIG.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A wyf yn gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
Sut i gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal
Cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol i ofyn am asesiad o anghenion gofal. Naill ai ar yr un pryd â’r asesiad anghenion neu’n fuan wedi hynny, bydd eich cyngor lleol yn cynnal asesiad ariannol i weld a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Os oes gennych gynilion ac asedau o fwy na’r symiau yn y tabl hwn, bydd rhaid i chi dalu am eich gofal eich hun yn llawn (colofn ganol) neu’n rhannol (colofn olaf):
Gwlad | Trothwy cynilion uwch ar gyfer unrhyw gyllid cyngor lleol yn 2021/22 | Trothwy cynilion is ar gyfer uchafswm cyllid cyngor lleol yn 2021/22 |
---|---|---|
Cymru |
£24,000 (gofal gartref) neu £50,000 (gofal mewn cartref gofal) |
£24,000 (gofal gartref) neu £50,000 (gofal mewn cartref gofal) |
Lloegr |
£23,250 |
£14,250 |
Yr Alban |
£29,750 |
£18,500 |
Gogledd Iwerddon |
£23,250 |
£14,250 |
Os yw’ch cynilion yn uwch na’r terfyn uchaf (a ddangosir yng ngholofn ganol y tabl), bydd rhaid i chi dalu’ch costau gofal llawn eich hun nes bod eich cynilion wedi disgyn yn is na’r trothwy hwnnw.
Fodd bynnag, mae’n dal yn werth cysylltu â’ch cyngor lleol neu ymddiriedolaeth, gan fod gennych hawl o hyd i asesiad o anghenion gofal am ddim, waeth beth yw eich sefyllfa ariannol.
Os yw’ch cynilion yn is na’r terfyn uchaf, ond yn uwch na’r terfyn isaf (a ddangosir yn y golofn ddiwethaf), bydd eich cyngor lleol yn talu rhywfaint o’ch costau gofal. Ond bydd disgwyl i chi hefyd gyfrannu o’ch cynilion.
Nid yw hyn yn berthnasol yng Nghymru, lle nid oes mond un terfyn cynilo - ni chewch unrhyw gyllid (uwchlaw’r terfyn), cewch ychydig o help (islaw’r terfyn).
Hyd yn oed os yw’ch cynilion yn is na’r terfyn isaf, sy’n golygu eich bod yn cael yr uchafswm cyllid gan eich cyngor lleol, fel arfer bydd disgwyl i chi dalu rhan o’ch incwm tuag at gost gofal.
Cael asesiad cyngor lleol o anghenion gofal
Cyn iddynt allu helpu, mae rhaid i’ch cyngor lleol gwblhau asesiad anghenion gofal. Mae am ddim ac mae gennych hawl cyfreithiol i gael un.
Ni ddylid gwrthod asesiad i chi oherwydd bod y cyngor lleol yn credu nad yw’ch anghenion yn ddigonol neu na fyddech yn gymwys am gymorth ariannol.
Bydd eich cyngor lleol yn adnabod eich gofynion gofal ac yn gwirio eu bod yn bodloni meini prawf cenedlaethol.
Os ydych yn gymwys am gymorth, yn gyfreithiol mae rhaid i’r cyngor lleol ddarparu neu drefnu’r gwasanaethau rydych eu hangen.
Yna byddant yn cyflawni asesiad ariannol i weld a ddylech dalu am unrhyw wasanaethau fydd eu hangen arnoch.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae asesiad cyngor lleol o anghenion gofal yn gweithio
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
I ddarganfod pa gyngor lleol sy’n gyfrifol am eich asesiad ewch i wefan GOV.UK
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Bydd eich Health and Social Care Trust lleol yn cynnal asesiad o anghenion gofal cymdeithasol
Darganfyddwch eich Health and Social Care Trust lleol ar wefan nidirect
Asesiad ariannol a chymhwyster
Os ydych yn gymwys i gael help, bydd y cyngor lleol yn cyflawni asesiad ariannol.
Gelwir hyn yn ‘brawf modd’. Mae hyn yn helpu i gyfrifo faint dylech ei gyfrannu tuag at gost eich gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Profion modd i gael help gyda chostau gofal – sut maent yn gweithio
Canlyniad yr asesiad ariannol
Canlyniad yr asesiad ariannol yw y bydd y cyngor lleol naill ai’n:
- cytuno i dalu’n llawn am eich anghenion gofal
- cytuno i dalu rhywfaint o’r gost – a bydd angen i chi dalu’r gweddill, neu
- gadael i chi dalu’n llawn am eich anghenion gofal.
Cewch ddatganiad o’r enw ‘cyllideb bersonol’ sy’n nodi cost y gofal, y swm y mae rhaid i chi ei dalu a faint y bydd y cyngor lleol yn ei dalu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau
Penderfynu pwy sy’n rheoli’ch cyllideb ar gyfer gofal personol
Os ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, gallwch:
- ofyn i’ch cyngor lleol drefnu’r gwasanaethau gofal ar eich rhan
- cael taliadau uniongyrchol gan y cyngor lleol a threfnu pethau drosoch chi’ch hun. Gall hyn olygu mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth ar eich gofal a’ch arian
- cael ‘pecyn cymysg’. Dyma ble mae’r cyngor lleol yn trefnu rhai darnau o’ch gofal ac rydych yn derbyn taliadau uniongyrchol am rannau eraill.
Os byddwch yn dewis taliadau uniongyrchol, gallwch ofyn i rywun arall reoli’ch cyllideb a threfnu gwasanaethau i chi. Gallai hyn fod yn aelod o’r teulu, ffrind, gweithiwr gofal proffesiynol neu eiriolwr annibynnol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau uniongyrchol - trefnu a thalu am eich gofal
Beth i’w wneud os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad y cyngor lleol
Gallwch herio penderfyniad y cyngor lleol os:
- byddant yn gwrthod talu am eich gwasanaethau gofal
- nad ydych yn credu bod digon o gymorth wedi’i gynnig i fodloni’ch anghenion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Sut i herio’ch cyngor lleol ynghylch eich gofal
Newidiadau i gap gofal cymdeithasol yn Lloegr o Hydref 2023
Cyhoeddodd y llywodraeth gap newydd o £86,000 ar y swm y dylech orfod ei dalu am ofal cymdeithasol o Hydref 2023.
Bydd y cap yn talu ffioedd am ofal personol, er enghraifft help gyda golchi a gwisgo. Bydd eich awdurdod lleol yn cadw golwg ar eich cynnydd tuag at y cap. Ond mae'n bwysig cadw cofnod o'r costau eich hun i helpu i sicrhau na chollir unrhyw beth.
Yr hyn na fydd yn cyfrif tuag at eich £86,000: unrhyw beth nad yw’r awdurdodau lleol yn ei ystyried yn 'gymwys' ar gyfer eich gofal, unrhyw gymorth ariannol y maent yn ei ddarparu tuag at eich costau, taliadau atodol y gallech eu gwneud ar gyfer amwynderau premiwm fel ystafelloedd gwell, costau bywyd bob dydd neu westy a llety.
O dan y cynlluniau newydd, o Hydref 2023:
Asedau | Beth ydych yn ei dalu? |
---|---|
Islaw’r terfyn cyfalaf is (£20,000 o Hydref 2023 ymnlaen) |
Nid ydych bellach yn cyfrannu o’ch asedau a dim ond yr hyn y gallwch ei fforddio o'ch incwm. |
Cael rhwng £20,000 a £100,000 |
Beth allwch ei fforddio o incwm ynghyd â chyfraniad ‘tariff’ prawf modd o asedau. Cyfrifir y tariff fel a ganlyn: am bob £250 o gyfalaf rhwng y terfyn isaf ac uchaf, rhagdybir incwm o £1 yr wythnos, a bydd hyn yn daladwy tuag at gost eich gofal. Bydd yn rhaid i chi dalu £86,000 i gyrraedd y cap. |
Uwchlaw’r terfyn cyfalaf uchaf (£100,000 o Hydref 2023) |
Cost lawn - rydych yn hunan-ariannwr. |
Darganfyddwch fwy am newidiadau i’r cap gofal cymdeithasol ar wefan GOV.UK (Opens in a new window)
Mae talu am ofal yn gymhleth, gall siarad ag ymgynghorydd ffioedd gofal diduedd eich helpu i ddeall eich opsiynau.