Ychydig iawn ohonom all fforddio talu’r gost uchel o ofal hirdymor allan o’n hincwm rheolaidd. Ond peidiwch â phoeni - mae ffyrdd eraill o ariannu’ch gofal.
Pam y gallai fod angen i chi dalu am ofal hirdymor
- Nid ydych yn gymwys am ariannu gan awdurdod lleol.
- Rydych yn dymuno gwella’ch gofal gartref drwy dalu ychydig mwy.
- Rhaid i chi dalu mwy i lenwi’r bwlch yn y ffioedd gofal tra bod yr awdurdod lleol yn cyllido eich gofal yn ystod cyfnod lle mae cytundeb gohirio talu.
Gwiriwch eich hawliau a holi’r cwestiynau cywir
Cyn i chi wneud dim, gwiriwch eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau’r Wladwriaeth a budd-daliadau eraill mae gennych hawl iddynt - nid yw rhai o’r rhain yn destun prawf modd.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio pob dewis ariannu posib gan yr awdurdod lleol a’r GIG hefyd.
Os ydych chi’n symud i gartref gofal a bod eich eiddo felly’n wag, yna dylech gael eich eithrio’n llawn rhag talu Treth Cyngor hyd nes ei fod yn cael ei werthu.
Gall cwestiynnau eraill i’w hystyried gynnwys:
- A yw’r gofal rydych chi’n ei ddewis yn fforddiadwy yn yr hirdymor?
- A ydych chi wedi cael asesiad o'ch anghenion gan y cyngor lleol, ac a fyddent yn cwrdd â ffioedd cartref gofal rydych chi wedi'i ddewis pe bai'n rhaid i chi ddisgyn yn ôl ar eu cyllid?
- Neu a fyddai darparwr y gofal yn parhau i gynnig llety i chi ar gyfraddau’r awdurdod lleol?
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Talu eich costau gofal eich hun os ydych wedi defnyddio eich cynilion i gyd
Sut i ariannu’ch gofal hirdymor
Cynllun talu ffioedd gofal gydag angen uniongyrchol
Mae hwn wedi’i ddylunio i roi cymorth os byddwch angen gofal ar unwaith. Yn gyfnewid am fuddsoddi lwmp swm, cewch cynnig incwm gwarantedig am oes.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Blwydd-dal anghenion brys
Prynu cartref llai
Gallai gwerthu eich cartref presennol a phrynu un llai a rhatach ryddhau ychydig o arian i dalu am eich costau gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael tŷ llai i ariannu eich gofal hirdymor
Defnyddio’r diystyriaeth eiddo 12-wythnos
Beth ydyw?
Os oes angen i chi fyw mewn cartref gofal yn barhaol, gallech fod yn gymwys i wneud hynny am ddim am 12 wythnos.
Cynlluniwyd y 12 am ddim hwn i roi amser i bobl baratoi am eu dyfodol. Mae'n eich galluogi i weithio allan pa atebion tymor hir fydd yn iawn iddynt hwy, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.
Os ydych yn gymwys, rhaid i’r cyngor beidio â chynnwys gwerth eich eiddo yn eich asesiad ariannol am 12 wythnos. Gelwir hyn yn ddiystyriaeth eiddo 12-wythnos. Bydd y cyngor yn cyfrannu at eich ffioedd cartref gofal yn ystod y cyfnod hwn, neu hyd nes y gwerthir eich eiddo, os bydd hynny’n digwydd yn gyntaf.
Pwy sy’n ei gael?
I fod yn gymwys bydd angen i’ch cynilion - cyfalaf ac eithrio gwerth eich eiddo - fod yn llai na’r trothwy cynilion. Yn 2022/23, mae hyn yn:
- £23,250 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
- £28,500 yn yr Alban
- £50,000 yng Nghymru - gofal mewn cartref gofal.
Wedi dweud hynny, bydd y swm a gewch gan cynghorau lleol yn amrywio.
Felly os hoffech fynd i gartref gofal sydd yn fwy costus na’r hyn a gytunodd eich cyngor lleol i dalu amdano, bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i’r arian ychwanegol yn ystod y 12 wythnos, neu ddod o hyd i ddewis rhatach.
Gall unigolion sydd heb lwyddo i werthu eu cartrefi i dalu am eu gofal, neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, arwyddo cytundeb taliadau gohiriedig gyda’r cyngor lleol, sy’n golygu y bydd y cyngor yn parhau i ddarparu cyllid tuag at eu ffioedd cartref gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cytundebau taliad gohiriedig ar gyfer pobl sy'n berchen ar eu cartref ac sy'n symud i mewn i gartref gofal
Darllewnch fwy ar y daflen ffeithiau ‘Care home fees and treatment of property’ ar wefan FirstStop
Dyma rai enghreifftiau o sut mae cynilion yn effeithio costau gofal:
- Mae Jane yn berchen ar ei chartref ac mae ganddi £10,000 mewn cynilion. Golyga hyn bod ganddi hawl i gael 12 wythnos o ofal am ddim. Mae hyn oherwydd bod ganddi lai na £23,250 mewn cynilion a’i bod yn Lloegr.
- Mae gan David £25,000 mewn cynilion. Mae dros y trothwy, sy’n £23,250. Cymerwn fod un wythnos mewn gofal yn £1,000. Byddai’n rhaid i David dalu am ei ofal ei hun am bythefnos, tan i’w gynilion ddisgyn o dan y trothwy o £23,250.
- Mae gan Emma £50,000 mewn cynilion. Hyd yn oed petai ei gofal yn costio £1,000 yr wythnos, byddai ond yn gwario £12,000 dros y 12 wythnos, gan adael £38,000. Byddai hyn yn golygu y byddai dros y trothwy £23,250, ac felly ni fyddai’n cael gofal am ddim.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw am y trothwyon cyfalaf yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer talu am ofal hirdymor Cyllid awdurdod lleol am gostau gofal – a ydych yn gymwys?
Rhyddhau ecwiti
Mae hwn yn rhoi lwmp swm neu incwm cyson i chi i dalu am eich gofal gan ddefnyddio’r arian sydd wedi ei glymu i mewn i’ch tŷ, tra rydych yn dal i fyw yno.
Rhaid i’r arian gael ei dalu’n ôl ymhen amser pan fydd y tŷ wedi ei werthu.
Dim ond ar ôl pwyso a mesur yr holl ddewisiadau eraill y dylech chi ystyried cynllun rhyddhau ecwiti.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal
Bondiau buddsoddi
Gallwch ddefnyddio bondiau buddsoddi i roi cymorth i ariannu eich gofal.
Er hyn, nid oes sicrwydd y bydd yr elw’n cwrdd â chost eich gofal ac na fydd eich arian wedi ei glymu am amser hir. Felly, nid ydynt yn un o’r dewisiadau gorau fel rheol.
Cynlluniau gwerthu-a-rhentu’n-ôl
Mewn cynllun gwerthu-a-rhentu’n-ôl, byddwch yn gwerthu’ch cartref am bris gostyngol.
Yn gyfnewid, byddwch yn cael aros yno fel tenant sy’n talu rhent am gyfnod penodol. Gelwir hyn yn gyfnod sefydlog.
Gall hyn ymddangos fel syniad da os ydych yn dymuno aros yn eich cartref ac angen talu am ofal.
Fodd bynnag, dim ond pan fydd pethau wedi dod i’r pen y dylech chi ystyried y cynlluniau gwerthu-a-rhentu’n-ôl. Y rheswm am hyn yw:
- cewch lai o arian am eich cartref na phetaech yn ei werthu ar y farchnad agored
- fyddwch chi ddim wedyn yn berchen ar eich cartref eich hun a bydd angen i chi dalu rhent - gallai hyn lyncu’r arian y gallech fel arall fod yn ei wario ar ofal
- gallai eich rhent godi yn ystod cyfnod sefydlog eich tenantiaeth
- efallai y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref ar ôl i gyfnod sefydlog eich cytundeb tenantiaeth ddod i ben
- gallech fod mewn perygl o gael eich troi allan os torrwch delerau’ch tenantiaeth - er enghraifft, os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch rhent
- os bydd y person neu’r cwmni sy’n prynu eich cartref yn mynd i anawsterau ariannol, gallai eich cartref gael ei adfeddiannu.
Mae’n bwysig peidio ag arwyddo cytundeb gwerthu-a-rhentu’n-ôl newydd heb gael cyngor annibynnol yn gyntaf am eich dewisiadau eraill.
Dewisiadau eraill ar gyfer ariannu eich gofal hirdymor
- Rhentu eich cartref allan.
- Defnyddio cynilion neu werthu cyfranddaliadau.
- Gwerthu rhai o’ch meddiannau fel gwaith celf, hen greiriau neu bethau a gasglwyd gennych.
- Chwilio am bolisïau yswiriant a allai ddiogelu costau gofal.
Mewn rhai ardaloedd, ceir cynlluniau o’r enw ‘Homeshare’.
Mae hyn yn golygu cael rhywun i rannu eich cartref yn gyfnewid am ychydig o gymorth, fel coginio prydau bwyd neu nôl neges.
Ni fydd hyn yn addas os byddwch angen gofal mwy dwys.
Darganfydwch fwy ar wefan Shared Lives Plus
Camau nesaf
Oeddech chi’n gwybod?
Yn aml, gelwir ymgynghorydd ariannol annibynnol sydd yn arbenigo mewn ariannu gofal hirdymor yn gynghorydd ffioedd gofal arbenigol.
Mae dewis sut i dalu am eich gofal hirdymor yn benderfyniad mawr. Mae’n bwysig siarad â chynghorydd ariannol annibynnol i drafod pa opsiwn yw’r un gorau i chi.
Chwiliwch am gynghorydd sydd â’r cymhwyster CF8 arbenigol. Golyga hyn eu bod yn gymwys i gynghori ar ariannu gofal hirdymor.
Byddant yn gallu egluro’r holl gostau a’r risgiau, a rhoi cymorth ar bethau eraill, megis trefnu eich ewyllys neu sefydlu pŵer atwrnai.
Y nod yn y pen draw yw gwneud y mwyaf o’ch incwm er mwyn talu costau gofal gan geisio gwarchod eich cyfalaf gwreiddiol gymaint â phosib.