Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Gofal tymor hir
Teulu a gofal Gofal tymor hir

Beth yw cytundeb taliad gohiriedig?

Mae cytundeb taliad gohiriedig yn drefniant gyda'ch cyngor sy'n eich galluogi i ddefnyddio gwerth eich cartref i dalu costau cartref gofal. Mae'n gadael i chi oedi talu'r costau hynny, felly nid oes rhaid i chi werthu'ch cartref ar unwaith.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pryd fyddech chi'n defnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
  • Sut mae cytundeb taliad gohiriedig yn gweithio?
  • Ydw i'n gymwys i ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
  • A oes unrhyw daliadau gyda chytundeb taliad gohiriedig?
  • Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
  • Sut y bydd cytundeb taliad gohiriedig yn effeithio ar fy mudd-daliadau?
  • Rhentu eich cartref os ydych yn cytuno i gytundeb taliad gohiriedig
  • Beth yw Lwfans Incwm Gwario?
  • Cael cyngor ariannol ar gynllunio gofal hirdymor

Pryd fyddech chi'n defnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

Efallai y byddwch yn ystyried cytundeb taliad gohiriedig os yw'ch cynilion ac asedau eraill (ac eithrio eich cartref) yn isel, ond mae gwerth eich cartref yn eich gwthio dros y trothwy ar gyfer talu costau cartref gofal eich hun. Mae'r cytundeb hwn yn caniatáu i chi oedi cyn gwerthu eich cartref i dalu costau gofal.

Os yw'ch partner, plentyn dibynnol, perthynas dros 60 oed, neu rywun sy'n sâl neu'n anabl, yn byw yn eich cartref, ni fydd yn cael ei gyfrif fel ased, ac ni fydd angen cytundeb taliad gohiriedig.

Mae eich cyngor lleol yn cynnig dau fath o gytundebau taliad gohiriedig os ydych yn gymwys:

  1. Cytundeb traddodiadol, a elwir hefyd yn 'arddull codi tâl': mae'r cyngor yn talu'r cartref gofal ar eich rhan. Dyma'r math mwyaf cyffredin o gytundeb sy'n cynnwys llai o waith papur gan fod y cyngor yn delio â thaliadau a chontractau gyda'r cartref gofal.
  2. Cytundeb arddull benthyciad: mae'r cyngor yn benthyca’r arian i chi, ac rydych yn talu'r cartref gofal yn uniongyrchol. Efallai y bydd yr opsiwn hwn ar gael dim ond os ydych eisoes yn talu am eich gofal eich hun. Mae'n cynnig mwy o reolaeth a hyblygrwydd wrth ddewis cartref gofal, ond mae'n rhaid i chi reoli'r taliadau a chontractio eich hun.

Efallai yr hoffech gymharu cytundeb taliad gohiriedig gydag opsiynau eraill, er enghraifft, gwerthu'ch cartref yn gyflym a rhoi arian mewn cyfrif cynilo.

Mae talu am ofal yn gymhleth ac yn dibynnu ar lawer o bethau sy'n unigryw i chi. Darganfyddwch fwy am eich opsiynau yn ein canllawiau:
  • Canllaw i ddechreuwyr ar dalu am ofal hirdymor
  • Ffyrdd o dalu ffioedd cartrefi gofal
  • Cymorth gyda chostau gofal hirdymor gan eich cyngor lleol neu HSNI
Nol i’r brig

Sut mae cytundeb taliad gohiriedig yn gweithio?

Os ydych yn gymwys, gall eich cyngor lleol helpu i dalu eich biliau cartref gofal, a gallwch eu had-dalu yn hwyrach pan fyddwch yn gwerthu'ch cartref neu ar ôl eich marwolaeth. 

Byddwch yn llofnodi cytundeb yn nodi'r telerau ad-dalu. 

Bydd y cyngor yn codi tâl cyfreithiol ar eich eiddo i sicrhau bod y ddyled yn cael ei had-dalu. Bydd y tâl hwn yn cael ei ddileu unwaith y bydd y ddyled yn cael ei thalu. Os na all y cyngor sicrhau'r ffi hon drosodd, mae'n debygol na fyddant yn parhau gyda'r cytundeb.

Fel arfer gallwch ddefnyddio hyd at 70-80% o werth eich cartref i dalu am ffioedd gofal. Mae hyn yn sicrhau bod digon o arian ar ôl ar gyfer costau gwerthu a llog. Bydd y cyngor yn adolygu'r cytundeb pan fydd 70% o werth eich cartref yn cael ei ddefnyddio.  

Ni ddylai sefydlu'r cytundeb hwn gymryd mwy na 12 wythnos. Mae'r trefniant hwn er mwyn osgoi gwerthu'ch cartref yn ystod asesiad ariannol.  

Nid yw arosiadau tymor byr mewn cartref gofal yn dod o dan y cynllun hwn.

Mae cyllid gofal yn gweithio'n wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Darganfyddwch fwy lle rydych chi'n byw:

Lloegr

  • Ffoniwch Age UK ar 0800 055 6112 (bob dydd, 8am i 7pm) neu ewch i Age UKYn agor mewn ffenestr newydd
  • Am daflenni ffeithiau, gweler Age UKYn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

  • Ffoniwch linell gymorth Age Scotland ar 0800 1244 222 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) neu ewch i Age Scotland
  • Am daflenni ffeithiau, gweler Age ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
  • Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Care Information ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Cymru

  • Am arweiniad a gwasanaethau, ewch i wefan Llywodraeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • Gallwch hefyd ffonio Age Cymru ar 08000 223 444 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) neu fynd i Age CymruYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

  • Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes system daliad gohiriedig ffurfiol. Ond efallai y bydd yn dal i fod ar gael – Gofynnwch i'ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSCNI)Yn agor mewn ffenestr newydd lleol
  • Ffoniwch Age NI ar 0808 808 7575 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) neu ewch i Age NIYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Ydw i'n gymwys i ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

I fod yn gymwys ar gyfer cytundeb taliad gohiriedig:

  • mae eich cyngor lleol yn cytuno bod angen gofal arnoch mewn cartref gofal.
  • mae'n rhaid i chi fod yn berchen ar gartref neu ased arall y gall y cyngor ei ddefnyddio fel diogelwch
  • bod gwerth eich cartref yn cael ei ystyried wrth asesu ffioedd eich cartref gofal, er enghraifft, os nad oes unrhyw bartner neu ddibynnydd yn byw yno
  • dylech fod mewn cartref gofal yn y tymor hir, gan nad yw arhosiad dros dro yn gymwys
  • rhaid i chi gytuno i delerau'r cytundeb taliad gohiriedig. 
  • rhaid bod gennych gynilion a chyfalaf sy'n llai na'r trothwy a ddangosir yn y tabl isod;
Rhanbarth Trothwy cynilion a chyfalaf uwch ar gyfer unrhyw gyllid cyngor lleol yn 2024/25 Trothwy cynilion a chyfalaf is ar gyfer uchafswm cyllid cyngor lleol yn 2024/25

Lloegr

£23,250

£14,250

Cymru

£24,000 (gofal yn y cartref) or £50,000 (gofal mewn cartref gofal)

£24,000 (gofal yn y cartref) or £50,000 (gofal mewn cartref gofal)

Yr Alban

£35,000

£21,500

Gogledd Iwerddon

£23,250

£14,250

Os ydych yn gymwys, bydd eich cyngor lleol yn trafod yr opsiwn talu gohiriedig gyda chi, ond mae'n rhaid i chi ofyn amdano. 

Os oes gennych forgais, gwiriwch gyda'ch benthyciwr, oherwydd efallai na fydd rhai yn caniatáu i fenthyciad arall gael ei warantu ar y cartref. Gallai cynlluniau rhyddhau ecwiti presennol atal ymuno â chynllun taliad gohiriedig.

Nol i’r brig

A oes unrhyw daliadau gyda chytundeb taliad gohiriedig?

Os gwnewch gytundeb taliad gohiriedig gyda'ch cyngor lleol, efallai y bydd rhai costau. Gall y rhain gynnwys:

  • ffioedd gweinyddol ar gyfer sefydlu'r cytundeb, fel ffioedd y Gofrestrfa Tir, costau prisio cartref, ffioedd cyfreithiol, cludiad, ffôn, ac argraffu.
  • Taliadau untro yn ddiweddarach os bydd eich dyled yn cyrraedd hanner gwerth eich cartref, bydd ailbrisiadau rheolaidd o'ch cartref yn golygu ffioedd.

Rhaid i ffioedd y cyngor fod yn rhesymol a dylent dalu eu costau yn unig. Rhaid iddynt sicrhau bod rhestr o'r costau hyn ar gael i'r cyhoedd. 

Taliadau llog ar daliadau gohiriedig

Yng Nghymru a Lloegr, gall eich cyngor lleol godi llog ar y taliadau gohiriedig, sy'n cael eu hadolygu bob chwe mis ym mis Ionawr a mis Gorffennaf.

Yn yr Alban, ni chodir llog tra bo'r cytundeb yn weithredol. Codir llog dim ond ar ôl i'r cytundeb ddod i ben neu 56 diwrnod ar ôl marwolaeth, ar gyfradd resymol a bennir gan y cyngor. Os na thelir y ddyled ar amser ar ddiwedd y cytundeb, efallai y bydd llog ychwanegol a ffioedd gweinyddol yn cael eu hychwanegu.

Am fwy o wybodaeth yng Ngogledd Iwerddon, gofynnwch i'ch HSCNI lleol a allai system daliad gohiriedig ffurfiol fod ar gael o hyd.Yn agor mewn ffenestr newydd

Ad-dalu eich cyngor lleol

Rhaid ad-dalu'r arian sy'n ddyledus, gan gynnwys llog a thaliadau gweinyddol, pan fyddwch yn gwerthu'ch cartref.

Os byddwch yn marw, mae ysgutor eich ewyllys yn gyfrifol am ad-dalu'r swm sy'n ddyledus ar ba bynnag un sydd gynharaf:

  • y dyddiad y caiff yr eiddo neu'r ased ei werthu neu ei waredu, neu
  • 90 diwrnod ar ôl dyddiad y farwolaeth. 
Nol i’r brig

Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

Manteision
  • Nid yw cytundeb taliad gohiriedig yn effeithio ar y ffordd y caiff eich incwm a'ch cynilion eu hasesu i weld faint y bydd angen i chi ei dalu am eich gofal. 

  • Mae eich cyngor lleol yn talu am y cartref gofal neu'n benthyg yr arian i chi, felly nid oes angen i chi dalu ar unwaith.

  • Dim ond swm o arian sy'n seiliedig ar yr amser yr ydych yn ei dreulio mewn cartref gofal sy'n ddyledus gennych.

  • Gallai gwerth eich cartref gynyddu, a allai helpu i dalu costau gofal am gyfnod hirach neu ad-dalu eich cyngor lleol pan werthir y tŷ. 

  • Gallwch rentu eich cartref i helpu i dalu am ofal.

  • Gallwch barhau i dderbyn rhai budd-daliadau fel Lwfans Gweini a Lwfans Byw i'r Anabl.

Anfanteision
  • Mae'n rhaid i chi barhau i dalu am gynnal a chadw cartref.

  • Bydd angen i chi barhau i dalu am gyfleustodau i atal y tŷ rhag edrych yn wag.

  • Mae'n rhaid i'ch cartref dal cael ei yswirio, a all fod yn anodd os yw'n wag.

  • Os oes gennych forgais, mae'n rhaid i chi barhau â thaliadau. 

  • Gallai gostyngiad mewn prisiau tai olygu bod gennych lai o arian.

  • Os penderfynwch rentu eich cartref, gall rheoli eiddo rhent fod yn heriol.

  • Ar ôl i'r cyngor gael ei ad-dalu, bydd llai o arian ar ôl o werthiant eich cartref. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un a allai ddisgwyl etifeddu gennych derbyn llai.

  • Os ydych chi a rhywun yn berchen ar eich cartref ar y cyd, bydd yn rhaid iddynt gydsynio i'r cytundeb a chytuno y bydd y cartref yn cael ei werthu pan ddaw'r amser i ad-dalu'r cyngor. 

Nol i’r brig

Sut y bydd cytundeb taliad gohiriedig yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn berchen ar eiddo sy'n werth dros £16,000 ac nad yw ar werth, ni fyddwch yn gymwys i gael budd-daliadau prawf modd. Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai na fyddwch yn gallu cael Credyd Pensiwn oherwydd bydd gwerth yr eiddo yn cyfrif fel incwm.

Os oes gennych gytundeb taliad gohiriedig ac yn trefnu talu'r cyngor yn ôl yn hwyrach, byddwch yn dal i dderbyn budd-daliadau fel Lwfans Gweini neu Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), hyd yn oed os ydych yn cael budd-daliadau  prawf modd eraill ar yr un pryd.

I leihau eich dyled i'r cyngor lleol, gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau rydych yn gymwys i'w cael.

Nol i’r brig

Rhentu eich cartref os ydych yn cytuno i gytundeb taliad gohiriedig

Gall rhentu eich cartref ddarparu incwm ychwanegol, ond bydd angen cymeradwyaeth y cyngor arnoch. Mae yna bethau eraill i'w hystyried:

  • Efallai y bydd cyfrifoldebau landlord yn gofyn am help gan asiant gosod eiddo neu aelod o'r teulu.
  • Efallai y bydd cyfnodau heb denantiaid.
  • Gallai costau cynyddol mewn cartrefi gofal cynyddu’n fwy na'r incwm rhent. 
  • Ar ôl 36 mis, p'un a ydych yn rhentu'ch cartref ai peidio, bydd yn cael ei ystyried yn ased trethadwy ar gyfer Treth ar Enillion Cyfalaf os byddwch yn ei werthu. Am fwy o wybodaeth am werthu eich cartref, ewch i litrg.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd  

Os ydych chi'n ystyried rhentu eich cartref, mae'n syniad da cael cyngor ariannol a siarad ag asiant gosod tai i ddarganfod sefyllfa’r farchnad rhentu yn eich ardal chi cyn i chi benderfynu.

Nol i’r brig

Beth yw Lwfans Incwm Gwario?

Yn Lloegr yn unig, os oes gennych gytundeb taliad gohiriedig, mae gennych yr hawl i gadw cyfran o'ch incwm, sef y Lwfans Incwm Gwario, sydd wedi'i osod ar £144 hyn o bryd.

Gall y swm hwn eich helpu i dalu costau cartref fel: 

  • yswiriant
  • biliau ynni, a
  • chostau cynnal a chadw.

Ond gallwch ddewis cadw llai o'r lwfans hwn os dymunwch.

Mae hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio mwy o'ch incwm i dalu am eich gofal nawr, sy'n lleihau'r swm yr ydych yn ei ohirio (ac felly'r ddyled y bydd arnoch i'r cyngor).

Ond eich dewis chi yw hwn. Ni all y cyngor roi pwysau ar unrhyw un i gadw llai na'r swm llawn os ydych am ei gadw.

Nol i’r brig

Cael cyngor ariannol ar gynllunio gofal hirdymor

Gyda chymaint o opsiynau i ddewis ohonynt, mae'n bwysig cael cyngor ariannol cyn gwneud penderfyniad terfynol. 

Gall ymgynghorydd ariannol sy'n arbenigo mewn bywyd diweddarach eich helpu i ddeall y system gofal cymhleth, yn enwedig os ydych yn delio â straen anghenion gofal brys. 

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i ariannu gofal – sut i gael cyngor.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Gofal tymor hir

Defnyddio'r gwerth yn eich cartref i dalu am ofal

  • Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal
  • Beth yw cytundeb taliad gohiriedig?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Defnyddio'r gwerth yn eich cartref i dalu am ofal

  • Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal
  • Beth yw cytundeb taliad gohiriedig?
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau