Hyd yn oed os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar hyd eich oes, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi gyfrannu rhywbeth at gost eich gofal hirdymor. Darganfyddwch sut y cyfrifir y costau ac a fydd angen i chi dalu.
Gweithio allan pwy sy’n mynd i dalu am ofal hirdymor
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn mynd tuag at bethau fel eich Pensiwn y Wladwriaeth ond nid ydynt yn cyfrif tuag at gostau gofal cymdeithasol.
Rheolir y math hwn o ofal gan eich cyngor lleol. Felly mae’n rhaid i chi wneud cais iddynt os byddwch angen help i dalu am ofal hirdymor.
Bydd eich cyngor lleol (neu’ch ‘Health and Social Care Trust’ yng Ngogledd Iwerddon) yn cynnal asesiad o anghenion gofal yn gyntaf er mwyn canfod pa gymorth sydd ei angen arnoch.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae asesiad cyngor lleol o anghenion gofal yn gweithio
Y cam nesaf yw gweithio allan pwy sy’n mynd i dalu. Gallai’ch cyngor lleol dalu am y cyfan, am rywfaint neu ddim o gwbl.
Penderfynir ar eich cyfraniad at gost eich gofal ar ôl asesiad ariannol. Gelwir hyn yn brawf modd.
Sut mae prawf modd yn gweithio
Mae prawf modd yn edrych ar:
- Eich incwm rheolaidd – fel pensiynau, budd-daliadau neu enillion. Fel rheol bydd disgwyl i chi ddefnyddio rhan o’ch incwm i helpu i dalu am y gofal. Er y bydd rhywfaint o incwm yn cael ei ddiystyru, fel eich enillion o unrhyw waith â thâl a wnewch.
- Eich cyfalaf – fel cynilion arian a buddsoddiadau, tir ac eiddo (gan gynnwys eiddo tramor), ac asedau busnes. Os yw’ch cyfalaf yn uwch na throthwy penodol, bydd yn rhaid i chi dalu costau llawn eich gofal eich hun. Os yw eich cyfalaf yn is na’r trothwy hwnnw ond yn uwch na therfyn is, caiff ei ystyried trwy dybio ei fod yn cynhyrchu incwm (a elwir yn ‘incwm tariff’) ar gyfradd benodol. Anwybyddir unrhyw incwm o’r cyfalaf.
Os ydych yn berchennog cartref
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun ac yn dal i fyw yno, nid yw ei werth wedi'i gynnwys yn y prawf modd.
Os byddwch yn symud yn barhaol i gartref gofal, gallai gwerth cartref rydych chi'n berchen arno - neu'ch cyfran ohono os ydych chi'n berchen arno ar y cyd - gael ei gyfrif fel cyfalaf ar ôl 12 wythnos.
Fodd bynnag, ni fydd eich cartref yn cyfrif fel cyfalaf os yw rhai pobl yn dal i fyw yno. Maent yn cynnwys:
- eich gŵr, gwraig, partner neu bartner sifil
- perthynas agos sy’n 60 neu drosodd, neu sy’n analluog
- perthynas agos dan 16 oed rydych yn gyfreithiol atebol i’w gynnal
- eich cyn ŵr, cyn wraig, cyn bartner sifil neu cyn bartner os ydynt yn riant unigol
Efallai bydd eich cyngor lleol neu’ch ymddiriedolaeth leol yn dewis peidio â chyfrif eich cartref yn gyfalaf mewn amgylchiadau eraill. Er enghraifft os yw’ch gofalwr blaenorol yn byw yno a’u bod wedi rhoi eu cartref i fyny i ofalu amdanoch.
Os yw’ch cartref yn cyfrif fel cyfalaf, gallwch ddewis gwneud cytundeb taliad gohiriedig gyda’r cyngor lleol, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwyso. Mae hyn yn golygu yn lle talu’ch cyfran chi o’r costau gofal ar unwaith, mae’r cyngor lleol i bob pwrpas yn benthyca’r arian i chi ac mae’r ddyled yn cael ei had-dalu pan fydd eich cartref yn cael ei werthu yn y pen draw.
Yng Ngogledd Iwerddon nid oes system ffurfiol o gytundebau taliad gohiriedig, er gall y 'Health and Social Care Trust' lleol hwyluso y fath yma o drefniant.
Os ydych yn penderfynu gosod eich eiddo, yna ystyrir ei werth fel cyfalaf. At ddibenion y prawf modd, anwybyddir yr incwm rhent. Fodd bynnag, gallech ddewis i dalu incwm i’r cyngor lleol i leihau eich dyled os ydych yn cymryd rhan mewn cytundeb taliad gohiriedig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cytundebau taliad gohiriedig ar gyfer pobl sydd yn berchen ar eu cartrefi ac sydd yn symud i mewn i gartref gofal
Profion modd ar gyfer gwahanol fathau o ofal
Prawf modd cartref gofal
Os ydych yn symud i gartref gofal a bod gennych fwy na’r symiau a nodir yng ngholofn canol y tabl isod, bydd yn rhaid i chi dalu holl ffioedd y cartref gofal fel arfer.
Os yw eich cyfalaf ddim mwy na’r swm a nodi’r yn y golofn olaf, bydd eich cyfalaf yn cael ei ddiystyru.
Mae’r trothwyon hyn yn cynnwys gwerth eich eiddo oni bai bod eich partner neu ddibynnydd arall yn dal i fyw yno.
Rhwng y ddau drothwy, cymerir bod eich cyfalaf yn cynhyrchu ‘incwm tariff’. Tybir bod swm yr incwm tariff yn £1 yr wythnos am bob £250 o gyfalaf sydd gennych uwchlaw’r trothwy is.
Er enghraifft, os byddech yn byw yn yr Alban a bod gennych gyfalaf o £25,100. Diystyrir y £18,000 cyntaf o’ch cyfalaf. Rhennir y £7,100 sy’n weddill yn ddarnau £250 (gan drin yr od £100 fel talp cyflawn). Byddai 29 talp, felly byddech yn cael eich trin fel pe baech yn derbyn £29 yr wythnos o’ch cyfalaf.
Anwybyddir unrhyw incwm o’ch cyfalaf. Ond mae’r incwm tariff yn cael ei ychwanegu at eich incwm cyn gweithio allan faint sy’n rhaid i chi ei gyfrannu.
Os yw’r prawf modd yn datgelu y dylai’r cyngor lleol dalu am eich lle mewn cartref gofal, bydd yn rhaid i chi gyfrannu’r cyfan o’ch incwm (yn cynnwys yr incwm tariff) ac eithrio ychydig o arian y cewch ei gadw ar gyfer treuliau personol.
Prawf modd gofal yn y cartref
Os ydych yn derbyn gofal yn eich cartref eich hun, mae’r prawf modd yn gweithio fel ag uchod, ond gyda’r gwahaniaethau canlynol.
- Ni ystyrir gwerth eich cartref wrth gyfrifo faint mae’n rhaid i chi ei dalu.
- Rydych yn cael cadw swm llawer uwch o incwm fel bod gennych ddigon o hyd i dalu’ch biliau ac i fyw arno.
Dylai pob cyngor lleol gyhoeddi ei bolisi codi tâl, sut maent yn gweithio allan faint i’w godi a faint o isafswm incwm y cewch ei gadw er eich dibenion eich hun, a sicrhau ei fod ar gael.
Mae yna hefyd rai gwahaniaethau cenedlaethol. Yng Nghymru er enghraifft, mae cap ar yr uchafswm y bydd yn rhaid i chi ei dalu. Tra yn yr Alban, mae gwasanaethau gofal am ddim hyd at derfyn penodol.
Rhanbarth | Trothwy cynilion uchaf ar gyfer unrhyw gyllid cyngor lleol yn 2022/23 | Trothwy cynilion is ar gyfer unrhyw gyllid cyngor lleol yn 2022/23 |
---|---|---|
Lloegr |
£23,250 |
£14,250 |
Cymru |
£24,000 (gofal yn y cartref) neu £50,000 (gofal mewn cartref gofal) |
£24,000 gofal yn y cartref) neu £50,000 (gofal mewn cartref gofal) |
Yr Alban |
£29,750 |
£18,500 |
Gogledd Iwerddon |
£23,250 |
£14,250
|
A oes rhaid i mi gyfrannu at gostau gofal fy mhartner?
Os oes angen gofal ar eich partner, ni ddylid ystyried unrhyw gynilion neu asedau sy’n eiddo i chi yn unig.
Fodd bynnag, os ydych yn dal y cynilion neu’r asedau ar y cyd â’ch partner - er enghraifft arian parod mewn cyfrif cynilo ar y cyd - bydd eu cyfran yn cael ei hystyried yn y prawf modd.
Bydd cynghorau lleol yn eich trin chi a’ch partner fel un sydd â rhan gyfartal yn y cynilion neu’r asedau oni bai eich bod yn gallu dangos eich bod chi’n berchen ar fwy neu lai na hanner.
Efallai y cewch eich temtio i aildrefnu pa un ohonoch sy’n berchen ar y cynilion neu’r asedau neu i wario peth o’ch cynilion. Bydd hyn yn dod â hwy o dan y trothwyon a ddangosir yn y tabl ac felly cael mwy o arian gan eich cyngor lleol.
Byddwch yn ofalus o wneud hyn. Mae’r rheolau ‘amddifadedd asedau’ yn golygu y gellir trin y person sydd angen gofal fel un sy’n dal i fod yn berchen ar gyfalaf y maent wedi’i roi neu ei wario pe bai’r cymhelliad i leihau eu cyfraniad tuag at eu costau gofal.
Er enghraifft, pe bai’r unigolyn sydd angen gofal yn trosglwyddo rhywfaint o gynilion o’u henw hwy yn unig i gyfrif ar y cyd â chi, byddent yn rhoi rhodd o hanner y cynilion i chi. Ond gallai’r cyngor lleol eu trin fel bod yn dal i fod yn berchen ar yr holl gynilion.
Cael gwared ar asedau i osgoi talu am ofal
Weithiau, mae rhywun yn trosglwyddo buddsoddiadau neu weithredoedd eiddo’n fwriadol i rywun arall, fel aelod o’r teulu. Mae hyn er mwyn bod islaw’r trothwy ac osgoi talu cost lawn eu gofal. Yr enw ar hyn yw amddifadu asedau.
Nid yw gwneud hyn yn golygu o reidrwydd y bydd yr asedau hynny’n cael eu diystyru mewn prawf modd. Mae’r cyngor lleol yn debygol o’ch trin chi fel rhywun sydd yn berchen ar yr asedau o hyd. Gelwir hyn yn ‘gyfalaf tybiannol’. Ac ni fyddech yn gymwys i gael cymorth hyd nes y byddwch wedi talu digon o gostau gofal i wagio eich cyfalaf tybiannol hyd at y terfyn prawf modd.
Os oes gennych gynilion a chyfalaf a’ch bod yn dymuno cyfrifo’r ffordd orau o dalu am ofal, dylech gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol.
Gweler ein canllaw ar ddod o hyd i’r ymgynghorydd cywir i chi
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor
Mae gan Age UK rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am amddifadu asedau a'r prawf modd, yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU:
Os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch wybodaeth ar wefan Care Information Scotland
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan AgeUK NI
Ffactorau eraill sy’n effeithio ar faint rydych yn ei dalu am ofal
Mae cost gofal yn amrywio llawer ledled y DU. Mae’r gost fel arfer yn uwch lle mae costau cyflogaeth ac eiddo yn ddrytach.
Gellir rhannu costau byw mewn gofal preswyl i:
- eich costau gofal, a
- costau’r gwesty - yn cynnwys y gost o lety a bwyd.
Darganfyddwch sut mae’ch cyngor lleol yn codi tâl am wasanaethau gofal.
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol:
- yng Nghymru a Lloegr ar wefan GOV.UK
- yn yr Alban, ar wefan mygov.scot
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch eich ‘Health and Social Care Trust’ ar wefan nidirect
Gall pa gartref gofal a ddewiswch hefyd effeithio ar faint rydych yn ei dalu.
Gallwch ddewis un ddrytach nag y mae’r cyngor lleol yn barod i dalu amdano. Ond fel arfer bydd yn rhaid i’ch teulu (neu weithiau chi) dalu’r gwahaniaeth.