Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu'n ofalwr
Budd-daliadau Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu'n ofalwr

Budd-daliadau i’ch helpu gyda’ch anabledd neu anghenion gofal

Os oes gennych anghenion gofal neu anabledd – neu os ydych yn gofalu am rywun sydd – mae budd-daliadau i’ch helpu i ymdopi gyda’r costau ychwanegol. Ni effeithir rhai o’r budd-daliadau hyn gan incwm neu gynilion ac efallai y gallwch eu cadw os bydd angen i chi fynd i gartref gofal.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pa fudd-daliadau y gallaf wneud cais amdanynt?
  • Pam ei bod yn bwysig gwneud cais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Gostyngiadau ac eithriadau Treth Cyngor
  • Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn
  • Help gyda chostau tai
  • Budd-daliadau eraill
  • Budd-daliadau i ofalwyr

Pa fudd-daliadau y gallaf wneud cais amdanynt?

Dyma’r prif fudd-daliadau y gall rhywun wneud cais amdanynt i helpu gyda chostau ychwanegol eich anghenion gofal personol neu anabledd:

  • Lwfans Gweini, Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), neu Daliad Anabledd Oedolion (ADP) yn yr Alban (os ydych wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth) - mae’r rhain wedi’u cynllunio i helpu gyda’r costau ychwanegol rydych yn eu hwynebu oherwydd eich anghenion gofal neu anabledd. Nid ydynt yn dibynnu ar brawf modd felly nid ydynt yn dibynnu ar eich incwm neu gynilion.
  • Gostyngiad Treth Cyngor - mae rhai o’r rhain yn ymwneud â’ch anabledd neu’ch trefniadau gofal ac nid ydynt yn dibynnu ar brawf modd.
  • Credyd Cynhwysol – mwy o fanylion isod.

Os yw eich incwm a’ch cynilion yn isel

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael budd-daliadau prawf modd i ychwanegu at eich incwm. Gan ddibynnu ar eich oedran a’ch amgylchiadau gallai’r rhain gynnwys:

  • elfen costau tai Credyd Cynhwysol os ydych o dan oedran pensiwn y wladwriaeth
  • Budd-dal Tai os ydych (a’ch partner os oes gennych un) wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth
  • cymorth costau tai
  • gostyngiad Treth Cyngor
  • Credyd Pensiwn (a allai gynnwys swm ychwanegol os oes gennych anabledd).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa fudd-daliadau anabledd a salwch gallaf eu hawlio?

Os yw rhywun yn treulio llawer o amser yn gofalu amdanoch ac mae ganddynt incwm isel, efallai y gallant wneud cais am fudd-daliadau gofalwr. Gallai hyn cynnwys Lwfans Gofalwr ac elfen gofalwr Credyd Cynhwysol.

Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo

Nol i’r brig

Pam ei bod yn bwysig gwneud cais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt

Nod y budd-daliadau hyn yw helpu pobl yn eich sefyllfa i fyw’n ddiogel, yn gyffyrddus ac mor annibynol â phosibl.

Hyd yn oed os ydych yn teimlo y gallwch ymdopi hebddynt, os ydych yn gymwys - mae gennych hawl i wneud cais amdanynt.

Dyma rai rhesymau pam ei bod yn bwysig gwneud cais:

  • Gall gwneud cais am bopeth mae gennych hawl iddo nawr helpu’ch incwm a’ch cynilion i bara am fwy o amser.
  • Pan fydd eich awdurdod lleol (neu’r ‘Health and Social Care Trust’ yng Ngogledd Iwerddon) yn asesu eich anghenion gofal, byddant fel arfer hefyd yn cynnal asesiad ariannol. Mae hyn er mwyn gweld a fyddant yn helpu i dalu am gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Byddant yn eich helpu i asesu pa fudd-daliadau y mae gennych hawl i wneud cais amdanynt. Ond bydd angen i chi sicrhau eich bod yn hawlio’r budd-daliadau hyn gan eu bod yn tybio eich bod yn eu cael.
Nol i’r brig

Lwfans Gweini

Oeddech chi’n gwybod?

Nid yw rhai budd-daliadau salwch ac anabledd yn ystyried eich cynilion, a gallai’r terfyn cynilo ar eraill fod yn uwch nag yr ydych chi’n meddwl. 

Mae Lwfans Gweini yn ddi-dreth ac nid yw unrhyw gynilion nac incwm a allai fod gennych yn effeithio arno.

Efallai y bydd gennych hawl iddo os:

  • ydych yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu drosodd
  • ydych angen help gyda gofal personol oherwydd salwch neu anabledd. Gallai hyn fod yn anabledd corfforol neu feddyliol, neu’n anhawster dysgu.
  • yw eich anabledd yn golygu eich bod angen help i ofalu amdanoch chi’ch hun neu oruchwyliaeth i sicrhau diogelwch eich hun neu eraill.

Mae rhaid eich bod wedi bod angen gofal a chefnogaeth am o leiaf chwe mis. Fodd bynnag, os ydych yn derfynol wael, gallwch wneud cais am Lwfans Gweini ar unwaith ac ni fydd rhaid i chi aros chwe mis.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gall Independent Age eich helpu gyda’ch cais am Lwfans GweiniYn agor mewn ffenestr newydd Maent yn darparu cefnogaeth ymarfer ac am ddim i bobl hŷn ar faterion fel arian, iechyd a gofal.

Mae Lwfans Gweini yn seiliedig ar y gofal rydych ei angen - nid lefel gofal rydych yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Felly hyd yn oed os nad ydych yn derbyn cefnogaeth gan ofalwr ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hawl o hyd i’r budd-dal hwn.

Fel rheol ni allwch gael Lwfans Gweini os ydych yn byw mewn cartref gofal ac mae’r awdurdod lleol yn talu am eich gofal.

Ond gallwch barhau i wneud cais am Lwfans Gweini os ydych yn byw mewn cartref gofal ac yn talu amdano eich hun.

Fe gewch gyfradd is os byddwch angen help yn ystod y dydd neu’r nos, a chyfradd uwch os byddwch angen help ddydd a nos.

Cyfraddau Lwfans Gweini ar gyfer 2024-25
Cyfradd uwch Cyfradd is

£108.55

£72.65

Cymru, Lloegr neu’r Alban

Darganfyddwch fwy am Lwfans Gweini, gan gynnwys sut i wneud cais, yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

Darganfyddwch fwy am Lwfans Gweini, gan gynnwys sut i wneud cais, yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Efallai eich bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael Taliad Annibyniaeth Personol yn lle Lwfans Gweini.

Nol i’r brig

Taliad Annibyniaeth Personol

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn cael anhawster symud o gwmpas neu wneud tasgau dyddiol, neu’r ddau, gallwch wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP).

Mae PIP yn ddi-dreth, yn cael ei dalu bob pedair wythnos ac nid yw eich incwm na chynilion yn effeithio arno.

Yn Yr Alban, mae PIP a DLA wedi cael eu disodli gan y Taliad Anabledd Oedolion (ADP). Mae’r meini prawf a’r dyfarniad yr un peth â PIP.

Os ydych yn barod yn hawlio PIP neu DLA yn Yr Alban, bydd Social Security Scotland yn cysylltu â chi am symud i ADP ar ryw adeg. Ni allwch hawlio ADP a PIP neu DLA ar yr un pryd. Gallwch wirio eich cymhwysedd am ADP ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Os oes angen i chi wneud cais newydd am ADP, gallwch ddarganfod sut i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Mae dwy ran i PIP:

  • Elfen symudedd - sy’n cael ei thalu os ydych angen help i symud o gwmpas. Mae rhai pobl yn ei galw’n lwfans symudedd.
  • Elfen bywyd bob dydd - sy’n cael ei thalu os ydych angen help gyda gofal personol.

Rhaid eich bod wedi bod yn cael anhawsterau am o leiaf dri mis a disgwyl iddynt barhau am o leiaf naw mis. Fodd bynnag, os ydych yn derfynol wael gallwch wneud cais am PIP ar unwaith gan ddefnyddio proses llwybr carlam.

Mae dwy gyfradd ar gyfer y naill daliad - bydd pa un a gewch yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’ch anghenion

Cyfraddau Taliad Annibyniaeth Personol a Thaliad Anabledd Oedolion 2024/25
Elfen bywyd bob dydd Elfen symudedd

Cyfradd safonol £72.65

Cyfradd safonol £28.70

Cyfradd uwch £108.55

Cyfradd uwch £75.75

Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud cais gwelwch wefan Cyngor ar Bopeth
Nol i’r brig

Gostyngiadau ac eithriadau Treth Cyngor

Os oes gennych anabledd, efallai y byddwch yn gymwys i gael mwy nag un o’r gostyngiadau Treth Cyngor a restrir isod.

Gostyngiad person sengl

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, cewch ostyngiad person sengl o 25% ar eich bil treth cyngor.

Mae rhai pobl mewn sefyllfaoedd penodol hefyd yn cael eu ‘diystyru’ ar gyfer treth cyngor. Mae hyn yn golygu, os ydych yn byw gyda un neu fwy o bobl sydd wedi eu ‘diystyru’ cewch eich trin fel petaech yn sengl at ddibenion treth cyngor a chewch ostyngiad o 25% ar eich bil.

Mae pobl sydd â nam meddyliol ac unrhyw un sy’n ofalwr sy’n byw gyda’r cleient (cyn belled nad yw’r gofalwr sy’n byw gyda’r cleient yn bartner i’r person sy’n cael ei gofalu neu’n rhiant i blentyn o dan 18 oed) ymhlith y rhestr o bobl sy’n cael eu ‘diystyru’ ar gyfer Treth Cyngor.

Ni chewch y gostyngiad os oes mwy nag un oedolyn yn byw gyda chi nad yw’n gymwys.

Nid yw’ch incwm na’ch cynilion yn effeithio ar y gostyngiad hwn.

Gallwch wneud cais am hyn hyd yn oed os nad oes gennych anabledd nac anghenion gofal.

Darganfyddwch fwy am bwy sy’n cael eu ‘diystyru’ ar gyfer treth gyngor ar wefan Which?

Eithriad nam meddyliol difrifol

Ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Cyngor os yw’ch doctor yn tystio bod gennych nam meddyliol difrifol, fel clefyd Alzheimer ac rydych yn byw ar eich pen eich hun.

Nid yw’ch incwm na chynilion yn effeithio ar yr eithriad hwn.

Mae rhaid i chi ddefnyddio ffurflen gais arbennig a cewch ostyngiad o 100% os ydych yn gwymwys. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddarganfod mwy.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am eithriad neu ostyngiad treth gyngor SMI yn MoneySavingExpert

Cynllun gostyngiad bandiau anabl

Efallai y gallwch ddangos bod angen cartref mwy arnoch oherwydd eich anabledd. Er enghraifft, oherwydd bod angen ystafell ychwanegol (fel ystafell wlyb i lawr grisiau) neu le ychwanegol arnoch i fynd o gwmpas mewn cadair olwyn (fel drysau ehangach).

Yn yr achos hwnnw, byddwch yn cael eich trethu fel pe bai’ch cartref mewn band is. Mae hyn yn lleihau’r swm y mae rhaid i chi ei dalu.

Nid yw’ch incwm na chynilion yn effeithio ar y gostyngiad hwn.

Ni fydd rhai addasiadau i’ch cartref yn eich gwneud yn gymwys am y gostyngiad hwn, fel lifft risiau neu ramp cadair olwyn allanol. Bydd y rhestr lawn o beth sy’n eich gwneud yn gymwys yn newid gan ddibynnu ar eich cyngor.

Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am Ostyngiad Bandiau Anabl yn Disability Rights UK

Cynllun cymorth/gostyngiad Treth Cyngor

Os yw’ch incwm a’ch cynilion yn isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn eich bil.

Mae cynghorau’n gweithredu eu cynlluniau eu hunain, felly mae maint y gostyngiad yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

Os byddwch yn symud yn barhaol i gartref gofal ac nad oes neb yn byw yn eich cartref blaenorol, nid oes rhaid i chi dalu Treth Cyngor.

Darganfyddwch fwy am ostyngiadau Treth Cyngor ar wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Chwiliwch am ‘gostyngiadau Treth Cyngor’ a ‘Cymorth/Gostyngiad Treth Cyngor’ yn Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud cais am ostyngiadau Treth Cyngor

Darganfyddwch eich cyngor lleol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Dim ond i bobl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban y mae Treth Cyngor yn berthnasol.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon a bod eich incwm a’ch cynilion yn isel, efallai y cewch ostyngiad yn eich treth trwy’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi.

Efallai y cewch gymorth ychwanegol os oes gennych anabledd neu os ydych yn ofalwr.

Darganfyddwch fwy am help i dalu am ardrethi yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn

Pensiwn y Wladwriaeth

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi incwm rheolaidd i chi pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych naill ai wedi’u talu yn y gorffennol neu wedi cael eich credydu fel petaech wedi eu talu - er enghraifft, wrth ofalu am blant.

Nid yw’r swm a gewch yn cael ei effeithio gan eich incwm neu gynilion eraill.

Credyd Pensiwn

Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich incwm wythnosol i isfaswm gwarantedig. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.

Credyd Pensiwn yw’r prif fudd-dal prawf modd i bobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn iau na hyn a bod eich incwm a’ch cynilion yn isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau eraill.

Gallwch fod yn gymwys i gael swm uwch o Gredyd Pensiwn - neu fudd-daliadau prawf modd i bobl iau - os ydych yn anabl iawn neu os ydych yn ofalwr.

Nid yw llawer o bobl sydd â hawl i Gredyd Pensiwn yn gwneud cais amdano. Mae hyn yn aml oherwydd nad ydynt yn gwybod amdano,

Fodd bynnag, mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal pwysig iawn. Mae ei gael yn golygu y gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol. Er enghraifft, taliadau ychwanegol i helpu gyda chostau byw, Budd-dal Tai, Trwydded Teledu am ddim a budd-daliadau eraill sy’n dibynnu ar brawf modd.

Gallwch wneud cais ar-lein, dros y ffôn neu trwy’r post.

Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd 
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Esbonio Pensiwn newydd y Wladwriaeth
 
Credyd Pensiwn
Nol i’r brig

Help gyda chostau tai

Rhent

Os ydych o oedran gweithio, yn rhentu’ch cartref ac mae’ch incwm a’ch cynilion yn isel - efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth â chostau tai.  Byddai hyn drwy Gredyd Cynhwysol, i’ch helpu i dalu’ch rhent.

Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn, byddwch hefyd yn cael eich asesu’n awtomatig i weld a ydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai. Telir hyn gan eich awdurdod lleol. Felly mae’n bwysig i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud cais amdano os ydych yn cael trafferth â’ch rhent.

Morgais

A ydych yn cael Credyd Pensiwn (neu rai budd-daliadau prawf modd eraill), yn berchen ar eich cartref ac mae gennych forgais o hyd? Yna, gallwch wneud cais am gymorth y llywodraeth i dalu’r llog ar eich morgais trwy’r cynllun benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).

Mae defnyddio’r cynllun benthyciad SMI yn golygu bod y llywodraeth yn talu’ch llog morgais am y tro. Rydych yn ad-dalu’r llywodraeth o’r arian pan fydd eich cartref yn cael ei werthu yn y pen draw.

Darganfyddwch fwy am SMI a dewisiadau amgen eraill yn ein canllawiau:
Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)
 
Help gyda thaliadau morgais
Nol i’r brig

Budd-daliadau eraill

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau eraill a help gyda chostau iechyd.

Darganfyddwch fwy o’r sefydliadau hyn:

  • Am help i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth arall, ewch i wefan Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd
  • Darganfyddwch fwy am gymorth gyda chostau iechyd ar wefan GIGYn agor mewn ffenestr newydd
  • Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am fudd-daliadau eraill ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Budd-daliadau i ofalwyr

Os ydych yn gofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl, gall effeithio ar eich sefyllfa ariannol chi hefyd.

Mae cymorth ar gael – nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i’r sawl yr ydych yn gofalu amdanynt nac yn byw gyda’r unigolyn hwnnw.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a chredydau treth y gallwch eu hawlio fel gofalwr
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu'n ofalwr

Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

  • Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?
  • Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
  • Budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal
  • Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
  • Budd-daliadau y gallwch eu hawlio fel gofalwr
  • Cefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc
  • Taliad Annibyniaeth Personol - cyflwyniad
  • Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu stopio
  • Symud o DLA i PIP ac ymdopi â newidiadau mewn incwm
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

  • Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?
  • Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
  • Budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal
  • Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
  • Budd-daliadau y gallwch eu hawlio fel gofalwr
  • Cefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc
  • Taliad Annibyniaeth Personol - cyflwyniad
  • Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu stopio
  • Symud o DLA i PIP ac ymdopi â newidiadau mewn incwm
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau