Os ydych dros 65, yn berchennog ar eich cartref ac angen ariannu eich gofal hirdymor, fe allech fod yn ystyried cynllun ôl-feddiannu cartref. Dyma sut maen nhw’n gweithio, a rhai manteision ac anfanteision i’w hystyried.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw cynllun ôl-feddiannu cartref?
- Sut mae cynlluniau ôl-feddiannu cartref yn gweithio?
- Diogelu allweddol
- Beth yw manteision ac anfanteision cynlluniau ôl-feddiannu cartref?
- Cynllun ôl-feddiannu cartref yn erbyn dulliau eraill o ariannu gofal
- Camau nesaf – ceisiwch gyngor annibynnol
- Mwy o wybodaeth
Beth yw cynllun ôl-feddiannu cartref?
Math o gynllun rhyddhau ecwiti yw cynllun ôl-feddiannu cartref (home reversion plan) sy’n eich galluogi i ddefnyddio peth o’r arian sydd ynghlwm yn eich cartref.
Gallwch ei ddefnyddio i dalu am ofal hirdymor, ond dim ond os ydych yn bwriadu aros yn eich cartref.
Gyda chynllun ôl-feddiannu cartref, rydych yn gwerthu’r cyfan neu ran o’ch cartref am lai na’i werth ar y farchnad a’i gyfnewid am swm o arian di-dreth, incwm rheolaidd, neu’r ddau - ond yn aros yn eich cartref fel tenant, heb dalu rhent.
Un o ddau fath o gynllun rhyddhau ecwiti yw cynllun ôl-feddiannu cartref. Morgais gydol oes yw’r llall.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ddefnyddio morgais gydol oes i dalu am eich gofal hirdymor
Mae cynlluniau ôl-feddiannu cartref yn gynhyrchion risg uchel. Gallent gael effaith sylweddol ar dreth, budd-daliadau, etifeddiaeth a’ch cynllunio ariannol hirdymor.
Mae’n bwysig bob amser gael cyngor ariannol annibynnol cyn cymryd cynllun ôl-feddiannu cartref neu unrhyw fath arall o gynllun rhyddhau ecwiti.
Bydd hyn yn eich helpu i ganfod a yw’n briodol ar gyfer eich anghenion a’ch amgylchiadau personol.
Sut mae cynlluniau ôl-feddiannu cartref yn gweithio?
Gyda chynllun ôl-feddiannu cartref, rydych yn gwerthu’r cyfan neu ran o’ch cartref am lai na’i werth ar y farchnad a’i gyfnewid am swm o arian, incwm rheolaidd neu’r ddau.
Pan werthir eich cartref yn y pen draw, bydd y cwmni ôl-feddiannu yn cael eu cyfran nhw o bris gwerthu’r tŷ.
Os gwnaethoch werthu'r eiddo cyfan iddynt, byddant yn cael y pris gwerthu’r tŷ i gyd.
Os gwnaethoch werthu rhan o'ch cartref, dywedwch hanner, mae'r cwmni ôl-feddiannu yn cael y gyfran honno o'r pris gwerthu’r tŷ, gan adael i'r gweddill fynd tuag at eich etifeddiaeth.
Faint o arian gewch chi?
Fel arfer cewch ddim ond rhwng 20% a 60% o werth marchnad eich tŷ neu’r gyfran o’r eiddo gwnaethoch werthu iddynt, yn ddibynnol ar eich oed a’ch iechyd.
Y rheswm am hyn yw bod y cwmni ôl-feddiannu yn cymryd risg ar brisiau tai ac mae ansicrwydd pa bryd y cânt eu harian yn ôl, ac ni allant ychwaith werthu’r eiddo hyd nes i chi farw neu symud mewn i ofal.
Yn y cyfamser, mae gennych yr hawl i barhau i fyw yn y cartref, heb dalu rhent.
Po hynaf y byddwch yn dechrau’r cynllun ôl-feddiannu cartref, yr uchaf fydd y ganran a gewch o werth marchnad eich cartref.
Am y rheswm hwn maent fwyaf addas i’r rhai sydd dros 70 oed.
Gallech fod yn gyfrifol o hyd am gostau eraill fel rhent tir (neu rent arglwydd) waeth pa bynnag gyfran o’ch cartref sydd wedi ei werthu.
Mae hwn yn swm blynyddol i’w dalu ar rai mathau o eiddo rhydd-ddaliadol.
Cyfandaliad, incwm neu’r ddau?
- Mae cyfandaliad yn rhoi’r rhyddid i chi reoli’ch arian, ond os byddwch yn byw’n hen iawn efallai na fydd gennych lawer ohono ar ôl yn eich blynyddoedd diweddarach.
- Gyda’r opsiwn incwm, cewch dawelwch meddwl o wybod y byddwch yn cael taliadau rheolaidd am weddill eich bywyd, ond os byddwch yn marw yn fuan wedi i chi ddechrau’r cynllun ac wedi cael ond nifer fach o daliadau, byddwch wedi colli swm sylweddol o’ch etifeddiaeth am ychydig iawn yn gyfnewid (er bod rhai cynlluniau yn diogelu yn erbyn hyn).
- Mae nifer o bobl yn teimlo bod cymysgedd o’r ddau yn cynnig y sicrwydd a’r hyblygrwydd sydd eu hangen arnynt.
Diogelu allweddol
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FSA), rheoleiddiwr gwasanaethau ariannol y DU, yn rheoleiddio cynlluniau ôl-feddiannu cartref.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r cwmnïau sydd yn cynghori ar y cynnyrch hyn neu yn eu gwerthu cwrdd â safonau penodol a darparu gweithdrefnau cwyno ac iawndal eglur.
Beth yw manteision ac anfanteision cynlluniau ôl-feddiannu cartref?
Manteision
-
Fe gewch arian i dalu am eich gofal a’ch costau byw.
-
Rydych yn cael aros yn eich cartref eich hun weddill eich bywyd, neu hyd nes y bydd angen i chi symud yn barhaol i gael gofal.
-
Ni fydd angen i chi fynd drwy’r broses o symud cartref.
-
Ni chodir treth ar yr ecwiti sy’n cael ei ryddhau ar eich prif gartref
-
Gall cynlluniau rhyddhau ecwiti roi cymorth i leihau atebolrwydd Treth Etifeddiaeth.
-
Gallwch ddim ond gwerthu rhan o’ch cartref, gan adael y gweddill i’ch etifeddiaeth.
-
Os ydych chi’n hunan-gyllido’ch gofal mae’n bosib y gallech ddefnyddio’r cyfalaf a godwyd i brynu blwydd-dal anghenion brys i ddarparu incwm rheolaidd i dalu am ofal. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Blwydd-dal anghenion brys.
Anfanteision
-
Gallai effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau neu gymorth gan eich awdurdod lleol oherwydd bydd unrhyw arian a gewch drwy ryddhau ecwiti yn debygol o effeithio ar yr asesiad o’ch incwm a’ch cyfalaf.
-
Bydd yr etifeddiaeth yr ydych yn ei basio ymlaen i’ch buddiolwyr lawer iawn llai ac ni fydd yn cynnwys y cartref ei hun.
-
Byddwch yn cael llawer iawn llai am eich cartref na phris llawn y farchnad.
-
Nid chi yw unig berchennog eich cartref mwyach.
-
Os ydych yn gorffen y cynllun y gynnar, bydd angen i chi prynu’r gyfran a werthwyd gennych yn ôl am bris y farchnad, a allai fod yn llawer iawn drytach na’r pris y cawsoch am werthu’r tŷ.
-
Gallai cynllun ôl-feddiannu cartref fod yn werth gwael am arian petaech yn marw’n gynnar ar ôl ei drefnu, er mae rhai cynlluniau yn rhoi ad-daliad i’r teulu petaech yn marw y ystod y blynyddoedd cynnar
-
Gallant fod yn anhyblyg petai eich amgylchiadau’n newid – nid oes posib symud pob cynllun rhyddhau ecwiti o un cartref i’r llall a fel arfer bydd angen i chi gael caniatâd y darparwr i rywun arall, megis perthynas, gofalwr neu bartner newydd, symud i mewn.
-
Efallai bydd angen i chi dalu ffioedd trefnu, prisio a ffioedd cyfreithiol.
-
Bydd yn rhaid i chi gael yswiriant adeilad.
-
Bydd y benthycwr yn disgwyl i chi gadw’ch cartref mewn cyflwr da, felly bydd angen i chi roi ychydig o arian tuag at gynnal a chadw.
Chi fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am dalu biliau’r cartref a’r Dreth Gyngor, felly bydd angen i chi sicrhau eich bod yn medru fforddio’r rhain.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Blwydd-dal anghenion brys
Cynllun ôl-feddiannu cartref yn erbyn dulliau eraill o ariannu gofal
Felly sut mae cynlluniau ôl-feddiannu yn cymharu â mathau eraill o ariannu eich gofal hirdymor, megis prynu cartref llai, polisïau yswiriant a chynnyrch buddsoddi?
Fel arfer, nid yw cynlluniau ôl-feddiannu cartref yn cynnig y gwerth gorau am arian, yn enwedig o gofio nad ydych byth yn cael pris llawn y farchnad am eich cartref.
Am y rheswm hwn mae cynlluniau rhyddhau ecwiti yn dueddol o gael eu gweld fel y dewis olaf i berchnogion cartrefi.
Siaradwch ag aelodau o’r teulu cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Efallai byddant yn gallu eich helpu neu gynnig dewis arall.
Ystyriwch pa grantiau neu fenthyciadau â chymhorthdal sydd ar gael os ydych yn ceisio codi cyfalaf er mwyn gwneud gwelliannau neu addasiadau i’ch cartref.
Mae prynu cartref llai yn ddewis mwy cost effeithiol sy’n medru rhyddhau yr arian rydych ei angen a’ch galluogi i barhau gyda’ch annibyniaeth ariannol - ac efallai’n eich galluogi i fyw mewn cartref sy’n fwy addas ar gyfer eich anghenion.
Fodd bynnag, gall symud i gartref llai achosi straen a chymryd llawer iawn o amser, a bydd yn rhaid i chi symud o’ch cartref presennol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael tŷ llai i ariannu eich gofal hirdymor
Camau nesaf – ceisiwch gyngor annibynnol
Os penderfynwch i fwrw ymlaen gyda chynllun ôl-feddiannu cartref, mae’n hanfodol eich bod yn siarad gyda chynghorydd ariannol annibynnol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor
Mae’n well dewis cynghorydd sydd â chymhwyster arbenigol CF8 ar gynghori ar ariannu gofal hirdymor.