Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad eich awdurdod lleol i beidio â thalu am eich gwasanaethau gofal – mae angen i chi leisio’ch barn. Mae dau allan o dri cwyn sy’n cyrraedd yr Ombwdsmon yn llwyddiannus.
Gwybod eich hawliau
Gallai herio’ch cyngor lleol godi ofn arnoch.
Ond os ydych yn bwriadu herio penderfyniad, byddwch yn teimlo’n fwy hyderus os byddwch eisoes yn gwybod ambell i beth sylfaenol yn gyntaf:
- Mae gennych yr hawl cyfreithiol i asesiad am ddim o’ch anghenion gofal i weithio allan faint o help rydych ei angen i fyw’n annibynnol. Ni all eich awdurdod lleol wrthod oherwydd am nad ydynt yn credu eich bod yn gymwys am gymorth.
- Gallwch ofyn am ailasesiad os byddwch yn credu bod eich amgylchiadau wedi newid.
- Mae gan bob awdurdod lleol ei feini prawf cymhwyster ei hun ar gyfer y cymorth y gallwch ac na allwch ei gael. Ond mae rhaid i bob un ohonynt ddilyn canllawiau’r llywodraeth.
- Mae gan eich awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i fodloni’ch anghenion gofal cymwys – nid yw’n ddigon dweud nad yw’n gallu eu fforddio.
Sut rwyf yn herio fy asesiad anghenion gofal?
Nid oes rhaid i chi lynu wrth benderfyniad y bobl oedd yn cynnal yr asesiad.
Er enghraifft, os oes gennych salwch neu anabledd, mae’n bosibl ei fod wedi’ch asesu ar ddiwrnod ‘da’. Ond dylai’r asesiad gymryd i ystyriaeth angenheion newidiol.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad i beidio â darparu cymorth, neu os nad ydych yn credu bod y pecyn gofal a gynigir yn ddigon i fodloni’ch anghenion, dilynwch y camau isod i’w herio.
Sut rwyf yn herio fy asesiad ariannol?
Awgrym da
Gall fod yn gymhleth cyfrifo gwerth asedau at ddibenion prawf modd. Dyna pam mae llawer o bobl yn cael cyngor ariannol neu gyfreithiol annibynnol cyn herio penderfyniad
Mae rheolau caeth iawn ynghylch faint y dylech ei dalu am ofal hirdymor. Er efallai bod gan awdurdodau lleol drefniadau sy’n haelach na’r canllawiau a osodwyd gan y llywodraeth.
Serch hynny, os ydych yn credu bod eich asedau neu incwm wedi’u prisio’n rhy uchel, neu bod rhywbeth wedi’i gynnwys mewn camgymeriad, a gofynnir i chi dalu mwy nag y dylech, gallwch ofyn am adolygiad o’ch achos.
Os nad ydych yn siŵr pa incwm neu gyfalaf sydd angen ei ystyried, efallai y gall Ymgynghorydd FirstStop eich helpu. Ffoniwch hwy ar 0800 377 7070 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Darganfyddwch fwy ar wefan FirstStop
Sut i herio penderfyniad – cam wrth gam
Oeddech chi’n gwybod?
Gallwch wneud yr herio eich hun neu ofyn i rywun arall, fel ffrind neu berthynas, i wneud hyn ar eich rhan.
Dilynwch y camau hyn i herio penderfyniad:
Cam 1 – Gwneud eich ymchwil
Darganfyddwch am weithdrefn gwyno eich cyngor lleol - neu’ch Health and Social Care Trust lleol yng Ngogledd Iwerddon.
Darganfyddwch eich cyngor lleol:
- yng Nghymru a Lloegr, ar wefan GOV.UK
- yn yr Alban, ar wefan mygov.scot
- yng Ngogledd Iwerddon, ar wefan nidirect
Bydd y manylion ar eu gwefan. Mae hefyd yn werth edrych ar eu meini prawf cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau gofal tymor hir, a'u polisi codi tâl.
Cam 2 – Cysylltu â’ch awdurdod lleol neu’ch ymddiriedolaeth
Mae gan eich cyngor lleol neu ymddiriedolaeth ddyletswydd gyfreithiol i roi eglurhad ysgrifenedig o’u penderfyniad i chi.
Cymerwch yr amser i’w ddarllen. Os ydych yn credu ei fod yn annheg, gallwch ofyn am ailasesu’ch achos.
Mae’n bosibl mai methiant cyfathrebu sydd wedi bod neu gamddealltwriaeth a bod modd unioni hyn yn hawdd.
Cam 3 – Ceisio cymorth
Os ydych angen cymorth â chŵyn, cysylltwch â’ch cynghorydd lleol, Cyngor ar Bopeth neu grwpiau cymorth neu anabledd lleol i weld a fyddant yn eich helpu i gyflwyno’ch achos.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor Ar Bopeth
Cam 4 – Mynd â’ch cwyn at yr Ombwdsmon
Os nad ydych yn hapus â’r ymateb rydych yn ei gael gan eich cyngor lleol, gallwch gael cyngor cyfreithiol neu fynd â’ch cwyn at yr ombwdsmon llywodraeth leol perthnasol.
- yng Nghymru cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- yn Lloegr cysylltwch â’r Local Government and Social Care Ombudsman
- yn yr Alban cysylltwch â’r Scottish Public Services Ombudsman
- yng Ngogledd Iwerddon cysylltwch â'r Northern Ireland Ombudsman
Cwynion am eich gofal
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r gofal rydych yn ei gael, mae yna broses ychydig yn wahanol i’w dilyn. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych yn talu am y gofal â thaliadau uniongyrchol gan eich awdurdod lleol.