Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Credyd Cynhwysol
Budd-daliadau Credyd Cynhwysol

Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau

Mae gennym ffyrdd o helpu i reoli eich arian os ydych yn hawlio budd-daliadau, gan gynnwys sut i gael biliau rhatach a hybu eich incwm. Hefyd, help os ydych chi'n cael trafferth ac angen benthyg arian.


Beth i'w wneud ar ôl eich taliad budd-dal cyntaf

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael biliau rhatach a theithio

Gwiriwch am ffyrdd i roi hwb i'ch incwm a'ch cynilion

Help os ydych chi’n cael trafferth ac angen arian ychwanegol

Sut i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

Beth i'w wneud ar ôl eich taliad budd-dal cyntaf

Os ydych chi newydd dderbyn eich Credyd Cynhwysol neu daliad budd-dal cyntaf, dyma beth i'w wneud nesaf.

Crëwch gyllideb ar gyfer eich dyddiad talu budd-dal rheolaidd

Nawr eich bod wedi derbyn eich taliad cyntaf, gwiriwch eich gwaith papur ddwywaith ar gyfer eich dyddiad talu nesaf.

Bydd hyn yn dibynnu ar y budd-dal rydych yn ei gael a ble yn y DU rydych yn byw. Er enghraifft, fel arfer telir Credyd Cynhwysol:

  • unwaith y mis yng Nghymru a Lloegr
  • unwaith y mis yn yr Alban, ond gallwch ofyn am ddwywaith y mis
  • ddwywaith y mis yng Ngogledd Iwerddon, ond gallwch ofyn am unwaith y mis.

Os yw hyn yn wahanol i sut rydych chi wedi arfer derbyn eich arian, efallai y bydd angen i chi addasu eich gwariant i wneud i’ch taliad budd-daliadau bara tan eich diwrnod cyflog nesaf.

I helpu, mae ein Cynlluniwr cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio yn cofnodi eich holl wariant ac yn rhoi dadansoddiad i chi o'ch cyllid. Byddwch hefyd yn gweld awgrymiadau personol i wneud i'ch arian fynd ymhellach.

Fel arall, gallech ddefnyddio taenlen neu ysgrifennu'r cyfan ar ddarn o bapur.

Mae hefyd yn werth cadw dyddiadur gwariant i nodi popeth rydych chi'n ei brynu mewn mis.

Newidiwch unrhyw daliadau bil awtomatig i'r diwrnod ar ôl i chi gael eich talu

Gallwch sefydlu taliadau awtomatig o’r enw Debydau Uniongyrchol ac Archebion Sefydlog i sicrhau eich bod yn talu eich biliau ar amser, gan gynnwys rhent neu forgais.

Mae hyn yn bwysig gan y gall taliad hwyr niweidio'ch ffeil credyd, gan ei gwneud yn anoddach neu'n ddrutach benthyg arian yn y dyfodol.

Mae’n syniad da newid dyddiad unrhyw daliadau awtomatig i’r diwrnod ar ôl eich dyddiad talu budd-dal rheolaidd.

  • Fel arfer defnyddir Debydau Uniongyrchol i dalu biliau – bydd angen i chi ddweud wrth y cwmni yr hoffech ei dalu fel hyn a’r dyddiad i gymryd yr arian. Yna byddant yn eu sefydlu ar eich cyfer chi.
  • Mae Archebion Sefydlog yn daliadau rheolaidd rydych yn eu sefydlu, felly fel arfer ar gyfer rhent neu i symud arian o un o'ch cyfrifon i un arall.
  • Mae taliadau cerdyn cylchol yn defnyddio rhif eich cerdyn hir i gymryd arian pan fydd yn ddyledus.
Cyllidebwch ar gyfer taliadau is os ydych yn ad-dalu blaenswm

Os cymeroch daliad ymlaen llaw wrth aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, byddwch yn cael llai nes ei fod wedi’i ad-dalu.

Gall ad-daliadau fod hyd at 25% o’ch lwfans safonol Credyd Cynhwysol a rhaid ad-dalu’r daliad ymlaen llaw yn llawn o fewn 24 mis.

I weld eich symiau a’ch cyfnodau ad-dalu, gallwch:

  • mewngofnodi i'ch cyfrif Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein (os gwnaethoch gais ar-lein)
  • ffonio’r Llinell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd am ddim neu’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon
  • siarad â'ch anogwr gwaith.
Rhowch wybod am unrhyw ordaliadau yn syth

Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael gordaliad o fudd-daliadau neu gredydau treth, cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal cyn gynted â phosibl. Po hiraf y byddwch yn ei adael, y mwyaf o arian y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Dyma beth i'w wneud ar gyfer gordaliadau budd-dal cyffredin.

Gordaliadau Credyd Cynhwysol

  • ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd am ddim neu’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon
  • ychwanegwch nodyn at eich dyddlyfr gan ddefnyddio eich cyfrif Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein

Gordaliadau credyd treth

Bydd CThEF fel arfer yn ysgrifennu i ddweud wrthych faint sy’n ddyledus a sut i’w ad-dalu. I gael cymorth neu fwy o wybodaeth, ffoniwch y llinell gymorth Credyd TrethYn agor mewn ffenestr newydd

Gordaliadau Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Gyngor

Rhowch wybod i'ch awdurdod lleolYn agor mewn ffenestr newydd am ordaliad o Fudd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Gyngor.

Am fwy o wybodaeth, gweler sut i gael help os oes angen i chi ad-dalu budd-daliadau a ordalwyd
Cadwch at eich ymrwymiad hawlydd i osgoi toriad i’ch budd-daliadau (sancsiynau)

Os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol, fel Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, byddwch wedi cytuno i set o gyfrifoldebau gyda’ch anogwr gwaith.

Er enghraifft, rhaid i chi:

  • treulio nifer penodol o oriau yn chwilio am swyddi
  • cymryd rhan mewn hyfforddiant neu baratoi ar gyfer gwaith
  • dod i apwyntiadau neu gyfweliadau ar amser
  • derbyn cynigion o waith cyflogedig
  • darparu tystiolaeth eich bod wedi cwblhau unrhyw dasgau a osodir.

Gelwir hyn yn ymrwymiad hawlydd. Os na fyddwch yn bodloni pob un ohonynt, gallai eich taliadau gael eu torri am nifer o wythnosau – a elwir yn sancsiwn.

Er mwyn osgoi hyn, sicrhewch eich bod yn:

  • Deall eich holl gyfrifoldebau. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith egluro unrhyw beth sy’n aneglur a rhowch wybod iddynt os na allwch gwrdd ag unrhyw beth ymlaen llaw.
  • Gosod nodiadau atgoffa ar gyfer apwyntiadau.
  • Dywedwch wrth eich anogwr gwaith beth yw'r ffordd orau o gysylltu â chi fel nad ydych yn colli unrhyw negeseuon. Er enghraifft, dros y ffôn, e-bost neu ddefnyddio’r dyddlyfr ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
  • Gofynnwch sut i gysylltu â'ch anogwr gwaith ar fyr rybudd. Er enghraifft, i roi gwybod iddynt os na allwch fynychu apwyntiad neu y byddwch yn hwyr.
  • Cadwch gofnodion o'ch gweithgaredd, gan gynnwys copïau o unrhyw beth a gewch gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sancsiynau budd-dal a sut i ddelio â nhw
Cynlluniwch ymlaen llaw os nad yw eich cyflog yr un fath bob mis

Gall fod yn anodd cyllidebu os yw eich cyflog yn wahanol bob mis, ond dyma rai awgrymiadau i helpu:

  • Cyfunwch eich gwariant rheolaidd, fel biliau, rhent a chostau teithio fel y gallwch gyfrifo’n gyflym a oes gennych unrhyw arian parod ychwanegol y mis hwnnw.
  • Os byddwch yn ennill mwy nag arfer, ceisiwch gynilo rhywfaint o arian i helpu yn y misoedd i ddod.
  • Os ydych yn hunangyflogedig, cofiwch neilltuo digon i dalu eich bil treth Hunanasesiad – ni ddylai hyn gyfrif fel cynilion os oes gennych brawf o’r hyn y mae ar ei gyfer, felly ni fydd yn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau.
  • Edrychwch ar y flwyddyn i ddod er mwyn i chi allu anelu at gynilo digon am fisoedd lle gallech:
    • wario mwy – fel y Nadolig, penblwyddi a biliau blynyddol fel yswiriant car a chartref
    • ennill llai – os bydd gwaith yn arafu neu os byddwch yn cymryd egwyl wedi'i gynllunio.

Am fwy o help a gwybodaeth, gweler ein canllaw Cymorth os ydych yn hunangyflogedig.

Mae taliadau Credyd Cynhwysol yn newid os ydych yn gweithio mwy neu lai

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, mae eich taliad yn seiliedig ar eich enillion o’r mis blaenorol. Felly gall yr oriau rydych yn eu gweithio a phryd y cewch eich talu effeithio ar faint a gewch.

Os byddwch yn cael mwy o gyflog nag arfer, gallai eich taliad Credyd Cynhwysol ddod i ben yn gyfan gwbl. Os bydd hyn yn digwydd, siaradwch â'ch anogwr gwaith os oes angen help arnoch.

Am fwy o wybodaeth ar sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo, gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?

Darganfyddwch sut i wirio a ydych yn gymwys i gael biliau a thrafnidiaeth ratach

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael biliau rhatach a theithio

Yn aml, gallwch gael tariffau rhad arbennig pan fyddwch yn hawlio budd-daliadau. Gall newid darparwr neu symud i fargen newydd hefyd fod yn ffordd syml o dorri costau.

Torri cost nwy a thrydan

Yn gyntaf, gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer unrhyw un o’r cynlluniau hyn:

  • Gostyngiad Cartrefi CynnesYn agor mewn ffenestr newydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban – gostyngiad o £150 ar eich biliau trydan gaeaf.
  • Cynllun Affordable WarmthYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon – grant a allai fod o gymorth os ydych yn rhentu gan landlord preifat neu'n berchen ar eich cartref.
  • Taliad Tywydd OerYn agor mewn ffenestr newydd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon – swm awtomatig o £25 bob tro y bydd y tymheredd yn disgyn i sero gradd neu lai am saith diwrnod, fel arfer rhwng Tachwedd a Mawrth.
  • Winter Heating PaymentYn agor mewn ffenestr newydd yn yr Alban – taliad sefydlog awtomatig os ydych yn cael Credyd Cynhwysol yn ystod wythnos ym mis Tachwedd.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grantiau effeithlonrwydd ynni i helpu i dalu am welliannau i'ch cartref, fel gosod boeler newydd ac ychwanegu deunydd inswleiddio.

Mae hefyd yn werth gwirio a allwch gael biliau ynni rhatach drwy newid cyflenwr neu dariff (y fargen rydych arni).

Gallwch gymharu bargeinion ynni gan ddefnyddio gwefannau cymharu, fel:

  • Clwb Ynni Rhad MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
  • Which?Yn agor mewn ffenestr newydd

Fel arfer mae’n rhatach talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, yn hytrach nag arian parod neu siec.

Am fwy o help, gweler ein canllawiau:
 
Sut i leihau eich biliau ynni – gan gynnwys beth i'w wneud os ydych ar fesurydd rhagdalu
Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni bod eich biliau ynni'n codi
Newid i fargen band eang a symudol rhatach

Os yw eich contract wedi dod i ben, yn aml gallwch wneud arbedion mawr drwy newid i fargen ratach.

Mae hefyd yn werth sicrhau nad ydych yn talu am ryngrwyd cyflym nad oes ei angen arnoch, neu ddata, munudau  a thestunau ffôn symudol na fyddwch yn eu defnyddio.

Yn gyntaf, gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer un o'r tariffau cymdeithasol hynYn agor mewn ffenestr newydd

Yna gweler a allwch chi ei guro. I gymharu bargeinion, rhowch gynnig ar wefannau cymharu ar gyfer:

  • bargeinion ffôn symudol a SIM yn unig, fel:
    • darganfyddwr ffonau symudol rhad MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
    • teclyn cymharu ffonau symudol Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
  • bargeinion band eang a ffôn cartref, fel:
    • teclyn cymharu MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
    • un o safleoedd cymharu band eang a argymhellir gan OfcomYn agor mewn ffenestr newydd

Am fwy o help a gwybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Sut i leihau eich ffôn cartref a'ch bil rhyngrwyd
  • Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol

Cael band eang am ddim os ydych yn chwilio am waith

Os ydych yn chwiliwr gwaith, efallai y gallwch gael chwe mis o fand eang ffeibr TalkTalk am ddim. Gofynnwch i'ch anogwr gwaith a allwch chi wneud cais am daleb.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael biliau dŵr rhatach

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, mae’n werth gwirio a allwch arbed drwy newid i fesurydd dŵr am ddim. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n talu am y dŵr rydych chi'n ei ddefnyddio mewn gwirionedd yn hytrach nag amcangyfrif.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer tariff cymdeithasol eich cwmni dŵrYn agor mewn ffenestr newydd a allai roi gostyngiad mawr i chi (yn aml 15% i 90%) neu olygu na fyddwch yn talu mwy na swm penodol bob blwyddyn.

Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw’ch cyflenwr, gallwch chi ddefnyddio teclyn dod o hyd i’ch cyflenwrYn agor mewn ffenestr newydd gan Water UK yn gyntaf.

Yn yr Alban byddwch fel arfer yn talu am ddŵr fel rhan o’ch Treth Gyngor, neu eisoes ar fesurydd, ac yng Ngogledd Iwerddon nid oes unrhyw daliadau dŵr domestig.

Gweler Sut i leihau eich bil dŵr am wybodaeth lawn a ffyrdd o leihau'r defnydd o ddŵr
Gwneud cais am ostyngiad Treth Gyngor neu Ardrethi

Gan eich bod yn aros i hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu eich Treth Gyngor neu’ch Ardrethi.

Mae'r gostyngiad fel arfer yn dibynnu ar eich amgylchiadau, fel ble rydych chi'n byw, faint rydych chi'n ei ennill ac os ydych chi'n byw gydag unrhyw un. Ond gallai olygu na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth.

Gostyngiad Treth Gyngor yng Nghymru, Lloegr a'r Alban

Mae gan bob cyngor lleol ei gynllun ei hun. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich cynllun Gostyngiadau Treth Gyngor lleol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Sicrhewch eich bod yn gwneud cais cyn gynted ag y gallwch. Ni fydd y rhan fwyaf o gynghorau yn ôl-ddyddio taliadau oni bai bod gennych reswm da dros beidio â gwneud cais ar unwaith.

Ad-daliad Trethi yng Ngogledd Iwerddon

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch wneud cais am Ad-daliad Treth ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Gosodwch nodyn atgoffa i wneud cais cyn gynted ag y gallwch. Os byddwch yn gwneud cais o fewn tri mis i'ch dyddiad talu cyntaf, efallai y bydd eich Ad-daliad Treth yn cael ei ôl-ddyddio.

Gwiriwch a allwch chi gael 50% oddi ar deithio

Os ydych chi’n ddi-waith ac yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, mae Cerdyn Gostyngiad Teithio’r Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi gostyngiad o 50% ar lawer o docynnau bws a thrên am hyd at dri mis.

Y syniad yw eich helpu i gyrraedd cyfweliadau swydd, ond gallwch ddefnyddio'r gostyngiad ar unrhyw daith a gymerwch.

I wneud cais, bydd angen i chi ymweld â Chanolfan Byd GwaithYn agor mewn ffenestr newydd

Mae cardiau’n cael eu dosbarthu fesul achos, ond fel arfer mae angen i chi fod wedi bod yn hawlio un o’r budd-daliadau canlynol am o leiaf dri mis:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal ​​Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Cewch deithio am ddim neu am bris gostyngol ar fysiau os ydych yn anabl

Efallai y bydd gennych hawl i deithio ar fws am ddim neu'n rhatach os oes gennych anabledd.

Gwiriwch a ydych yn gymwys:

  • yn Lloegr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
  • yn yr Alban ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
  • yng Nghymru ar Trafnidiaeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • yng Ngogledd Iwerddon ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch sut i wirio am ffyrdd o hybu eich incwm a chynilo

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Gwiriwch am ffyrdd i roi hwb i'ch incwm a'ch cynilion

Gall hawlio budd-daliadau olygu eich bod yn gymwys i gael cymorth a ffyrdd eraill o ennill mwy o arian.

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo


Pan wnaethoch gais am fudd-daliadau neu Gredyd Cynhwysol, byddwch wedi ateb cwestiynau am eich sefyllfa. Roedd hyn er mwyn gweithio allan faint fyddwch chi’n ei gael, a’r elfennau rydych chi’n gymwys ar eu cyfer.

Ond mae bob amser yn werth gwirio bod hwn wedi’i gyfrifo’n gywir ac a yw’n gyfredol. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld pa fudd-daliadau y dylech fod yn eu cael.

Neu, i gael gwiriad budd-daliadau llawn, gweler Advicelocal i ddod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn eich ardal chiYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch gael bonws am ddim o hyd at £1,200 ar eich cynilion gyda Chymorth i Gynilo

Cyfrif Cymorth i Gynilo:

  • yn gadael i chi gynilo rhwng £0 a £50 bob mis
  • mynediad hawdd, felly gallwch dynnu arian pryd bynnag y dymunwch
  • yn talu bonws am ddim o 50% o hyd at £600 i'ch cyfrif banc ar ôl dwy a phedair blynedd – gwerth hyd at £1,200 i gyd.

Byddwch yn dal i gael bonws os byddwch yn cymryd arian allan

Mae’r bonws 50% cyntaf yn seiliedig ar y swm uchaf a gawsoch erioed yn y cyfrif yn ystod blynyddoedd un a dau. Mae’r ail yn seiliedig ar y swm uchaf yr ydych wedi’i gynilo ar ei ben ym mlynyddoedd tri a phedwar.

Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n dal i gael bonws ar y cyfanswm rydych chi wedi'i gynilo, hyd yn oed os oes llai i mewn yno ar y diwedd.

Sut i wneud cais

Byddwch yn gymwys os ydych ar hyn o bryd yn cael naill ai:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant (a hawl i Gredyd Treth Gwaith), neu
  • Credyd Cynhwysol (ac wedi ennill swm penodol o waith taledigYn agor mewn ffenestr newydd yn eich cyfnod asesu diwethaf).

Gallwch wneud cais am gyfrif Cymorth i Gynilo ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd neu drwy ffonio 0300 322 7093 (dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 6pm).

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol a bod gennych fwy na £6,000 mewn cynilion (gan gynnwys mewn cyfrif Cymorth i Gynilo), gallai hyn effeithio ar eich taliad.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
 
Esbonio Cymorth i Gynilo
Sut mae cynilion a chyfandaliadau yn effeithio ar fudd-daliadau?
Gwiriwch a allai gweithio mwy o oriau roi hwb i'ch incwm a'ch pensiwn

Os gallwch chi, mae gweithio mwy o oriau taledig yn un ffordd o roi hwb i’ch incwm. Gallai hefyd olygu eich bod yn cael budd-daliadau gwaith eraill fel arian am ddim yn cael ei dalu i mewn i'ch pensiwn.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch. Ond efallai y byddwch yn cael llai (neu gallai eich taliad dod i ben) os byddwch yn ennill mwy, gan ei fod yn seiliedig ar eich enillion o’r mis calendr blaenorol.

Mae budd-daliadau eraill yn gysylltiedig â faint o oriau rydych chi'n eu gweithio (a'ch partner, os oes gennych chi un). Mae hyn yn golygu y gallai eich taliadau budd-dal gael eu lleihau neu eu hatal os byddwch yn gweithio gormod o oriau, neu'n ennill gormod.

I weld faint fyddech chi’n ei ennill yn gyffredinol drwy weithio mwy o oriau, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau. Mae ganddo declyn ‘Beth os’ fel y gallwch weld beth fyddai’n digwydd pe byddech chi neu’ch partner yn ennill mwy.

Gallwch weld y rheolau llawn ar gyfer pob budd-dal prawf modd ar GOV.UK:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Cymhorthdal ​​IncwmYn agor mewn ffenestr newydd
  • Lwfans Ceisio GwaithYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch a ydych yn gymwys yn awtomatig i gael cymorth arall, fel prydau ysgol am ddim

Drwy dderbyn budd-daliadau penodol, efallai y byddwch nawr yn gymwys i gael mwy o help a chefnogaeth, megis:

  • prydau ysgol am ddim
  • cymorth gyda gwisg ysgol
  • presgripsiynau, apwyntiadau deintydd a phrofion llygaid am ddim
  • gostyngiadau ar eich biliau gwresogi (Gostyngiad Cartref Cynnes).

I weld beth allwch chi ei hawlio, defnyddiwch y teclyn Budd-daliadau a chymorth ariannolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Mae'r hyn y gallwch ei gael fel arfer yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a faint rydych chi'n ei ennill. 

Am fwy o help, gweler ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig

Dewch o hyd i help os ydych yn cael trafferth ac angen arian ychwanegol

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Help os ydych chi’n cael trafferth ac angen arian ychwanegol

Os nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno, neu os ydych yn poeni y gallech ei chael hi’n anodd rheoli taliad Credyd Cynhwysol, dilynwch y camau hyn.

Cael cymorth dyled am ddim os ydych eisoes wedi methu taliad

Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor cyfrinachol am ddim ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at eich cartref.

Bydd ymgynghorydd dyled yn:

  • trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
  • peidio byth â'ch barnu na gwneud i chi deimlo'n ddrwg am eich sefyllfa
  • awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
  • gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliadau sydd ar gael i chi.

Mae’n bwysig cael cyngor am ddim ar ddyledion os ydych yn poeni y byddwch chi’n methu taliad, wedi methu taliad, neu’n wynebu unrhyw faterion brys, gan gynnwys:

  • cysylltiad gan feilïaid (swyddogion siryf yn yr Alban)
  • derbyn gwŷs llys
  • diffodd eich nwy neu drydan
  • adfeddiannu eich cartref, car neu nwyddau.
Defnyddiwch ein Blaenoriaethwr biliau i wybod pa daliadau i fynd i’r afael â nhw gyntaf

Os ydych chi’n cael trafferth gyda biliau a daliadau, gall ein Blaenoriaethwr biliau eich helpu chi i:

  • drefnu pa rai i ddelio â nhw gyntaf
  • cael cymorth a thorri costau.

Gall canlyniadau methu rhai mathau o filiau fod yn fwy difrifol nag eraill, felly mae’n bwysig mynd i’r afael â nhw yn y drefn gywir.

Gwnewch gais i gynlluniau lles lleol am help i dalu am hanfodion

Gall cynlluniau lles lleol roi talebau i dalu am filiau a hanfodion fel:

  • bwyd
  • dillad
  • nwy neu drydan
  • band eang a ffôn
  • petrol neu ddiesel, ac
  • eitemau cartref, fel poptai neu oergelloedd.

Mae’r cynllun y gallwch wneud cais iddo yn dibynnu ar ble rydych yn byw:

  • Yn Lloegr, gwnewch gais i'ch cyngor lleol am y Gronfa Cymorth CartrefYn agor mewn ffenestr newydd
  • Yn yr Alban, gwnewch gais i The Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd
  • Yng Nghymru, gwnewch gais i'r Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd
  • Yng Ngogledd Iwerddon gwnewch gais i The Finance Support ServiceYn agor mewn ffenestr newydd
I gael mwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Ble gallaf gael cymorth brys gydag arian a bwyd?
Gofynnwch i gael eich cyfeirio at fanc bwyd am fwyd neu danwydd am ddim

 
Mae banciau bwyd fel arfer yn cynnig bwyd am ddim i unrhyw un sydd â thaleb atgyfeirio.

Efallai y byddant hefyd yn rhoi taleb nwy a thrydan i chi os ydych chi ar fesurydd rhagdalu ac yn methu â fforddio ychwanegu ato.

Gallwch ofyn am daleb atgyfeirio drwy gysylltu â’ch:

  • meddyg teulu
  • ymwelydd iechyd
  • gweithiwr cymorth
  • cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd
  • gweithiwr cymdeithasol, neu
  • ysgol y plentyn.

Gallwch hefyd ofyn i’r heddlu neu elusen leol, fel:

  • Cyngor ar Bopeth LloegrYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cyngor ar Bopeth yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cyngor ar Bopeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • Advice NIYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon.

Byddwch yn cael gwybod pa fanc bwyd y gallwch ei ddefnyddio, ond i ddod o hyd i'ch opsiynau agosaf, gweler:

  • Independent Food Aid NetworkYn agor mewn ffenestr newydd
  • Trussell TrustYn agor mewn ffenestr newydd
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Ble gallaf gael cymorth brys gydag arian a bwyd?
Gwiriwch am grantiau a chyllid elusennau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant, sef arian ychwanegol na fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.

I ddod o hyd i help a gwneud cais amdano, gallwch ddefnyddio:

Chwiliad Grantiau Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd

Porth Lightning ReachYn agor mewn ffenestr newydd

Gofynnwch i'ch anogwr gwaith am help gyda chostau chwilio am waith

Efallai y byddwch yn gallu cael arian i helpu i dalu am rai costau chwilio am waith, megis:

  • teithio i gyfweliad ac oddi yno
  • cyrsiau hyfforddi
  • dillad cyfweliad, a
  • gofal plant.

Eich anogwr gwaith sydd i benderfynu os byddant a sut gallant helpu. Os cewch arian, ni fydd angen i chi ei ad-dalu.

Fe’i gelwir yn Gronfa Cymorth HyblygYn agor mewn ffenestr newydd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban a’r Adviser Discretion FundYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon.

Help os yw dyledion yn cael eu tynnu o'ch budd-daliadau neu gyflog

Os oes arian yn ddyledus gennych, efallai y bydd eich taliad budd-dal yn cael ei leihau i ad-dalu'ch dyledion cyn i chi ei dderbyn. Dylech dderbyn llythyr neu neges yn eich cyfrif ar-lein yn egluro faint fydd yn cael ei gymryd.

Fel arall, efallai y gofynnir i'ch cyflogwr wneud didyniadau budd-dal o'ch cyflog.

Er enghraifft, gallai arian gael ei gymryd yn awtomatig i ad-dalu:

  • budd-daliadau, Credyd Cynhwysol a Chredydau Treth a ordalwyd
  • taliadau caledi
  • benthyciadau neu daliadau cyllidebu ymlaen llaw
  • hyd at dair dyled ac ôl-ddyledion trydydd parti, fel:
    • trydan, nwy a dŵr
    • Treth Gyngor
    • cynhaliaeth plant
    • rhent neu daliadau gwasanaeth
    • dirwyon llys.

Os ydych chi’n cael trafferth neu’n poeni, siaradwch ag ymgynghorydd dyledion am ddim i gael help a ffyrdd fforddiadwy o fynd i’r afael â’ch dyled.

Am fwy o wybodaeth a chymorth i reoli eich ad-daliadau, gallwch ffonio:

  • Tîm Rheoli Dyled DWPYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, neu
  • Debt Management Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Ystyried Taliad Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Cyllidebu di-log

Gall fod yn anodd benthyg arian os oes gennych incwm isel, oherwydd efallai y bydd llawer o fenthycwyr yn meddwl na allwch fforddio’r ad-daliadau. Ac mae'r rhai a all eich derbyn yn tueddu i godi llog neu ffioedd drud.

Ond efallai y gallwch gael benthyciad di-log gan y llywodraeth os ydych wedi bod yn cael budd-daliadau penodol neu Gredyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis.

Gelwir hwn yn Fenthyciad Cyllidebu (Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os ydych yn cael Credyd Cynhwysol) ac mae’n gadael i chi fenthyca rhwng £100 ac £812 i dalu am hanfodion neu gostau annisgwyl. Yna bydd eich taliadau budd-dal yn y dyfodol yn cael eu lleihau nes bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu.

Am fwy o wybodaeth a phwy sy'n gymwys, gweler ein canllaw Benthyciadau Cyllidebu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw.

Os oes dal angen i chi fenthyg arian, gwiriwch beth allwch chi fforddio ei ad-dalu

Fel dewis olaf, efallai y byddwch chi'n meddwl am fenthyg i ymdopi nes i chi godi'n ôl ar eich traed. Ond byddwch yn ymwybodol y gallai hyd yn oed opsiynau cost isel arwain at droell o gostau na ellir eu rheoli.

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar yr holl opsiynau uchod ac yn edrych ar ffyrdd o fenthyg arian, sicrhewch eich bod yn deall:

  • yn union faint y bydd yn ei gostio i chi
  • a allwch chi fforddio'r ad-daliadau.

Peidiwch â gwneud cais nes eich bod wedi gwirio a ydych yn debygol o gael eich derbyn. Gall ceisiadau a wrthodwyd niweidio'ch ffeil credyd.

Am fwy o help a gwybodaeth, gweler:
Teclyn Eich opsiynau ar gyfer benthyg arian
Sut i wneud cais i fenthyg arian, fel benthyciad neu gerdyn credyd
Siaradwch ag ymgynghorydd caledi am ddim

Os oes angen mwy o help neu gefnogaeth arnoch, gallwch ffonio ymgynghorydd hyfforddedig am ddim.

Er enghraifft, gallent eich helpu i:

  • baratoi ar gyfer ymdopi â'ch taliad misol cyntaf
  • sicrhau bod eich anogwr gwaith yn deall eich amgylchiadau personol
  • gwneud cais am flaenswm
  • cael cymorth ariannol ychwanegol.

Mae pwy i gysylltu ag ef yn dibynnu ar ble rydych yn byw:

  • Yng Nghymru a Lloegr, ffoniwch linell gymorth Help through HardshipYn agor mewn ffenestr newydd ar 0808 208 2138 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
  • Yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Advice NIYn agor mewn ffenestr newydd ar 0800 915 4604
  • Yn yr Alban, cysylltwch â'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch ddod o hyd i fwy o help a chymorth gyda budd-daliadau ar AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch sut i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Sut i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

 

Gan fod eich budd-daliadau fel arfer yn gysylltiedig â’ch amgylchiadau personol, efallai y byddwch yn gymwys i gael mwy neu lai os bydd unrhyw beth yn newid, fel dechrau swydd newydd, cael babi neu symud tŷ. Dyma beth i’w wneud, gan gynnwys os gofynnir i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn lle’ch hen fudd-daliadau.

 

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau i sicrhau eich bod yn cael eich talu’n gywir

Os bydd unrhyw beth yn eich bywyd yn newid, rhaid i chi roi gwybod i'r swyddfa sy'n talu eich budd-dal. Er enghraifft:

  • symud cartref
  • priodi neu ysgaru
  • cael babi
  • cael diagnosis o gyflwr iechyd neu anabledd
  • newidiadau i'ch cyllid, fel codiad cyflog neu dderbyn unrhyw arian ychwanegol.

Gallwch ddod o hyd i restr o newidiadau y mae angen ichi roi gwybod amdanynt a manylion cyswllt ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os na fyddwch yn rhoi gwybod amdano, efallai y byddwch yn colli allan ar arian ychwanegol y mae gennych hawl iddo. Neu gallech gael gormod o dâl ac efallai y bydd angen i chi ad-dalu'r budd-daliadau a ordalwyd ynghyd â dirwy o £50.

Fel arfer byddwch yn cael llythyr neu neges yn eich cyfrif ar-lein am unrhyw newidiadau i’ch budd-daliadau o ganlyniad.

Beth i’w wneud os dywedir wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol yn lle

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau, efallai y dywedir wrthych y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol i barhau i gael budd-daliadau.

Ni chewch eich symud yn awtomatig. Yn hytrach, byddwch yn cael gwybod erbyn pryd y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol a phryd y bydd eich budd-daliadau presennol yn dod i ben.

Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Os oes gennych ddewis rhwng aros ar eich budd-daliadau presennol a symud i Gredyd Cynhwysol, cewch gyngor am ddim cyn gwneud cais. Gallwch ddefnyddio Advicelocal i ddod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn eich ardal chiYn agor mewn ffenestr newydd

Opens in a new window

Am fwy o help, gweler ein canllaw Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill
Help os oes angen i chi ad-dalu budd-daliadau a ordalwyd

Os ydych wedi rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ac wedi cael gordaliad budd-daliadau y mae angen ei had-dalu, siaradwch ag ymgynghorydd dyledion am ddim i gael help i benderfynu sut i’w ad-dalu.

Gallwch hefyd herio’r penderfyniad os nad ydych yn cytuno ag unrhyw beth. Gweler ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau am fwy o wybodaeth.

Fel arfer caiff eich taliad budd-daliadau ei leihau i ad-dalu budd-daliadau a ordalwyd

Os ydych dal yn cael budd-daliadau, bydd eich taliadau fel arfer yn cael eu lleihau i gwmpasu’r ad-daliadau. Bydd y gostyngiad yn dibynnu ar y budd-dal rydych yn ei gael:

  • Credyd Cynhwysol – gall eich lwfans safonol gael ei leihau hyd at 25%
  • credydau treth – gellir eu gostwng 10% i 100%
  • budd-daliadau eraill fel Cymhorthdal ​​Incwm a Chredyd Pensiwn – gostyngiad o £13.65 yr wythnos fel arfer ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25.

Os yw’r taliadau’n rhy uchel, neu y byddai’n well gennych dalu mewn ffordd wahanol, gallwch ffonio:

  • Tîm Rheoli Dyled DWPYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, neu
  • Debt Management Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau