Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Problemau ariannol
  3. Help gyda chostau byw
Problemau ariannol Help gyda chostau byw

Cefnogaeth os ydych yn hunangyflogedig

P'un a ydych chi'n newydd i weithio i chi'ch hun neu wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd, mae'n bwysig cael y wybodaeth ddiweddaraf am y budd-daliadau a'r grantiau sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau byw. Mae'r rhain yn cynnwys Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) os ydych yn sâl a Chredyd Cynhwysol ar gyfer adegau lle gallai’ch incwm fod yn isel. Rydym wedi llunio canllawiau i'ch helpu.

Dyn canol oed hapus yn siarad

Cael gefnogaeth os ydych yn hunangyflogedig

Rheoli incwm amrywiol

Cael eich dyledion dan reolaeth

Diogelu chi a’ch busnes

Adolygu eich cynilion a phensiynau

Cael cefnogaeth a grantiau os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych yn hunangyflogedig ac wedi cael eich effeithio’n ariannol gan gostau byw uchel, darganfyddwch pa gefnogaeth sydd ar gael i chi.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Ychwanegu at eich incwm gyda Chredyd Cynhwysol

Efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol os oes angen i chi ychwanegu at eich incwm a bod gennych gynilion ac incwm cartref isel.

Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol os ydych yn byw gyda phriod neu bartner ac:

  • os oes gennych gynilion cyfunol o fwy na £16,000, neu
  • mae eich partner yn ennill gormod,

ni fyddwch yn gallu gwneud cais.

Bydd angen i chi fynychu cyfweliad porth gydag anogwr gwaith DWP er mwyn iddynt allu gwirio mai hunangyflogaeth yw eich prif swydd. Dylech fod yn gwneud rhywfaint o elw neu ddisgwyl gwneud hynny os ydych newydd ei dechrau.

Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi ddangos tystiolaeth gan gynnwys:

  • derbyniadau
  • eich cynllun busnes
  • copiau o anfonebau
  • cyfrifon masnachu am y flwyddyn flaenorol
  • prawf eich bod wedi cofrestru yn hunangyflogedig gyda CThEF.

Os na fyddwch yn dangos digon o dystiolaeth, efallai y bydd yr aseswr yn penderfynu nad ydych yn hunangyflogedig ‘â thâl’.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi chwilio, a bod ar gael, am waith arall tra byddwch yn cael Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am hawlio Credyd Cynhwysol yn ein canllaw Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig.

Mae Help i Hawlio yn wasanaeth Cyngor ar Bopeth cyfrinachol am ddim.

 

Gallant eich helpu i:

  • wirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
  • cael eich gwaith papur a’ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu’ch cais
  • llenwi eich cais ar-lein.

 

Cymru a Lloegr:

Am fwy o fanylion, ac i ddod o hyd i'ch cangen agosaf ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd

Neu yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220Yn agor mewn ffenestr newydd a Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444Yn agor mewn ffenestr newydd

 

Yr Alban:

Ymwelwch â Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581Yn agor mewn ffenestr newydd

 

Gogledd Iwerddon:

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio yn wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Gwnewch gais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd os ydych yn sâl

Os ydych yn hunangyflogedig ni allwch hawlio Tâl Salwch Statudol.

Os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd, efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd os ydych yn sâl.

Os ydych yn gymwys, gallwch hawlio'r budd-dal hwn waeth beth fo incwm eich cartref neu gynilion.

Os nad ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol efallai y byddwch yn gallu hawlio’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gwaith a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith o’r elfen Gredyd Cynhwysol os oes gennych gynilion sy'n llai na £16,000.

Os ydych yn byw gyda phartner, bydd eu hincwm hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o’r cais am Gredyd Cynhwysol.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer ESA a beth i’w wneud os nad ydych ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

 

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, pa fudd-daliadau a chymorth ariannol y gallech fod yn gymwys amdanynt ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Gwneud cais am grant Cymorth Disgresiynol

Nid yw’r cynlluniau hyn bellach ar gael os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud cais o hyd. Darganfyddwch fwy ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Budd-daliadau os penderfynwch ddod â'ch hunangyflogaeth i ben

Os byddwch yn penderfynu nad ydych am fod yn hunangyflogedig mwyach, rhaid i chi roi gwybod i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fasnachu fel unig fasnachwr neu eich bod yn dod â phartneriaeth fusnes i ben neu’n gadael.

Byddwch hefyd angen anfon ffurflen dreth derfynol.

Os ydych wedi bod yn hunangyflogedig ers tro, ni allwch fel arfer hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull newydd os oeddech yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn unig.

Fodd bynnag, os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 fel gweithiwr yn y ddwy i dair blynedd dreth ddiwethaf, efallai y gallwch wneud cais am JSA dull newydd.

Os yw incwm a chynilion eich cartref yn isel a bod gennych gynilion o lai na £16,000, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle JSA. Bydd incwm eich priod neu bartner yn cael ei ystyried fel rhan o'r cais.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, defnyddiwch Help to Claim, gwasanaeth cyfrinachol am ddim gan Cyngor ar Bopeth i wirio bod Credyd Cynhwysol yn iawn i chi cyn i chi wneud cais.


Cyngor ar Bopeth Cymru a LloegrYn agor mewn ffenestr newydd



Cyngor ar Bopeth yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd


Yng Ngogledd Iwerddon, mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Dysgwch fwy yn nidirect

Darganfyddwch sut i reoli eich incwm misol

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Rheoli incwm amrywiol

Pan fyddwch yn hunangyflogedig, chi sy’n gyfrifol am dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich incwm. Darganfyddwch sut i gadw ar ben eich holl gofnodion i weithio allan faint sydd angen i chi ei dalu.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Cyllidebu ar gyfer incwm amrywiol

Gall cael incwm afreolaidd wneud cyllidebu i’w weld yn amhosibl pan fydd gennych symiau gwahanol yn dod i mewn bob mis, ond os ydych yn gwybod faint sy’n mynd allan bob mis, gallwch gyllidebu.

Os bydd eich incwm yn amrywio, awgrym da yw cyllidebu ar gyfer eich incwm misol isaf – o leiaf byddwch bob amser yn talu’r costau mawr. Yna, os oes gennych chi fis da, gallwch chi adolygu'ch cyllideb fisol i fyny.

Neu ychwanegwch bopeth oedd gennych yn dod i mewn dros y flwyddyn ddiwethaf a'i rannu â 12. Bydd hyn yn rhoi incwm misol cyfartalog i chi ei ddefnyddio fel marc sylfaen ar gyfer eich incwm.

Yna meddyliwch sut mae eich taliadau allan, costau a gwariant yn cael eu lledaenu ar draws y flwyddyn, er enghraifft, biliau cyfleustodau, costau gwaith, treth car, unrhyw yswiriant a allai fod gennych, bil treth hunanasesiad ac ychwanegwch hwy i’ch cyllideb.

Cofiwch y bydd misoedd pan fydd taliadau penodol yn ddyledus neu pan fyddwch yn gwario mwy, fel y Nadolig, gwyliau ysgol neu benblwyddi teulu.

Mae ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd yn fan cychwyn da, os ydych yn hunangyflogedig

Cadw reolaeth ar eich llif arian

Gall taliadau sy’n ddyledus gael effaith ddifrifol ar eich llif arian os nad yw cwsmeriaid yn talu ar amser. Dyma restr wirio ar gyfer pethau y gallwch eu gwneud i geisio cadw rheolaeth ar yr arian sy’n dod i mewn.

  • Gwnewch yn siŵr bod eich cwsmer yn glir ynghylch telerau talu cyn i chi ddechrau gwaith
  • Gofynnwch am flaendal neu daliad ymlaen llaw
  • Os cewch waith mawr lle telir cyfandaliad i chi ar ôl ei gyflenwi neu gwblhau, gofynnwch i’ch cwsmeriaid a allwch eu bilio’n fisol.
  • Ystyriwch fyrhau eich telerau talu. Y telerau arferol yw 30 diwrnod ond gallwch ofyn am lai
  • Anfonwch anfonebau ar amser
  • Gadewch i’ch cwsmeriaid dalu mewn ffordd sy’n hawdd iddynt
  • Caniatewch ostyngiad bach am daliad cynnar neu brydlon – neu codwch gosb fach am daliadau hwyr
  • Parhewch i siarad â’ch cwsmeriaid a byddwch yn gwrtais a chyfeillgar.

Os bydd busnes yn methu dyddiad talu y cytunwyd arno gallwch hawlio costau llog a chostau adennill dyledion. Darganfyddwch sut ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

 

Os oes gan unigolyn neu fusnes arian yn ddyledus i chi am waith gallwch fynd â’ch hawliad i’r llys sirolYn agor mewn ffenestr newydd

Rhannu eich cyllid personol a busnes

Os gwahanwch eich arian personol oddi wrth gyllid eich busnes, bydd yn gwneud pethau’n llawer haws pan ddaw’n amser llenwi eich ffurflen dreth hunanasesiad.

Er enghraifft, bydd cadw cyfrifon banc a chardiau credyd ar wahân ar gyfer eich busnes yn ei gwneud yn gyflymach i olrhain a chofnodi eich treuliau busnes.

Bydd gennych hefyd gofnod syml a chywir o'r hyn sy'n dod i mewn a’r hyn sy’n mynd allan gan wneud cyllidebu’n haws. Edrychwch ar eich treuliau busnes i weld a allwch newid o daliadau blynyddol i daliadau misol lle bo modd. Ar gyfer rhai treuliau, fel premiymau yswiriant, efallai y bydd angen i chi chwilio am ddarparwr sydd ddim yn codi mwy am daliadau misol.

Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Cyllideb rhad ac am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio, i’ch helpu i reoli gwariant eich cartref

 

Eisiau edrych eto ar eich sefyllfa ariannol pan fyddwch ar gyllideb dynn? Edrychwch ar ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig.

Gwnewch gynllun ar gyfer eich bil treth hunanasesu

Y ffordd orau o gynilo ar gyfer eich bil treth Hunanasesu yw cadw ychydig o arian ar un ochr bob tro y byddwch yn derbyn unrhyw incwm yn hytrach nag aros i dderbyn bil treth mawr.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn ystyried agor cyfrif cynilo a throsglwyddo rhywfaint o arian bob tro y cewch eich talu a gwneud y cyfrif hwn ar gyfer taliadau treth yn unig, a dim i'w ddefnyddio ar gyfer gwariant arall.

Gall y math hwn o gynllunio helpu ar adegau pan fyddwch yn dod â hyd yn oed llai nag arfer i mewn, gan osgoi straen enfawr ar eich llif arian, ar eich busnes, ac arnoch chi.

Defnyddiwch y cyfrifydd hunangyflogedig ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd i gyllidebu ar gyfer eich bil treth Hunanasesiad

Darganfyddwch fwy am gael rheolaeth o’ch dyledion

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Cael eich dyledion dan reolaeth

Gall rheoli eich biliau ddod yn fwy anodd mewn cyfnod economaidd anodd. Mae’n bwysig deall sut i flaenoriaethu talu eich biliau neu os ydych wedi methu taliad, darganfod sut i gael cyngor ar ddyledion.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Rheoli eich biliau a thaliadau

Gall canlyniadau peidio â thalu rhai biliau cyn rhai eraill fod yn fwy difrifol.

Felly, os ydych yn cael trafferth gwneud eich ad-daliadau ar amser, mae angen i chi edrych ar eich holl ddyledion a’u rhannu’n:

  • dyledion blaenoriaeth
  • dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth, a
  • argyfyngau dyled.

Defnyddiwch ein Blaenoriaethwr biliau: cael help gyda’ch biliau cyflym a hawdd ei ddefnyddio i’ch helpu i ddeall pa filiau i ddelio â nhw yn gyntaf a beth i’w wneud i sicrhau nad ydych yn methu taliad

Cael cyngor am ddim ar ddyledion os ydych wedi methu taliadau

Os ydych angen mwy o gymorth neu os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau talu dyledion nid ydych ar eich pen eich hun.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Yr Alban neu Lloegr a bod gennych ddyledion busnes, cewch help a chymorth am ddim o Business DebtlineYn agor mewn ffenestr newydd Gallant hefyd helpu gyda dyledion personol.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddod o hyd i gynghorwr dyledion ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Byddwch yn wyliadwrus o ddefnyddio eich pensiwn i dalu eich dyledion

Mae’n bwysig meddwl yn ofalus cyn cymryd arian o’ch cronfa bensiwn i glirio dyledion. Dim ond fel dewis olaf y dylid ystyried hyn.

Fel arfer ni allwch gymryd arian o’ch pensiwn os ydych o dan 55 oed. Felly os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n ddirybudd ac yn dweud y gallant eich helpu i gael mynediad i'ch cronfa bensiwn yn gynnar, mae'n debygol mai sgam pensiwn ydyw.

Gallech golli eich arian a gwynebu tâl treth o hyd at 55% o’r swm a dynnwyd neu a drosglwyddwyd, ynghyd â chostau pellach gan eich darparwr.

Os ydych dros 55 oed ac yn gallu cael mynediad i’ch cronfa bensiwn heb gosbau, mae bob amser yn well deall yr holl opsiynau sydd ar gael i dalu’ch dyledion cyn tynnu arian allan o’ch pensiwn.

Beth bynnag eich oedran, darllenwch ein canllaw Defnyddio eich pensiynau i dalu dyledion

Cysylltwch â’n Llinell Gymorth Pensiynau ar 0800 011 3797 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrsYn agor mewn ffenestr newydd i gael arweiniad cyfrinachol ac arbenigol am ddim cyn i chi dynnu arian allan o’ch pensiwn i dalu dyledion.

 

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm (llinell gymorth), 9am i 6pm (gwe-sgwrs). Ar gau ar wyliau banc.

Dargafnyddwch fwy am sut i ddiogelu eich hun a’ch busnes

 

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Diogelu chi a’ch busnes

Mae’n bwysig cael yswiriant yn ei le i’ch diogelu rhag bod ar eich colled yn ystod cyfnod anodd. Gallai hyn eich gadael ag un peth yn llai i boeni amdano.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Cael yswiriant busnes

Mae llawer o wahanol fathau o yswiriant busnes ar gael. Bydd y math gorau o yswiriant i chi yn amrywio yn seiliedig ar ffactorau amrywiol, gan gynnwys:

  • faint o bobl rydych yn eu cyflogi
  • yr asedau y mae angen i chi eu diogelu
  • y math o fusnes rydych yn ei redeg.

Chwiliwch am ddyfynbrisiau, neu ystyriwch ddefnyddio brocer busnes arbenigol sydd hefyd yn trafod y math o yswiriant busnes y gallech fod ei angen. Gallwch ddod o hyd i frocer arbenigol ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain.Yn agor mewn ffenestr newydd

Edrychwch ar yr hyn sydd ar gael a’r hyn y gallech fod ei angen yn ein canllaw Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig

Diogelu eich incwm

Gall fod yn hynod o anodd peidio â chael tâl salwch os ydych yn hunangyflogedig. Mae diogelu incwm yn bolisi yswiriant hirdymor sy’n sicrhau eich bod yn cael incwm rheolaidd hyd nes y byddwch yn ymddeol neu’n gallu dychwelyd i’r gwaith.

Mae bob amser yn well defnyddio darparwr arbenigol pan yn dewis diogelu incwm gan ei fod yn gynnyrch cymhleth a gall prisiau amrywio'n sylweddol.

Pum peth i’w hystyried wrth brynu yswiriant diogelu incwm:

  1. Byddwch yn onest am eich hanes meddygol
  2. Dewiswch lefel addas o orchudd
  3. Darllenwch y print mân a gwiriwch am waharddiadau
  4. Gallwch chi newid eich meddwl
  5. Cadwch eich yswiriant yn gyfredol.

Ystyriwch eich opsiynau trwy ddarllen ein canllaw Yswiriant personol pan fyddwch yn hunangyflogedig

I gael gwybod mwy am sut i adolygu eich cynilion a phensiynau

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Adolygu eich cynilion a phensiynau

Mae’n syniad da edrych yn rheolaidd ar eich cynilion hirdymor a thymor byr. Darganfyddwch sut i flaenoriaethu talu dyledion a rhoi arian o’r neilltu ar gyfer eich bil treth.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Edrychwch ar eich cynilion

Mae cynilo rheolaidd yn bwysig iawn yn enwedig pan fo arian yn brin. Mae nawr yn amser da i edrych ar eich holl dreuliau gan gynnwys arian rydych yn ei roi i mewn i gynilion.

Fel rheol gyffredinol, yn y lle cyntaf, rhowch flaenoriaeth i roi arian o’r neilltu wrth i chi ennill ar gyfer eich bil treth hunanasesu.

I gael awgrymiadau ar beth i'w wneud, darllenwch ein canllaw A ddylech chi gynilo, neu dalu benthyciadau a chardiau credyd?

 

Gwirio eich cyfraniadau pensiwn

Mae faint y dylech ei roi yn eich pensiwn yn dibynnu ar ba mor fuan y byddwch yn dechrau a faint y gallwch fforddio ei roi yn eich cronfa.

Po gynharaf y byddwch yn dechrau, y lleiaf y bydd yn rhaid i chi ei roi i ar un ochr bob mis i fforddio ymddeoliad cyfforddus.

Ond os ydych yn cael trafferth gyda’ch biliau bob dydd, mae’n bwysig cael y rheini dan reolaeth yn gyntaf. Ystyriwch ohirio eich cyfraniad pensiwn hyd nes y bydd eich gwaith yn cynyddu.

Os bydd eich enillion yn cynyddu, ystyriwch gynyddu eich taliadau rheolaidd neu dalu cyfandaliad i mewn i’ch pensiwn. Gallwch ddwyn ymlaen lwfansau blynyddol nas defnyddiwyd o’r tair blynedd dreth flaenorol a chael budd o ryddhad treth o hyd.

Eisiau gwybod beth i chwilio amdano mewn pensiwn ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig? Darllenwch ein canllaw Pensiynau ar gyfer pobl

Trefnu apwyntiad Pension Wise os ydych yn 50 oed neu drosodd

Gall apwyntiad gyda Pension Wise, gwasanaeth y llywodraeth gan HelpwrArian, eich helpu i wneud synnwyr o beth fydd eich sefyllfa ariannol pan fyddwch yn ymddeol a mynd drwy eich opsiynau.

Os ydych yn 55 oed neu drosodd, efallai y gallwch ddechrau tynnu arian allan o’ch pensiwn.

Er enghraifft, efallai y byddwch am wneud hyn os ydych am dorri’n ôl ar waith a dechrau tynnu incwm o’ch cynilion pensiwn.

Trefnu apwyntiad Pension Wise am ddim

O dan 50, ddim yn siŵr pa bensiwn sydd gennych chi, neu ddim yn barod? Gall Pension Wise ddal i ateb eich cwestiynau. Ffoniwch ni am ddim ar 0800 011 3797 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrs.

 

Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 5pm (llinell gymorth) 9am i 6pm (gwe-sgwrs). Ar gau ar wyliau banc.

Darganfyddwch fwy am Pension Wise a sut i’w ddefnyddio

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Ydych chi wedi methu taliad?

Eicon biliau ac ebychnod mewn triongl rhybudd melyn

Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion

  • Mae am ddim ac yn gyfrinachol

  • Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian

  • Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir

Darganfyddwch fwy am gyngor ar ddyled
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma

Efallai bydd gennych ddiddordeb mewn...

Byw ar incwm gwasgedig
Os ydych yn poeni am gostau byw cynyddol, darganfyddwch ffyrdd o wneud i'ch incwm fynd ymhellach. Dysgwch sut i gyllidebu, cwtogi ar gostau a gwel...
Blaenoriaethwr biliau: cael help gyda’ch biliau
Os na allwch dalu eich treth cyngor, morgais neu filiau cyfleustodau, mae’n bwysig cael help i osgoi canlyniadau difrifol. Darganfyddwch pa opsiyn...
Diswyddo a cholli eich swydd
Os ydych yn wynebu cael eich diswyddo neu golli swydd, rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg. Darganfyddwch am y broses ddiswyddo a ble y gallwch g...
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau