Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Credyd Cynhwysol
Budd-daliadau Credyd Cynhwysol

Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill

Mae’r DWP yn symud pawb ar fudd-daliadau ‘etifeddol’ i Gredyd Cynhwysol, ond nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes y dywedir wrthych am wneud hynny. Mae’r canllaw hwn yn eich helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl, sut i wneud cais llwyddiannus a ble i gael cymorth arbenigol am ddim os bydd ei angen arnoch.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Ble i gael cyngor personol am Gredyd Cynhwysol
  • Mae Credyd Cynhwysol yn raddol yn disodli chwe budd-dal etifeddol
  • Sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i’ch budd-daliadau presennol
  • Byddwch yn cael gwybod pan fydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol
  • Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n derbyn Hysbysiad Ymfudo - cam wrth gam
  • Beth sy’n digwydd os bydd eich amgylchiadau’n newid – cam wrth gam
  • Help tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
  • Siaradwch â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth i gael cyngoram ddim

Ble i gael cyngor personol am Gredyd Cynhwysol

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall sut mae symud i Gredyd Cynhwysol yn gweithio a ffyrdd o wneud y gorau o’ch arian.

I siarad â rhywun am eich sefyllfa eich hun, gan gynnwys cymorth i hawlio, rhowch gynnig ar y sefydliadau am ddim hyn:

  • Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth am help gyda chwestiynau a hawliadau Credyd Cynhwysol, hyd nes y byddwch yn derbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
  • Advicelocal am help a chefnogaeth gyda budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd, gan gynnwys cyngor cyfrinachol ynghylch a ddylech hawlio Credyd Cynhwysol. 
Nol i’r brig

Mae Credyd Cynhwysol yn raddol yn disodli chwe budd-dal etifeddol

Os ydych chi’n derbyn un o’r chwe budd-dal ‘etifeddol’ hyn ar hyn o bryd, fe ddywedir wrthych ar ryw adeg i hawlio Credyd Cynhwysol yn lle:

  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Cymhorthdal ​​Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm.
Nol i’r brig

Sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i’ch budd-daliadau presennol

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad sengl sydd wedi’i gynllunio i’ch cefnogi gyda chostau byw bob dydd, gan gynnwys tai a magu plant. Gallwch ei hawlio p’un a ydych yn gweithio ai peidio.

Mae ein Cyfrifiannell Budd-daliadau yn ffordd gyflym a hawdd o wirio beth allech chi ei gael.

Dyma sut y gallai Credyd Cynhwysol fod yn wahanol i’ch budd-daliadau presennol:

  • gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch
  • fel arfer bydd angen i chi ymrwymo i ddod o hyd i waith os gallwch
  • gallai eich taliad newid bob tro gan ei fod yn seiliedig ar incwm eich cartref a’r cynilion a’r buddsoddiadau a oedd gennych yn y mis blaenorol
  • ni chewch unrhyw beth os oes gennych gynilion neu fuddsoddiadau gwerth dros £16,000
  • bydd angen i chi aros pum wythnos am eich taliad cyntaf
  • rydych fel arfer yn cael eich talu unwaith neu ddwywaith y mis yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU (mae cyplau yn cael un taliad)
  • rydych fel arfer yn gyfrifol am dalu eich rhent eich hun yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
  • gallwch hawlio hyd at 85% o'ch costau gofal plant yn ôl
  • efallai y bydd eich taliad yn cael ei leihau hyd at 25% i ad-dalu dyledion fel budd-daliadau neu gredydau treth a ordalwyd.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Esbonio Credyd Cynhwysol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut bydd hyn yn effeithio arnoch, siaradwch â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth neu Advice NI am gymorth a chyngor cyfrinachol a diduedd.

Help os oes angen i chi reoli eich arian yn wahanol

Gan fod llawer o fudd-daliadau etifeddol yn cael eu talu’n wythnosol neu bob pythefnos, mae’n debyg y bydd angen i chi wneud newidiadau i sut rydych chi’n rheoli’ch arian. Mae hyn yn cynnwys newid y dyddiadau talu ar gyfer eich biliau, rhent neu forgais i’r diwrnod ar ôl i chi gael eich talu.

I gael cymorth a gwybodaeth lawn, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.

Nol i’r brig

Byddwch yn cael gwybod pan fydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol

Byddwch yn parhau i gael eich budd-daliadau presennol hyd nes y dywedir wrthych i hawlio Credyd Cynhwysol yn lle. Bydd hyn naill ai'n digwydd:

  • pan fyddwch yn derbyn llythyr o'r enw Hysbysiad Ymfudo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu
  • os yw newid yn eich amgylchiadau yn golygu nad ydych bellach yn gymwys ar gyfer eich budd-daliadau presennol, fel swydd newydd, babi neu gael diagnosis o gyflwr iechyd hirdymor.

Yn y ddau achos, ni fyddwch yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig. Bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn y dyddiad cau, sef fel arfer pan fydd eich budd-daliadau presennol yn dod i ben.

Gallwch hefyd ddewis gwneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn i chi dderbyn eich llythyr. Ond efallai y byddwch yn colli allan ar arian ychwanegol os gwnewch, gan na fyddwch yn cael amddiffyniad trosiannol I ddeall beth sydd orau i chi, cewch gyngor arbenigol am ddim cyn gwneud cais.

Nol i’r brig

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n derbyn Hysbysiad Ymfudo - cam wrth gam

Pan ddaw’n amser i chi symud i Gredyd Cynhwysol, bydd y DWP yn anfon llythyr arbennig atoch o’r enw ‘Hysbysiad Ymfudo’ fel rhan o’i rhaglen ‘Symud i UC’. Mae hwn yn dweud wrthych y dyddiad cau ar gyfer hawlio Credyd Cynhwysol erbyn a phryd bydd eich budd-daliadau etifeddol yn dod i ben, felly gweithredwch yn gyflym.

Os ydych yn byw yn: Gwiriwch pryd rydych yn debygol o gael eich llythyr ar:

Cymru, Lloegr neu'r Alban

GOV.UK – pryd rydych yn debygol o gael eich llythyrYn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

nidirect – pryd byddwch yn cael eich gofyn i symud i Gredyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd

Dyma beth i’w wneud pan fyddwch yn cael eich llythyr.

Cam un: gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol rydych chi’n debygol o’i gael

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau cyflym a hawdd i ddarganfod faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael, gan ei fod yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol ac enillion eraill.

Am fwy o wybodaeth am sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo, gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?

Cam dau: gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol cyn y dyddiad cau fel na fyddwch yn colli allan

Dim ond tri mis sydd gennych o ddyddiad eich llythyr i hawlio Credyd Cynhwysol yn llwyddiannus.

Os byddwch yn colli'r dyddiad cau:

  • bydd eich budd-daliadau etifeddol yn dal i ddod i ben yn awtomatig, ac
  • ni fyddwch yn cael ‘amddiffyniad trosiannol’ – arian ychwanegol i ychwanegu at eich taliad Credyd Cynhwysol os yw’n talu llai na’ch budd-daliadau presennol.

Esbonio amddiffyniad trosiannol

Mae taliadau amddiffyniad trosiannol yn golygu na fyddwch yn waeth eich byd ar y diwrnod y bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dechrau.

Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo yn llai ar Gredyd Cynhwysol na’ch hen fudd-daliadau, bydd eich taliad yn cael ei ychwanegu at gyfnod penodol o amser dan amddiffyniad trosiannol i sicrhau nad ydych yn colli allan.

Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig os ydych yn:

  • gwneud cais erbyn y dyddiad cau yn eich Hysbysiad Ymfudo, ac
  • nad oes gennych unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.

Bydd amddiffyniad trosiannol fel arfer yn para tan naill ai:

  • mae eich taliad Credyd Cynhwysol yr un peth neu’n fwy â’ch budd-daliadau etifeddol (er enghraifft, os byddwch yn gymwys yn ddiweddarach i gael taliad ychwanegol drwy gael babi)
  • bod eich partner yn symud i mewn neu allan o'ch cartref
  • bod eich incwm yn gostwng am dri mis yn olynol, neu
  • nad ydych bellach yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Am fwy o wybodaeth, gweler GOV.UK – Amddiffyniad trosiannol os byddwch yn derbyn llythyr Hysbysiad YmfudoYn agor mewn ffenestr newydd

Opens in a new window

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Bydd eich Hysbysiad Ymfudo yn dweud wrthych sut i wneud cais, ond fel arfer bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd Os ydych yn byw gyda’ch partner, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân.

Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd neu’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon. Gallant drefnu i rywun eich ffonio'n ôl neu ymweld â'ch cartref.

Am ragor o help a gwybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon
  • Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd ar gyfer cyplau.

Cam tri: cael cyngor a chymorth am ddim gyda’ch cais

Os byddwch yn cael trafferth gwneud cais mewn pryd, neu am gymorth a chyngor am ddim gyda’ch cais, dylech:

  • siarad â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth neu Advice NI i gael cymorth a chyngor cyfrinachol a diduedd
  • ffoniwch linell gymorth Hysbysiad Ymfudo Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd
  • ewch i'ch Canolfan Byd Gwaith leolYn agor mewn ffenestr newydd neu swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd i gael cymorth wyneb yn wyneb i wneud cais.

Gallwch hefyd roi eich caniatâd i rywun rydych yn ymddiried ynddo i ddelio â’ch hawliad ar eich rhan, a elwir yn gynrychiolydd. Os nad yw’r person sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn gallu rheoli ei arian ei hun, gallwch wneud cais i fod yn benodai cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd, Canolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd neu GOV.UK – caniatâd Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd

Cam pedwar: arhoswch bum wythnos am eich taliad cyntaf

Ar ôl i chi wneud cais, fel arfer bydd angen i chi aros pum wythnos i gael eich taliad cyntaf. Byddwch yn parhau i gael eich budd-daliadau presennol am bythefnos ar ôl i chi wneud cais ond bydd credydau treth yn dod i ben ar unwaith.

Am beth i’w wneud nesaf, gweler Help tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Nol i’r brig

Beth sy’n digwydd os bydd eich amgylchiadau’n newid – cam wrth gam

Os ydych yn hawlio budd-daliadau etifeddol a bod rhywbeth yn eich bywyd yn newid, fel newid swyddi neu gael babi, efallai y gofynnir i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.

Dyma beth i'w wneud:

Cam un: rhowch wybod ar unwaith am newid mewn amgylchiadau

Os bydd unrhyw beth yn eich bywyd yn newid, rhaid i chi roi gwybod i'r swyddfa sy'n talu eich budd-dal. Er enghraifft, os ydych yn:

  • symud cartref
  • priodi neu ysgaru
  • cael babi
  • yn cael diagnosis o gyflwr iechyd neu anabledd
  • newid eich sefyllfa ariannol, fel codiad cyflog neu dderbyn unrhyw arian ychwanegol.

Gallwch ddod o hyd i restr o newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt a manylion cyswllt ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, mae'n well adrodd amdano beth bynnag. Os na wnewch chi, efallai y byddwch yn colli allan ar arian ychwanegol y mae gennych hawl iddo. Neu gallech gael gormod o dâl ac efallai y bydd angen i chi ad-dalu'r budd-daliadau a ordalwyd ynghyd â dirwy o £50.

Cam dau: bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud wrthych a oes angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle

Fel arfer byddwch yn cael llythyr neu neges yn eich cyfrif ar-lein am unrhyw newidiadau i’ch budd-daliadau o ganlyniad i’ch newid mewn amgylchiadau.

Os oes gennych ddewis rhwng aros ar eich budd-daliadau presennol a symud i Gredyd Cynhwysol, siaradwch â chynghorydd Cymorth i Hawlio Cyngor ar Bopeth neu Advice NI am ddim i gael cyngor cyfrinachol a diduedd am eich sefyllfa.

Cam tri: gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol rydych chi’n debygol o’i gael

Gallai Credyd Cynhwysol roi mwy neu lai o arian i chi nag ydych yn ei gael ar hyn o bryd o’ch budd-daliadau etifeddol, gan y byddwch yn cael eich asesu o dan reolau gwahanol.

I weld a fyddwch yn well neu’n waeth eich byd yn newid i Gredyd Cynhwysol, gallwch ddefnyddio:

  • ein cyfrifiannell budd-daliadau
  • Cyfrifiannell Better OffYn agor mewn ffenestr newydd Policy in Practice.

Beth i’w wneud os byddwch yn cael llai o arian ar Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn disgwyl i’ch incwm ostwng ar Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch am ohirio’ch cais er mwyn i chi gael eich hen fudd-daliadau am gyfnod hirach. Gall cynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth neu Advice NIYn agor mewn ffenestr newydd esbonio eich opsiynau.

Mae yna bethau eraill y gallwch chi eu gwneud hefyd, fel creu neu ail-wneud cyllideb, gwneud cais am grantiau a chael gostyngiadau ar eich biliau. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.

Cam pedwar: gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol cyn i’ch budd-daliadau presennol ddod i ben

Crëwch gyfrif a gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol ar-lein ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd. Os ydych yn byw gyda’ch partner, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân.

Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd neu’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon. Gallant drefnu i rywun eich ffonio'n ôl neu ymweld â'ch cartref.

Am ragor o help a gwybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon
  • Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd ar gyfer cyplau.

Cam pump: cael cyngor a chymorth am ddim gyda’ch cais

I gael cymorth a chyngor am ddim gyda’ch cais, siaradwch â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth neu Advice NI i gael cymorth a chyngor cyfrinachol a diduedd.

Gallwch hefyd roi eich caniatâd i rywun rydych yn ymddiried ynddo i ddelio â’ch hawliad ar eich rhan, a elwir yn gynrychiolydd. Os nad yw’r person sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn gallu rheoli ei arian ei hun, gallwch wneud cais i fod yn benodai cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd, Canolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd neu GOV.UK – caniatâd Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd

Cam chwech: arhoswch bum wythnos am eich taliad cyntaf

Ar ôl i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau , fel arfer bydd angen i chi aros pum wythnos am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Byddwch yn parhau i gael eich budd-daliadau presennol am bythefnos ar ôl i chi wneud cais ond bydd credydau treth yn dod i ben ar unwaith.

Nol i’r brig

Help tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, fel arfer mae angen aros pum wythnos nes i chi gael eich taliad cyntaf.

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud tra byddwch chi'n aros, gan gynnwys:

  • gwneud cais am daliadau ymlaen llaw os byddwch yn cael trafferth
  • gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer taliadau neu grantiau eraill
  • creu neu ddiweddaru cyllideb.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Ar ôl i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, sicrhewch eich bod yn:

  • newid unrhyw ddyddiadau talu ar gyfer biliau neu rent i'r diwrnod ar ôl i chi gael eich talu
  • gwirio a ydych bellach yn gymwys i gael gostyngiadau neu fargeinion arbennig
  • rhoi gwybod os bydd unrhyw beth yn eich bywyd yn newid
  • ystyried agor cyfrif Cymorth i Gynilo am fonws am ddim gwerth hyd at £1,200
  • cynllunio ymlaen llaw ar gyfer misoedd drud y flwyddyn, fel penblwyddi a'r Nadolig.

Am fwy o fanylion, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.

Os oes angen help arnoch i wneud cais, gallwch siarad â chynghorydd Credyd Cynhwysol am ddim i gael cymorth i gwblhau’r ffurflen gais.

Nol i’r brig

Siaradwch â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth i gael cyngoram ddim

Nol i’r brig
Thank you for your feedback.
We’re always trying to improve our website and services, and your feedback helps us understand how we’re doing.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau