Cyflwynwyd system Bensiwn y Wladwriaeth newydd o 6 Ebrill 2016. Darganfyddwch sut y mae hyn yn effeithio arnoch a sut y mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio.
Faint yw Pensiwn y Wladwriaeth?
Ar hyn o bryd mae swm llawn Pensiwn y Wladwriaeth newydd yn £185.15 yr wythnos. Mae hyn fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn. Mae'r swm a dderbyniwch yn dibynnu ar sawl blwyddyn o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi'u gwneud neu wedi cael eich credydu.
Gallwch ddarganfod faint rydych yn debygol o'i gael trwy gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.
Sut y mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio?
Telir Pensiwn y Wladwriaeth i bobl ar ôl iddynt gyrraedd eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth a'i hawlio.
Os ydych yn cyrraedd Pensiwn y Wladwriaeth heddiw, neu wedi cyrraedd eich Pensiwn y Wladwriaeth ers 6 Ebrill 2016, bydd yn seiliedig ar y rheolau newydd. Mae yna reolau trosiannol ar waith i sicrhau nad ydych yn derbyn llai nag y byddech wedi o dan yr hen system.
Os gwnaethoch gyrraedd Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar yr hen reolau a oedd yn bodoli bryd hynny.
Pryd byddaf yn cael fy Mhensiwn y Wladwriaeth?
Mae Oedran Pensiwn y Wladwriaeth i'r mwyafrif o bobl bellach yn 66. Fodd bynnag, mae'n raddol yn codi i 67 oed i unrhyw un a anwyd ar ôl 6 Ebrill 1960 ac i 68 oed os cawsoch eich geni ar ôl 6 Ebrill 1977. Mae’r Llywodraeth yn adolygu a ddylai’r cynnydd i 68 oed gael ei ddwyn ymlaen ai peidio.
Os cawsoch eich geni cyn 6 Hydref 1954, mae eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 60 a 66 yn dibynnu ar bryd y cawsoch eich geni ac a ydych yn ddyn neu'n fenyw.
Gallwch wirio'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth nawr neu ers 6 Ebrill 2016
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth fel arfer yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun yn unig.
I dderbyn unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth o gwbl, bydd angen i chi fod wedi gwneud neu wedi cael eich credydu gydag o leiaf 10 mlynedd o gyfraniadau cymwys ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
I dderbyn y swm llawn mae angen 35 mlynedd o gyfraniadau neu gredydau cymwys.
Os nad oes gennych gofnod Yswiriant Gwladol cyn 6 Ebrill 2016, bydd angen o leiaf 35 mlynedd o gyfraniadau neu gredydau cymwys i dderbyn y cyfanswm. Bydd angen mwy na 35 mlynedd os oeddech wedi eich eithrio o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.
Byddwch yn derbyn swm cymesur os oes gennych rhwng 10 a 35 mlynedd o gyfraniadau neu gredydau cymwys.
Os ydych neu os oeddech yn fenyw briod, efallai eich bod wedi dewis gwneud cyfraniadau o dan gyfradd ostyngedig menywod priod (a elwir hefyd yn Stamp y Fenyw Briod) a oedd yn berthnasol cyn 1977. Os yw hyn yn berthnasol i chi, gall eich Pensiwn y Wladwriaeth fod yn is. Darganfyddwch fwy ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os na wnaethoch gyfraniadau Yswiriant Gwladol neu gael credydau Yswiriant Gwladol cyn 6 Ebrill 2016
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei gyfrif yn gyfan gwbl o dan reolau newydd Pensiwn y Wladwriaeth.
Swm llawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth yw £185.15 yr wythnos ar gyfer 2022/2023.
Mae pob blwyddyn gymhwyso yn rhoi 1/35ain o'r swm llawn, felly os ydych wedi gwneud neu wedi cael eich credydu â llai na 35 mlynedd o gyfraniadau cymwys, byddwch yn cael swm is.
Er enghraifft:
- mae 35 mlynedd yn rhoi 35/35 x £185.15 = £185.15 yr wythnos
- mae 30 mlynedd yn rhoi 30/35 x £185.15 = £158.70 yr wythnos
- mae 10 mlynedd yn rhoi 10/35 x £185.15 = £52.90 yr wythnos.
Os gwnaethoch gyfraniadau Yswiriant Gwladol neu os cawsoch gredydau Yswiriant Gwladol cyn 6 Ebrill 2016
Defnyddir eich cofnod Yswiriant Gwladol cyn 6 Ebrill 2016 i gyfrifo eich ‘swm cychwynnol’.
Eich swm cychwynnol fydd yr uchaf o'r naill neu'r llall:
- y swm y byddech yn ei gael o dan hen reolau Pensiwn y Wladwriaeth (sy'n cynnwys Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth)
- y swm y byddech yn ei gael pe bai'r Pensiwn newydd y Wladwriaeth wedi bod mewn lle ar ddechrau eich bywyd gwaith.
Bydd eich swm cychwynnol yn cynnwys didyniad os cawsoch eich eithrio allan o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Efallai eich bod wedi cael eich eithrio allan oherwydd eich bod mewn math penodol o bensiwn gweithle, personol neu randdeiliad.
Os yw'ch swm cychwynnol yn fwy na’r Pensiwn newydd y Wladwriaeth llawn
Os yw eich swm cychwynnol o Bensiwn y Wladwriaeth yn uwch na Phensiwn newydd y Wladwriaeth llawn, yna cewch swm ychwanegol. Gelwir hyn yn eich ‘taliad gwarchodedig’. Fe'i telir ar ben Pensiwn newydd y Wladwriaeth llawn.
Mae hyn yn golygu na fydd eich pensiwn y wladwriaeth yn is na phensiwn y wladwriaeth y byddech wedi'i gael o dan yr hen gynllun.
Ni fydd unrhyw flynyddoedd cymwys sydd gennych ar ôl 5 Ebrill 2016 yn ychwanegu mwy at eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os yw'ch swm cychwynnol yn llai na'r Pensiwn newydd y Wladwriaeth
Gallwch gael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth trwy ychwanegu mwy o flynyddoedd cymwys at eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl 5 Ebrill 2016. Gallwch wneud hyn nes i chi gyrraedd y swm Pensiwn newydd y Wladwriaeth llawn neu gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth - pa un bynnag sydd gyntaf.
Bydd bob blwyddyn gymhwyso ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl 5 Ebrill 2016 yn ychwanegu tua £5.29 yr wythnos at eich Pensiwn newydd y Wladwriaeth. Cyfrifir yr union swm a gewch trwy rannu £185.15 â 35 ac yna lluosi â nifer y blynyddoedd cymwys ar ôl 5 Ebrill 2016.
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i cyrraedd cyn 6 Ebrill 2016
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar yr hen reolau os gwnaethoch gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016.
Byddwch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1953.
Mae dwy ran i’r hen Bensiwn y Wladwriaeth - Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Maent yn gweithio ychydig yn wahanol, a gallech fod wedi cronni hawl o dan Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unig.
Darganfyddwch fwy am y rhain isod.
Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth
Mae talu'r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
I gael y swm llawn, bydd angen i chi fod wedi gwneud neu wedi cael eich credydu â 30 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol cymwys i dderbyn Pensiwn y sylfaenol Wladwriaeth llawn.
Dim ond blwyddyn o gyfraniadau cymwys oedd eu hangen arnoch i gael rhywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Os oedd eich cyfraniadau cymwys yn llai na 30 mlynedd, cawsoch Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth is - yn seiliedig ar nifer y blynyddoedd o gyfraniadau neu gredydau a oedd gennych.
Gall priod neu bartneriaid sifil fod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, neu gynnydd i'w Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth eu hunain, yn seiliedig ar gofnod Yswiriant Gwladol eu partner.
Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
Telir hwn yn ychwanegol at Bensiwn y sylfaenol Wladwriaeth. Fe wnaethoch adeiladu hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os oeddech yn gweithio i gyflogwr ac yn ennill mwy na swm penodol.
Newidiodd Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth dros y blynyddoedd. Dechreuodd fel Budd-dal Ymddeol Graddedig cyn dod yn Bensiwn Cysylltiedig ag Enillion y Wladwriaeth (SERPS) a gorffen fel Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P). Roedd pob un o'r rhain mewn lle ar wahanol adegau ac yn gweithio ychydig yn wahanol.
Budd-dal Ymddeol Graddedig: 1961 i 1975 | Cynllun Pensiwn Cysylltiedig ag Enillion y Wladwriaeth (SERPS): 1978 i 2002 | Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P): 2002 i 2016 |
---|---|---|
Efallai eich bod wedi adeiladu hawl i hyn os oeddech:
Am bob £7.50 a gyfrannwyd gan ddyn neu £9 a gyfrannwyd gan fenyw, daeth hawl gan yr unigolyn i uned o bensiwn graddedig. |
Efallai eich bod wedi adeiladu hawl i hyn os oeddech:
|
Efallai eich bod wedi adeiladu hawl i hyn os oeddech:
Fel arall, efallai eich bod yn gymwys os:
|
Eithrio allan
Cafodd rhai pobl eu heithrio allan o'r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth. Eithrio allan yw'r cyfleuster a oedd yn caniatáu i bobl adael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth a chronni buddion i mewn i bensiwn gweithle neu bersonol. Cafodd yr opsiwn hwn ei ddileu ar gyfer llawer o gynlluniau o 6 Ebrill 2012 a'i stopio ar gyfer cynlluniau buddion wedi’u diffinio o 6 Ebrill 2016.
Os oeddech yn aelod o gynllun buddion wedi’u diffinio a'ch bod wedi'ch eithrio allan, byddech chi a'ch cyflogwr wedi talu llai mewn Yswiriant Gwladol. Yn gyfnewid am yr arbedion Yswiriant Gwladol hyn, roedd yn rhaid i'r pensiwn addo darparu lefel isaf o fudd-dal a oedd yn cyfateb yn fras i'r hyn y byddech chi'n ei gael, pe na fyddech wedi'ch eithrio allan.
Os oeddech yn aelod o gynllun prynu arian (gan gynnwys pensiynau personol a rhanddeiliaid) buddsoddwyd rhai o'r arbedion Yswiriant Gwladol a wnaethoch chi a'ch cyflogwr yn eich pensiwn yn lle. Daliwyd y cyfraniadau hyn fel ‘hawliau gwarchodedig’. Mewn rhai achosion, gall cyfyngiadau fod yn berthnasol pan ddewch i'w defnyddio ar ôl ymddeol.
Yn y ddau achos, byddai gennych hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth am y cyfnodau y cawsoch eich eithrio allan, ond nid Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Mae hyn yn golygu y gallai eich Pensiwn y Wladwriaeth fod yn is ond bydd gennych fuddion ychwanegol mewn trefniant pensiwn preifat.
Gallai eich Pensiwn y Wladwriaeth fod yn cynnwys un neu sawl rhan:
Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth |
Y swm llawn yw £141.85 yr wythnos yn y flwyddyn dreth 2022/23. Fe gewch swm cymesur os ydych wedi cronni llai na nifer lawn y blynyddoedd o gyfraniadau cymwys yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Efallai y gallwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth neu gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gan ddefnyddio cyfraniadau yswiriant gwladol eich priod neu'ch partner sifil. Gallai hyn fod hyd at uchafswm o £85.00 yr wythnos |
SERPS a S2P* |
Yr uchafswm pensiwn ychwanegol (ei berchen arno a'i etifeddu) yw £185.90 yr wythnos yn y flwyddyn dreth 2022/23. Bydd y swm a delir yn amrywio oherwydd y gwahanol reolau a oedd mewn lle ar gyfer pob un o'r cynlluniau ar wahanol adegau. |
Budd-dal Ymddeol Graddedig |
Ar gyfer pob uned o bensiwn graddedig sydd gennych, mae’n rhaid i chi gael 14.92 ceiniog mewn pensiwn yn y flwyddyn dreth 2022/23. |
Pan gyrhaeddwch oedran 80 |
Bydd gennych hawl i'r ychwanegiad 80 oed sy'n cynyddu incwm Pensiwn y Wladwriaeth 25 ceiniog yr wythnos yn awtomatig.
|
* Os ydych chi erioed wedi eithrio allan o'r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, bydd eich rhagolwg hefyd yn dangos Cyfwerth Pensiwn wedi’i Eithrio Allan dan Gontract (COPE).
Mae'r ffigur COPE yn amcangyfrif o'r Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y byddech wedi'i dderbyn pe na baech wedi eithrio allan. Oherwydd hyn, ni chaiff ei dalu fel ychwanegiad at eich Pensiwn y Wladwriaeth, ond mae'n bosibl y bydd gan y cynllun pensiwn y gwnaethoch eithrio ag ef hawl ychwanegol o ganlyniad.
Pan oedd y pensiwn y gwnaethoch eithrio allan ag ef yn rhan o gynllun Buddion wedi’u Diffinio, yn aml gellir ei ddarganfod fel buddion Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP) neu Brawf Cynllun Cyfeirio (RST).
Darganfyddwch fwy am gael eich eithrio allan o Bensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK
Os yw'ch incwm yn is na £182.60 yr wythnos yn y flwyddyn dreth 2022/23 (£278.70 i gwpl), efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn sy'n Fudd-dal Wladwriaethol â meini prawf sy'n ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Pensiwn
Gohirio neu roi'r gorau i hawlio'ch pensiwn y wladwriaeth
Gallwch oedi neu roi'r gorau i hawlio'ch Pensiwn y Wladwriaeth a - phan fyddwch yn dechrau ei gymryd neu ei ail-gymryd - efallai y cewch chi arian ychwanegol.
I gael swm ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth, mae angen i chi oedi cyn cymryd am isafswm o amser. Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar pryd y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a pha mor hir y byddwch yn oedi cyn ei gymryd. Po hiraf y byddwch yn oedi neu'n stopio, y mwyaf y byddwch yn ei gael.
Telir unrhyw swm ychwanegol gyda'ch Pensiwn y Wladwriaeth a gallai fod yn drethadwy.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Os ydych yn oedi neu'n stopio cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth
Beth yw cyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol cymwys?
Rydych yn gwneud cyfraniadau trwy weithio a thalu Yswiriant Gwladol (dosbarth 1 ar gyfer unigolion cyflogedig, dosbarth 2 a 4 ar gyfer unigolion hunangyflogedig).
Gellir dyfarnu credydau i chi os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol, er enghraifft pan rydych yn hawlio budd-daliadau oherwydd eich bod yn sâl neu'n ddi-waith. Gall credydau gyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a'ch helpu i osgoi bylchau.
Gallwch hefyd wneud cyfraniadau gwirfoddol sy'n eich galluogi i wneud i fyny am unrhyw ddiffyg yn eich cofnod.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych wedi talu cyfraniadau cyfradd is menywod priod neu weddw (a elwir hefyd yn Stamp y Fenyw Briod) a oedd yn berthnasol cyn 1977.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credydau Yswiriant Gwladol a Phensiwn y Wladwriaeth
Sut alla i wirio fy hawl i Bensiwn y Wladwriaeth?
Gallwch gael rhagolwg o'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar:
- Eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfredol a
- Y dybiaeth eich bod yn parhau i wneud neu dderbyn cyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol hyd nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Mae angen i chi fod wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM.
Os byddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth mewn mwy na 30 diwrnod gallwch hefyd:
- llenwi y ffurflen gais BR19W a'i hanfon trwy'r post. Gallwch cael y ffurflen ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- ffonio’r Ganolfan Bensiwn y Dyfodol, a fydd yn postio'r rhagolwg atoch. Mae'r manylion cyswllt ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae fersiwn ar-lein y rhagolwg hefyd yn rhoi cyfle i chi weld crynodeb o'ch hanes cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Beth ddylwn i ei wneud os oes gen i fwlch yn fy nghofnod Yswiriant Gwladol?
Y rhesymau mwyaf cyffredin y gallai fod gennych fwlch yw oherwydd:
- Roeddech yn byw dramor am gyfnod
- Roeddech yn gyflogedig ond ar enillion isel (llai na'r LEL)
- Nid oeddech yn gweithio am gyfnod ac nid oeddech yn hawlio unrhyw fudd-daliadau
- Roeddech yn hunangyflogedig ond ddim yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol oherwydd bod eich elw yn is na'r Trothwy Elw Bach
Nid yw bwlch yn eich cofnod yn golygu ni fyddwch yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth llawn – cyn leied eich bod wedi adeiladu’r 35 mlynedd cymhwysiedig erbyn yr amser ydych yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, fe fyddwch fel arfer yn derbyn y swm llawn. Os ydych erioed wedi cael eich eithrio allan gall eich swm cychwynnol fod yn is. Gwelwch ein adran ar eithrio allan
Fodd bynnag, os oes gennych fylchau yn eich cofnod sy'n golygu na chewch Bensiwn y Wladwriaeth lawn, yna fe allech ddewis gwneud cyfraniadau gwirfoddol i wneud yn iawn am y rhain.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am hyn yn ein canllaw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol a Phensiwn y Wladwriaeth
Ydw i'n talu treth ar fy Mhensiwn y Wladwriaeth?
Mae unrhyw incwm Pensiwn y Wladwriaeth a dderbyniwch yn cael ei drin fel incwm a enillir at ddibenion Treth Incwm, er na fydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol mwyach pan fyddwch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Telir Pensiwn y Wladwriaeth i chi cyn didynnu unrhyw dreth, fodd bynnag, os oes gennych incwm arall o Bensiynau neu gyflogaeth, gellir cyfrif am unrhyw dreth sy'n ddyledus yno.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw Sut mae fy Mhensiwn y Wladwriaeth yn cael ei drethu?
Beth sy'n digwydd i'm Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddaf yn marw?
Os byddwch yn marw a'ch bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil efallai y bydd yn bosibl i'ch partner etifeddu rhywfaint o'ch Pensiwn y Wladwriaeth neu gynyddu ei Bensiwn y Wladwriaeth ei hun. Bydd unrhyw hawl yn dibynnu ar bryd y gwnaeth y ddau ohonoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.