Mae hawl Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar nifer y blynyddoedd rydych wedi talu Yswiriant Gwladol neu wedi derbyn credydau Yswiriant Gwladol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw credydau Yswiriant Gwladol?
Mae credydau Yswiriant Gwladol yn ffordd o gynnal eich cofnod Yswiriant Gwladol pan na fyddwch yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Maent yn eich helpu i adeiladu ‘blynyddoedd cymwys’, sy’n cyfrif tuag at eich hawl gyffredinol.
Oeddech yn gwybod?
Gall blwyddyn o gyfraniadau Yswiriant Gwladol droi’n £5,000 neu fwy yn Bensiwn y Wladwriaeth yn hawdd yn ystod ymddeoliad nodweddiadol. Felly mae'n bwysig gwneud cais am unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol y gallai fod gennych hawl iddynt, er mwyn osgoi colli allan ar incwm Pensiwn y Wladwriaeth y mae gennych hawl iddo.
Mae gennych hawl i gredydau Yswiriant Gwladol os ydych:
- yn, neu wedi bod yn hawlio budd-daliadau oherwydd afiechyd neu ddiweithdra.
- ar, neu wedi bod ar, dâl mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu
- yn, neu wedi bod yn, gofalu am blentyn o dan 12 oed
- ar, neu wedi bod ar, gwrs hyfforddi cymeradwy
- yn briod â, neu'n bartner sifil i, aelod o'r lluoedd arfog ac aethoch â'ch partner ar bostiad tramor
- ar, neu wedi bod ar, wasanaeth rheithgor
- wedi bwrw dedfryd o garchar am euogfarn a gafodd ei dileu yn ddiweddarach.
Gellir ôl-ddyddio ceisiadau am rai credydau am nifer o flynyddoedd, felly mae bob amser yn werth gwirio i weld a ydych yn gymwys.
Darganfyddwch fwy am gredydau Yswiriant Gwladol ar wefan GOV.UK
Mae LCP hefyd wedi creu canllaw i helpu pobl i ddeall beth gallant ei gael. Mae'n amlinellu credydau sydd ar gael a sut mae pobl yn colli allan yn y pen draw.