Cesglir cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth. Ni chânt eu talu ar daliadau o bensiwn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pensiynau ac Yswiriant Gwladol
Nid ydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar unrhyw daliadau a gewch o gynllun pensiwn gan gynnwys incwm gwarantedig o flwydd-dal. Ond efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y taliadau hyn.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth (ar yr amod eich bod yn ennill uwchlaw'r isafswm y codir cyfraniadau Yswiriant Gwladol arno).
Pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn stopio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Er, os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn dal i gael eich asesu ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 yn y flwyddyn dreth byddwn yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Er mwyn stopio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddangos prawf oedran i’ch cyflogwr (fel tystysgrif geni neu basbort). Neu gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM anfon llythyr at eich cyflogwr.
Os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan nad ydych yn atebol i'r rhain mwyach, gallwch hawlio'r symiau a ordalwyd gan Gyllid a Thollau EM.