Os ydych yn fenyw briod neu fenyw sydd wedi ysgaru a anwyd cyn 1953, efallai bod eich taliadau Pensiwn y Wladwriaeth yn y gorffennol wedi bod yn anghywir. Dyma beth sy'n digwydd i gywiro'r gwall.
Beth sydd wedi digwydd â chywiriadau Pensiwn y Wladwriaeth?
Yn y gorffennol, roedd yn bosibl hawlio taliadau mwy o Bensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar gofnod Yswiriant Gwladol priod neu bartner sifil, a’r dyddiad y gwnaethoch chi a’ch partner gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Byddai hyn fel rheol yn ffigur sy'n hafal i 60% o 'Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol' eich priod neu'ch partner sifil.
Y bobl sydd fwyaf tebygol o elwa o hyn yw menywod a anwyd cyn Ebrill 1953. Mae gwefan GOV.UK yn amlinellu'r amgylchiadau a allai olygu eich bod yn gymwys
Cyn mis Mawrth 2008, byddai rhaid i chi wneud cais am unrhyw swm ychwanegol.
Ar ôl mis Mawrth 2008, dylai hyn fod yn digwydd yn awtomatig.
Fodd bynnag, daeth i'r amlwg nad oedd llawer o bobl yn ymwybodol bod angen iddynt wneud cais cyn mis Mawrth 2008 ac, ers hynny, efallai na ddigwyddodd y broses awtomatig yn gywir.
Mae gan Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gyfrifoldeb dros Bensiwn y Wladwriaeth. Mae DWP wedi cydnabod bod rhai pobl wedi cael eu tan-dalu ac wedi dechrau ymarfer i unioni hyn Maent wedi dweud:
“Pan nodir tan-daliadau, bydd yr adran yn cysylltu â'r unigolyn i ddweud wrthynt am y newidiadau i'w swm Pensiwn y Wladwriaeth ac o unrhyw daliad ôl-ddyledion y byddant yn eu derbyn yn unol â'r gyfraith.”
Ni fydd pawb yn cael eu Pensiwn y Wladwriaeth wedi ei ddiweddaru’n awtomatig
Fodd bynnag, ni chysylltir yn awtomatig â rhai pobl ynghylch unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth sydd wedi ei dan-dalu.
Gallai’r rhai yr effeithir arnynt gynnwys menywod sydd wedi ysgaru a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn Ebrill 2016, a menywod priod y trodd eu gŵr yn 65 oed cyn 17 Mawrth 2008.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dod o fewn y grŵp hwn, gwiriwch â'r Gwasanaeth Pensiwn
Gweinyddir Pensiwn y Wladwriaeth gan adran o'r llywodraeth o'r enw'r Gwasanaeth Pensiwn ac nid oes gennym fynediad at unrhyw un o'r cofnodion hyn.
Bydd p'un a ydych wedi cael eich tan-dalu ai peidio yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, felly awgrymwn yn gryf eich bod yn cysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn i ddarganfod a ydych wedi'ch effeithio.