Mae’r profiad o ddioddef sgamm, rhywun yn dwyn eich hunaniaeth, neu eich cerdyn yn cael ei glonio yn gallu bod yn dorcalonnus. Ond, os ydych wedi cael arian wedi’i ddwyn o’ch cyfrif mae rhai pethau y gallwch eu gwneud. Darganfyddwch sut i adrodd am y drosedd, beth gall eich banc ei wneud a sut i fynd ati i gael eich arian yn ôl.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth i’w wneud os oes arian yn cael ei ddwyn o’ch cyfrif banc
- Mae fy ngherdyn debyd wedi’i ddefnyddio trwy dwyll
- Mae fy ngherdyn credyd wedi’i ddefnyddio trwy dwyll
- Beth os yw rhywun yn ymgeisio am gredyd neu’n agor cyfrif banc yn fy enw?
- A yw banciau yn ad-dalu arian sydd wedi’i ddwyn?
- Beth os yw fy manc yn gwrthod fy honiad?
Beth i’w wneud os oes arian yn cael ei ddwyn o’ch cyfrif banc
Help gyda sgamiau
Os ydych eisiau help gyda'ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402.
Os oes arian wedi’i dynnu o’ch cyfrif banc heb ganiatâd, mae camau penodol dylech eu cymryd. Mae hyn p’un a yw’ch hunaniaeth wedi’i dwyn, eich carden wedi’i glonio, os oes trosglwyddiad banc nad ydych yn ei adnabod neu os ydych wedi dioddef sgam.
- Cysylltwch â’ch banc neu ddarparwr cerdyn i’w hysbysu. Gallech fod yn gyfrifol am yr holl arian sy’n cael ei golli cyn i chi adrodd amdano.
- Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych yn ddioddefwr, gallwch hysbysu Action Fraud. Ffoniwch 0300 123 2040 neu defnyddiwch y teclyn hysbysu ar-lein ar Action Fraud Yn yr Alban, dylech roi gwybod am y sgam i Police Scotland ar 101 neu Advice Direct Scotland ar 0808 800 9060.
- Gallwch hefyd adrodd ar unrhyw sgamiau ariannol, fel twyll buddsoddi, ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
Darganfyddwch fwy am adnabod, osgoi, ac adrodd sgamiau ar wefan y FCA
Mae fy ngherdyn debyd wedi’i ddefnyddio trwy dwyll
Os yw rhywun wedi defnyddio’ch cerdyn mewn siop, neu ar-lein, rydych wedi’ch diogelu o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Talu.
Dywed y rheoliadau bod rhaid i chi gael eich ad-dalu ar unwaith os oes arian wedi’i dynnu o’ch cyfrif heb eich caniatâd.
Mae rhaid i chi adrodd am golli’ch cerdyn debyd, neu unrhyw daliadau heb eu hawdurdodi cyn gynted â phosibl, oherwydd rydych yn gyfrifol am unrhyw golledion cyn adrodd, hyd at uchafswm o £50.
Mae fy ngherdyn credyd wedi’i ddefnyddio trwy dwyll
Os oes rhywun wedi gwneud taliadau heb awdurdod ar eich cerdyn credyd, rydych wedi’ch diogelu o dan y Ddeddf Credyd Defnyddiwr.
Mae hyn yn golygu dylech fod yn gallu hawlio’ch arian yn ôl gan fod gennych gyfrifoldeb ar y cyd gyda’r cyhoeddwr cerdyn credyd .
Yn yr un modd â chardiau debyd, efallai y byddwch yn gyfrifol am y £50 cyntaf sy’n cael ei wario os yw’r cerdyn yn cael ei golli neu ei ddwyn. Serch hynny, yn aml mae hyn yn cael ei ildio os ydych yn ei adrodd yn gyflym ac nad oeddech yn esgeulus mewn unrhyw ffordd. Mae rhaid i’r cwmni cerdyn brofi os oeddech yn esgeulus.
Darganfyddwch fwy am sut rydych wedi’ch diogelu wrth dalu ar gardiau credyd a debyd
Beth os yw rhywun yn ymgeisio am gredyd neu’n agor cyfrif banc yn fy enw?
Os yw’ch hunaniaeth wedi’i dwyn, mae’n bosibl y bydd y troseddwyr yn ceisio agor cyfrifon banc, neu wneud cais am gardiau credyd a benthyciadau yn eich enw.
Mae’n bosibl y byddwch yn dechrau derbyn llythyron gan fanciau nad oes gennych gyfrifon â hwy, cardiau credyd nad ydych erioed wedi ymgeisio amdanynt neu gan gasglwyr dyledion nad ydych yn gwybod dim amdanynt.
Os yw hyn yn digwydd, cysylltwch â’ch banc ar unwaith a chofiwch gadw’r holl ohebiaeth.
Dylech hefyd gysylltu ag asiantaethau gwirio credyd os oes rhywun wedi ymgeisio am fenthyciad neu gerdyn credyd yn eich enw. Y tri phrif rai i gysylltu â hwy yw:
Os credwch fod rhywun wedi cael gafael ar eich gwybodaeth trwy ddwyn eich post, neu trwy ddargyfeirio post, gallwch hefyd gysylltu â Rhif Ymholiadau Cwsmer y Post Brenhinol ar 03457 740 740.
A yw banciau yn ad-dalu arian sydd wedi’i ddwyn?
Os nad ydych wedi gwneud unrhyw beth i gyfaddawdu diogelwch eich cyfrif, dylech gael eich arian yn ôl. Ond, nid yw hyn wedi’i warantu.
Gallai’r ad-daliadau gael eu hoedi os oes gan y banc resymau rhesymol i gredu eich bod wedi bod yn esgeulus ofnadwy gyda diogelwch eich cyfrif .
Os yw ymchwiliad y banc yn profi i chi fod yn esgeulus, gallech fod yn gyfrifol am yr holl golledion.
Ymhlith yr enghreifftiau o esgeulustod y mae dweud wrth rywun beth yw’ch rhif PIN, neu gyfrinair. Serch hynny, ni all banciau ddweud dim ond oherwydd bod eich PIN neu gyfrinair wedi’u defnyddio bod y taliad wedi’i awdurdodi.
Gall banciau hefyd wrthod ad-daliad os fyddwch yn dweud wrthynt am daliad heb ei awdurdodi 13 mis neu’n fwy ar ôl iddo adael eich cyfrif.
Darganfyddwch fwy am drafodiadau heb eu hawdurdodi, a beth sy’n gyfrif fel esgeulustod, ar wefan y FCA
Beth os yw fy manc yn gwrthod fy honiad?
Gallai’ch banc wrthod eich hawliad am ad-daliad os yw’n credu y gall brofi eich bod wedi bod yn esgeulus iawn neu wedi ymddwyn yn dwyllodrus .
Er hynny nid oes rhaid i hyn fod yn ddiwedd ar y peth – gallwch gwyno wrth y banc.
Os nad ydych yn hapus â’r ffordd yr ymdrinnir â’ch cwyn, gallwch wedyn fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.