Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn colli miliynau o bunnoedd yn sgil twyllau buddsoddi. Oherwydd y rhyngrwyd a datblygiadau mewn cyfathrebu digidol mae’r mathau hyn o dwyll yn dod yn fwy cyffredin ac yn anoddach eu hadnabod. Er hynny mae rhai arwyddion o rybudd, y gallwch eu defnyddio i osgoi cael eich llorio gan y twyllwyr.
Beth yw twyll buddsoddi?
Byddwch yn ymwybodol
Mae gan rai twyllwyr wefannau credadwy iawn a phresenoldeb arall ar-lein, sy’n gwneud iddynt ymddangos fel cwmni dilys. Gwiriwch gyda’r FCA bob tro i sicrhau eu bod wedi’u cofrestru
Edrychwch ar wefan y FCA
Mae twyll buddsoddi’n ceisio gorfodi pobl i drosglwyddo arian – gallant ymddangos yn hollol ddilys, yn llawn gwybodaeth gyda gwefannau, tystlythyron a deunydd marchnata.
Y math mwyaf adnabyddus o dwyll buddsoddi yw’r Cynllun Ponzi, lle cesglir arian gan fuddsoddwyr newydd i dalu buddsoddwyr blaenorol. Yn y pen draw bydd yr arian sy’n ddyledus yn gyfanswm uwch na’r hyn a gesglir ac mae’r cynllun yn chwalu, gan adael yr holl fuddsoddwyr heb arian.
Heddiw, oherwydd y rhyngrwyd a chyfathrebu digidol, gall twyll buddsoddi fod yn llawer mwy cymhleth. Mae rhai o’r twyll hyn yn gredadwy iawn, mae hyd yn oed buddsoddwyr proffesiynol wedi cael eu twyllo.
Ers dyfodiad y rhyddid pensiynau ym mis Ebrill 2015, mae pobl hŷn yn enwedig mewn perygl o gael eu twyllo gan dwyllau buddsoddi gan eu bod yn gallu tynnu cyfandaliadau o arian parod o gronfeydd pensiwn.
Mae gan bob un twyll buddsoddi un peth yn gyffredin. Maent yn honni eu bod yn gallu cynnig elw sylweddol heb fawr o risg.
Sut i adnabod twyll buddsoddi
Gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o’r rhybuddion a allai ddangos bod cyfle buddsoddi yn sgam:
- Cynigion heb i chi ofyn amdanynt dros y ffôn, neges destun, e-bost neu unigolyn yn cnocio ar eich drws.
- Pan nad yw’r cwmni’n caniatáu i chi ei ffonio’n ôl.
- Pan gewch eich gorfodi i wneud penderfyniad cyflym, neu eich rhoi dan bwysau i wneud hynny.
- Yr unig fanylion cyswllt a gewch ganddynt neu ar eu gwefan yw rhif ffôn symudol neu gyfeiriad blwch post.
- Cewch gynnig elw sylweddol ar eich buddsoddiad, ond dywedir wrthych bod y risg yn isel.
Ai twyll ydyw?
Gwiriwch os yw cyfle buddsoddi neu bensiwn yn dwyll, a darganfyddwch lawer mwy o wybodaeth am osgoi’r sgamiau diweddaraf.
Defnyddiwch y teclyn ScamSmartYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y FCA.
Darganfyddwch fwy am drechu twyll ariannol ar wefan Take Five
Sut i ddiogelu eich hun rhag twyll buddsoddi
Pwysig
Os yw cynllun wedi ei awdurdodi, nid yw hynny’n golygu o reidrwydd eich bod wedi’ch diogelu’n awtomatig gan y Cynllun DIgolledu Gwasanaethau Ariannl (FSCS) na Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS). Hyd yn oed os ydych yn defnyddiocwmni awdurdodedig, yn gyffredinol mae rheolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn berthnasol i gynnyrch prif ffrwd yn unig, yn hytrach nag i fuddsoddiadau ‘arbenigol’, a allai fod heb eu rheoleiddio’n gwfan gwbl.
I osgoi cael eich dal gan dwyll, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y rheolau syml hyn.
- Gwrthodwch unrhyw alwadau neu negeseuon testun nad ydych wedi gofyn amdanynt, neu ymwelwyr yn dod at eich drws. Ni fydd cwmnïau buddsoddi dilys yn galw neu’n cysylltu â chi’n ddirybudd.
- Gwiriwch gofrestr y FCA o gwmnïau rheoleiddiedig ar wefan y FCA Neu gwiriwch restr rybuddio’r FCA
- Os ydych yn ystyried cyfle i fuddsoddi, ceisiwch gyngor ariannol annibynnol gan gwmni a reoleiddir gan yr FCA.
Darganfyddwch sut i fod yn fuddsoddwr SmartScam ar wefan y FCA
Beth i’w wneud os credwch eich bod wedi cael eich targedu
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich targedu gan dwyll buddsoddi, adroddwch hynny i wefan Scam Smart y FCA
Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych yn ddioddefwr, gallwch hysbysu Action Fraud. Ffoniwch 0300 123 2040 neu defnyddiwch y teclyn hysbysu ar-lein ar Action Fraud
Yn yr Alban, dylech roi gwybod am y sgam i Police Scotland ar 101 neu Advice Direct Scotland ar 0808 164 6400.
Byddwch yn ofalus rhag cael eich targedu yn y dyfodol, yn enwedig os gwnaethoch golli arian i dwyll. Gall cwmnïau twyllodrus fanteisio ar hyn a chynnig eich helpu i chi gael ychydig neu’r cyfan o’ch arian yn ôl.
Help gyda sgamiau
Os ydych eisiau help gyda'ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402