Darganfyddwch pa ddiogelwch a gewch wrth wario ar eich cardiau credyd a debyd o dan y cynllun chargeback ac adran 75 a sut i wneud cais. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i wneud cais os yw’r cwmni rydych yn prynu ganddynt yn mynd i’r wal neu ddim yn cyflawni’r hyn a addawyd.
Adran 75: diogelwch talu cerdyn credyd
Os ydych yn defnyddio eich cerdyn credyd i brynu rhywbeth, gan gynnwys nwyddau neu wyliau (hyd yn oed os mai dim ond y blaendal rydych yn talu ar eich cerdyn credyd), sy’n costio mwy na £100 a hyd at £30,000, cewch eich diogelu gan ‘adran 75’ y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Mae hyn yn golygu bod gan y cwmni cerdyn credyd gyfrifoldeb cyfartal (neu ‘atebolrwydd’) â’r gwerthwr os bydd problem gyda’r pethau rydych wedi’u prynu neu os yw’r cwmni rydych wedi prynu oddi wrtho yn methu.
Beth y mae adran 75 yn ei gynnwys?
- Os yw'r cwmni wedi methu â chyflenwi'r nwyddau neu'r gwasanaethau, neu wedi cyflenwi nwyddau nad ydynt yn cyrraedd y safon, neu;
- os yw'r cwmni wedi cam-gynrychioli'r hyn y mae'n ei gyflenwi. Er enghraifft,mae cyflenwr meddalwedd yn dweud y bydd pecyn meddalwedd rydych yn ei brynu yn gweithio gyda chyfrifiadur penodol pan na fydd.
Pa derfynau gwario sydd i adran 75?
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer diogelwch o dan adran 75, mae’n rhaid i chi wario rhwng £100 a £30,000 ar eich cerdyn credyd. Nid yw’r diogelwch hwn yn gymwys i unrhyw beth rydych yn ei brynu gan ddefnyddio credyn debyd.
Mae’r swm gwario isaf o £100 yn gymwys i bob eitem neu set o eitemau rydych yn eu prynu, yn hytrach na chyfanswm y bil.
Er enghraifft, os ydych wedi prynu ffrog a siaced nad oeddynt yn rhan o siwt, gyda phob un yn costio llai na £100, ni fyddwch yn gymwys i’r diogelwch defnyddwr o dan adran 75.
Enghraifft arall bydd prynu tocynau am ddigwyddiad, neu docynnau cwmni hedfan.
Bydd ‘tocyn teulu’ yn cyfrif fel un eitem ond ni fydd docynnau unigol am aelodau’r teulu yn cyfrif.
Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais yn erbyn cwmni eich cerdyn credyd o dan gynllun gwirfoddol o’r enw ‘chargeback’ rydym yn ei esbonio yn yr adran Deall chargeback isod.
Diogelwch Adran 75 os ydych yn talu blaendal gyda cherdyn credyd
Nid oes yn rhaid i chi dalu’r pris llawn ar gerdyn credyd i gael diogelwch Adran 75. Mae talu blaendal yn ddigon i roi’r diogelwch cyfreithiol i chi.
Er enghraifft, os wnaethoch brynu rhywbeth sy’n costio £200 ond wedi talu blaendal o £20 ar eich cerdyn credyd a’r gweddill trwy ddull arall (er enghraifft gyda cherdyn debyd neu arian parod) byddwch dal i dderbyn y sicrwydd ac fe fyddwch yn gallu hawlio’r £200 cyfan (ac nid dim ond y blaendal) o’ch cwmni cerdyn credyd pe na bai’r nwyddau yn cyrraedd neu os oeddynt yn ddiffygiol.
Nid ydych chwaith wedi’ch cyfyngu i bris ariannol yr eitemau. Er enghraifft, fe allech hawlio oddi wrth y cyflenwr am dreuliau ychwanegol (fel postio) neu golledion ôl-ddilynol (fel difrod a achosir trwy eitem ddiffygiol), yna gallwch hawlio o dan Adran 75 yn erbyn y cwmni cerdyn credyd.
Ail ddeiliaid cardiau ac Adran 75
Mae’r sefyllfa ychydig yn fwy cymhleth os yw’r pryniant yn cael ei wneud gan ail ddeiliad cerdyn, fel gŵr, gwraig neu bartner.
Rhaid i unrhyw gais gael ei wneud gan y prif ddeiliad cerdyn, gan nhw a lofnododd y cytundeb credyd, ac fe allai’r cwmni cerdyn credyd wrthod cais os nad oedd yn bryniant ar y cyd, fel gwyliau teuluol, neu rywbeth ar gyfer y prif ddeiliad y cerdyn (fel anrheg pen-blwydd).
Mae braidd yn annelwig felly mae’n werth gwirio gyda chyhoeddwr y cerdyn o’r cychwyn cyntaf.
Adran 75 a Paypal
Os ydych yn defnyddio PayPal i wneud pryniadau cerdyn credyd, ni fydd gennych ddiogelwch Adran 75.
Darganfyddwch fwy am PayPal yn ein canllaw E-daliadau- pam, pryd a sut i'w defnyddio
Neu am fwy o wybodaeth am pam nad yw’n syniad da i ddefnyddio Paypal i dalu ar eich cerdyn credyd, ewch i wefan Money Saving Expert
Talu am wyliau ar gerdyn credyd
Awgrym da
Nid oes gwahaniaeth p’un a ydych yn defnyddio’ch cerdyn i brynu rhywbeth yn y DU neu dramor, rydych wedi’ch diogelu yn yr un ffordd.
Os wnaethoch archebu gwyliau sy’n costio rhwng £100 a £30,000, a’ch bod wedi talu naill ai’r blaen-dal neu’r pris llawn ar eich cerdyn credyd, fe allech wneud cais pe bai’r cwmni awyrennau neu’r cwmni gwyliau yn mynd yn fethdalwr neu os nad yw’r gwyliau fel y disgrifiwyd. Ond nid yw pob sefyllfa wedi’i chynnwys.
Dyma a gynhwysir:
- cost eich teithiau os aiff y cwmni awyrennau i’r wal
- cost eich gwyliau os aiff y cwmni gwyliau i’r wal
- treuliau ychwanegol neu golledion ôl-ddilynol - er enghraifft, os oedd yn rhaid i chi brynu tocynnau hedfan drutach i deithio adref ar ôl i gwmni awyrennau fethu.
Beth nad yw wedi’i gynnwys
- mewn rhai achosion, os byddwch yn prynu taith ‘hedfan yn unig’ gan drydydd parti, fel asiant teithio, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais oherwydd bod y trydydd parti wedi’i gontractio i ddarparu tocynnau’n unig, ac nid ar yr awyren;
- unrhyw gostau nad oedd rhaid i chi eu talu - er enghraifft, os penderfynoch ymestyn eich gwyliau ar ôl i’r cwmni awyrennau fynd i’r wal (yn hirach na’r oedd rhaid i chi) byddwch yn annhebygol o allu hawlio am gostau ychwanegol.
Sut i ddechrau cais Adran 75 ar eich cerdyn credyd
Os ydych yn talu am rywbeth ar eich cerdyn credyd a bod problem, eich cam cyntaf ddylai fod cysylltu â’r cwmni y gwnaethoch brynu oddi wrtho, i roi cyfle iddynt wneud iawn.
Serch hynny, os nad ydynt yn ymateb, neu’n gwrthod rhoi ad-daliad i chi, neu os yw’n amlwg nad oes pwynt cysylltu â hwy (gan eu bod wedi diflannu neu wedi’i ddiddymu), gallwch hawlio yn erbyn eich cwmni cerdyn credyd.
Dyma sut:
- Ysgrifenwch at y cwmni cerdyn credyd, yn datgan beth a brynoch chi, ble a phryd y prynoch ef a faint a daloch chi. Dylech gynnwys copïau o dderbynebau os oes gennych chi rai (os na, byddwch angen prawf prynu arall).
- Dywedwch wrthynt eich bod wedi ceisio cysylltu â’r cwmni y gwnaethoch brynu nwyddau neu wasanaethau ganddynt a beth oedd yr ymateb - os o gwbl.
- Esboniwch beth yr hoffech i’r cwmni cerdyn credyd ei wneud, fel arfer ad-dalu’r pris prynu i’ch cyfrif cerdyn credyd - cofiwch ddatgan: “Rwyf yn gwneud hawliad dan Adran 75 Deddf Credyd Defnyddwyr”.
- Cadwch gofnod o’r llythyr neu’r e-bost rydych wedi’i anfon
Lawrlwythwch dempled llythyr oddi ar wefan MoneySaving Expert
Neu gallwch lenwi rhai manylion ar wefan Which? a bydd yn anfon llythyr templed atoch i'w anfon at eich darparwr cerdyn credyd.
Os oes gennych ap ffôn clyfar ar gyfer eich darparwr cerdyn credyd neu'n defnyddio bancio ar-lein, efallai y gallwch wneud eich cais ar-lein.
Diogelwch taliadau cerdyn credyd a chargeback
Nid yw taliadau a phryniadau cardiau debyd yn cael eu diogelu gan adran 75 y Ddeddf Credyd Defnyddwyr. Ond efallai y gallech wneud cais am ad-daliad dan gynllun gwirfoddol o’r enw ‘chargeback’.
Gall hyn roi yswiriant i chi ar bryniant o unrhyw werth a wneir ar gardiau debyd, credyd neu ragdaledig.
Fodd bynnag, os oedd eich pryniant dros £100 a defnyddiwyd cerdyn credyd, mae’n fwy buddiol i chi wneud cais o dan adran 75, gan fod hynny’n cynnwys gwell diogelwch cyfreithiol.
Sut mae chargeback yn gweithio
Nid yw chargeback yn amddiffyniad cyfreithiol fel adran 75. Mae’n gytundeb y mae Visa, Mastercard, Maestro ac American Express wedi ymrwymo iddo.
Mae’r cynllun hwn yn galluogi i chi hawlio ad-daliad gan eich darparwr cerdyn os nad yw pryniant yn cyrraedd neu os yw’n ddiffygiol.
Os ydych yn gwneud cais chargeback, mae’ch cwmni cerdyn yn ceisio hawlio eich arian yn ôl gan y cwmni rydych wedi’i dalu drwy wrthdroi trafodyn.
Nid oes gwariant gofynnol fel arfer er mwyn cael eich diogelu trwy chargeback, ond mae cyfyngiadau amser yn berthnasol wrth hawlio - 120 diwrnod o wneud y pryniant, gan ddibynnu ar y math o gerdyn. Os yw'r pryniant ar gyfer rhywbeth yn y dyfodol, er enghraifft, tocynnau i ddigwyddiad, yna mae'r terfyn 120 diwrnod yn cychwyn o'r diwrnod y byddai'r digwyddiad wedi digwydd.
Gall hawliadau chargeback gymryd peth amser i’w prosesu oherwydd bod cwmni’r cerdyn yn gorfod cael yr arian wedi’i ad-dalu cyn y gall ei drosglwyddo i chi.
Sut i gwyno
Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gewch gan gwmni eich cerdyn gallwch wneud cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.