Eisiau gwybod rhagor am gynllun Cymorth i Brynu’r llywodraeth a sut all y cynllun effeithio arnoch?
Beth sydd yn y canllaw hwn
A yw Cymorth i Brynu’n ei wneud yn haws i mi brynu eiddo?
Gall helpu os oes gennych o leiaf 5% o flaendal wedi’i gynilo, a gallwch brofi eich bod yn gallu fforddio taliadau’r morgais a bodloni amodau benthyca’r darparwr (sy’n amrywio o un darparwr i’r llall).
Ymhle mae’r cynllun Cymorth i Brynu ar gael?
Mae cynlluniau Benthyciad Ecwiti Cymorth i Brynu ar gael yn Lloegr. Os ydych yn byw rhywle arall yn y DU, gallwch ddefnyddio:
A fyddaf yn ei chael yn anodd i gael morgais arall pan symudaf?
Os bydd gwerth eich cartref yn gostwng neu’n aros yr un fath, gallai fod yn anos ad-dalu cyfran ecwiti’r llywodraeth. Gallai hyn ei gwneud yn anos cael morgais arall pan symudwch.
Gallwch gymryd morgais ad-dalu’n unig trwy’r cynllun Cymorth i Brynu, felly bydd y swm rydych wedi’i fenthyca’n gostwng yn raddol dros gyfnod o amser. Mae hyn yn golygu dylech fod yn berchen ar gyfran fwy o’ch eiddo erbyn yr adeg y byddwch yn gwerthu’r eiddo, hyd yn oed os nad yw prisiau tai wedi codi.
Trafodwch eich dewisiadau â’ch darparwr morgeisi neu frocer cyn i chi gychwyn chwilio am eiddo arall.
A fyddai’n well i mi rentu, neu brynu trwy Gymorth i Brynu?
Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Cynllunir y ddau gynllun i helpu pobl sydd eisoes wedi gwneud y penderfyniad i brynu ac sydd â blaendal o 5% o leiaf ac sy’n medru fforddio’r taliadau morgais. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu fforddio’r costau eraill, fel y ffioedd cyfreithiol a Threth Stamp.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cost prynu tŷ a symud
Llinell amser arian wrth brynu cartref – yr Alban
Llinell amser arian Cymru,Lloegr a Gogledd Iwerddon
Pa mor hir y bydd y cynllun Cymorth i Brynu ar gael?
Mae’r cynllun yn agor i geisiadau newydd o 16 Rhagfyr 2020 a bydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2023. Bydd ar agor i brynwyr cartref cyntaf ac yn destun capiau prisiau rhanbarthol.
Darganfyddwch fwy am gynllun Cymorth i Brynu - popeth mae angen i chi ei wybod
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gwerthu fy nghartref Cymorth i Brynu?
Pan werthwch eich cartref Cymorth i Brynu byddwch yn ad-dalu’ch benthyciad ecwiti ar yr un pryd. Felly os gwnaethoch brynu yn y lle cyntaf â morgais 75% a blaendal arian parod o 5% ac nad ydych wedi gwneud unrhyw ad-daliadau eraill byddwch yn ad-dalu 20% o werth eich cartref ar yr adeg y byddwch yn gwerthu.
Cofiwch y gallwch werthu eich cartref ar unrhyw adeg, ond mae rhaid i brisiwr annibynnol benderfynu beth yw ei werth.
Beth sy’n digwydd os yw gwerth eiddo yn disgyn?
Pan fyddwch yn gwerthu, bydd rhaid talu swm llawn y benthyciad ecwiti a gawsoch fel canran o’r gwerthiant.
Mae hyn yn golygu os yw gwerth marchnad eich eiddo yn disgyn yn is na’r lefel y cafodd ei brynu gyntaf, byddwch yn ad-dalu llai na’r swm gwreiddiol y gwnaethoch ei fenthyg trwy’r cynllun benthyciad ecwiti. Er enghraifft, os gwnaethoch brynu cartref gwerth £250,000 roedd 20% ohono’n fenthyciad ecwiti (£50,000) a gostyngodd gwerth eich cartref i £200,000 wedi hynny. Dim ond 20% o £200,000 y bydd angen i chi ei dalu yn ôl, sef £40,000.