Pan fyddwch yn ystyried trefniadau bywyd diweddarach, mae’n hanfodol ystyried sut hoffech gael eich arian wedi’i drin a sut fyddwch yn talu am gostau hanfodol pe baech yn mynd yn wael neu’n marw. Bydd cynllunio da’n helpu i sicrhau eich bod chi neu’ch teulu’n barod i dalu unrhyw gostau y gallech eu hwynebu yn y dyfodol a lleihau’r pwys. Bydd y cynllun camau hwn yn mynd â chi trwy’r pethau bydd angen i chi ystyried.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Delio â dyledion
- Adolygwch eich cyllideb
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
- Cronni cynilion neu gael yr yswiriant cywir
- Defnyddio trefniadau ffurfiol i roi trefn ar eich materion
- Cael help anffurfiol i reoli eich arian
- Cynllunio am gostau gofal hirdymor
- Gwneud ewyllys
- Lleihau eich bil treth trwy gynllunio etifeddiaeth yn dda
- Os bydd yn rhaid i chi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch neu anabledd
- Trefnu eich angladd
Delio â dyledion
Mae’n hanfodol pwysig i chi delio ag unrhyw ddyledion problemus cyn i chi taclo unrhyw faterion ariannol arall.
I'ch helpu i ddeall fwy am eich dyledion a beth sydd angen i chi wneud cyntaf, gweler ein hadran Delio gyda dyled
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
Os ydych yn wynebu argyfwng dyledion
Os bydd yn well gennych siarad â rhywun neu’ch bod yn wynebu argyfwng dyledion, fel cael eich taflu allan o’ch tŷ neu gamau gorfodi gan beilïaid neu swyddogion siryf, gallwch hefyd gael cyngor cyfrinachol am ddim ar ddyledion mewn ffordd sydd orau i chi, ar-lein, dros y ffôn neu’n agos i le rydych yn byw.
Adolygwch eich cyllideb
Os oes rhaid i chi ymdopi ag ostyngiad incwm, mae’n bwysig i edrych ar eich cyllideb er mwyn gwneud y gorau o’ch incwm.
Bydd adolygu eich cyllideb yn gam hanfodol hefyd os oes gennych ddyledion eich bod angen delio â nhw. Mae hyn oherwydd bydd hwn yn dweud wrthych faint o arian sydd dal gennych i dalu’r bobl eich bod mewn dyled iddynt (eich credydwyr).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
Os ydych yn byw ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys am rai budd-daliadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn yr hawliau cywir
Cronni cynilion neu gael yr yswiriant cywir
Mae’n hanfodol pwysig i chi cael peth arian wedi’i neilltuo er mwyn delio ag argyfyngau annisgwyl os yw’n bosib i chi wneud hwn. Fodd bynnag, gall cronni cynilion fod yn anodd os ydych yn byw ar incwm isel neu sefydlog.
Efallai bydd adolygu eich cyllideb yn rhyddhau peth arian y dylech gynilo mewn cyfrif cynilo lle bydd eich arian ar gael yn hawdd.
Gall gymryd yswiriant fod yn ffordd cost effeithiol i ddarparu incwm neu gyfandaliad i unrhyw un sy’n dibynnu arnoch os fydd rhywbeth yn digwydd i chi.
Yn dibynnu ar ba gam eich bod wedi cyrraedd yn eich bywyd, gall yswiriant darparu amddiffyniad incwm os nad ydych yn gallu gweithio. Neu gallwch drefnu gwneud cyfandaliad i’ch dibynyddion trwy bolisi yswiriant bywyd.
I ddarganfod fwy am sut gall yswiriant fod yn ffordd cost effeithiol i ddarparu diogelwch ariannol i unrhyw un sy’n dibynnu arnoch, gweler ein Yswiriant hadran
Defnyddio trefniadau ffurfiol i roi trefn ar eich materion
A ydych am fod yn hollol sicr bydd trefn ar eich arian a chyllid os fydd unrhyw beth yn digwydd sy’n effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau eich hun? Yna, y ffordd orau o wneud hyn yw drwy drefniant ffurfiol, fel arfer.
Mae trefniadau ffurfiol yn ddefnyddiol i bawb – ond yn wir werth ystyried os:
- yw’ch cyllid yn gymhleth, neu
- bydd y trefniadau mae angen i chi gwneud ar gyfer y bobl sy’n dibynnu arnoch yn gymhleth.
Y ffyrdd mwy poblogaidd o wneud hyn yw naill ai trwy bŵer atwrnai neu ymddiriedolaeth.
Pŵer atwrnai
Mae pŵer atwrnai yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i chi roi’r pŵer i un neu fwy o bobl wneud penderfyniadau ac i reoli:
- eich arian a’ch eiddo, ac/neu
- eich iechyd a’ch lles.
Gall pŵer atwrnai eich helpu gyda:
- sefyllfaoedd dros dro – er enghraifft, os byddwch mewn ysbyty neu dramor a bydd angen help arnoch gyda thasgau bob dydd fel talu biliau
- sefyllfaoedd tymor hir – er enghraifft, byddwch am gynllunio ar gyfer yr annisgwyl neu wedi cael diagnosis o ddementia ac efallai y byddwch yn colli’r galluedd meddyliol i wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sefydlu pŵer atwrnai yng Nghymru a Lloegr
Sefydlu pŵer atwrnai yn yr Alban
Sefydlu pŵer atwrnai yng Ngogledd Iwerddon
Cael help anffurfiol i reoli eich arian
Efallai y byddwch angen meddwl am ddod o hyd i rywun i roi help llaw i chi gyda chyllid bob dydd.
Dyma rhai enghreifftiau o beth gall hyn cynnwys:
- Cymorth gyda gwaith papur – help i lenwi dogfennau pwysig neu i ddeall rhai termau. Er enghraifft, gwybodaeth am gyfrifon banc, treth neu daliadau budd-dal.
- Cymorth gyda chyfarfodydd – rhywun i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwysig gyda chi. Er enghraifft, gyda chyfreithiwr, cynghorydd ariannol neu ymgynghorydd budd-daliadau.
- Help gyda gwario bob dydd – rhywun i reoli eich arian o ddydd i ddydd. Er enghraifft, llenwi ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim, newid eich darparwr nwy neu drydan i gael dêl well neu godi arian i chi os ni allwch ymweld â’r banc.
Efallai y gallwch drefnu rhai o’r pethau hyn eich hun trwy ailfeddwl sut eich bod yn rheoli eich arian.
I weld beth arall y gallwch wneud, ddarllenwch ein canllaw Gwneud eich arian yn haws i’w reoli ar eich pen eich hun
Darganfyddwch fwy am ba gefnogaeth sydd ar gael yn ein canllaw Cael help anffurfiol i reoli eich arian
Cynllunio am gostau gofal hirdymor
Ni all lawer ohonom fforddio talu’r costau uchel am ofal hirdymor o’n hincwm bob dydd. Felly, mae’n syniad da i feddwl o flaen llaw am beth y byddwch yn gwneud os oes angen gofal hirdymor.
Mae’n anodd meddwl am rywbeth efallai na fydd yn digwydd. Ond yn aml iawn, mae rhaid i’r teulu gwneud penderfyniadau gofal. Yn aml, mae’r rhain heb ei drafod oherwydd bod neb wedi sgwrsio cyn yr angen am help.
Os fydd hyn yn digwydd i chi, gall olygu na fydd eich dymuniadau yn cael eu hystyried neu efallai gall eich arian cael ei ddefnyddio mewn ffordd fwy effeithlon i dalu am eich gofal.
Y lle gorau i ddechrau yw darganfod faint o ofal a ariennir gan y llywodraeth fydd ar gael i chi. Mae hyn yn golygu y gallwch yna gyfrifo beth fydd y diffyg a ba opsiynau sydd ar gael am gynllunio ymlaen llaw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ariannu’ch gofal hirdymor – canllaw i ddechreuwyr
Os ydych am drafod gyda’ch teulu am ofal hirdymor ond nad ydych yn siŵr sut i ddechrau’r sgwrs, dangoswch ein canllaw Siarad gyda phobl hŷn am arian iddynt. Mae’n rhoi awgrymiadau gwych ar beth fydd rhaid i chi eu hystyried
Gwneud ewyllys
Mae ewyllys yn ei gwneud hi’n haws i’ch teulu neu ffrindiau ddod i drefn gyda phopeth pan fyddwch chi’n marw. Heb ewyllys gall y broses fod yn un boenus ac yn cymryd llawer o amser.
Os na wnewch chi ysgrifennu ewyllys, bydd popeth sydd yn berchen i chi yn cael ei rannu allan mewn ffordd safonol a ddifinir gan y gyfraith – sydd ddim bob amser yn cydfynd â’ch dymuniad.
Gall ewyllys eich cynorthwyo i leihau faint o Dreth Etifeddiant all fod yn daladwy ar werth eich eiddo a’r arian y byddwch yn ei adael ar ôl.
Mae ysgrifennu ewyllys yn neilltuol bwysig os oes gennych chi blant neu deulu arall sydd yn dibynnu arnoch chi’n ariannol, neu os ydych chi’n dymuno gadael rhywbeth i bobl y tu hwnt i’ch teulu agos.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael
Lleihau eich bil treth trwy gynllunio etifeddiaeth yn dda
Dim ond tua un mewn 20 o ystadau sy’n ddigon mawr i dalu Treth Etifeddiant (IHT).
Fel arfer nid oes angen i chi talu hyn os:
- yw gwerth eich ystâd yn llai na’r Band Dim Cyfradd (NRB) o £325,000
- gadewch bopeth dros y trothwy i’ch priod neu bartner sifil, neu
- gadewch bopeth dros y trothwy i fuddiolwr eithriedig fel elusen.
Os yw gwerth eich ystâd yn uwch na’r NRB, yna gallai’r rhan o’ch ystâd sydd uwchben y trothwy hwn fod yn drethadwy ar y gyfradd o 40%.
Os credwch y gall hyn effeithio arnoch, bydd angen i chi ystyried y dreth yma o fewn eich cynlluniau pan fyddwch yn gwneud ewyllys.
Eisiau cyfrifo faint o dreth bydd yn rhaid i chi dalu a phryd a rhai o'r ffyrdd y gallwch leihau hyn? Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Canllaw i Dreth Etifeddiant
Gallwch hefyd ddarganfod am y ffyrdd o leihau'ch Treth Etifeddiant yn ein canllaw Rhoddion ac eithriadau rhag Treth Etifeddiant
Os ydych yn gweithio’n galed i gronni’ch cronfa bensiwn, mae’n syniad da meddwl beth fydd yn digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch yn marw. Mae hyn yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych a’r opsiynau rydych wedi’u dewis. Gall ein canllaw eich helpu i ddeall y rheolau pensiwn ar ôl i chi farw.
Os bydd yn rhaid i chi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch neu anabledd
Weithiau, na fydd y dyfodol ein bod wedi dychmygu i’n hunain yn digwydd fel y gobeithiwn.
Gall orfod rhoi gorau i weithio’n gynnar oherwydd salwch neu anabledd golygu bydd rhaid i chi ailasesu eich cyllid ac ailgymhwyso eich treuliau a chynllunio am y dyfodol.
Gall y canllawiau hyn eich helpu i feddwl am y pethau bydd angen i chi gwneud os ydych yn wynebu’r sefyllfa yma:
Ymddeoliad cynnar oherwydd salwch neu anabledd
Sut i roi trefn ar eich arian os ewch yn sal neu'n anabl
Trefnu eich angladd
Gall angladdau fod yn ddrud. Ond mae yna ffyrdd i gadw’r costau i lawr a threfnu o flaen llaw fel nid oes yn rhaid i’ch teulu neu ffrindiau boeni am ddod o hyd i’r arian yn ystod adeg boenus.
Mae yna nifer o ffyrdd i dalu am angladdau o flaen llaw, ond bydd angen i chi ystyried y manteision ac anfanteision o bob un:
- Gallwch roi arian mewn cyfrif cynilo a glustnodwyd am dreuliau angladd lle bydd eich arian ar gael yn hawdd.
- Gyda chynllun angladd rhagdaledig, byddwch yn talu cyfandaliad neu randaliadau i ddarparwr sy’n buddsoddi’r arian ac wedyn eu defnyddio i dalu am gostau’r angladd a ddewiswyd gennych. Gwiriwch dermau a chostau cynlluniau angladd yn ofalus - yn aml, maent yn werth gwael i gymharu gyda chyfrif cynilo syml.
- Os oes gennych yswiriant bywyd, gwiriwch os oes yna buddion ychwanegol os defnyddiwyd y derbyniadau ar gyfer costau angladd. Gwnewch yn siŵr mae’r derbyniadau’n ysgrifenedig o fewn ymddiriedolaeth fel maent ar gael yn hawdd ar ôl i chi farw a heb eu cynnwys fel rhan o’ch ystâd.