Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Marwolaeth a phrofedigaeth
Teulu a gofal Marwolaeth a phrofedigaeth

Faint mae angladd yn ei gostio?

Ar gyfartaledd, cost am gladdu yw £4,794, a £1,511 am amlosgiad uniongyrchol. Mae cynllunio angladd yn cynnwys nifer o ffactorau. Darganfyddwch am y costau a rhai ffyrdd i gynllunio angladd parchus ond fforddiadwy.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pethau i’w hystyried
  • Cost gyfartalog angladd sylfaenol
  • Defnyddio trefnydd angladdau
  • Costau trydydd parti (costau alldaliadau)
  • Costau ffarwelio dewisol
  • Sut i leihau cost angladd
  • Help i dalu am angladd

Pethau i’w hystyried

Wrth ddelio â galar, efallai y bydd angen i chi gynllunio angladd yn gyflym, ac efallai na fydd gennych lawer o brofiad diweddar. Yn aml mae gan bobl farn penodol am sut y dylai angladd fod a beth sy'n gwneud ffarwel go iawn.

Mae’n werth cofio’r canlynol:

  • Dewiswch angladd sy’n fforddiadwy ac sy’n addas i’r person sydd wedi marw. Mae’n anhebygol y byddent eisiau i chi fynd i ddyled i dalu am yr angladd neu deimlo dan straen am yr ochr ariannol. Nid oes unrhyw beth o’i le wrth ystyried costau angladd ac nid yw’n amharchus.
  • Gofynnwch am o leiaf dau ddyfynbris, un gan drefnydd angladdau annibynnol ac un oddi wrth gadwyn. Mae llawer o bobl yn dewis defnyddio trefnydd angladdau a gallant gynnig arweiniad defnyddiol. Ond cofiwch mai busnes ydynt ac efallai mai eu ffioedd fydd rhan drutaf yr angladd.
  • Nid yw’r opsiynau drutaf yn gwneud angladd well. Ynghyd â’r math o angladd a pha drefnydd angladdau y byddwch chi’n ei ddefnyddio, mae ychwanegion dewisol yn effeithio ar y gost. Gall geiriau, cerddoriaeth a gweithredoedd fod yn fwy ystyrlon na cheir ac eirch drud.
  • Ystyriwch angladd iechyd cyhoeddus os na allwch dalu neu os nad oes gan y sawl a fu farw unrhyw berthynas agosaf. Mae angladd iechyd cyhoeddus yn angladd sylfaenol sy’n cael ei drefnu a’i dalu gan y cyngor lle bu farw’r person.
  • Gallwch wneud cais i roi eu corff i ysgolion meddygol ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol neu ymchwil. Ond mae derbyniad yn dibynnu ar feini prawf penodol pob ysgol, amgylchiadau'r farwolaeth, a'r amodau sylfaenol.
Nol i’r brig

Cost gyfartalog angladd sylfaenol

Dengys ffigurau diweddar bod angladd sy’n defnyddio trefnydd angladdau yn costio, ar gyfartaledd, £3,953*.

Gall y gost yma amrywio cryn dipyn, yn ddibynnol ar y lleoliad a threfniadau’r angladd. Ond mae’n bosibl cael angladd ystyrlon am lawer llai.

Er enghraifft, gallech gael ‘amlosgiad uniongyrchol’ - sy’n costio tua £1,511 - ac yna trefnu seremoni yn eich cartref. Neu gallech hyd yn oed drefnu’r angladd eich hun.

* Ffynhonnell: Adroddiad Cost Marwolaeth 2023 SunLife

Math o angladd Cost gyfartalog* Yn cynnwys

Amolosgiad uniongyrchol

£1,511

Casglu’r ymadawedig, arch syml, a dychwelyd y llwch

Amlosgiad yn defnyddio trefnydd angladdau

£3,673

Ffioedd am y claddu, trefnydd angladdau, meddyg, a gweinidog neu weinydd.

Claddu yn defnyddio trefnydd angladdau

£4,794

Ffioedd am y claddu, trefnydd angladdau, meddyg, a gweinidog neu weinydd.

 

Cost gyfartalog angladd yn ôl rhanbarth

Rhanbarthau Lloegr a gwledydd y DU Cost amlosgiad syml Cost claddedigaeth syml

Llundain Fwyaf

£4,672

£7,972

De Ddwyrain Lloegr

£4,527

£5,878

De Orllewin Lloegr

£4,349

£4,438

Dwyrain Anglia

£4,032

£5,900

Cymru

£3,944

£4,568

Gorllewin Canolbarth Lloegr

£4,265

£6,262

Dwyrain Canolbarth Lloegr

£4,278

£5,083

Gogledd-orllewin Lloegr

£4,026

£5,012

Swydd Efrog a Humber

£4,222

£5,494

Gogledd-ddwyrain Lloegr

£3,874

£4,885

Yr Alban

£3,821

£5,278

* Ffynhonell: Legal & General ym mis Awst 2023

Nol i’r brig

Defnyddio trefnydd angladdau

Gall trefnydd angladdau helpu gwneud pethau’n haws i chi i drefnu angladd, gan roi amser i chi alaru.

Ond mae hyn yn debygol o olygu angladd drytach.

Beth yw cost trefnydd angladdau?

Gall ffioedd trefnydd angladdau fod yn rhan drutaf yr angladd, weithiau yn gwneud rhwng 50-66% o’r costau.*

Os byddwch chi’n defnyddio trefnydd angladdau, byddant yn casglu, storio, paratoi a danfon y corff i’r fynwent neu’r amlosgfa.

Byddant hefyd yn sicrhau bod y ffurflenni angenrheidiol ar gyfer amlosgi neu gladdu wedi eu cwblhau a bydd rhai hefyd yn trefnu seremoni syml yn rhan o’r ffi.

Byddant hefyd yn darparu arch, hers a limwsîn fel arfer.

Ond fe all yr eitemau hyn gronni costau gan ddibynnu ar yr hyn y byddwch chi’n eu dewis.

Er enghraifft, gall pris arch fod cyn lleied â £100 i gymaint â £10,000.

Os yw pris yn peri gofid, dylech ofyn i’ch trefnydd angladdau lleol os yw’n cynnig angladd syml neu amlosgiad uniongyrchol.

*Ffynhonnell: Data yn seiiedig ar Adroddiad Mynegai Costau Angladd Cenedlaethol Royal London 2018.

Sut i ddod o hyd i drefnydd angladdau

Mae'n bwysig peidio â dewis yr un cyntaf a welwch. Ffoniwch o gwmpas a mynnwch o leiaf ddau ddyfynbris cyn i chi ddewis un sydd orau ar eich cyfer chi.

Dylech hefyd ystyried defnyddio trefnydd angladdau annibynnol lleol. Maent fel arfer yn rhatach na chwmni cenedlaethol.

Defnyddiwch y gwefannau hyn i ddod o hyd i drefnydd angladdau lleol. Cofiwch wirio mwy nac un safle gan y bydd y prisiau yn amrywio ac nid oes un ohonynt yn rhai’r farchnad gyfan, felly mae canlyniadau yn amrywio yn ôl safle.

  • Cymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau
  • Cymdeithas Trefnwyr Angladdau Cynghreiriol ac Annibynnol

I gymharu prisiau eich cyfarwyddwyr angladdau lleol, gallech hefyd ddefnyddio gwefan Funeral Choice

Gallwch fanylu ar y canlyniadau drwy newid eich ardal chwilio. Nid yw’r prisiau a ddangosir yn cynnwys y ffi amlosgi neu gladdu.

Nol i’r brig

Costau trydydd parti (costau alldaliadau)

Mae costau trydydd parti, a elwir hefyd yn ‘gostau alldaliadau’ yn ffioedd y mae’n rhaid i chi dalu i drydydd parti naill ai i gladdu neu amlosgi’r corff. Gallai’r rhain fod yn:

  • ffioedd amlosgi
  • tystysgrif canolwr meddygol,
  • clerigwyr neu swyddogion
  • y ffi claddu sydd fel arfer yn cynnwys prydles llain gladdu, a chloddio a llenwi'r bedd.

Os ydych yn defnyddio trefnydd angladdau, maen nhw’n debyg o reoli’r taliad hwn i chi - ond mae’n debyg y byddant yn gofyn am yr arian hwn o flaen llaw.

Gall costau amrywio cryn dipyn yn dibynnu ar eich dewisiadau. Er enghraifft, mae amlosgiad fel arfer yn rhatach hyd yn oed os ydych yn defnyddio trefnydd angladdau.

Fodd bynnag, mae costau claddu yn amrywio’n sylweddol ar hyd a lled y wlad ac yn costio dros £4700 yn ardaloedd Llundain Fwyaf.

Cyn i chi benderfynu ar fynwent neu amlosgfa, mae rhai pethau i’w cofio a allai effeithio ar y gost derfynol:

  • Weithiau mae yna wahaniaeth mawr yn y pris o gael angladd mewn un amlosgfa i un arall ychydig filltiroedd ar wahân. Felly, mae’n syniad da i wirio eich ardaloedd lleol a chyfagos i gymharu’r gost a chwilio am yr un gorau i chi.
  • Dylech hefyd ofyn a oes gan y fynwent ‘daliadau ar gyfer rhai nad ydynt yn breswylwyr’. Mae’r rhain yn daliadau ychwanegol ar gyfer claddu rhywun nad oedd yn byw mewn dosbarth neu fwrdeistref.
  • Fel arfer mae yna hefyd dâl ar wahân i gadw bedd yn lân a thaclus. Fel arfer fe’i telir yn flynyddol. Cyn i chi benderfynu pa fynwent i ddefnyddio, dylech wirio faint yw hyn.
  • Weithiau bydd yna dâl ar wahân i ddefnyddio’r fynwent neu amlosgfa i gynnal gwasanaeth yr angladd. Dylech wirio i weld os yw hyn wedi ei gynnwys yn y ffioedd claddu neu amlosgi.

Gallai costau trydydd parti hefyd gynnwys ffioedd ar gyfer gwasanaethau penodol.

Nol i’r brig

Costau ffarwelio dewisol

Mae yna nifer o eitemau a gwasanaethau y gallwch eu hychwanegu i angladd. Fodd bynnag, mae pob eitem yn costio arian.

Po fwyaf y byddwch yn ychwanegu, y drutaf yn y byd yw’r angladd.

Ac fe allech chi’n rhwydd iawn ychwanegu £1,976* ychwanegol neu’n fwy at y bil terfynol.

Meddyliwch yn ofalus a oes angen yr eitemau a’r gwasanaethau hyn yn yr angladd.

Os ydych chi’n teimlo bod eu hangen, dylech chwilio i weld a allwch eu cael am bris llai.

Eitem Cost gyfartalog*

Carreg fedd neu blac

£1,064

Lluniaeth

£467

Car mawr

£353

Llogi lleoliad

£312

Blodau

£210

Ffi i ddychwelyd y lludw (dim ond yn berthnasol i amlosgiad uniongyrchol)

£62

Hysbysiad angladd

£80

Hysbysiad o farwolaeth neu ysgrif goffa

£77

Taflenni trefn gwasanaeth

£105

Copïau tystysgrif marwolaeth (mae angen sawl copi ar gyfer profiant)

O £11 y copi

*Ffynhonell: Adroddiad Cost Marwolaeth 2023 SunLife

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gostau angladd dewisol ar wefan Funeral Costs Help
Nol i’r brig

Sut i leihau cost angladd

Does dim rhaid i chi deimlo dan bwysau i wario llawer o arian neu fynd i ddyled i fynegi eich hoffter a'ch parch. Gallwch drefnu angladd ystyrlon ac urddasol heb bris uchel.

Mae amlosgiadau fel arfer yn rhatach na chladdedigaethau. Hefyd, gall cynllunio’r angladd ar eich pen eich hun, heb drefnydd angladdau, fod yn fwy effeithiol o ran costau. Dyma rai ffyrdd y gallwch leihau cost angladd:

Oeddet ti'n gwybod?

Gwnaeth 57% o bobl torri’n ôl ar rai agweddau ar yr angladd i gadw costau i lawr. Ffynhonnell: Adroddiad SunLife Cost of Marw 2023.

Dewis arch ratach

Nid oes unrhyw beth yn y gyfraith sy’n nodi bod yn rhaid i chi ddefnyddio arch. Gallwch ddefnyddio amwisg yn lle hynny.

Ystyriwch archwilio cyflenwyr ar-lein ar gyfer eirch ac amwisg a allai gynnig opsiynau mwy cyfeillgar i'r gyllideb. Gwiriwch y rhestr o gwmnïau a argymhellir ar y Good Funeral GuideYn agor mewn ffenestr newydd, ond sicrhewch eich bod yn cadarnhau costau dosbarthu.

Gwario llai ar flodau

Byddwch yn ofalus wrth brynu blodau ar-lein. Efallai eu bod yn edrych yn dda ar-lein ond pan fyddant yn cyrraedd, weithiau maent o ansawdd gwael. Yn lle blodau, ystyriwch deyrnged fwy personol fel rhodd i elusen er cof amdanynt.

Cael gwylnos gartref

Yn lle talu am leoliad ac arlwywr, fe allech chi ofyn i deulu a ffrindiau ddod â bwyd i'r wylnos.

Siopa o gwmpas am y pris gorau

Mae'n bwysig cymharu prisiau a gwasanaethau. Mynnwch ddyfynbris gan fwy nag un trefnydd angladdau, arlwywr neu werthwr blodau – er mwyn i chi allu cymharu prisiau. Yna gallwch ddewis un sy'n cyd-fynd â'ch cyllideb.

Gallwch hefyd:

  • ddewis peidio ag eneinio
  • dewis peidio â defnyddio hers neu limwsîn
  • defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn lle cael hysbysiad papur newydd.

Trefnwch gasgliad elusennol a chofeb ar-lein

Gall prynu a chynnal carreg fedd neu blac goffa fod yn ddrud. Yn hytrach, gallwch greu coffâd ar-lein ble gall teulu a ffrindiau roi rhodd i elusen er cof am yr ymadawedig.

Mae gwefannau codi arian, fel JustGivingYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig coffâd ar-lein elusennol penagored.

Dewiswch amser amlosgiad neu gladdu rhatach

Gall dewis amser rhatach, os yw ar gael, megis yn gynnar yn y bore neu yn ystod yr wythnos, hefyd leihau’r gost. 

Dewiswch amlosgfa sy’n cael ei rhedeg gan y cyngor

Mae amlosgfa sy’n cael ei rhedeg gan y cyngor fel arfer yn rhatach nag un breifat. Efallai y bydd y cyfleusterau a’r addurn yn syml iawn, felly efallai y byddwch chi eisiau galw heibio i’w gweld ymlaen llaw.

Angladdau iechyd cyhoeddus

Mae angladdau iechyd cyhoeddus ar gyfer pobl sydd wedi marw ac:

  • heb unrhyw berthynas agosaf, neu
  • â theulu sy'n methu neu'n anfodlon talu am angladd.

Os na allwch dalu am gost angladd, gallwch droi at y cyngor lleol. Gallant drefnu a thalu am angladd sylfaenol ar gyfer y person a fu farw.

Ystyriwch gladdu naturiol

Efallai yr hoffech chi ystyried tir claddu naturiol, megis coedwig. Yn aml mae’r rhain yn llawer rhatach na mynwent draddodiadol, a all fod yn ddrud iawn. Mae mynwentydd traddodiadol hefyd yn codi ffioedd ‘dibreswyl’ os nad oedd y person sydd wedi marw yn byw yn yr ardal. I ddod o hyd i fan claddu naturiol, ewch i wefan y Natural Death Centre

Rhoddi corff

Gall nifer o bobl ymgeisio i roi eu corff i ysgolion meddygol er mwyn hyfforddi gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd neu ar gyfer ymchwil. Ni fydd y corff yn cael ei dderbyn bob amser oherwydd bydd yn dibynnu ar anghenion yr ysgolion meddygol unigol, amgylchiadau’r farwolaeth a’r rheswm am y farwolaeth.

Os nad yw rhoddi yn bosibl, rhaid gwneud trefniadau angladd eraill.

Gallai ysgolion gynnal gwasanaeth coffa neu angladd, ond yn aml ceir oedi hyd at ddwy neu dair blynedd cyn ei gynnal. Bydd rhai ysgolion meddygol yn gofyn am gyfraniad tuag at gostau cludiant.

Darganfyddwch eich ysgol feddygol leol ar wefan yr Human Tissue Authority Byddant yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar yr amodau sydd ganddynt dros gymryd y corff.
Am fwy o ffyrdd i leihau cost angladd, ewch i’r gwefannau Down to Earth a Natural Death Centre
Nol i’r brig

Help i dalu am angladd

Os ydych chi’n poeni am gost angladd, neu’n meddwl y byddai’n anodd i chi dalu amdano, cewch gyngor yn ein canllaw Help i dalu am angladd 

Beth yw ‘amlosgiad uniongyrchol’ neu ‘amlosgiad heb seremoni’?

Mae rhai cwmnïau yn cynnig amlosgiad uniongyrchol - ble mae’r corff yn cael ei gasglu o gorffdy yn ystod oriau gwaith arferol ac yn amlosgi ar amser cyfleus.

Weithiau mae’n cael ei alw yn ‘amlosgiad heb seremoni’.

Fel arfer ni ellir gweld y corff o flaen llaw na chael seremoni, na limwsîn ar gyfer y teulu a’r galarwyr.

Ac os ydych chi eisiau cael y llwch wedyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am hynny. Fel arfer bydd yn rhaid i chi ei gasglu, ond bydd rhai yn ei ddanfon am dâl.

Yna mae hyn yn eich gadael i gynnal seremoni, os dymunwch, ar amser a lleoliad o’ch dewis chi.

Faint ydyw?

Rydym yn awgrymu cyllideb o tua £1,700.

Rydym wedi canfod sawl cwmni ar-lein yn cynnig amlosgiad uniongyrchol am oddeutu £1,000.

Mae’r pris hwn fel arfer yn cynnwys costau trydydd parti fel ardystiad meddyg a ffioedd amlosgfa.

Os hoffech chi gael dychwelyd y llwch i chi, gall hyn gostio £150 yn ychwanegol. Ac mae casglu’r corff tu allan i oriau gwaith arferol, neu o gartref nyrsio neu gartref yn tua £550 ychwanegol.

Mae hyn yn dod â chyfanswm cost amlosgiad uniongyrchol i £1,700.

Gallai costau amrywio gan ddibynnu ar leoliad. Felly, chwiliwch am y cynnig gorau a gwirio os yw’r cwmni yn cynnig pris rhesymol ar gyfer eich ardal chi.

Os byddwch yn dewis cynnal seremoni wedyn, bydd angen i chi ystyried y costau hyn hefyd.

Fodd bynnag, mae yna amrywiaeth o ddulliau cost isel i gynnal seremoni, fel ei gynnal adref.

Oeddech chi'n gwybod?

Dewisodd y cerddor David Bowie ac awdur sydd wedi ennill Gwobr Booker, Anita Broonker, amlosgiad uniongyrchol yn lle angladd.

Sut i ddod o hyd i un?

Gallwch chwilio ar-lein am ‘amlosgiad uniongyrchol’ yn eich ardal.

Mae’n bwysig i wneud ymchwil eich hun i ddarganfod pa chynnwys a nodweddion sydd fwyaf addas i’ch anghenion. Os ydych yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gallwch ddechrau chwilio ar Fairer FinanceYn agor mewn ffenestr newydd

Neu defnyddiwch y safleoedd hyn isod i ganfod darparwr lleol.

  • Cymdeithas Genedlaethol Trefnwyr AngladdauYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cymdeithas Trefnwyr Angladdau Cynghreiriol ac AnnibynnolYn agor mewn ffenestr newydd

Cofiwch wirio mwy nag un gwefan gan y byddant yn dangos gwahanol ganlyniadau.

Efallai na fydd rhai yn darparu amlosgiadau uniongyrchol.

Ffyrdd ymarferol o gynllunio ar gyfer eich angladd

Gallwch gynllunio ar gyfer angladd ystyrlon fforddiadwy cyn i’r diwrnod gyrraedd. Gall ysgrifennu’ch dymuniadau ar bapur a’i rannu gyda’r rheini a allai fod yn ei drefnu sicrhau bod y pethau sydd o bwys i chi yn digwydd. Gall hefyd ostwng peth o’r pryder sydd ynghlwm â threfnu angladd - gan y bydd llawer o’r penderfyniadau eisoes wedi’u gwneud.

Hyd yn oed os nad oes gwahaniaeth gennych chi beth sy’n digwydd, gall ei roi ar bapur fod o gymorth mawr i’ch perthnasau.

Gallwch ysgrifennu eich dymuniadau i lawr a'u cadw gyda'ch ewyllys, neu ei rannu gyda theulu neu ffrindiau.

Gallwch hefyd gynnwys y brif wybodaeth ar ddarn o bapur.

Am ffurflen dymuniadau argraffiadwy, ewch i wefan Quaker Social Action
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Marwolaeth a phrofedigaeth

Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw

  • Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw
  • Faint mae angladd yn ei gostio?
  • Help i dalu am angladd
  • Hawlio taliad cymorth profedigaeth a budd-daliadau eraill
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw

  • Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw
  • Faint mae angladd yn ei gostio?
  • Help i dalu am angladd
  • Hawlio taliad cymorth profedigaeth a budd-daliadau eraill
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau