Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Marwolaeth a phrofedigaeth
Teulu a gofal Marwolaeth a phrofedigaeth

Rhoddion ac eithriadau o Dreth Etifeddiant

Gall rhoi rhodd i’ch teulu a’ch ffrindiau tra rydych yn fyw fod yn ffordd dda o leihau gwerth eich ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant gan elwa’ch anwyliaid ar unwaith. Fodd bynnag, mae cynllunio ystadau a threth yn faes cymhleth, felly gall ceisio cyngor proffesiynol fod o gymorth i chi osgoi problemau pan rowch rodd.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Faint allaf ei roi i briod neu bartner sifil yn ddi-dreth?
  • Faint allaf ei roi i fy mhlant a fy nheulu yn ddi-dreth?
  • Gadael rhywbeth i elusen yn eich ewyllys
  • Faint yw’r ‘lwfans rhodd’ blynyddol?
  • Beth arall allaf ei roi yn ddi-dreth?
  • Beth yw Trosglwyddiad Eithriedig Posibl?
  • Rhyddhad Graddol
  • A oes yna unrhyw ryddhad i’w gael ar Dreth Etifeddiant?
  • Treth Etifeddiant ar bensiynau
  • Ble i gael cyngor ar gynllunio ystadau a threth

Faint allaf ei roi i briod neu bartner sifil yn ddi-dreth?

Byddwch yn ofalus

Gallai rhodd nad yw’n un arian parod a rowch tra rydych yn fyw, fel cyfranddaliadau neu eiddo, olygu y bydd rhaid i chi neu’r derbynnydd dalu swm sylweddol o Dreth Enillion Cyfalaf.

Cyn i chi roi’r rhodd honno, mae'n werth cael gyngor proffesiynol i’ch helpu chi a’r derbynnydd i wneud y mwyaf o’r rhodd honno.

Gweler ein canllaw ar Ddewis ymgynghorydd ariannol

Caiff cyplau priod a phartneriaid sifil drosglwyddo eu hystâd ymlaen i’w priod yn ddi-dreth pan fyddant yn marw.

Mewn geiriau eraill, gall y priod sy’n goroesi etifeddu’r ystâd gyfan heb orfod talu Treth Etifeddiant (IHT).

Gallant hefyd drosglwyddo eu lwfans di-dreth sydd heb ei ddefnyddio ymlaen i’w priod neu bartner sifil.

Er enghraifft, os bydd gŵr yn marw a gadael ei ystâd gyfan i’w wraig, gall ei wraig gymryd ei lwfans o £325,000 a’i ychwanegu i’w lwfans di-dreth ei hun.

Fodd bynnag, os yw ystâd y gŵr yn £300,000 a gadawodd y cyfan i’w frawd, yna byddai gan y wraig yr hawl i’r £25,000 sy’n weddill yn unig.

Gallai rhoddion i bartner nad ydynt yn briod â chi fod yn destun Treth Etifeddiant.

Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Nol i’r brig

Faint allaf ei roi i fy mhlant a fy nheulu yn ddi-dreth?

Chi sydd i ddewis beth a faint y dymunwch ei roi i’ch plant ac aelodau eraill o’ch teulu.

Fodd bynnag, i sicrhau bod hynny’n ddi-dreth, mae’n bwysig i chi gynllunio pa bryd i roi’r rhodd.

Yn syml, cyn belled â’ch bod yn byw am fwy na saith mlynedd ar ôl i chi roi’r rhodd, ni fydd yn ofynnol i’ch plant neu’ch teulu dalu Treth Etifeddiant ar y rhodd wedi i chi farw.

Fodd bynnag, gallai unrhyw incwm a wneir o’r rhodd hon fod yn destun treth i’r buddiolwr, er enghraifft Treth Enillion Cyfalaf.

Os na fyddwch yn ddigon ffodus i fyw mwy na saith mlynedd wedi i chi roi’r rhodd, efallai y byddant yn gorfod talu Treth Etifeddiant.

Pan wneir y rhodd i ddechrau, caiff ei alw’n Drosglwyddiad Eithriedig Posibl oherwydd, a chymryd y byddwch yn byw am saith mlynedd arall, ni fydd unrhyw IHT yn ddyledus arni. Os byddwch yn marw cyn pen saith mlynedd, fe’i gelwir yn Drosglwyddiad Taladwy.

Golyga hyn, os ydych yn ystyried rhoi arian neu asedau i’ch teulu a’ch ffrindiau er mwyn lleihau Treth Etifeddiant, mae’n bwysig iawn i chi wneud cofnod o:

  • beth roesoch chi
  • pwy gafodd y rhodd gennych
  • pryd rhoddwyd y rhodd gennych
  • faint yw ei werth.

Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i ysgutor eich ystâd gyfrifo pa ran o’ch ystâd sy’n destun treth yn ystod profiant.

Nol i’r brig

Gadael rhywbeth i elusen yn eich ewyllys

I annog mwy o bobl i adael arian i elusennau, bydd unrhyw arian parod neu ased strwythurol a adewch i gorff elusennol cymwys, un ai yn ystod eich bwyd neu mewn ewyllys, wedi ei eithrio rhag Treth Etifeddiant (IHT).

Gall hyn leihau cyfradd yr IHT sy’n ddyledus o’r gyfradd bresennol o 40% i 36%. Ni fyddai’r gyfradd ostyngol hon yn berthnasol oni bai bod y rhodd i elusen yn cynrychioli o leiaf 10% o’r “ystâd net” ar ddyddiad y farwolaeth. Gallai hyn arbed miloedd o bunnoedd.

Yn gyffredinol, diffinnir yr ystâd net fel y gwerth sydd yn weddill ar ôl didynnu unrhyw eithriadau (gan gynnwys eich band preswyl cyfradd nil sydd ar gael) ac unrhyw ostyngiadau eraill sydd ar gael.

Gall hwn fod yn faes eithaf cymhleth a byddai’n ddoeth i chi geisio cyngor proffesiynol i sicrhau bod unrhyw rodd gennych yn gymwys.

Nol i’r brig

Faint yw’r ‘lwfans rhodd’ blynyddol?

Tra byddwch yn fyw, mae gennych ‘lwfans rhodd’ o £3,000 y flwyddyn. Eich eithriad blynyddol yw’r enw a roddir ar hyn.

Golyga hyn y gallwch roi asedau ac arian parod hyd at gyfanswm o £3,000 mewn blwyddyn dreth heb i’r swm gael ei ychwanegu at werth eich ystâd at ddibenion Treth Etifeddiant (IHT).

Gall unrhyw ran o’r eithriad blynyddol nad yw’n cael ei ddefnyddio yn y flwyddyn dreth gael ei drosglwyddo i’r flwyddyn dreth ganlynol. Rhaid ei ddefnyddio yn y flwyddyn dreth ganlynol ac ni chewch ei drosglwyddo y tu hwnt i hynny.

Nid yw rhai rhoddion penodol yn cyfrif tuag at yr eithriad blynyddol hwn. Gan hynny, nid oes angen talu Treth Etifeddiant arnynt.

Gallai rhoddion sy’n werth mwy na’r lwfans £3000 fod yn destun Treth Etifeddiant.

Nol i’r brig

Beth arall allaf ei roi yn ddi-dreth?

Rhoddion sy’n werth llai na £250

Cewch roi faint fynnwch chi o roddion hyd at £250 i unrhyw nifer o bobl. Er, ni chewch roi hynny i unigolyn sydd eisoes wedi cael rhodd sy’n cynnwys y cyfan o’ch eithriad blynyddol o £3,000. Nid yw unrhyw un o’r rhoddion hyn yn destun Treth Etifeddiant.

Anrhegion priodas

Yn yr achos hwn, er mwyn i’r rhodd fod o fudd at ddibenion Treth Etifeddiant, rhaid ei rhoi cyn, nid ar ôl, y briodas, a rhaid i’r briodas ddigwydd, a rhaid iddi:

  • gael ei rhoi i blentyn ac yn werth £5,000 neu lai,
  • gael ei rhoi i ŵyr neu wyres neu or-ŵyr neu or-wyres ac yn werth £2,500 neu lai, neu
  • gael ei rhoi i aelod arall o’r teulu neu i ffrind ac yn werth £1,000 neu lai.

Rhoddion i helpu gyda chostau byw

Gallai rhoddion sy’n helpu i dalu am gostau byw cyn-briod, dibynnydd oedrannus neu blentyn dan 18 oed neu sydd mewn addysg amser llawn, fod wedi’u heithrio.

Rhoddion o weddillion eich incwm

Os oes gennych chi ddigon o incwm i gynnal eich safon byw arferol, cewch roi rhoddion o weddillion eich incwm. Er enghraifft, talu arian yn rheolaidd i mewn i gyfrif cynilo plentyn, neu dalu premiwm yswiriant bywyd ar gyfer eich priod neu bartner sifil.

I wneud defnydd o’r eithriad hwn, mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw cofnod o’r rhoddion hyn. Fel arall, mae’n debygol iawn y bydd Treth Etifeddiant yn ddyledus ar y rhoddion hyn wedi i chi farw.

Mae’r rheolau ar gyfer yr eithriad hwn yn gymhleth. Er enghraifft, rhaid i’r rhoddion hyn fod yn rhai rheolaidd, felly rhaid i chi fod yn barod i ymrwymo i barhau i roi’r rhoddion hyn.

Dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol neu dreth ystadau yn gyntaf os dymunwch wneud defnydd o’r eithriad hwn.

Gall neiniau a theidiau hefyd ei ddefnyddio i dalu am bethau fel ffioedd ysgol eu hwyrion ac wyresau.

  • Rhoddion elusennol: Os rhowch rodd i elusen, amgueddfa, prifysgol neu glwb chwaraeon amatur yn y gymuned, nid oes angen talu treth arni.
  • Rhoddion i bleidiau gwleidyddol: cewch roi rhodd Etifeddiant yn Ddi-dreth i blaid wleidyddol dan rai amodau penodol.
Am fwy o wybodaeth ar roddion sydd yn eithriedig rhag Treth Etifeddiant, ewch i GOV.UK
Nol i’r brig

Beth yw Trosglwyddiad Eithriedig Posibl?

Mae Trosglwyddiad Eithriedig Posibl (PET) yn galluogi unigolyn i roi rhoddion o unrhyw werth a fydd yn cael eu heithrio rhag Treth Etifeddiant (IHT) os bydd yr unigolyn yn goroesi am gyfnod o saith mlynedd.

Os na fyddwch yn goroesi’r rhodd am gyfnod o saith mlynedd, daw’r PET yn Ystyriaeth Daladwy a chaiff ei ychwanegu at werth eich ystâd at ddibenion IHT. Os bydd y gwerth cyfunol yn uwch na throthwy’r IHT, gall IHT fod yn ddyledus.

Rhaid i unrhyw drosglwyddiad gydol oes sydd yn Eithriedig Posib fodloni rhai amodau penodol ond yn amodol ar rai eithriadau neilltuol. Rhodd yw’r trosglwyddiad a wneir gan unigolyn i unigolyn arall neu i ymddiriedolaeth benodol. Golyga hyn, er enghraifft, ni all corfforaeth na chwmni roi na derbyn rhodd.

Er enghraifft, os rhoddir rhodd o £400,000:

  1. I ddechrau, bydd y rhodd yn defnyddio’r cyfan o’r £325,000 o NRB sydd ar gael (dynodir y rhoddion hynaf yn gyntaf).
  2. Mae’r £75,000 sy’n weddill yn destun IHT, pan fydd y farwolaeth (yn ogystal â’r IHT ar yr ystâd).
  3. Petai’r £75,000 sy’n weddill wedi cael ei roi dros dair blynedd cyn y farwolaeth, yna gallai gostyngiad graddol fod yn gymwys.
  4. Er enghraifft, os rhoddwyd y cyfan o’r rhodd rhwng tair a phedair blynedd cyn y farwolaeth, yna’r gost dreth ar y £75,000 fyddai 32%.
  5. Felly, £24,000 fyddai’r IHT sy’n ddyledus ar y PET.

Nid yw rhoddion sy’n parhau i fod yn berthnasol i chi, waeth pa bryd y rhoesoch y rhodd honno,  yn cyfrif fel PET.

Er enghraifft, os parhewch i fyw yn y tŷ a roesoch i’ch plentyn fwy na 10 mlynedd yn ôl heb orfod talu rhent, yna byddai’r tŷ yn parhau i gael ei ystyried yn rhan o’r ystâd ac felly’n destun IHT. Yr enw a roddir i ddisgrifio hyn yw rhodd gyda budd amodol.

I ddarganfod mwy am PETs, ewch i GOV.UK
Nol i’r brig

Rhyddhad Graddol

Os oes Treth Etifeddiant (IHT) i’w thalu, caiff ei chodi ar 40% ar roddion yn y tair blynedd cyn i chi farw. Mae rhoddion a wnaed dair i saith mlynedd cyn i chi farw yn cael eu trethu ar gyfradd raddol a elwir yn ‘ostyngiad graddol’.

Blynyddoedd rhwng rhodd a marwolaeth Treth a dalwyd

Llai na 3

40%

3 i 4

32%

4 i 5

24%

5 i 6

16%

6 i 7

8%

7 neu fwy

0%

Mae’r tabl uchod yn dangos gostyngiad mewn treth IHT a fyddai’n daladwy fel arall wrth drosglwyddo.

Nid yw Rhyddhad Graddol yn lleihau gwerth y rhodd a drosglwyddwyd; mae ond yn lleihau faint o dreth sy’n daladwy.

Nol i’r brig

A oes yna unrhyw ryddhad i’w gael ar Dreth Etifeddiant?

Mae rhai asedau penodol yn derbyn rhyddhad rhag Treth Etifeddiant (IHT). Golyga hyn bod rhywbeth o werth wedi cael ei drosglwyddo ond nid oes treth yn ddyledus ar y gwerth llawn. Rhaid i chi gyflwyno cais am hyn fel arfer a rhaid bodloni amryw o amodau.

  • Busnes — Yn ddibynnol ar natur eich perchnogaeth o’r busnes a pha fath o fusnes ydyw, gallwch hawlio gostyngiad treth o un ai 50% neu 100% ar asedau busnes yr ystâd. Gallai’r rhain fod wedi cael eu trosglwyddo tra yr oedd y perchennog yn dal yn fyw neu fel rhan o’r ewyllys, ond rhaid iddynt fod wedi bod dan berchnogaeth am ddwy flynedd o leiaf cyn marwolaeth y perchennog.
Darganfyddwch fwy am ryddhad ar Dreth Etifeddiant i Fusnesau ar GOV.UK
  • Eiddo amaethyddol — Gallwch drosglwyddo fferm yn rhydd rhag Treth Etifeddiant, cyn belled y bodlonir rhai amodau penodol. Fodd bynnag, mae rhai asedau fferm yn destun treth, fel peiriannau fferm. Hefyd, os defnyddir ased nad yw'n gymwys, megis offer fferm, mewn busnes, gallai fod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Busnes.
Darganfyddwch fwy am Ryddhad ar Dreth Etifeddiant ar Asedau Amaethyddol ar GOV.UK
  • Eiddo coetir — Gallwch gael gostyngiad am dyfu coed, ond dim ond i’r coed mae hyn yn berthnasol, ac nid y tir ei hun. Mae’n weithredol ar farwolaeth ac yn gohirio’r dreth sy’n daladwy nes bydd y pren wedi ei werthu. Fodd bynnag, gallai coetir a ddefnyddir i ddibenion masnachol gael hyd at 100% o ostyngiad busnes, sy’n fwy ffafriol na gohirio. Mewn theori, gellir gohirio Treth Etifeddiant nes bydd y coed wedi eu torri a gwerthu, ar yr amod bod y coetir wedi bod yn eiddo i chi ers pum mlynedd.
Darganfyddwch fwy am Dreth Etifeddiant ar eiddo coetir ar GOV.UK
  • Asedau treftadaeth — Os ydych yn berchen ar adeilad, tir neu greiriau o arwyddocâd cenedlaethol gwyddonol, hanesyddol neu gelfyddydol, gallech hawlio eithriad rhag Treth Etifeddiant. Yn gyffredinol, mae hyn ond yn berthnasol i blasty, tir o harddwch naturiol eithriadol, neu waith celf enwog. Fodd bynnag, rhaid bodloni rhai amodau penodol cyn medru hawlio’r eithriad hwn.
Darganfyddwch fwy am ryddhad treth ar asedau treftadaeth ar GOV.UK
  • Rhai rhoddion yn ddibynnol ar werth y rhodd a phryd y’i rhoddwyd.

Nid yw arian, asedau neu eiddo a rowch mewn ymddiriedolaeth wedi eu heithrio rhag Treth Etifeddiant bob tro.

Mae’n dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth a ddewiswch i’w sefydlu i ddal yr ased.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Defnyddio ymddiriedolaeth i leihau eich Treth Etifeddiant
Nol i’r brig

Treth Etifeddiant ar bensiynau

O fis Ebrill 2027, bydd y rhan fwyaf o gronfeydd pensiwn heb eu gwario a budd-daliadau marwolaeth o bensiwn yn cyfrif fel rhan o'ch ystâd pan fyddwch yn marw.

Mae hyn yn golygu y bydd gwerth eich pensiwn yn cael ei gyfuno ag asedau eraill i benderfynu a oes Treth Etifeddiant ar eich ystâd yn ddyledus.  

Nol i’r brig

Ble i gael cyngor ar gynllunio ystadau a threth

Pan luniwch eich ewyllys, mae’n syniad bob amser i gynllunio’ch ystâd a beth ddylai ddigwydd iddi wedi i chi farw.

Mae rhoi rhoddion a throsglwyddo pethau yn ystod eich bywyd yn un ffordd o gynllunio’ch ystâd. Mae’n ffordd dda o leihau’ch Treth Etifeddiaeth. Ond, mae’r gyfraith yn y maes hwn yn eithaf cymhleth.

Felly hefyd os rhowch eich asedau mewn ymddiriedolaeth i’ch teulu eu hetifeddu wedi i chi farw.

Mae’n beth da cael cyngor gan arbenigwr mewn cynllunio ystadau, fel cyfreithiwr neu ymgynghorydd ariannol annibynnol.

I chwilio am gynghorydd cynllunio ystadau a threth yn eich ardal, defnyddiwch:

  • Cyfeirlyfr Cynghorwyr Ymddeoliad — dewiswch ‘cynllunio Treth Etifeddiant’ i gael canlyniadau mwy penodol wrth chwilio am arbenigwyr mewn Treth Etifeddiant.
Gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Marwolaeth a phrofedigaeth

Cynllunio treth etifeddiaeth

  • Defnyddio ymddiriedolaeth i leihau eich Treth Etifeddiant
  • Rhoddion ac eithriadau o Dreth Etifeddiant
  • Canllaw i Dreth Etifeddiant
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Cynllunio treth etifeddiaeth

  • Defnyddio ymddiriedolaeth i leihau eich Treth Etifeddiant
  • Rhoddion ac eithriadau o Dreth Etifeddiant
  • Canllaw i Dreth Etifeddiant
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau