Os ydych yn ei chael yn anodd rheoli’ch arian oherwydd bod gennych gyflwr iechyd hirdymor neu’ch bod yn anabl, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i hwyluso bywyd. Dilynwch y pump cam yma i hwyluso rheolaeth ariannol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam 1 – Cael eich talu yn syth i’ch cyfrif banc
- Cam 2 – Defnyddiwch Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog ar gyfer biliau
- Cam 3 – Gwnewch daliadau ar-lein neu ddefnyddio bancio dros y ffôn
- Cam 4 – Defnyddiwch fancio ar-lein neu dros y ffôn i gadw llygad ar eich balansau
- Cam 5 – Gofynnwch am gymorth gan eich banc
- Cael rhywun i’ch helpu gyda’ch arian bob dydd
- Os ydych yn poeni am faint sydd gennych i fyw arno
- Os nad oes gennych gyfrif banc
Cam 1 – Cael eich talu yn syth i’ch cyfrif banc
Fel arfer mae’n llawer haws i drefnu i’ch holl incwm gael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc.
Gallwch ddal i wneud hyn os ydych yn derbyn budd-daliadau, tâl salwch neu os ydych yn gweithio rhan-amser.
Mae’n beth da cael eich talu fel hyn oherwydd:
- mae’n arbed teithiau i’r banc i chi.
- mae’n fwy diogel na chario arian gyda chi.
- nid oes rhaid i chi aros i siec glirio cyn cael eich arian.
Os nad oes gennych gyfrif banc a’ch bod yn meddwl y gallech gael anhawster agor un oherwydd bod gennych incwm isel neu statws credyd gwael, gallech wneud cais am gyfrif banc sylfaenol.
Dyma’r cyfrifon banc hawsaf i’w cael.
Cam 2 – Defnyddiwch Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog ar gyfer biliau
Wedi i chi lunio eich cyllideb a gweld bod gennych ddigon o arian yn dod i mewn i gyd-fynd â’ch gwariant, newidiwch eich biliau rheolaidd i Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.
Mae hyn yn syniad da oherwydd:
- nid oes rhaid i chi boeni am gyrraedd y banc neu flwch post
- cymerir taliadau yn awtomatig felly ni fydd rhaid i chi wynebu unrhyw gosbau taliad hwyr
- mae nifer o gwmnïau, cynghorau a sefydliadau yn rhoi gostyngiad i bobl sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.
Ond gwnewch yn siwr bod digon o arian yn eich cyfrif.
Gall Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog a wrthodwyd eich gadael yn wynebu taliadau banc mawr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Cam 3 – Gwnewch daliadau ar-lein neu ddefnyddio bancio dros y ffôn
Ar gyfer biliau na allwch eu talu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog, edrychwch i weld a allwch eu talu drwy ddefnyddio’ch gwasanaethau ar-lein neu fancio ffôn.
Os nad yw bancio ar-lein yn addas i chi, nid oes dim haws na chodi’r ffôn i dalu bil. Mae’n gyflym, hawdd a diogel talu fel hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i drosglwyddo arian o'ch cyfrif banc
Cam 4 – Defnyddiwch fancio ar-lein neu dros y ffôn i gadw llygad ar eich balansau
Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cadw llygad barcud ar eich balans banc fel na fyddwch yn mynd i ddyled a gorfod talu ffioedd ychwanegol.
Gall bancio ar-lein neu dros y ffôn eich helpu i weld beth yw beth os ydych adref.
Os byddwch yn rhagweld trafferth, meddyliwch am ffonio eich banc cyn iddynt orfod eich ffonio.
Cam 5 – Gofynnwch am gymorth gan eich banc
Mae rhaid i fanciau sicrhau bod eu gwybodaeth a’u gwasanaethau mor hygyrch â phosibl ar gyfer eu cwsmeriaid anabl.
Mae’r cymorth y gallwch ofyn amdano yn cynnwys:
- cyfriflenni banc a dogfennau eraill mewn fformatau Braille, print bras a sain
- cownteri lefel isel mewn cangen a chownteri wedi’u ffitio â dolen sain
- cardiau sglodyn a llofnod ar gyfer y cwsmeriaid hynny na allant gofio PIN
- peiriannau ATM (peiriannau arian parod) sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac sydd â swyddogaeth testun-i-lais.
Gofynnwch i’ch banc ba gymorth y gallant ei gynnig i chi.
Cael rhywun i’ch helpu gyda’ch arian bob dydd
Ydych chi angen help i wneud pethau penodol, fel cael arian parod o’r banc? Yna gallwch ddysgu mwy am eich opsiynau a sut i wneud trefniadau i gael cymorth yn ein canllaw Cael cymorth anffurfiol i reoli eich arian.
Os ydych yn poeni am faint sydd gennych i fyw arno
Oeddech chi’n gwybod?
Gallwch gael gostyngiad ar eich biliau trwy ddefnyddio Debyd Uniongyrchol i dalu’r rhan fwyaf o gwmnïau ynni a ffôn.
Os ydych yn poeni am gael digon i fyw arno, cymrwch olwg ar ein cyngor ar gael dau ben llinyn ynghyd a hawlio’r budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am arbed arian ar filiau'ch cartref.
Darllenwch fwy am reoli eich arian a budd-daliadau yn ein canllaw Sut i roi trefn ar eich arian os ewch yn sâl neu'n anabl
Os nad oes gennych gyfrif banc
Pan fyddwch yn agor cyfrif, bydd angen i chi ddangos prawf o bwy ydych a'ch cyfeiriad.
Os nad oes gennych y dogfennau cywir, gofynnwch i'r banc beth fyddant yn eu derbyn yn lle.
Bydd rhai banciau yn derbyn llythyr gan berson cyfrifol, fel athro/athrawes neu weithiwr cymdeithasol, neu lythyr hysbysiad budd-daliadau.