Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Salwch ac anabledd
Teulu a gofal Salwch ac anabledd

Sut i roi trefn ar eich arian os ewch yn sâl neu'n anabl

Os ydych yn wynebu problem iechyd, gallai'ch arian fod y peth olaf ar eich meddwl. Serch hynny, i osgoi pryderon ariannol rhag gwaethygu, ceisiwch gael trefn ar eich arian cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd gennych hawl i dâl salwch, neu fudd-daliadau salwch neu anabledd. Mae’r canllaw hwn yn gwmpasu cymorth gan eich cyngor lleol a ble i gael help â chostau bob dydd fel presgripsiynau, trydan a nwy.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cymorth gan eich cyflogwr
  • Budd-daliadau a hawliau
  • Hawlio ar yswiriant
  • Cysylltu â’ch cyflenwyr nwy a thrydan
  • Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth
  • Help gan eich cyngor lleol
  • Help â grantiau elusennol
  • Adolygu eich cyllideb
  • Os na allwch reoli’ch arian ar eich pen eich hun
  • Cael cefnogaeth emosiynol

Cymorth gan eich cyflogwr

Cael tâl salwch

Os yw salwch yn eich atal rhag gweithio, efallai hoffech ystyried hawlio Tâl Salwch Statudol (SSP). Gallwch gael Tâl Salwch Statudol (SSP) am hyd at 28 wythnos os:

  • ydych yn gyflogedig – ond yn methu gweithio; neu
  • yw eich enillion ar gyfartaledd o leiaf £123 yr wythnos.

Y gyfradd ar gyfer SSP yw £116.75 yr wythnos (2024/25). Caiff ei dalu gan eich cyflogwr yn yr un modd â’ch cyflog.

Mae gan rai cyflogwyr gynlluniau tâl salwch mwy hael a bydd eraill yn asesu achosion yn unigol.

Gwiriwch delerau eich cytundeb neu’r llawlyfr staff i weld beth sydd ar gael.

Darganfyddwch fwy am Dâl Salwch Statudol (SSP) yn GOV.UK

Os yw eich cyflogwr yn gwrthod talu Tâl Salwch Statudol

Os yw eich cyflogwr yn gwrthod talu SSP, neu ddim yn talu’r swm llawn i chi;

Cysylltwch â thîm anghydfod taliadau statudol Cyllid a Thollau EM:

Ffôn: 03000 560 630

Ffôn testun: 0300 200 3212

Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am i 5pm, Dydd Gwener 8.30am 4.30pm.

Gofynnwch am gefnogaeth fel y gallwch ddychwelyd i’r gwaith

Os ydych yn gallu dychwelyd i’r gwaith, mae gennych yr hawl gyfreithiol i ofyn i’ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol fel y bydd yn haws i chi barhau i weithio.

Gallai’r addasiadau rhesymol hyn gynnwys:

  • oriau gweithio hyblyg.
  • newid eich cyfrifoldebau.
  • defnyddio offer a addaswyd yn arbennig – er enghraifft eich cyfrifiadur, bysellfwrdd, ffôn, cadair neu ddesg.
Darllenwch ein canllaw Cefnogaeth i roi cymorth i chi gadw’ch swydd pan fyddwch yn sâl neu’n anabl

Gwiriwch eich pensiwn gweithle

Os ydych wedi bod yn talu i mewn i bensiwn gweithle, gofynnwch i’ch cyflogwr neu cwmni sy’n rhedeg y cynllun a oes unrhyw fudd-daliadau salwch y gallech fod â hawl iddynt.

Os oes, gwiriwch faint yw eu gwerth ac am ba hyd y byddant yn parhau.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu ymddeol yn gynnar os nad ydych yn gallu parhau i weithio.

Darllenwch ein canllaw Ymddeoliad cynnar oherwydd salwch neu anabledd
Nol i’r brig

Budd-daliadau a hawliau

Hawliwch yr holl fudd-daliadau'r Wladwriaeth mae gennych hawl iddynt

Os oes gennych gyflwr iechyd neu os ydych yn anabl, gallech fod yn gymwys i hawlio budd-daliadau a fydd yn:

  • ychwanegu at eich incwm – er enghraifft, Credyd Cynhwysol
  • eich helpu â chostau hanfodol – er enghraifft, yr elfen costau tai o Gredyd Cynhwysol
  • caniatáu i rywun sy’n gofalu amdanoch wneud cais am Lwfans Gofalwr
  • eich helpu i reoli’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â bod yn anabl neu fod â chyflwr iechyd hirdymor – er enghraifft, Taliad Annibyniaeth Personol.

Os ydych ar incwm isel ac yn cyflwyno cais newydd neu’n diweddaru’ch cais yn sgil newid yn eich amgylchiadau, fel arfer nawr bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Ni fydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gymwys ar gyfer (neu eisoes yn cael) y Premiwm Anabledd Difrifol neu os ydych yn hŷn na’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Defnyddiwch ein cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Pa fudd-daliadau anabledd a salwch gallaf eu hawlio?
  • Sut y bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf
  • Help gyda chostau byw

Cymorth â chostau iechyd GIG

Awgrym da

Mae rhaid i’r rhan fwyaf o bobl dalu am bresgripsiynau yn Lloegr. Os ydych yn caelCymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, mae’n debygol bod eich presgripsiynau am ddim fel arfer.

Mae presgripsiynau am ddim yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, waeth beth yw’ch oed ac amgylchiadau.

Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael rhai budd-daliadau penodol efallai y gallwch arbed arian drwy gael cymorth â chostau iechyd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • costau deintyddol;
  • cost gofal llygaid;
  • presgripsiynau’r GIG; a
  • cael cymorth â chostau teithio i apwyntiadau ysbyty.

Os ydych yn poeni am dalu am ffioedd meddygol fel presgripsiynau, deintydd, optegydd – mae help wrth law, os ydych yn gwybod ble i chwilio.

Gwiriwch os gallwch gael help am ddim gan ddefnyddio’r cyfrifiannell GIGYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych ar incwm isel, dylech hefyd wirio os ydych yn gymwys am help gyda’ch costauYn agor mewn ffenestr newydd

Hyd yn oed os nad ydych ar incwm isel gallwch leihau eich costau gyda chynlluniau fel y prescription “season ticket”Yn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch am gael help gyda chostau deintyddolYn agor mewn ffenestr newydd a ffioedd optegyddYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd siarad â’ch fferyllydd am help – efallai y gallent eich cyfeirio at help tymor byr neu efallai byddent yn ymwybodol o help sydd ar gael yn lleol. 

Darganfyddwch fwy am gael help â chostau iechyd ar wefan NHS Choices
Os oes gennych gyflwr iechyd all ddod yn fwy hirdymor, edrychwch ar ein canllawiau:
  • A wyf yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal?
  • Sut i ariannu’ch gofal hirdymor: canllaw i ddechreuwyr
Nol i’r brig

Hawlio ar yswiriant

Gwiriwch a oes gennych bolisïau yswiriant a fyddai’n rhoi sicrwydd am eich taliadau morgais neu gymryd lle canran o’ch incwm.

Er enghraifft:

  • yswiriant salwch critigol
  • yswiriant diogelu incwm
  • yswiriant diogelu taliadau
  • yswiriant diogelu taliadau morgais
  • yswiriant diogelu incwm tymor byr.

Yn aml mae’r math hwn o yswiriant yn cael ei gynnig â pholisïau yswiriant bywyd neu forgeisi.

Gwnewch gais ar unwaith gan fel arfer ceir cyfnod o ddisgwyl cyn i bolisi ryddhau taliad, felly gorau po gyntaf y byddwch yn anfon eich cais.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pam y gallai darparwyr wrthod eich cais yswiriant – a beth i'w wneud os bydd hyn yn digwydd
Nol i’r brig

Cysylltu â’ch cyflenwyr nwy a thrydan

Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni cyn gynted â phosibl.

Rhowch wybod iddynt fod gennych gyflwr iechyd hirdymor neu eich bod yn anabl a gofynnwch iddynt a ydych yn gymwys am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes.

Mae ceisiadau am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn agor bob blwyddyn ym mis Hydref ac os ydych yn gymwys gallwch arbed £150 y flwyddyn.

Darganfyddwch fwy yn ein hadran ar Help i dalu eich bil nwy neu drydan
Nol i’r brig

Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth

Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn wasanaeth am ddim a all sicrhau eich bod yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch. Gallwch gofrestru drwy gysylltu â'ch cyflenwr.

Os byddwch yn dweud wrth eich cyflenwr ynni am eich cyflwr iechyd, gallent hefyd ddarparu:

  • rhybudd ymlaen llaw am doriadau pŵer a drefnwyd, megis o waith peirianneg
  • cymorth blaenoriaeth, fel cyfleusterau gwresogi a choginio mewn argyfwng
  • amddiffyniad rhag cael eich torri i ffwrdd os ydych chi'n syrthio i ôl-ddyledion
  • cynllun enwebai, felly gall aelod o'r teulu neu ofalwr dderbyn eich cyfathrebiadau a'ch biliau
  • helpu i gyrchu, darllen neu symud eich mesurydd
  • gwiriadau diogelwch blynyddol am ddim
  • gwybodaeth hygyrch, e.e., eich biliau mewn print bras neu braille.

Help gan eich cyngor lleol

Os yw’ch cyflwr yn golygu’ch bod yn cael anhawster symud o gwmpas neu wneud tasgau beunyddiol efallai y gall eich cyngor lleol roi cefnogaeth â phethau fel:

  • siopa a glanhau.
  • gofal personol a thasgau beunyddiol.
  • offer arbennig yn gysylltiedig â’ch salwch neu’ch anabledd.
  • mân addasiadau i’ch cartref (fel canllawiau ar eich baddon).

Y cam cyntaf yw cael asesiad o’ch anghenion gan eich cyngor, darganfyddwch eich cyngor lleol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Gwelwch ein canllaw ar A wyf yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal?

Help â’ch Treth Gyngor

Gallech gael gostyngiad ar eich Treth Gyngor os ydych yn anabl, neu os oes rhywun yn eich cartref yn anabl.

Darganfyddwch fwy am Ostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer pobl  anabl ar GOV.UK
Nol i’r brig

Help â grantiau elusennol

Mae nifer o sefydliadau a chymdeithasau sy’n cynnig grantiau i bobl a’u teuluoedd er mwyn rhoi cymorth iddynt ymdopi â llai o incwm neu gwrdd â’r costau ychwanegol o fod yn sâl neu’n anabl.

Gall grantiau fod ar gael drwy undeb llafur neu gymdeithas fuddiannol sy’n gysylltiedig â’r math o waith a wnewch.

Mae hefyd sefydliadau sy’n rhoi grantiau i grwpiau neilltuol o bobl, fel pobl hŷn neu’r rhai sydd ag anghenion penodol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
Nol i’r brig

Adolygu eich cyllideb

Os byddwch nawr yn gorfod ymdopi ar incwm llawer is, mae’n bwysig edrych ar eich cyllideb ar unwaith i wneud y gorau o’ch incwm.

Cynlluniwr Cyllideb

I’ch helpu i reoli eich arian, defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i’w ddefnyddio, rhad ac am ddim.

Nol i’r brig

Os na allwch reoli’ch arian ar eich pen eich hun

Os yw’ch cyflwr iechyd neu’ch anabledd yn ei gwneud yn anodd i chi reoli’ch arian ar eich pen eich hun, gallwch ofyn i rywun arall eich helpu.

Darllenwch ein canllaw Help i reoli arian bob dydd
Nol i’r brig

Cael cefnogaeth emosiynol

Os ydych wedi mynd yn anabl yn ddiweddar, efallai bod eich bywyd wedi newid mewn ffordd ddramatig. Gallech deimlo eich bod am gysylltu â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Os ydych yn meddwl bod eich salwch neu anabledd yn effeithio ar eich iechyd meddwl, gwnewch apwyntiad i weld eich meddyg teulu.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, darganfyddwch gysylltiadau i grwpiau anabledd a sefydliadau lleol ar wefan ScopeYn agor mewn ffenestr newydd

Yn yr Alban ewch i Disability Information Scotland.Yn agor mewn ffenestr newydd

Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i Disability ActionYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Salwch ac anabledd

Rheoli eich arian

  • Sut i roi trefn ar eich arian os ewch yn sâl neu'n anabl
  • Cael benthyciad os ydych yn sâl neu’n anabl
  • Cael morgais os ydych yn sâl neu’n anabl
  • Prynu yswiriant os ydych yn sâl neu’n anabl
  • Gwneud eich arian yn haws i’w reoli eich hun
  • Cyfrifon cerdyn gofalwr
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Rheoli eich arian

  • Sut i roi trefn ar eich arian os ewch yn sâl neu'n anabl
  • Cael benthyciad os ydych yn sâl neu’n anabl
  • Cael morgais os ydych yn sâl neu’n anabl
  • Prynu yswiriant os ydych yn sâl neu’n anabl
  • Gwneud eich arian yn haws i’w reoli eich hun
  • Cyfrifon cerdyn gofalwr
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau