Gall Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) gael ei gyflwyno fel y ffordd gyflymaf a mwyaf haws i dalu os ydych yn siopa ar-lein, talu mewn siop neu hyd yn oed yn archebu tecawê. Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli mai ffurf o gredyd yw cynlluniau BNPL, ac mae’n rhaid meddwl yn ofalus cyn ei ddefnyddio nhw, yn enwedig os ydych wedi dechrau defnyddio'r rhain i ddelio â’r cynnydd mewn costau byw.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Prynu Nawr Talu Wedyn?
- Sut mae Prynu Nawr Talu Wedyn yn gweithio?
- Pwy sy’n cynnig Prynu Nawr Talu Wedyn?
- Beth sydd angen i chi feddwl am cyn defnyddio Prynu Nawr Talu Wedyn
- Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu taliad neu methu cadw i fyny gydag ad-daliadau?
- Cadw cofnod o’ch pryniadau BNPL
- Defnyddio cytundebau BNPL yn dda
Beth yw Prynu Nawr Talu Wedyn?
- Mae’r cynhyrchion Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) poblogaidd a gynigir wrth y ddesg dalu yn gytundebau credyd – ffurf o fenthyg
- Gyda’r cynhyrchion hyn, fel arfer nid ydych yn talu llog neu ffioedd ar y swm rydych wedi benthyg os ydych yn cadw i fyny gyda’ch cytundeb ad-daliad.
- Maent fel arfer yn cael eu cynnig gan ddarparwr credyd ar wahân, nid y fanwerthwr rydych yn prynu ganddynt.
- Nid yw cytundebau sy’n para llai na 12 mis yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), sy’n golygu nad ydych yn derbyn amddiffyniad prynwr llawn os aiff rhywbeth o’i le.
Sut mae Prynu Nawr Talu Wedyn yn gweithio?
Pan gyrhaeddwch y ddesg dalu i dalu am eich eitem, efallai gewch ddewis o opsiynau ad-dalu. Mae'r rhain yn:
Talu mewn sawl taliad cyfartal
Gallwch dalu cost eich pryniad mewn cyfnodau rheolaidd, fel arfer bob bythefnos neu fisol dros sawl wythnos neu fisoedd. Dyma’r cynnyrch mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am fel Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) a’r rhai sy’n cael eu defnyddio amlaf am bryniadau ar-lein.
Talu’r cyfanswm mewn un tro ar ôl cyfnod penodol
Cewch gyfnod penodol di-log gyda’r taliad yn cael ei gymryd o’ch cyfrif ar ddyddiad y cytunwyd arno os ydych yn penderfynu cadw’r eitemau. (Er enghraifft, Klarna’s Paymewn 30 diwrnod). Gall fod yn ddefnyddiol os ydych am drio eitem cyn prynu gan fod modd i chi ddychwelyd y nwyddau heb dalu amdanynt os nad ydynt yn gywir.
Pwy sy’n cynnig Prynu Nawr Talu Wedyn?
Mae Talu Nawr Prynu Wedyn (BNPL) yn cael ei gynnig gan nifer o ddarparwyr fel:
- Klarna
- Laybuy
- ClearPay
- OpenPay
- Zilch
- Flava
- Paypal.
Mae Flava yn cynnig siopa bwyd a nwyddau groser ar-lein yn unig. Rydych yn gwneud y taliad cyntaf wrth roi eich archeb, ac yna tri thaliad wythnosol i dalu’r cyfanswm.
Mae rhai manwerthwyr hyd yn oed wedi cynnig cynlluniau hirdymor ei hun (fel yr hyn sy’n cael ei gynnig gan fanwerthwyr ar-lein Next, Very a Littlewoods).
Cymharwch gynlluniau, cynlluniau Prynu Nawr Talu Wedyn wedi’u hesbonio ar Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Beth sydd angen i chi feddwl am cyn defnyddio Prynu Nawr Talu Wedyn
Gall cytundebau Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) fod yn ffordd dda i ledaenu cost pryniadau os ydych yn gallu cadw i fyny gydag ad-daliadau. Fodd bynnag, mae rhai pethau bydd rhaid cadw llygaid allan am:
Rhowch ddigon o amser i’ch hun i feddwl am faint byddwch yn ad-dalu
Mae BNPL yn aml yn cael ei chyflwyno fel y ffodd symlaf i dalu ar y ddesg dalu ar-lein, gan eich galluogi i brynu rhywbeth gydag un neu ddau glic.
Efallai bydd y drafodiad mor llyfn nad ydych yn sylweddoli eich bod wedi dewis talu'r ffordd hon. Neu, efallai eich bod yn cael eich annog i ddewis BNPL dros ddulliau talu eraill. Er enghraifft, efallai eich bod yn cael cynnig disgownt pellach os ydych yn dewis prynu gyda BNPL.
Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn rhoi digon o amser i’ch hun i feddwl am sut rydych yn talu neu a oes gwir angen i chi rannu’r taliadau.
Gwiriwch y telerau ac amodau
Gall fod y print bach am beth rydych yn cofrestru am wedi cael ei leoli rhywle arall ar y wefan. Gall fod yn anodd gweithio allan beth rydych wedi cymryd allan neu os hwn yw’r peth gorau am eich anghenion, yn enwedig os cewch gynnig o sawl dewis BNPL yn y ddesg dalu.
Fodd bynnag, fel gydag unrhyw ffurf o fenthyca, mae risgiau dylech fod yn ymwybodol ohonynt – yn enwedig gan nad yw BNPL yn cael ei reoleiddio yn yr un ffordd â nwyddau credyd defnyddiwr eraill ac nid yw'n destun yr un math o rybuddion.
Felly, mae’n bwysig i sicrhau eich bod yn chwilio am ac yn gwirio’r telerau ac amodau yn lle rhoi tic yn y bocs heb eu darllen.
Os nad ydych, ni fyddwch yn ymwybodol o beth sy’n digwydd os ydych yn methu taliad neu fethu fforddio talu bellach.
Efallai cewch eich cymeradwyo am BNPL hyd yn oed os na fedrwch talu
Nid yw’r rhan fwyaf o’r cynhyrchion BNPL hyn yn cael eu rheoleiddio, felly mae nifer o ddarparwyr ond yn cynnal gwiriadau credyd ysgafn cyn iddynt eich cymeradwyo. Felly ni fyddant yn gwybod os gallwch fforddio ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus. Efallai bod hwn yn swnio’n dda, yn enwedig os ydych wedi cael eich gwrthod am gredyd arall (mae rhai darparwyr BNPL yn defnyddio hwn fel dull o werthu).
Ond efallai bydd hwn yn eich annog i wario mwy o arian nag y byddwch fel arfer.
Ond mae gwiriadau fforddiadwyedd (fel y rhai sy’n cael eu cynnal pan rydych yn gwneud cais am gerdyn credyd) yna i’ch amddiffyn a gall eich atal rhag gorymestyn eich hun.
Os ydych yn cymryd gormod o gytundebau BNPL neu rydych yn cydbwyso benthyciadau neu gredyd arall, mae hwn yn wneud yn anodd i chi cael golwg clir o’ch ymrwymiadau i gyd, a gall gynyddu’r risg o gwympo i broblem ddyled.
Gall bod eich amddiffyniad defnyddiwr gael ei gyfyngu
Gan nad yw’r cynhyrchion BNPL wedi’u rheoleiddio gan yr FCA, ni fydd modd i chi wneud cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol os bydd rhywbeth yn mynd o’i le neu rydych yn teimlo nad ydych wedi cael eich trin yn deg.
Fodd bynnag, os yw’r cwyn gyda’r manwerthwr yn hytrach na’r darparwr BNPL, bydd amddiffyniadau defnyddwyr yn berthnasol i’r gwerthiant. Mae hwn yn meddwl gallwch gwyno i Gyngor am Bopeth am y siop o hydYn agor mewn ffenestr newydd
Mae rhai darparwyr BNPL yn cynnig gwasanaethau datrys anghydfod mewnol, ond ni fydd y rhain yn ddiduedd ac maent yn amrywio o un i’r llall. Bydd angen i chi wirio pob cytundeb darparwr gyda’r pwyntiau yma yn eu telerau ac amodau. Gall hwn fod yn ddryslyd os ydych yn delio â mwy nag un darparwr.
Nid ydych wedi’ch amddiffyn gan Adran 75
Os ydych yn talu am rywbeth gyda cherdyn credyd ac mae problem, er enghraifft os ydyw wedi’i dorri, gallwch wneud cwyn i’r manwerthwr A gofyn am ad-daliad o dan Reolaethau Adran 75.
Ond, os ydych yn gwneud taliad BNPL gan ddefnyddio cerdyn credyd, nid ydych wedi’ch amddiffyn o dan Adran 75, gan fod y taliad yn cael ei wneud gan y darparwr BNPL i’r manwerthwr.
Cyn i chi brynu unrhyw beth, gwiriwch pa amddiffyniad prynwr y mae eich darparwr BNPL yn ei ddarparu. Er enghraifft, os oes gennych anghydfod gyda masnachwr, bydd rhai darparwyr yn oedi taliadau nes bod y mater wedi'i ddatrys ac yn ad-dalu unrhyw daliadau rydych wedi'u gwneud eisoes os bydd yr anghydfod wedi'i setlo o'ch plaid. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol mai polisïau yw'r rhain yn hytrach na hawliau cyfreithiol..
Darganfyddwch fwy am Sut ydych wedi’ch diogelu wrth dalu gyda cherdyn
Gall defnyddio BNPL effeithio ar eich sgôr credyd
Mae’n bwysig i fod yn ymwybodol gall BNPL effeithio ar eich sgôr credyd, fel unrhyw wasanaeth ariannol arall.
Mae benthycwyr BNPL penodol yn gwneud gwiriad credyd ‘caled’ bob tro rydych am ledaenu taliadau dros gyfnod hir.
Bydd y gwiriadau hyn yn ymddangos ar eich cofnod a gall llawer o wiriadau credyd caled effeithio ar eich hanes credyd.
Bydd methu talu ar amser hefyd gael effaith negyddol ar eich sgôr credyd.
Hyd yn oed os nad ydy’ch pryniadau BNPL yn ymddangos ar eich hanes credyd, os ydych yn gwneud cais am gredyd arall efallai gofynnir i chi am unrhyw gytundebau BNPL sydd gennych pan mae’ch darparwr yn gwneud asesiad fforddiadwyedd. Os ydych wedi gwneud defnydd o lawer o gynhyrchion BNPL gall hwn effeithio ar eich mynediad at ffurf eraill o gredyd.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n methu taliad neu methu cadw i fyny gydag ad-daliadau?
Os nad ydych yn cadw i fyny gyda’ch ad-daliadau, gall tâl cosb cael eich codi arnoch (e.e.. LayBuy, ClearPay, PayPal Pay in 3) neu gall y taliad cael ei ychwanegu at yr un nesaf (Klarna).
Os nad oes modd i chi wneud taliadau o hyd, bydd rhai darparwyr BNPL yn trosglwyddo’ch dyled i asiantaethau casglu dyled i gasglu taliadau.
Mae hyn yn golygu os ydych yn cael trafferth talu, mae’n bwysig cysylltu â’ch darparwr BNPL i esbonio’ch sefyllfa. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ddatrysiad. Edrychwch yn adran telerau ac amodau eu gwefan i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael.
Cadw cofnod o’ch pryniadau BNPL
Mae cadw cofnod o faint rydych wedi’i wario a phryd i dalu eich ad-daliadau yn hanfodol wrth osgoi ffioedd ychwanegol ar gytundebau BNPL, yn enwedig os oes gennych fwy nag un cytundeb ar yr un pryd. Mae rhai darparwyr yn cynnig mynediad i’ch cyfrif trwy eu gwefan neu ap i’ch helpu cadw cofnod.
Dylai darparwyr gysylltu â chi cyn bod taliad yn ddyledus, ond gan eu bod heb eu rheoleiddio gan yr FCA nid oes rhaid iddynt.
Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys y taliad hwn yn eich cyllideb i gadw golwg a sicrhau eich bod yn talu ar amser.
Defnyddio cytundebau BNPL yn dda
Os ydych yn penderfynu mai Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) yw’r peth iawn i chi, ni fyddwch yn talu mwy nag os oeddech wedi talu amdano’n llawn ymlaen llaw. Gall fod yn ffordd dda o ledaenu costau o bryniadau mwy drud – os gallwch gadw i fyny gyda thaliadau.
Fodd bynnag, mae angen i chi:
- Fod yn hyderus y gallwch ad-dalu ar y dyddiad dyledus. Meddyliwch beth fyddai'n digwydd pe baech chi'n cael cost annisgwyl rhwng nawr ar amser hynny. A fyddai'n gwneud i chi fethu taliad?
- Ceisio osgoi defnyddio BNPL os ydych eisoes mewn dyled broblemus a mynnwch help cyn gynted ag y gallwch gan gynghorydd dyled diduedd, rhad ac am ddim.
- Darllen y telerau ac amodau i wybod yn union pa fath o gytundeb BNPL rydych wedi cymryd. Mae rhai darparwyr BNPL yn cynnig mwy nag un opsiwn, a bydd telerau ad-daliad yn wahanol.
- Dewiswch y dull ad-daliad sy’n gweithio orau i chi a gwnewch nodyn o bryd mae’n rhaid gwneud taliadau. Gall peidio gwybod hyn feddwl eich bod yn methu taliad ar ddamwain neu fod taliad yn cael ei gymryd o’ch cyfrif pan nad oeddech yn ei ddisgwyl.
- Edrychwch allan am hysbysiadau gan eich darparwr, yn rhoi gwybod pryd mae’ch taliad nesaf yn ddyledus.
- Darganfyddwch beth yw polisi eich darparwr os ydych yn methu taliad. Bydd rhai yn codi tâl ar ôl 24 awr.
- Cadwch at eich cyllideb. Gall defnyddio BNPL eich annog i wario mwy nag oeddech am yn wreiddiol.
- Byddwch yn wyliadwrus o gymelliadau sy’n eich annog i ddefnyddio BNPL yn lle dulliau talu eraill, er enghraifft, cynnig disgownt o 10% os ydych yn dewis BNPL.
- Defnyddiwch eich cerdyn debyd i wneud ad-daliadau. Mae gwneud ad-daliadau gyda cherdyn credyd yn gwthio’r ddyled yn bellach i lawr y llinell. Mae hwn yn broblem os na fedrwch ei fforddio ac arwydd gall eich bod yn gwynebu problemau dyled.
- Sicrhewch fod eich cerdyn talu yn gyfredol nes bod y taliad olaf yn cael ei wneud. Os mae’n dod i ben tra eich bod yn talu pryniant BNPL, byddwch yn methu taliad. Mae i fyny i chi i roi gwybod i’ch darparwr am eich manylion cerdyn newydd.