Mae sawl gwahanol fath o gynllun cyllid gan siop, a phob un gyda chynigion prynu nawr a thalu yn nes ymlaen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yn union y mae hyn yn ei olygu cyn defnyddio cyllid gan siop.
Beth yw cardiau siop?
Mae cardiau siop yn fath o gerdyn credyd y gallwch ond ei ddefnyddio i dalu am nwyddau mewn siop benodol neu grŵp o siopau.
Mae’n debyg y byddwch yn cael cynnig cerdyn wrth y til, pan fyddwch yn mynd i dalu am eich nwyddau.
Mae’r cyfraddau llog ar gardiau siop yn aml yn llawer uwch na chardiau credyd arferol.
Mae hyn yn golygu oni bai eich bod yn talu’r balans yn llawn bob mis y gall gymryd amser maith, a chostio llawer mwy, i ad-dalu’r ddyled - yn arbennig os ydych chi’n parhau i ddefnyddio’r cerdyn.
Cyn ymrwymo, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu fforddio’r ad-daliadau.
Os byddwch chi’n ymrwymo ond yn ailfeddwl, ceir cyfnod ystyried 14 diwrnod, a gallwch ddod â’r cytundeb i ben yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn berthnasol i bob math o gytundeb credyd, nid dim ond cardiau siop
Efallai y bydd rhai cardiau siop yn ‘cardiau tâl’ - sy’n golygu fod yn rhaid i chi dalu’r balans yn llawn ar ddiwedd y mis.
Os na wnewch chi hynny, byddwch yn wynebu rhagor o gostau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth ydych chi’n ymrwymo iddo.
Darganfyddwch fwy am canllaw ar gardiau siop
Beth yw cardiau credyd sy’n gysylltiedig i siopau?
Mae cardiau sy’n gysylltiedig â siop yn gardiau credyd sy'n cario brandio'r siop y cawsoch y cerdyn ganddynt. Efallai y byddant yn dod â buddion a gostyngiadau fydd ar gael pan fyddwch chi'n defnyddio'ch cerdyn i dalu am eitemau a werthwyd gan y cwmni a roddodd y cerdyn i chi, ond, yn wahanol i gardiau siop, gellir eu defnyddio y tu allan i'r siop hefyd.
Efallai y bydd gan gardiau credyd sy’n gysylltiedig â siop gyfnodau di-log hirach na chardiau siop, a chyfraddau llog tebyg i gardiau credyd heb eu brandio. Ond mae'n rhaid i chi feddwl o hyd sut rydych yn mynd i'w talu - gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn cyn i unrhyw gyfnod rhagarweiniol ddod i ben.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Credyd catalog a chyfrifon siopa
Mae nifer o frandiau catalog, siopau ar-lein a rhai siopau ar y stryd fawr yn cynnig credyd prynu nawr, talu’n nes ymlaen.
Byddwch yn cael cyllid ar bryniant unigol ac yn talu amdano dros gyfnod o amser.
Math arbennig o’r credyd hwn, a gynigir yn aml gan frandiau catalog, yw ‘cyfrif siopa’.
Mae hyn ychydig fel cerdyn credyd, ond heb y cerdyn. Fe roddir terfyn credyd i chi, a gallwch ddal i wario hyd at yr uchafswm hwn, ar yr amod eich bod yn gwneud o leiaf yr isafswm taliad bob mis.
Mewn achosion eraill, efallai y cynigir rhywbeth a elwir yn ‘credyd rhandaliad’ i chi. Mae hyn yn fenthyciad i ariannu’r pryniant. Chi sy’n berchen ar y nwyddau o’r cychwyn, ond rydych yn talu amdanynt mewn rhandaliadau penodedig, naill ai’n fisol neu’n wythnosol, dros gyfnod sefydlog.
Darganfyddwch fwy am gyfrifon siopa neu gredyd catalog
Hurbwrcasu
Bydd cytundeb hurbwrcasu (HP) yn aml yn cael ei gynnig pan brynwch gar neu ddodrefn.
Yn wahanol i gredyd rhandaliadau, nid chi sydd piau’r nwyddau hyd nes i chi dalu’r taliad olaf. Mae hyn yn golygu, yn syml, rydych yn hurio’r nwyddau gyda’r opsiwn o’u prynu.
Wedi i chi wneud y taliadau i gyd i’r cwmni cyllid, fe gewch yr opsiwn i brynu’r nwyddau drwy dalu ffi derfynol ‘opsiwn i brynu’.
Efallai mai swm bychan yw hyn neu rywbeth llawer mwy. Yn aml fe elwir y taliadau mwy hyn yn daliadau ‘balwn’.
Mae cytundebau ‘gwerthiant amodol’ yn gweithio mewn ffordd debyg iawn – mae perchnogaeth yn ddibynnol ar wneud pob un o’r taliadau, ac os na wneir hynny, gall y cwmni gymryd y nwyddau yn ôl.
Yn y ddau achos, ni allwch werthu’r nwyddau hyd nes i’r cytundeb ddod i ben, ac os na fyddwch yn talu’ch ad-daliadau’n brydlon gall y nwyddau gael eu cymryd oddi arnoch.
Fodd bynnag, os ydych wedi talu o leiaf traean o’r cyfanswm sy’n daladwy, ni all y cwmni hawlio’r nwyddau heb gael gorchymyn llys yn gyntaf.
Eich hawliau
Yn gyffredinol, rhaid i unrhyw un sy’n cynnig credyd fod wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), fel bod gennych hawliau pwysig os aiff unrhyw beth o’i le.
Mae cwynion nodweddiadol yn cynnwys:
- Rydych yn anfodlon ag ansawdd y nwyddau a gawsoch.
- Rydych yn anfodlon ar brisiad y nwyddau ar ddiwedd y cyfnod.
Os ydych yn dymuno cwyno, fel eich cam cyntaf dylech gysylltu â’r cwmni neu’r siop lle prynoch chi’r nwyddau.
Os na chewch ymateb boddhaol o fewn wyth wythnos gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
Darllenwch fwy ar wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Sut i ganslo cytundeb hurbwrcas
Gallwch ddewis dod â bargen hurbwrcas i ben ar unrhyw adeg cyn gwneud y taliad terfynol. Mae hyn ar yr amod eich bod wedi talu o leiaf hanner y cyfanswm sy'n daladwy, neu'n talu hyd at y swm hwnnw ac nad oes unrhyw ddifrod i'r eitem uwchlaw traul arferol.
Gelwir hyn yn ‘derfynu gwirfoddol’ - rydych yn trosglwyddo’r nwyddau yn ôl ac yn cerdded i ffwrdd heb unrhyw atebolrwydd pellach.
Mae hyn yn wahanol i ildio gwirfoddol, lle byddwch chi'n dychwelyd yr eitem ond yn dal i fod yn ddyledus o'r hyn sydd ar ôl. Bydd y cwmni cyllid fel arfer yn gwerthu mewn ocsiwn ac yn codi tâl arnoch am y gwahaniaeth.
Neu gallwch setlo'n gynnar trwy dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych heb ad-daliad (a elwir yn ad-daliad cynnar) a chymryd perchnogaeth o'r nwyddau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog o fis i ddau fis o hyd (a elwir weithiau yn ffi setliad).
Yn y naill sefyllfa rhaid i chi hysbysu’r cwmni’n ysgrifenedig – dylai’r manylion ynghylch sut i wneud hynny fod yn eich cytundeb credyd.
Cadwch gopi o’r llythyr terfynu rhag ofn y bydd unrhyw faterion yn codi yn ddiweddarach.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dod â'ch cytundeb cyllid car i ben yn gynnar
Un fantais o gael trefniant cyllid gan siopau
Un fantais o gael trefniant cyllid gan siopao, yn hytrach na chardiau siop, yw y bydd y siopau’n tueddu i gynnig rhyw fath o gyfnod di-log. Mae hyn fel arfer rhwng tri a 12 mis.
Ond nid yw hyn o fudd oni bai eich bod yn gallu rheoli eich arian a thalu’r hyn sy’n ddyledus gennych o fewn y cyfnod di-log.
Beth i fod yn ofalus yn ei gylch
Os nad ydych chi’n talu’r balans ar ddiwedd y cyfnod di-log, mae’n ddigon hawdd i’ch dyled gynyddu’n gyflym.
Yr effaith ar eich statws credyd
Gall cael gormod o gytundebau cyllid (gan gynnwys cyllid gan siopau neu hurbwrcasu) ostwng eich statws credyd, hyd yn oed os ydych chi’n gwneud eich ad-daliadau’n brydlon.
Y rheswm am hynny yw y gallai darparwyr benthyciadau edrych ar gyfanswm y credyd sydd ar gael i chi, a chyfanswm eich ad-daliadau, pan fyddant yn penderfynu a ddylen nhw fenthyca ichi neu beidio.
Os byddwch yn methu unrhyw ad-daliadau, bydd hyn yn amharu ar eich statws credyd.
Cynnig yswiriant yn ychwanegol
Efallai y bydd y siop yn ceisio gwerthu cynnyrch ychwanegol i chi, fel:
- yswiriant diogelu rhag ofn i chi gael staen ar eitemau fel soffa neu garped
- yswiriant gwarant, er mwyn eich diogelu yn erbyn rhai mathau o gostau trwsio
Mae’r cynnyrch atodol hyn yn dueddol o fod yn ddrud, ac efallai y byddant yn ddiangen - mae’n bosibl y bydd yswiriant arall yn cynnwys hyn.
Mae angen i chi wirio’r amodau a thelerau hefyd gan fod yna amodau ac eithriadau fel arfer. Efallai na fydd yn werth chweil i chi dalu mwy.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pethau i gadw llygad arnynt wrth brynu yswiriant
Dewisiadau eraill yn hytrach na chynlluniau cyllid gan siopau
Y dewis gorau arall ar wahân i gynlluniau cyllid gan siopau, oni bai y ceir cyllid 0%, yw prynu’r nwyddau gyda’r arian sydd gennych yn barod. Mewn rhai achosion efallai y bydd modd i chi sicrhau gostyngiad am dalu gydag arian parod.
Os ydych wir eisiau’r nwyddau ac nad yw cyllid 0% ar gael, allech chi gynilo ar eu cyfer?
Os ydych wir eu heisiau ar unwaith, ymchwiliwch i’ch opsiynau. Efallai y byddai’n well ichi gymryd benthyciad personol neu gerdyn credyd di-log.