Gall cardiau siop fod yn ddefnyddiol os ydych yn ddigon disgybledig i dalu’r cyfan yn ôl sy’n ddyledus gennych bob mis, ond os nad ydych gall hynny fod yn ddrud – felly gwiriwch a oes dewisiadau credyd eraill gwell.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut maent yn gweithio
Yn y bôn, mae cerdyn siop yn gerdyn credyd y gallwch ei ddefnyddio gydag un gadwyn neu grŵp stryd fawr.
Fel gyda cherdyn credyd, gallwch ddefnyddio cerdyn siop i brynu pethau â chredyd a thalu amdanynt ar ddiwedd y mis.
Ac yn union fel cerdyn credyd, codir llog arnoch os na fyddwch yn ad-dalu’n llawn.
Fel arfer mae’r gyfradd llog yn uwch nag ar gyfer cerdyn credyd.
Efallai y gofynnir i chi a oes gennych chi gerdyn siop neu a hoffech chi gael un wrth y til pan fyddwch yn talu am eich siopa.
Roeddynt yn arfer cael eu cynnig gyda gostyngiad ar eich pryniant cyntaf, ond mae cwmnïau wedi cytuno i beidio â chynnig bargeinion o fewn y saith diwrnod cyntaf, felly mae gennych chi amser i newid eich meddwl (gallwch ganslo’r cerdyn o fewn 14 diwrnod).
Os byddwch yn cymryd cerdyn, efallai y cynigir talebau neu ostyngiadau i chi – fel 10% o ostyngiad oddi ar bryniant am dri mis neu ostyngiadau i ddeiliaid cerdyn yn unig, neu ddanfon nwyddau am ddim pan brynwch ar-lein.
Rhaid i chi fod o leiaf yn 18 oed i gael cerdyn siop. Fel gydag unrhyw gerdyn credyd, bydd yn rhaid i chi hefyd gael gwiriad credyd.
Cardiau credyd brand y siop
Mae Tesco, Sainsbury, John Lewis, Marks & Spencer ac Asda oll yn cynnig cerdyn credyd brand y siop y gellir ei ddefnyddio yn unrhyw le ac nid yn y siop a enwir yn unig. Byddwch yn ofalus i beidio â drysu cardiau siop gyda chardiau credyd sy'n gysylltiedig â siopau.
Mae cardiau gwobrwyo - fel Nectar neu Tesco Clubcard – yn caniatáu i chi gasglu pwyntiau ar eich siopa y gallwch eu defnyddio wedyn i gael arian oddi ar eich bil neu i’w cyfnewid am nwyddau a gwasanaethau. Nid yw cardiau siop yr un peth â chardiau gwobrwyo na chardiau teyrngarwch.
Manteision:
-
Gostyngiadau a phethau am ddim - efallai y gallwch gael gostyngiadau neu arian i ffwrdd. Ond cofiwch, os nad ydych yn talu’ch bil i gyd, gallai’r llog gostio llawer mwy i chi na gwerth y gostyngiadau. Darllenwch fwy am hyn isod yn yr adran ar daliadau a ffioedd.
-
Gall fod yn fargen dda gyda’ch hoff siop - yr unig adeg y gallech ystyried cael cerdyn siop yw os ydych yn gwario llawer o arian mewn siop benodol yn rheolaidd - a hyd yn oed wedyn, rhaid i chi fod mewn rheolaeth lawn o’ch arian. Peidiwch â chael eich temtio i orwario dim ond am fod y gostyngiadau neu’r talebau ar gael.
Anfanteision
-
Cyfradd llog uwch os na thalwch y cyfan yn ôl bob mis - mae cardiau siop yn aml yn codi llog llawer uwch na cherdyn credyd arferol.
-
Gallwch ond defnyddio cardiau siop i dalu am bethau o fewn y gadwyn stryd fawr benodol honno.
-
Yn aml cânt eu gwerthu gan gynorthwywyr siop, nid arbenigwyr ariannol. Dylech gael gwybodaeth fanwl ac eglurhad ar sut mae’r cerdyn yn gweithio cyn i chi arwyddo i’w gymryd. Ond efallai na fydd rhai cynorthwywyr gwerthu nwyddau wedi cael digon o hyfforddiant ar yr elfennau credyd. Os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw beth, gofynnwch gwestiynau, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn arwyddo hyd nes i chi ddeall y drefn.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Taliadau a ffioedd
Fel arfer mae cardiau siop yn codi cyfraddau llog llawer iawn uwch na chardiau credyd arferol.
Cymerwch olwg ar y Gyfradd Canran Flynyddol (APR) cyn arwyddo.
Bydd hyn yn eich helpu i gymharu’r gost â mathau eraill o fenthyca y gallech eu defnyddio – mae’r APR yn dangos cost pryniant ar ôl unrhyw gyfnod cychwynnol felly mae’n ffordd dda o gymharu cerdyn credyd â cherdyn siop, yn enwedig os nad ydych yn gymwys i gael cerdyn credyd 0%.
I osgoi talu llog, dylech bob amser geisio talu’ch bil i gyd bob mis.
Bydd eich datganiad yn dangos yr isafswm sydd yn rhaid i chi ei dalu, ond mae’n bwysig bob amser i geisio ad-dalu cymaint ag y gallwch, neu gallai gymryd amser hir iawn i chi glirio’r balans sy’n weddill a chostio’n ddrud i chi.
Ystyriwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i sicrhau na fyddwch fyth yn anghofio gwneud taliad. Os ydych chi'n byw ar incwm amrywiol, neu os ydych yn poeni efallai na fydd digon o arian yn y cyfrif i'w dalu bob amser, bydd gwneud taliadau â llaw yn eich helpu i osgoi ffioedd am Ddebydau Uniongyrchol a fethwyd.
Cyn i chi ymrwymo
Hyd yn oed os ydych yn hyderus y byddwch yn talu’r bil yn llawn bob mis, cyn i chi benderfynu cymryd cerdyn siop cymharwch ostyngiadau’r cerdyn siop gyda chardiau credyd arian yn ôl hefyd, sy’n cynnig arian yn ôl ym mhob siop.
Neu dewiswch gerdyn credyd 0% os y gallwch, ond gwiriwch fod y gyfradd 0% yn cynnwys pryniant hefyd yn ogystal â throsglwyddiadau balans.
Beth ddylwn ei wneud os wyf yn methu taliad?
Os ydych chi wedi methu taliadau eisoes ac nad ydych chi’n gallu dod i gytundeb â’ch benthyciwr, mae’n well i chi gael cyngor cyn gynted ag y gallwch chi, yn enwedig os oes gennych chi ddyledion eraill hefyd.