Mae'r dudalen hon yn cynnwys mwy o wybodaeth i gyn-aelodau Cynllun Pensiwn Dur Prydain (BSPS) a drosglwyddodd eu buddion o'r cynllun.
Sut gallwn helpu?
Rydym yn gwybod bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ofidus i lawer o aelodau'r BSPS - felly, roeddem am adael i'r aelodau wybod bod HelpwrArian yma i helpu.
Rydym yn helpu â'r holl faterion pensiwn sy'n ymwneud â chynlluniau gweithle, personol a rhanddeiliaid a Pensiwn y Wladwriaeth. Rydym yn ateb cwestiynau cyffredinol, yn helpu ag ymholiadau penodol ac yn cynnig arweiniad i bobl sydd â chwynion am eu cynllun pensiwn preifat.
Gwneud cwyn am y cyngor ariannol a gawsoch ar drosglwyddo'ch pensiwn
Canfu’r rheolydd ariannol, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), fod llawer o bobl a drosglwyddodd allan o’r BSPS ers 2017 wedi derbyn cyngor ariannol anaddas. Os ydych wedi derbyn cyngor anaddas i drosglwyddo, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal.
Os nad ydych yn hapus ag unrhyw agwedd ar y cyngor ariannol a gawsoch ynghylch trosglwyddo, gallwch wneud cwyn ffurfiol.
Gwiriwch a oedd y cyngor yn iawn i chi
Mae'n werth ystyried a oedd eich cyngor yn addas ai peidio yn seiliedig ar eich anghenion.
Defnyddiwch y gwiriwr cyngor i ddeall a oedd y cyngor a gawsoch yn iawn i chi ar wefan yr FCA
Sut i gwyno
Os credwch i chi dderbyn cyngor anaddas, y cam cyntaf yw cwyno i'r cwmni a roddodd y cyngor i chi.
Gallwch ddefnyddio ein llythyr templed cwynion BSPS (DOCX, 23KB) i'ch helpu chi gychwyn ar y broses.
Mae rhaid i gwmni ariannol rheoledig ymateb i'ch cwyn yn ysgrifenedig cyn pen wyth wythnos, gan ddweud wrthych a yw'r gŵyn wedi bod yn llwyddiannus neu pam eu bod angen mwy o amser i ymchwilio iddi. Ar y pwynt hwn os ydych yn anhapus â'r ymateb, neu os nad ydych wedi derbyn un, gallwch gyfeirio'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).
Mae defnyddio cynghorydd ariannol rheoledig yn rhoi mynediad i chi i'r FOS. Mae'r gwasanaeth hwn yn annibynnol ac yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio. Gall roi iawndal lle mae rhywbeth wedi mynd o'i le. Mae ganddynt dîm ymroddedig sy'n ystyried cwynion sy'n ymwneud â throsglwyddo allan o BSPS.
Sut i gwyno i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol
Oeddech chi’n gwybod?
Nid oes angen i chi ddefnyddio cwmni rheoli ceisiadau (CMC) na chyfreithiwr i wneud cwyn. Os gwnewch bydd rhaid i chi rannu unrhyw iawndal a gewch â hwy.
Os oes angen help arnoch, gallwch hefyd gysylltu â ni ar 0800 015 4402.
Dylech gyfeirio unrhyw gwynion at bspsqueries@financial-ombudsman.org.uk fel bod y tîm yn gallu darparu cymorth wedi’i deilwra i chi.
Mae’r FOS wedi sefydlu tudalen BSPS penodol sy'n amlinellu llawer o'r manylion ynghylch y cyngor a roddir am y cynllun.
Mae'r broses ar gyfer gwneud cwyn yn hawdd ond os byddwch angen help, bydd FOS yn gallu siarad chi drwyddo drwy ffonio 0800 023 4567.
Os nad yw'ch cynghorydd ariannol mewn busnes mwyach, gallwch wneud cais i'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol sydd hefyd yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio.
Gwneud penderfyniadau ar yr arian yn eich trefniant pensiwn newydd
Os gwnaethoch drosglwyddo o'r BSPS efallai y bydd gennych gronfa o arian mewn pensiwn arall rydych yn gyfrifol am ei reoli. Efallai y bydd yn anodd i chi benderfynu beth i'w wneud â'r arian os nad ydych yn deall sut mae'r pensiwn rydych wedi symud iddo yn gweithio, mae haenau o ffioedd neu'n cynnwys llawer o opsiynau buddsoddi neu hyd yn oed rhai amhriodol.
Os ydych yn anhapus ag agwedd o’r pensiwn y gwnaethoch symud iddo, gallwch:
- gwirio'r holl ffioedd rydych yn eu talu a chost gadael y cynllun;
- edrych ar eich opsiynau ar gyfer trosglwyddo - er enghraifft, i gynllun gweithle (Tata Steel neu gyflogwr cyfredol) neu bensiwn personol arall;
- os penderfynwch aros yn y pensiwn rydych wedi cael eich trosglwyddo iddo, edrychwch ar yr opsiynau buddsoddi ac ystyriwch a yw'r buddsoddiadau rydych ynddynt yn iawn i chi neu a allwch newid i opsiynau amgen.