Os na allwch weithio oherwydd salwch neu ddamwain, fe allech chi ofyn am dderbyn eich pensiwn yn gynnar. Mae rhai cynlluniau yn caniatáu i bensiynau gael eu talu’n gynnar oherwydd afiechyd ond gallai pob cynllun ddiffinio’r hyn sy’n cyfrif fel ‘afiechyd’ yn wahanol a chael cyflyrau gwahanol. Bydd y gofynion wedi'u nodi yn rheolau eich cynllun.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Gwneud penderfyniad
- Apelio yn erbyn penderfyniad
- Collais fy swydd oherwydd fy mod i'n sâl ond dywed fy nghynllun nad wyf yn gymwys i gael pensiwn oherwydd afiechyd
- Mae fy meddyg teulu yn cefnogi fy nghais. Pam y gallant fy nhroi i lawr?
- Ni welodd ymgynghorydd meddygol y cynllun fi. Ni all hynny fod yn iawn?
- Rwyf wedi cael diagnosis o salwch terfynol. A oes unrhyw opsiynau eraill ar gael i mi?
Gwneud penderfyniad
I dderbyn eich pensiwn yn gynnar, bydd angen i chi roi manylion eich afiechyd/cyflwr i'ch cynllun pensiwn neu'ch cyflogwr a pham nad ydych yn gallu gweithio mwyach. Yna bydd darparwr eich cynllun yn ystyried eich achos ac yn gwneud penderfyniad.
Dylai sawl sy’n gwneud penderfyniad:
- ddefnyddio rheolau'r cynllun yn gywir, gofyn y cwestiynau cywir a chymhwyso'r gyfraith yn gywir
- adolygu'r holl dystiolaeth ac ystyried yr holl wybodaeth berthnasol
- gwneud penderfyniad rhesymol a theg
- darparu adroddiad yn manylu ar y rhesymau dros eu penderfyniad a'r camau nesaf rhag ofn na fyddwch yn cytuno â'r penderfyniad.
Apelio yn erbyn penderfyniad
Os gwrthodir eich cais am ymddeoliad cynnar oherwydd afiechyd, mae'n bosibl herio penderfyniad os na ddilynwyd un neu fwy o'r uchod.
Os yw hynny'n wir, dylai'r sawl sy’n gwneud penderfyniad ailystyried. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddent yn dod i benderfyniad gwahanol.
Collais fy swydd oherwydd fy mod i'n sâl ond dywed fy nghynllun nad wyf yn gymwys i gael pensiwn oherwydd afiechyd
Er i chi golli eich swydd oherwydd eich iechyd, mae eich cymhwysedd i gael pensiwn afiechyd yn dibynnu ar y meini prawf yn rheolau eich cynllun.
Mewn rhai cynlluniau hyd yn oed os na allwch wneud y gwaith rydych/roeddech yn ei wneud oherwydd afiechyd, os ydych yn dal i allu gwneud ‘swydd’ efallai na fyddwch yn cwrdd â’u meini prawf.
Mae fy meddyg teulu yn cefnogi fy nghais. Pam y gallant fy nhroi i lawr?
Nid yw'n anghyffredin i wahaniaethau fod mewn barn feddygol.
Er bod barn eich meddyg teulu yn berthnasol, mae'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad hefyd yn gallu cael eu barn meddygol ei hunan a dewis yr un sydd fwyaf priodol yn eu barn hwy.
Yr hyn sy'n bwysig yw eu bod yn gwneud eu penderfyniadau yn iawn. Er enghraifft, dylent ofyn y cwestiynau cywir os ydynt angen eglurhad gan arbenigwyr meddygol.
Ni welodd ymgynghorydd meddygol y cynllun fi. Ni all hynny fod yn iawn?
Nid oes unrhyw ofyniad i ymgynghorydd meddygol gwrdd â chi. Eu barn broffesiynol fyddai yn gyfrifol am hynny.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod y sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn gwneud eu penderfyniad yn unol â'r egwyddorion uchod.
Rwyf wedi cael diagnosis o salwch terfynol. A oes unrhyw opsiynau eraill ar gael i mi?
Os ydych chi o dan 75 oed ac wedi cael diagnosis o gyflwr sy'n peryglu bywyd lle rydych chi wedi cael llai na 12 mis i fyw, efallai y gallwch gael mynediad i'ch pensiwn yn ddi-dreth.
Siaradwch â'ch darparwr pensiwn i weld a ydynt yn cynnig yr opsiwn hwn.