Pan fydd busnes yn wynebu digwyddiad mawr fel ailstrwythuro, gwerthu neu ansolfedd, gall beri pryder i'w holl weithwyr. I rai, gallai'r newidiadau ddod â chyfleoedd trwy ddiswyddo, adleoli, ailhyfforddi neu ymddeol yn gynnar. Ond bydd hefyd yn golygu bod angen i chi adolygu'ch sefyllfa a gweithio allan sut y bydd yn effeithio ar eich cyllid.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Rwyf wedi clywed si bod pethau’n newid, neu y gallai fod problemau
- Adroddwyd yn y newyddion bod fy nghynllun pensiwn yn newid
- Mae fy nghyflogwr yn cynnig gwneud newidiadau i’m cynllun pensiwn ac mae wedi dechrau proses ymgynghori
- Mae penderfyniad wedi’i wneud ar ôl ymgynghori ar newidiadau i’r cynllun ac rwyf wedi cael gwybod yn ffurfiol am y canlyniad
- Mae cwmni arall wedi cysylltu â mi yn uniongyrchol ynglŷn â’m pensiwn
- Ble gallaf gael mwy o help a chyngor?
- Cronfa Diogelu Pensiynau
- Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- Pension Wise
Rwyf wedi clywed si bod pethau’n newid, neu y gallai fod problemau
Yn aml mae gennym deimlad o ran sut mae pethau'n mynd. Efallai bod eich busnes yn cael trafferth, yn uno â sefydliad arall neu eich bod wedi clywed sylwadau am gost eich cynllun pensiwn.
Nid yw hyn bob amser yn golygu newyddion drwg, ond mae'n helpu i wybod ble rydych yn sefyll rhag ofn.
Efallai y byddwch yn dod yn ymwybodol neu'n amau bod y cwmni neu'r cynllun rydych ynddo yn edrych ar wneud newidiadau.
Os yw hyn yn wir, bydd angen iddynt siarad â chi'n ffurfiol. Felly, nes iddynt wneud hyn, gwnewch yn siŵr bod eich holl gofnodion yn gyfoes â'ch cyflogwr a'ch cynllun pe bai angen iddynt siarad â chi.
Mae'n bwysig eich bod yn gwirio bod gan y cynllun :
- eich cyfeiriad presennol
- unrhyw newidiadau i’ch cyfeiriad
- unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, fel priodi, newid enw, neu ysgaru.
- Mae hefyd yn gyfle da i wirio eich bod wedi llenwi ffurflen enwebu dymuniadau. Mae hyn yn rhywbeth sy'n dweud wrth ymddiriedolwyr y cynllun beth rydych am ei wneud ag unrhyw arian os byddwch farw.
Os nad ydych yn siŵr eich bod yn deall popeth am eich pensiwn a'r hyn y mae'n ei ddarparu, gallwch gysylltu â ni i drafod y mater.
Adroddwyd yn y newyddion bod fy nghynllun pensiwn yn newid
Gall llawer o bethau ysgogi eich cynllun i ystyried newid – gelwir y rhain yn ‘ddigwyddiadau’.
Os yw'r cynllun o faint sylweddol neu os ydych yn gweithio i gyflogwr mawr, nid yw'n anarferol adrodd ar hyn yn y newyddion.
Wrth i’r camau nesaf ddod yn gliriach, bydd y cynllun, neu eich cyflogwr, yn dechrau siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd i’ch pensiynau.
Fel arfer bydd pethau i chi feddwl drwyddynt a phenderfyniadau i'w gwneud.
Mae'n bwysig eich bod yn deall ystyr y cam nesaf, os oes unrhyw derfynau amser y mae rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt ac os ydych yn cael cynnig unrhyw help â'r broses.
Mae llawer o gynlluniau yn trefnu gweithdai, er enghraifft, i helpu pobl ar yr adeg hon.
Os ydych am ddod o hyd i'ch cynghorydd eich hun, mae'n bwysig gwirio eu bod yn cael eu rheoleiddio a'u hawdurdodi i'ch helpu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Neu gwiriwch y gofrestr ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
Gallwch gysylltu â ni am help os nad ydych yn siŵr:
- sut i fynd ati i ddod o hyd i gynghorydd
- beth i ofyn amdano
- sut i wneud y mwyaf o’ch sesiwn.
Gallwn drafod eich sefyllfa â chi a darparu rhywfaint o gyfarwyddyd ar oblygiadau posibl.
Efallai y bydd eich cynllun yn anfon llythyr atoch ar ran sawl corff llywodraeth, fel y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, y Gronfa Diogelu Pensiynau a'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Bydd y llythyr yn amlinellu ffynonellau cymorth a Chwestiynau Cyffredin.
Mae fy nghyflogwr yn cynnig gwneud newidiadau i’m cynllun pensiwn ac mae wedi dechrau proses ymgynghori
Bydd eich cyflogwr yn gwneud cynnig ar ddarpariaeth eich pensiwn yn y dyfodol, ac yn cynghori ymddiriedolwyr/gweinyddwr eich cynllun pensiwn.
Bydd ymddiriedolwyr/gweinyddwr eich cynllun yn cysylltu â chi'n ysgrifenedig. Bydd yr ohebiaeth gan ymddiriedolwyr/gweinyddwyr eich cynllun pensiwn yn nodi'r newidiadau arfaethedig yn ffurfiol.
Bydd ymddiriedolwyr eich cynllun neu'ch cyflogwr yn treulio peth amser yn siarad ag ystod o randdeiliaid am eich pensiwn a sut i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.
Bydd hyn yn cynnwys cynghorwyr proffesiynol, ymddiriedolwyr ac, os oes gennych un, undeb neu eu cynrychiolwyr.
Gan fod y trafodaethau hyn yn debygol o gau eich cynllun, bydd ymddiriedolwyr y cynllun neu'ch darparwr pensiwn/cyflogwr yn siarad â chi'n ffurfiol am y newid arfaethedig a'r hyn y mae'n debygol o'i olygu i chi. Gallai hyn gyd-fynd â gohebiaeth gan eich cyflogwr/cyn-gyflogwr.
Bydd ymddiriedolwyr/gweinyddwr eich cynllun pensiwn/cyflogwr yn cynnig newidiadau i'ch cynllun yn ffurfiol ac yna'n ymgynghori â chi.
Dylent egluro:
- manteision ac anfanteision gwahanol opsiynau (fel symud o fuddion wedi’u diffinio i gyfraniad wedi’i ddiffinio neu newid yr oedran y gallwch ymddeol)
- y risg o gael eich twyllo
- lefelau cyfraniadau
- gwerth cyfredol buddion
- hyblygrwydd buddion
- a allai'r cynllun ymuno â'r Gronfa Diogelu Pensiwn .
Unwaith eto, os ydych yn ansicr o oblygiadau'r newidiadau hyn, mae'n syniad da siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoledig (y byddai angen i chi dalu amdano) neu gael arweiniad arbenigol.
Mae ymddiriedolwyr/gweinyddwyr eich cynllun/cyflogwr yn debygol o sefydlu gwasanaethau llinell gymorth neu gymorth ychwanegol i chi, ond gallwch hefyd gysylltu â ni.
Mae penderfyniad wedi’i wneud ar ôl ymgynghori ar newidiadau i’r cynllun ac rwyf wedi cael gwybod yn ffurfiol am y canlyniad
Wrth i'r camau nesaf ar gyfer eich cynllun ddod yn gliriach, mae'n bwysig eich bod yn deall sut mae'r rhain yn effeithio arnoch.
Mae llawer o help ac arweiniad ar gael, ond mae'n bwysig eich bod yn mynd at ffynonellau cyngor sydd ag enw da.
Gwiriwch â phwy rydych yn delio a bob amser a bod unrhyw wasanaethau cynghori rydych yn eu defnyddio yn cael eu rheoleiddio.
Ffynhonnell dda o ganllawiau os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, yn agos at ymddeol a meddwl am eich opsiynau yw apwyntiad Pensiwn Wise.
Ond os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud ac eisiau rhywfaint o help i feddwl pethau, cysylltwch â ni a gallwn eich helpu i ddechrau.
Pan fydd penderfyniad wedi'i wneud ar yr hyn sy'n digwydd i'ch cynllun pensiwn, dylai ymddiriedolwyr/gweinyddwr eich cynllun/cyflogwr eich hysbysu'n ffurfiol a dweud wrthych am ddyddiadau pwysig.
Os nad ydych wedi clywed unrhyw beth ac mae eich cydweithwyr wedi gwneud, gwiriwch fod gan y cynllun eich manylion cywir cyn gynted â phosibl .
Os yw'ch cynllun yn symud i'r Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF), byddant yn cysylltu â chi â gwybodaeth am yr hyn a fydd yn digwydd nesaf.
Gall hon fod yn broses hir. Felly, nes eu bod wedi cwblhau unrhyw gyfnod asesu, mae'n annhebygol y byddant yn gallu rhoi unrhyw union wybodaeth i chi am lefel y buddion ymddeol y byddwch yn eu cael.
Os bydd cynllun pensiwn yn dod i mewn i'r cyfnod asesu PPF, mae'n annhebygol y byddwch yn gallu trosglwyddo'ch pensiwn i gynllun arall.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y Gronfa Diogelu Pensiynau
Mae cwmni arall wedi cysylltu â mi yn uniongyrchol ynglŷn â’m pensiwn
Mae'n bosibl, er bod yr ymddiriedolwyr a'r cwmni'n ystyried eu camau nesaf, y byddant yn dweud wrthych eu bod yn edrych ar opsiynau.
Mae hwn yn amser sensitif, ac efallai y bydd rhai pobl yn defnyddio'r ansicrwydd i geisio eich temtio i fuddsoddiadau, cynhyrchion neu gynlluniau newydd na fyddai efallai er eich budd gorau.
Gwyliwch rhag unrhyw un sy'n dod atoch yn uniongyrchol nad ydynt wedi'u cymeradwyo gan eich cynllun .
Os ydych yn cael eich ffonio’n ddirybudd am eich pensiwn, mae hyn bellach yn anghyfreithlon. Felly os cysylltir â chi, y peth gorau yw rhoi’r ffôn i lawr.
Os ydych yn poeni neu'n ansicr am unrhyw newidiadau posibl, gallwch gysylltu â ni. Rydym yn wasanaeth a gefnogir gan y llywodraeth sy'n cynnig cymorth annibynnol ac arbenigol am ddim ar bensiynau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i adnabod sgam pensiwn
Mae rhagor o wybodaeth am sut i osgoi sgamiau buddsoddiadau a phensiynau ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
Ble gallaf gael mwy o help a chyngor?
Gallwch ein ffonio ar 0800 138 0555. Rydym yn darparu cyngor arbenigol, annibynnol, a diduedd am ddim i aelodau cynlluniau pensiwn yn y DU ar faterion pensiwn a chynilo ar gyfer ymddeoliad.
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn diogelu cynilwyr trwy sicrhau bod cynlluniau pensiwn gweithle yn cael eu rhedeg yn gywir.
Maent yn gweithio'n uniongyrchol â chyflogwyr a'r rhai sy'n rhedeg pensiynau gweithle. Pan fydd angen ailstrwythuro cynlluniau pensiwn, maent yn darparu arweiniad i ymddiriedolwyr. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr ymddiriedolwyr yn cyfathrebu'n effeithiol â chynilwyr.
Maent hefyd yn darparu canllawiau manwl ar fuddion wedi’u diffinio i drosglwyddiadau cyfraniadau wedi’u ddiffinio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi’u diffinio
Cronfa Diogelu Pensiynau
Mae'r Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) yn diogelu miliynau o bobl ledled y DU sy'n aelodau o gynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio. Maent yn sicrhau eich bod yn derbyn gofal os yw'r cynllun rydych wedi talu iddo yn methu.
Maent yn cefnogi ymddiriedolwyr wrth gyfathrebu ag aelodau lle gofynnir i aelodau cynllun buddion wedi’u diffinio wneud dewis lle mae un o'r opsiynau sydd ar gael yn golygu bod y pensiwn yn cael ei gymryd drosodd gan y PPF.
Nod y PPF yw sicrhau bod pob cyfathrebiad i aelodau yn gywir, yn glir ac yn gyson. Mae hyn yn arbennig lle mae gwybodaeth yn ymwneud â'r PPF a'i iawndal. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall aelodau wneud dewis hyddysg.
Awdurdod Ymddygiad Ariannol
Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yw'r rheolydd ar gyfer darparwyr pensiynau personol. Mae hyn yn cynnwys pensiynau personol rhanddeiliaid, pensiynau personol hunan-fuddsoddedig a phensiynau personol yn y gweithle.
Mae'r rhain i gyd yn fathau o bensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio.
Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol hefyd yn rheoleiddio'r cyngor (gan gynnwys cyngor ar drosglwyddo pensiwn) a roddir gan gynghorwyr rheoledig, rheolwyr asedau a chwmnïau eraill sy'n darparu gwasanaethau buddsoddi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Pension Wise
Mae Pension Wise yn cynnig apwyntiad am ddim i unrhyw un dros 50 oed sydd â phensiwn cyfraniadau diffiniedig i siarad drwyddo :
- eu hopsiynau i gymryd arian o'u cynilion pensiwn
- y pethau i’w hystyried
- sut i osgoi dioddef sgam pensiwn.