Dros oes eich pensiwn, efallai y bydd eich cyflogwr neu ymddiriedolwyr eisiau gwneud newidiadau i'ch cynllun. Os bydd hyn yn digwydd, dylid ymgynghori â chi os ydynt yn effeithio ar sut rydych yn cronni'ch pensiwn. Oni bai eich bod yn cytuno, ni ddylai unrhyw newid, newid y buddion rydych eisoes wedi'u cronni. Yn ogystal â deddfwriaeth, bydd rheolau eich cynllun yn amlinellu'r hyn y gall ac na all eich darparwr ei wneud.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Y pŵer i wneud newidiadau i reolau eich cynllun
Cynllun buddion wedi’u diffinio
Os ydych yn aelod o gynllun buddion wedi’u diffinio, dylai’r pŵer i wneud newidiadau gael eu gosod allan yn rheolau eich cynllun.
Mae'n bwysig bod y rheolau hyn yn cael eu dilyn. Os nad ydynt, gallai'r newidiadau fod yn annilys.
Yn yr un modd, ni ddylai unrhyw newidiadau dorri telerau eich contract cyflogaeth.
Os ydych yn ansicr beth yw rheolau eich cynllun, mae'n syniad da gofyn i weinyddwr eich cynllun pensiwn am gopi, neu ymweld â gwefan eich cynllun.
Os yw'ch cynllun yn gynllun buddion wedi’u diffinio, gallai'r newidiadau gynnwys:
- newid y gyfradd y mae'ch buddion yn cronni
- atal y buddion rhag cronni dros dro
- newid y diffiniad o enillion a ddefnyddir i gyfrifo'ch pensiwn
- newid y ffordd y mae gwasanaeth pensiynadwy (y gwaith sy'n cyfrif tuag at eich pensiwn) yn cael ei weithio allan
- cau'r cynllun i aelodau newydd
- cau'r cynllun fel na allwch groni buddion mwyach
- cau'r cynllun yn llwyr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn buddion wedi'u diffinio (neu cyflog terfynol) wedi’u hesbonio
Cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio
Os ydych yn aelod o gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio, mae rhaid i'ch cyflogwr eich hysbysu. Yna mae rhaid iddynt roi amser i chi feddwl am y newidiadau a rhoi sylwadau (neu roi'r cyfle hwn i gynrychiolwyr eich gweithwyr).
Efallai eu bod yn ystyried lleihau eu cyfraniadau i'r cynllun, neu newid eich darparwr.
Mae rhaid i chi hefyd gael gwybod am unrhyw newidiadau i'r opsiynau buddsoddi sydd gennych.