Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Adeiladu eich cronfa bensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Adeiladu eich cronfa bensiwn

Trosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio

Mae trosglwyddo pensiwn o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio (cyflog terfynol neu cyfartaledd gyrfa) fel arfer yn golygu ildio eich incwm am oes i gael gwerth swm o arian. Mae’r arian hwn wedyn yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun pensiwn arall. Mewn rhai achosion efallai gallwch drosglwyddo o un cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio i un arall.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cipolwg
  • Beth gallwch a beth na allwch ei drosgwyddo
  • Byddwch yn wyliadwrus rhag sgamiau pensiwn
  • Manteision cynlluniau buddion wedi’u diffinio
  • Risgiau ynglwm â throsglwyddo i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio
  • Pryderon am gynlluniau buddion wedi’u diffinio
  • Rhesymau mae rhai pobl yn ystyried trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio
  • Cymhellion i drosglwyddo
  • Cymhellion eraill
  • Sut mae’n gweithio os wyf eisiau trosglwyddo?
  • Cael cyngor
  • Beth i’w ddisgwyl gan gynghorydd ariannol

Cipolwg

Gan amlaf, rydych yn debygol o fod mewn sefyllfa ariannol waeth os byddwch yn trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio i gynllun cyfraniadau pensiwn wedi’u diffinio. Mae hyn hyd yn oed yn wir os bydd eich cyflogwr yn cynnig cymhelliad i chi adael

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a’r Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) yn credu y bydd er budd y rhan fwyaf o bobl i gadw eu pensiwn buddion wedi’u diffinio. Os trosglwyddwch allan o bensiwn buddion wedi’u diffinio, ni allwch ei wrthdroi.

Sicrhewch eich bod yn deall y risgiau i’ch helpu i wneud penderfyniad hyddysg. Darganfyddwch fwy am ystyried trosglwyddo pensiwn ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 756 1012 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrsYn agor mewn ffenestr newydd. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

 

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig

Beth gallwch a beth na allwch ei drosgwyddo

Os oes gennych gynllun pensiwn sector cyhoeddus ‘nad yw’n cael ei ariannu’, byddwch dim ond yn gallu trosglwyddo eich pensiwn i gynllun buddion wedi’u diffinio arall (a ddim lle arall).

Mae cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus nad ydynt yn cael eu hariannu yn cynnwys y Cynllun Pensiwn Athrawon a Chynllun Pensiwn y GIG.

Efallai byddwch yn gallu trosglwyddo’ch pensiwn i unrhyw fath o gynllun os ydych mewn:

  • cynllun buddion wedi’u diffinio sector preifat
  • cynllun pensiwn sector cyhoeddus sy’n cael ei ariannu (fel y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol).

Mae rhai amddiffyniadau wedi’u sefydlu ar gyfer y cynlluniau hyn. Os ydych yn parhau i weithio i gyflogwr y cynllun pensiwn, fel arfer, ni fyddwch yn gallu trosglwyddo’ch pensiwn. Efallai na fyddwch hefyd yn gallu os oes gennych lai na blwyddyn cyn y bydd gennych hawl arferol i ddechrau derbyn incwm o’r pensiwn.

Nol i’r brig

Byddwch yn wyliadwrus rhag sgamiau pensiwn

Efallai y bydd eich pensiwn yn un o’ch asedau mwyaf gwerthfawr. I lawer o bobl mae’n cynnig sicrwydd ariannol trwy gydol eich ymddeoliad ac am weddill eu oes.

Ond mae sgamwyr pensiwn yn glyfar ac yn gwybod yr holl driciau i’ch cael i drosglwyddo’ch cynilion. Gallant dargedu unrhyw un, gan bwyso arnoch i drosglwyddo’ch cynilion pensiwn, yn aml i un buddsoddiad.

Mae’r llywodraeth bellach wedi gwahardd galw diwahoddiad am bensiynau felly, os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n annisgwyl ac yn dweud y gallant eich helpu i gael mynediad i’ch cronfa cyn 55 oed (57 o Ebrill 2028), mae’n debygol o fod yn sgam pensiwn a dylech eu hanwybyddu.

Gallech golli’ch holl arian ac wynebu tâl treth o hyd at 55% o’r swm a gymerwyd allan neu a drosglwyddwyd ynghyd â thaliadau pellach gan eich darparwr.

Gall y buddsoddiadau fod dramor, lle nad oes gennych unrhyw ddiogelwch i ddefnyddwyr, a gallent addo cyfradd enillion uchel wedi’i gwarantu i chi (7 neu 8% neu’n uwch yn nodweddiadol). Mae’r rhain yn aml yn fuddsoddiadau ffug sydd ddim yn bodoli neu sydd â risg uchel iawn ag enillion isel. Gallent fod mewn cynhyrchion moethus, eiddo, datblygiadau gwestai, datrysiadau amgylcheddol neu storio, a pharcio.

Byddwch yn ymwybodol os byddwch wedi trosglwyddo’ch pensiwn i fuddsoddiad sy’n cael ei ddefnyddio fel rhan o sgam, mae’n aml yn rhy hwyr.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i adnabod sgam pensiwn.

Back to top

Manteision cynlluniau buddion wedi’u diffinio

  • Rhoi lefel sicr o incwm pensiwn am oes, felly nid oes risg y byddwch yn rhedeg allan o arian ar ôl ymddeol.

  • Darparu incwm i’ch dibynyddion ariannol ar ôl i chi farw, fel arfer. Mae rheolau’r cynllun yn amrywio, ond fel arfer byddant yn cael cyfran (er enghraifft hanner neu ddeuparth) yr incwm pensiwn roeddech yn ei dderbyn cyn i chi farw.

  • Mae’r incwm fel arfer yn cynyddu dros amser, gan helpu i ddiogelu pŵer gwario eich arian rhag chwyddiant. Unwaith eto, mae rheolau’r cynllun yn amrywio ond mae lleiafsymiau o gynnydd y mae rhaid i bob cynllun eu darparu.

  • Nid yw cynnydd a dirywiad y farchnad stoc yn effeithio ar eich incwm pensiwn. Mae buddsoddiadau’r cynllun yn cael eu rheoli gan weithwyr proffesiynol a hyd yn oed os ydynt yn perfformio’n wael, mae rhaid i’ch cyflogwr dalu eich incwm gwarantedig yn llawn. 

Nol i’r brig

Risgiau ynglwm â throsglwyddo i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio

Os ydych yn trosglwyddo i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio, byddwch yn rhoi’r gorau i incwm gwarantedig am oes sydd fel arfer yn cynyddu i ddiogelu rhag effaith chwyddiant, er mwyn incwm yn y dyfodol na ellir ei rhagweld ag unrhyw sicrwydd.

Mewn cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio , bydd unrhyw incwm yn y dyfodol yn dibynnu ar berfformiad y buddsoddiadau lle mae eich arian. Mae amser o bwys hefyd. Bydd y buddsoddiad yn newid rhwng pryd trosglwyddir gwerth yr arian a phryd byddwch yn dechrau cymryd incwm ac yn ymddeol.

Os ydych yn trosglwyddo o gynllun buddion wedi’u diffinio i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio, byddwch yn gyfrifol am ddewis ble i fuddsoddi’ch arian neu bydd rhaid i chi dalu rhywun i’ch helpu i wneud hynny.

Bydd rhaid i chi hefyd dalu costau rhedeg y pensiwn ac unrhyw gostau buddsoddi. Mae y sut mae’ch buddsoddiadau’n perfformio, a’r costau rydych yn eu talu, yn effeithio ar ba mor hir y gallai’ch pensiwn, a’r incwm ohono, bara.

Ac mae risg na fydd y pensiwn yn para cyhyd â bydd ei angen arnoch.

Mae trosglwyddo o gynllun buddion wedi’u diffinio i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio yn benderfyniad anghildroadwy - ni allwch newid eich meddwl yn nes ymlaen os ydych yn difaru gwneud y penderfyniad i trosglwyddo.

Rydym yn argymell yn gryf cael cyngor ar gyfer y mathau hyn o drosglwyddiad ac yn y rhan fwyaf o achosion mae’r gyfraith yn gofyn i chi wneud hynny. 

Nol i’r brig

Pryderon am gynlluniau buddion wedi’u diffinio

Nid yw aros mewn cynllun pensiwn buddion wedi’i ddiffinio’n ddi-risg - mae rhai cyflogwyr sy’n noddi’r cynlluniau hyn wedi mynd i’r wal. Fodd bynnag mae’r math hwn o gynllun fel arfer yn cael ei ddiogelu gan y Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF).

Gallai’r PPF gamu i’r adwy a thalu incwm ymddeol aelodau fel iawndal os bydd cyflogwyr yn mynd yn fethdalwyr ac nad oes gan y cynllun ddigon o arian i dalu eu buddion.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y Gronfa Diogelu Pensiwn.

Nol i’r brig

Rhesymau mae rhai pobl yn ystyried trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio

Er gwaethaf y sicrwydd a gewch o bensiynau buddion wedi’u diffinio, mae rhai  pobl yn ystyried rhoi’r gorau i’w hawliau pensiwn buddion wedi’u diffinio yn gyfnewid am werth arian.

Os ydych yn ystyried trosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio dylech ceisio cyngor ariannol rheoleiddiedig.

Bydd ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig yn edrych ar eich anghenion penodol a’ch helpu i ddeall sut bydd trosglwyddo’n gweddu i’ch amcanion, eich cyllun ymddeoliad, a’ch lles yn y tymor hir, ai beidio

Byddwch yn ymwybodol mai sefyllfa ddiofyn cynghorwyr ariannol fydd na fydd er budd y rhan fwyaf o bobl i ildio’u pensiwn buddion wedi’u diffinio ar gyfer cyfwerth ag arian parod.

Fodd bynnag, bydd adegau pan all wneud synnwyr, yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Er mwyn eich helpu i ddeall manteision ac anfanteision trosglwyddo, yn seiliedig ar eich anghenion penodol, mae’n fuddiol (ac yn aml yn orfodol) ceisio cyngor ariannol rheoledig.   

Rheolaeth a’r gallu i reoli incwm yn unol ag anghenion unigol

Gyda phensiwn buddion wedi’u diffinio, cewch incwm gwarantedig am oes, ond mae’r swm yn sefydlog. Mae hyn yn golygu na allwch gymryd mwy neu lai o arian os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Gyda phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gallwch ddefnyddio’ch pensiwn fel y dymunwch - fel arfer pan gyrhaeddwch 55 oed (57 oed o Ebrill 2028).

Mae hyn yn golygu y gallech:

  • brynu incwm gwarantedig (blwydd-dal)
  • sefydlu incwm ymddeol hyblyg a thynnu’ch arian allan yn ôl yr angen
  • cymryd cyfandaliad
  • defnyddio cymysgedd o’r opsiynau hyn.

Byddwch yn ymwybodol bod eich arian yn parhau i gael ei fuddsoddi, felly gall ostwng yn ogystal â chynyddu mewn gwerth.

Gallai bod â mwy o hyblygrwydd hefyd olygu bod rhaid i chi gyfaddawdu mewn meysydd eraill, fel lefel yr incwm y gallwch ei gymryd. Mae hyn yn golygu y gallech ei chael yn anodd cyflawni’r ymddeoliad rydych ei eisiau.

Nid hyblygrwydd yw popeth serch hynny. Oni bai bod gennych incwm arall gallwch ddibynnu arno ar ôl ymddeol i ddiwallu eich anghenion gwariant. Neu mae angen i chi reoli’ch incwm yn wahanol oherwydd amgylchiadau personol ac ariannol ehangach, fel eich iechyd neu at ddibenion cynllunio cyfoeth/treth. Gallai trosglwyddo fod yn opsiwn. Ond nid yw eisiau hyblygrwydd ychwanegol yn rheswm da ynddo ei hun i ystyried trosglwyddiad.

Iechyd

Os oes gennych gyflwr iechyd sy’n golygu y gallai eich disgwyliad oes fod yn is na’r cyfartaledd, gallai trosglwyddo allan fod yn opsiwn oherwydd efallai na fyddech yn derbyn yr un gwerth o’r pensiwn â’r rhan fwyaf o bobl.

Pan fydd y cynllun yn cyfrifo’r gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod (y swm y byddech yn ei dderbyn pe byddech yn trosglwyddo allan), dylai’r gwerth arian parod rydych yn cael ei gynnig adlewyrchu (yn fras) disgwyliad oes person cyffredin mewn iechyd da.

Gallai hyn fod yn fwy o arian na’r swm y byddai’n ei gostio i’r cynllun dalu incwm pensiwn i chi bob blwyddyn pe byddech yn aros yn y cynllun ond yn marw cyn y disgwyliad oes ar gyfartaledd.

Os trosglwyddwch yr arian i bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gallai fod yn bosibl cymryd incwm uwch o ystyried eich disgwyliad oes byrrach. Ac efallai y bydd yn bosibl gadael rhywfaint o arian i’ch teulu.

Fodd bynnag, os oes gennych ddibynyddion ariannol ac y byddent yn gymwys i dderbyn incwm pensiwn ar ôl i chi fynd, byddai trosglwyddo allan yn golygu y gallent fod yn waeth eu byd yn y tymor hir ar ôl i chi farw. 

Trosglwyddo arian i’ch anwyliaid

Bydd eich incwm pensiwn buddion wedi’u diffinio yn dod i ben pan fyddwch chi ac unrhyw ddibynyddion ariannol yn marw. Yn y rhan fwyaf o achosion mae hyn yn golygu pan fyddwch chi (ac unrhyw ddibynyddion ariannol fel eich gweddw) farw, bydd eich pensiwn yn marw â chi. Ac nid oes unrhyw beth i’w drosglwyddo i’ch teulu.

Fodd bynnag, gall pwy bynnag a ddewiswch etifeddu unrhyw arian sydd ar ôl mewn pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Gall hyn apelio oherwydd os byddwch farw cyn 75 oed, y gellir trosglwyddo unrhyw beth sydd ar ôl yn eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn ddi-dreth.

Mae risg na fydd arian ar ôl yn y pensiwn pan fyddwch farw, yn enwedig os oes angen i’r pensiwn ddarparu incwm i’ch gweddw ar ôl eich marwolaeth. Felly nid yw trosglwyddo unrhyw beth ymlaen wedi ei warantu. 

Nol i’r brig

Cymhellion i drosglwyddo

Mae cymhelliad i drosglwyddo’n gymhelliad ariannol a gynigir gan eich cyflogwr i drosglwyddo allan o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio.

Gallai hwn fod ar ffurf:

  • taliad arian parod sy’n ychwanegol i’r gwerth trosglwyddo
  • cynnydd yng ngwerth trosglwyddo cyfrifedig eich buddion yn y cynllun (‘gwerth trosglwyddo uwch’).

Efallai na fydd hyn bob amser cystal ag y mae’n edrych. Mae’n bwysig meddwl yn ofalus am oblygiadau tymor hir cymhelliant trosglwyddo cyn derbyn unrhyw gynnig.

Efallai y cewch ddewis a ydych am drosglwyddo’r holl werth uwch i gynllun pensiwn arall neu gymryd y cymhelliad trosglwyddo fel arian parod.

Os byddwch yn cymryd y cymhelliad trosglwyddo fel arian parod:

  • efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol arno
  • byddwch yn derbyn llai o bensiwn na phe baech yn derbyn y cymhelliad fel rhan o’r gwerth trosglwyddo.

Ymhob achos, mae’ch cyflogwr yn edrych i leihau costau rhedeg eu cynllun pensiwn gweithle trwy symud rhwymedigaethau yn y dyfodol (eich buddion pensiwn yn y dyfodol) allan o’r cynllun.

Os yw’ch cyflogwr yn cynnig cymhelliant trosglwyddo i chi, mae disgwyl iddynt ddilyn cod ymddygiad. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn gallu gwneud penderfyniad hyddysg am yr hyn sydd orau i chi, heb i’r cyflogwr roi pwysau arnoch i drosglwyddo.

Elfen bwysig o’r cod ymddygiad yw y dylai’ch cyflogwr gynnig mynediad i chi at gyngor ariannol rheoledig. Mae hyn er mwyn eich helpu i benderfynu a ddylid trosglwyddo'ch buddion pensiwn i gynllun newydd. Dylai eich cyflogwr dalu am y cyngor ariannol hwn.

Nol i’r brig

Cymhellion eraill

Mae cymhellion i newid buddion cynllun yn dod yn fwy cyffredin hefyd.

Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ildio cynnydd uwchben yr isafswm statudol ar ôl i chi ymddeol yn gyfnewid am bensiwn cyfradd safonol uwch o fewn y cynllun.

Gelwir hyn yn gyfnewid cynnydd pensiwn neu arnewid cynnydd pensiwn.

Os derbyniwch y cynnig, telir eich pensiwn ar y gyfradd newydd am weddill eich oes – ond heb, er enghraifft, unrhyw godiadau blynyddol yn y dyfodol. Gallai hyn leihau pŵer prynu eich arian oherwydd chwyddiant.

Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gynnig mynediad i chi at gyngor ariannol rheoledig os yw’r cynnig yn cwrdd â safonau gofynnol penodol a nodir yn y cod ymarfer a’ch bod wedi cael cynnig rhywfaint o arweiniad.

Mae’r Rheoleiddiwr Pensiwn wedi nodi pum egwyddor allweddol y mae’n disgwyl eu dilyn mewn unrhyw ymarfer cyfnewid cymhelliant trosglwyddo neu gynyddu pensiwn. Darganfyddwch fwy am gynllun ymarfer cymhelliad am gyflogwyrYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Sut mae’n gweithio os wyf eisiau trosglwyddo?

Y cam cyntaf yw darganfod eich gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod (CETV). Dyma’r gwerth arian parod y bydd y cynllun yn ei gynnig i chi fel cyfnewid i chi ildio’ch hawliau pensiwn buddion wedi’u diffinio.

Gallwch gael hyn trwy ofyn i weinyddwr eich cynllun neu’ch darparwr pensiwn. Efallai y byddant yn gofyn i chi wneud hyn yn ysgrifenedig ac yn rhoi ffurflen i chi y bydd angen i chi ei llenwi.

Os ydych yn gymwys i gael CETV, mae rhaid darparu hwn cyn pen tri mis ar ôl i chi ofyn am werth trosglwyddo.

Yna bydd gweinyddwr y cynllun neu’r darparwr pensiwn yn rhoi Datganiad o Hawl i chi. Mae hon yn ddogfen ysgrifenedig sy’n nodi:

  • gwerth eich trosglwyddiad
  • manylion y buddion rydych wedi’u cronni o dan y cynllun
  • gwybodaeth y bydd ei hangen ar eich cynllun newydd os penderfynwch fwrw ymlaen â’r trosglwyddiad.

Efallai y bydd ffurflenni ychwanegol hefyd wedi’u cynnwys i ddechrau’r broses drosglwyddo.

Gwarantir y gwerth trosglwyddo am dri mis. Mae rhaid eich bod wedi gadael eich cynllun a pheidio â bod yn aelod gweithredol i hyn fod yn berthnasol. Os ydych yn dal i fod yn aelod gweithredol, ni fydd y gwerth trosglwyddo gwarantedig yn berthnasol.

Os byddwch yn penderfynu trosglwyddo i gynllun newydd, mae angen prawf ar weinyddwr eich cynllun neu ddarparwr pensiwn eich bod wedi cymryd cyngor arian rheoledig os:

  • mae eich pensiwn yn werth mwy na £30,000, ac
  • rydych yn trosglwyddo i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio.

Ond efallai y byddant yn mynnu eich bod yn cael cyngor cyn derbyn trosglwyddiad, hyd yn oed os yw eich pensiwn yn werth llai neu os ydych yn trosglwyddo i gynllun buddion wedi’u diffinio gwahanol.

Oherwydd y llinellau amser dan sylw mae’n syniad da siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig cyn i chi ddechrau’r broses o gael gwerth trosglwyddo. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gellir rhoi unrhyw gyngor ariannol mewn modd amserol ac yn caniatáu digon o amser i chi ystyried y cyngor heb gael eich rhuthro.

Pan dderbynnir yr holl waith papur sydd ei angen ar y cynllun, bydd rhaid iddynt dalu’r buddion i’r cynllun newydd cyn pen chwe mis o ddechrau’r broses drosglwyddo.

Os na fyddwch yn cwblhau’r broses drosglwyddo o fewn y cyfnod o dri mis y mae’r CETV wedi’i warantu ar ei gyfer, efallai y bydd rhaid i chi wneud cais am CETV arall. Efallai y bydd cost am hyn. Gallai hyn ohirio’r trosglwyddiad a gallai’r CETV fod yn uwch neu’n is na’r swm blaenorol. Gallai hyn olygu y bydd angen ailasesu unrhyw gyngor a ddarparwyd.

Pan fyddwch wedi trosglwyddo i gynllun newydd, byddwch fel arfer wedi ildio’r holl fuddion o dan yr hen gynllun. Bydd rhai cynlluniau yn caniatáu i chi drosglwyddo dim ond rhan o’ch buddion. Bydd angen i chi wirio â’ch darparwr i weld a ydynt yn cynnig yr opsiwn hwn.

Fel rheol, gallwch drosglwyddo pensiwn buddion wedi’u diffinio i gynllun pensiwn newydd ar unrhyw adeg hyd at flwyddyn cyn y dyddiad pan fydd disgwyl i chi ddechrau cymryd eich pensiwn.

Pan ddechreuwch gymryd eich pensiwn, ni allwch symud eich pensiwn i rywle arall fel rheol.

Nid yw pob cynllun pensiwn cyflogwr, pensiynau personol na phensiynau personol hunan-fuddsoddedig yn derbyn trosglwyddiadau. Felly mae’n bwysig gwirio yn gyntaf. Efallai y bydd hefyd yn bosibl trosglwyddo’ch buddion i drefniant pensiwn dramor.

Back to top

Cael cyngor

Os ydych yn ystyried trosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio neu asesu cynnig cymhelliant, mae’n bwysig cael cyngor ariannol. Ni fydd rhai cynlluniau yn derbyn trosglwyddiadau oni bai eich bod yn gwneud hynny.

Os  cewch gyngor gan gynghorydd rheoledig a bod pethau’n mynd o chwith neu os yw’r hyn a ddewiswyd ar eich cyfer yn anghywir, byddwch yn gallu defnyddio’r trefniadau cwynion ac iawndal sydd ar gael.

Os yw’ch cyflogwr wedi cysylltu â chi ynghylch ymarfer cymhelliant, mae’n arfer da iddynt ddarparu mynediad at gynghorydd ariannol rheoledig am ddim, ond ni fydd pob un yn gwneud.

Gallwch ddewis eich cynghorydd ariannol eich hun, ond os gwnewch hynny, bydd rhaid i chi dalu.

Pan fyddwch yn gofyn i ymddiriedolwyr eich cynllun pensiwn am drosglwyddiadau pensiwn, bydd y wybodaeth a gewch yn ymwneud â throsglwyddiadau pensiwn yn gyffredinol. Ni fydd yn benodol i’ch anghenion a’ch amgylchiadau.

Mae rhaid i gwmnïau sy’n eich cynghori ar drosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi’u diffinio i bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio feddu ar wybodaeth arbenigol yn y maes hwn. Gallwch ofyn iddynt a ydynt yn gymwys yn y maes hwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses drosglwyddo, siaradwch â ni. Fodd bynnag, ni allwn roi cyngor i chi ynghylch a ddylech drosglwyddo ai peidio, neu ble y dylech fuddsoddi.

Back to top

Beth i’w ddisgwyl gan gynghorydd ariannol

Bydd y cynghorydd yn trafod eich amgylchiadau personol a’ch sefyllfa ariannol â chi, gan gynnwys y lefel o risg rydych yn teimlo’n gyfforddus â hi.

Dylent hefyd:

  • cymharu’r buddion y gallwch eu hildio os byddwch yn trosglwyddo allan o gynllun buddion wedi’u diffinio â’r buddion y gallwch eu cael os byddwch yn trosglwyddo i gynllun gweithle presennol neu bensiwn personol/cyfranddeiliaid newydd neu bresennol
  • asesu i ba lefel y mae eich cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio wedi’i ariannu, y risg y gallai buddion gael eu lleihau a’r effaith ar unrhyw werth trosglwyddo a gynigir
  • gwirio’r gwahaniaeth rhwng trefniadau buddion wedi’u diffinio a chyfraniadau wedi’u diffinio
  • rhoi crynodeb i chi o fanteision ac anfanteision eu hargymhelliad
  • gofyn a ydych wedi trafod eich penderfyniad â’ch priod neu bartner sifil gan ei bod yn debygol y bydd yn effeithio arnynt hwy hefyd
  • gwirio eich holl ddewisiadau.

Mae bob amser yn syniad da i siarad â mwy nag un cynghorydd, oherwydd efallai bydd eu costau a’r gwasanaethau yn wahanol.

Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn delio â chynghorwyr ariannol sy’n cael eu rheoleiddio a’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (y rheoleiddiwr gwasanaethau ariannol).

Bydd y cwmnïau hyn yn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth ymlaen llaw ac ‘hyd braich’ fel nad ydych o dan unrhyw ddylanwad gormodol. Mae hyn yn caniatáu i chi wneud penderfyniad hyddysg p’un ai i ofyn am gyngor ariannol proffesiynol ai peidio ar drosglwyddo neu drosi eich buddion pensiwn cyn i chi orfod talu unrhyw gostau.

Os hoffech gwyno am gyngor ariannol a gawsoch, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Delio â phroblemau pensiwn a gwneud cwyn
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Adeiladu eich cronfa bensiwn

Trosglwyddo ac uno pensiynau

  • Trosglwyddo pensiwn ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
  • Symud eich pensiwn o’r DU dramor
  • Trosglwyddiadau pensiwn y DU
  • Beth i'w wneud os caiff eich trosglwyddiad pensiwn ei atal neu ei oedi
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Trosglwyddo ac uno pensiynau

  • Trosglwyddo pensiwn ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
  • Symud eich pensiwn o’r DU dramor
  • Trosglwyddiadau pensiwn y DU
  • Beth i'w wneud os caiff eich trosglwyddiad pensiwn ei atal neu ei oedi
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau