Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Adeiladu eich cronfa bensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Adeiladu eich cronfa bensiwn

Symud pensiwn o’r DU dramor neu symud pensiwn tramor i'r DU

A ydych yn ystyried gadael y DU i fyw mewn gwlad arall, neu a ydych wedi bod yn gweithio yn y DU am gyfnod ac yn awr yn symud dramor? Yna efallai hoffech edrych ar yr opsiwn o symud eich pensiwn i wlad arall.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pam gallech ystyried symud eich pensiwn dramor?
  • Beth yw’r opsiynau ar gyfer trosglwyddo pensiwn dramor?
  • Treth wrth drosglwyddo i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys (QROPS)
  • QROPS a’r lwfans trosglwyddo tramor (OTA)
  • Beth fydd yn digwydd os trosglwyddaf i gynllun tramor nad yw'n QROPS?
  • A wyf yn rhydd o reolau a threthi y DU ar fy mhensiynau os trosglwyddaf?
  • QROPS a diogelu defnyddwyr
  • Dewis ymgynghorydd ariannol
  • Trosglwyddo pensiynau i'r DU o wlad arall
  • A fydd rhaid i mi dalu treth pan drosglwyddaf fy mhensiwn?
  • A fydd Brexit yn cael effaith arnaf wrth drosglwyddo fy mhensiwn i’r DU ?
  • Pryd a sut allai gael mynediad i arian yn y DU?

Os symudwch dramor, nid oes rhaid i chi drosglwyddo’ch pensiwn o’r DU. Gallwch ddewis ei adael yn y DU ac yna cymryd incwm ohono. Fodd bynnag, gallai fod buddion o symud eich pensiwn dramor. Darganfyddwch beth yw eich opsiynau, beth allai'r buddion fod a beth sydd angen i chi feddwl amdano. 

Pam gallech ystyried symud eich pensiwn dramor?

Os ydych yn byw dramor neu’n ystyried symud dramor, efallai y byddwch yn ystyried symud neu ‘drosglwyddo’ i bensiwn y tu allan i’r DU:

  • Efallai hoffech i’ch pensiynau fod yn y wlad rydych yn ymddeol iddi, fel na fyddwch yn derbyn incwm mewn punnoedd ac yn gwario mewn arian breiniol gwahanol (oherwydd gall cyfraddau cyfnewid amrywio).
  • Efallai y bydd yn haws i chi hefyd gadw golwg ar newidiadau treth a rheoleiddio os ydynt yn digwydd yn y wlad lle rydych yn byw.
  • Efallai eich bod yn gweithio y tu allan i’r DU i gyflogwr sy’n cynnig pensiwn ac rydych yn hoffi’r buddion a gynigir.

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 756 1012 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrsYn agor mewn ffenestr newydd. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

 

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig

Beth yw’r opsiynau ar gyfer trosglwyddo pensiwn dramor?

Os ydych yn ystyried symud eich pensiwn dramor, argymhellir yn gryf eich bod yn cael cyngor ariannol rheoledig cyn trosglwyddo'ch pensiwn y tu allan i'r DU.

Efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i ymgynghorydd yn y DU a all eich helpu, yn ogystal ag ymgynghorydd yn y wlad rydych am symud eich pensiwn iddi.

Os ydych am drosglwyddo’ch pensiwn dramor, mae nifer o reolau a chyfyngiadau mae rhaid i chi gydymffurfio â hwy, fel y gosodir gan CThEM.

Bydd angen i chi drosglwyddo i ‘gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys’ (QROPS). Cynllun pensiwn tramor yw QROPS sy’n cwrdd â rheolau CThEM i dderbyn trosglwyddiadau o gynlluniau pensiwn cofrestredig yn y DU.

Darganfyddwch fwy am drosglwyddo i bensiwn QROPS ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd  

Mae’r amodau’n cynnwys bod ar gael i drigolion y wlad honno a pheidio â gallu cymryd arian ohoni cyn 55 oed heblaw o dan amgylchiadau arbennig.

I wirio a yw pensiwn yn QROPS, gwelwch y rhestr o gynlluniau sydd wedi dweud wrth CThEM eu bod yn cwrdd â'r amodauYn agor mewn ffenestr newydd i fod yn Gynllun Pensiwn Tramor Cydnabyddedig (ROPS) ar GOV.UK 

Pethau i feddwl amdanynt

Os symudwch dramor, nid oes rhaid i chi drosglwyddo’ch cronfa bensiwn yn y DU. Gallwch ddewis ei adael yn y DU ac yna cymryd incwm ohono yn y DU:

  • Gellir rheoli risg arian breiniol a chomisiwn cyfnewid trwy sefydlu cyfrif cyfnewid tramor a throsglwyddo arian i'ch arian lleol, yn ôl yr angen.
  • Os ydych yn trosglwyddo'ch pensiwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y nodweddion a’r opsiynau yn y cynllun newydd rydych yn trosglwyddo iddo a sut mae’n wahanol i’ch pensiwn cyfredol.
  • Cadwch lygad am unrhyw daliadau y gallech eu talu i wneud y trosglwyddiad a gwirio beth yw’r taliadau sefydlu a pharhaus ar y pensiwn newydd.
  • Ymhob achos, argymhellir y dylech gael cyngor ariannol rheoledig cyn trosglwyddo'ch pensiwn y tu allan i’r DU oherwydd gall rhai o’r materion hyn fod yn gymhleth. Mae rhaid i chi gael cyngor ariannol rheoledig os ydych am drosglwyddo o’r rhan fwyaf o bensiynau buddion wedi’u diffinio ac o rai cronfeydd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio sy’n cynnwys gwarant ar faint o incwm y byddwch yn ei gael. Mewn rhai achosion, gallai hyn arwain at gael cyngor rheoledig yn y DU a'r wlad rydych yn trosglwyddo iddi.  Gall safonau cyngor amrywio mewn gwahanol wledydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hyderus o statws proffesiynol, cymwysterau a phrofiad unrhyw ymgynghorydd rydych yn siarad ag ef.
  • Ers 2013, ni chaniateir i ymgynghorwyr rheoledig yn y DU godi comisiwn ac mae rhaid iddynt fod yn agored ynghylch y ffioedd y byddant yn eu codi arnoch am gyngor pensiynau. Nid yw hyn yn wir ym mhob gwlad.
  • Dylech hefyd gadw llygad am ffioedd eraill, megis comisiwn parhaus o’ch buddsoddiadau a newid taliadau.
  • Darganfyddwch hefyd sut y bydd y QROPS yn buddsoddi'ch arian ac a oes gennych unrhyw ddewis yn y math o fuddsoddiadau. Ystyriwch lefel y risg rydych yn hapus â hi. Cofiwch y gallech fod yn waeth eich byd os trosglwyddwch eich pensiwn dramor.
  • Mae'r rheolau ynghylch faint y byddwch yn cael eich trethu a phryd y gallwch dynnu arian o'r pensiwn yn wahanol o wlad i wlad. A gall trosglwyddiadau i QROPS fod yn destun nifer o daliadau treth fel y’u rhestrir isod.
Nol i’r brig

Treth wrth drosglwyddo i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys (QROPS)

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch drosglwyddo heb dalu unrhyw dreth. Ond mewn eraill, bydd rhaid i chi dalu treth o 25% ar y trosglwyddiad.

Fel rheol, byddwch yn gallu trosglwyddo’n ddi-dreth os :

  • ydych yn preswylio yn y wlad rydych yn ei throsglwyddo i QROPS ynddi 
  • yw'r cyflogwr sy’n noddi yn darparu’r QROPS rydych yn trosglwyddo iddo . 

Os nad yw'r cynllun rydych yn trosglwyddo allan ohono yn derbyn y gwaith papur cywir, mae rhaid iddynt godi’r 25% ar drosglwyddo beth bynnag. A bydd rhaid i chi wneud cais am ad-daliad trwy eich cynllun yn nes ymlaen.

Os ydych wedi'ch eithrio o’r tâl wrth drosglwyddo ond bydd eich amgylchiadau’n newid o fewn pum mlynedd, megis symud i wlad arall neu symud eich QROPS i wlad arall, efallai bydd rhaid i chi dalu’r tâl treth o 25% ar y pwynt hwnnw.

Fel arfer bydd rhaid i chi dalu tâl treth o 25% am drosglwyddo os:

  • Ydych yn trosglwyddo i QROPS sydd wedi'i leoli mewn gwlad nad ydych yn byw ynddi, neu os byddwch yn dod yn ddibreswyl o fewn pum mlynedd i'r trosglwyddiad. Gallwch wneud cais am ad-daliad os byddwch yn symud i'r wlad y mae eich QROPS wedi'i lleoli ynddi o fewn pum mlynedd i'r trosglwyddiad.
  • Ydych yn trosglwyddo i QROPS sydd wedi’i leoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu Gibraltar ac nad ydych yn preswylio yn y wlad y mae’r QROPS wedi'i lleoli ynddi. (Gallwch wneud cais am ad-daliad os byddwch yn symud i’r wlad mae eich QROPS wedi’i lleoli ynddi cyn pen pum mlynedd ar ôl trosglwyddo). 
Darganfyddwch fwy am y taliadau treth pan fyddwch yn trosglwyddo ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

QROPS a’r lwfans trosglwyddo tramor (OTA)

Daeth ‘lwfans trosglwyddo tramor’ (OTA) newydd i rym o 6 Ebrill 2024. Mae hwn wedi disodli gwiriadau blaenorol a wnaed yn erbyn y lwfans oes.

Yr OTA ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 yw £1,073,100. Os byddwch yn mynd dros hyn wrth drosglwyddo arian o gynllun pensiwn y DU i QROPS, byddwch yn talu tâl treth o 25% ar y swm dros ben.

Os gwnaethoch drosglwyddo arian o’ch pensiwn dramor cyn 6 Ebrill 2024, efallai y bydd eich lwfans yn wahanol o dan y rheolau lwfans oes blaenorol.

Os ydych o dan 75 oed ac yn trosglwyddo i bensiwn cofrestredig yn y DU o QROPS, bydd hyn fel arfer yn arwain at gynnydd i’ch OTA. Mae llywodraeth y DU yn dal i gwblhau manylion sut mae hyn yn gweithio. Os gallai un o’r sefyllfaoedd hyn fod yn berthnasol i chi, rydym yn argymell eich bod yn siarad â chynghorydd ariannol rheoledig.

Nol i’r brig

Beth fydd yn digwydd os trosglwyddaf i gynllun tramor nad yw'n QROPS?

Os trosglwyddwch i bensiwn tramor ac nid yw’n QROPS, fel arfer cewch eich dosbarthu fel gwneud taliad anawdurdodediwg o’ch pensiwn. Gallai hyn arwain at dâl treth anawdurdodedig o 55%, â'r posibilrydd o gosbau ychwanegol.

Mae trosglwyddiad o’r fath hefyd yn annhebygol o gael ei reoleiddio ac mae’n debygol o'ch gadael yn methu â chael iawndal.

Efallai y byddwch hefyd yn cael eich hun mewn buddsoddiadau peryglus. Yn fyr, y gwaethaf a allai ddigwydd yw eich bod yn colli'ch holl arian ac yn dal i gael eich hun â thâl treth i’w dalu.

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau – peidiwch â gweithredu ar gyngor rhywun sydd wedi cysylltu â chi yn annisgwyl, a delio â chynghorydd ariannol rheoledig bob amser.

Darganfod sut i adnabod, osgoi a rhoi gwybod am sgamiau pensiwn yn ein canllaw Sut i adnabod sgam pensiwn
Nol i’r brig

A wyf yn rhydd o reolau a threthi y DU ar fy mhensiynau os trosglwyddaf?

Wrth drosglwyddo, bydd gan eich QROPS ofyniad rhoi gwybod am ddeng mlynedd i CThEM. Felly os byddwch yn torri rheolau QROPS, fel cymryd arian o’r pensiwn cyn 55 oed, gallech orfod talu tâl treth o 55% ynghyd â chosbau.

Ar gyfer pobl sydd wedi trosglwyddo i QROPS cyn 6 Ebrill 2017, mae rhaid i chi fod wedi bod yn preswylio y tu allan i’r DU am bum mlynedd dreth yn olynol erbyn i chi ddod i gymryd arian o’r pensiwn. Estynnwyd y cyfnod preswylio y tu allan i'r DU i ddeng mlynedd dreth yn olynol ar gyfer y rhai sy’n trosglwyddo ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn breswylydd am fwy na 10 mlynedd dreth lawn, gall taliadau treth y DU fod yn berthnasol o hyd os cymerwch arian o QROPS lai na phum mlynedd ers i'r cronfeydd gael eu trosglwyddo o gynllun pensiwn cofrestredig yn y DU.

Os ydych yn preswylio yn y DU pan fyddwch yn cymryd arian o’ch QROPS, mae’n debygol y bydd hyn yn destun Treth Incwm y DU.

Os ydych yn preswylio dramor, bydd angen i chi wirio’r rheolau treth ar gyfer y wlad honno a’r wlad lle mae’ch QROPS wedi'i seilio hefyd. Cyn i chi drosglwyddo, gwiriwch pa dreth y byddwch yn ei thalu ar yr incwm pensiwn.

Nol i’r brig

QROPS a diogelu defnyddwyr

Pan gewch gyngor ariannol rheoledig yn y DU, rydych yn cael eich diogelu gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a gallwch gwyno yn erbyn cyngor gwael i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).

Os oes gennych gŵyn mewn perthynas â sut mae’ch cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU yn cael ei redeg, gallwch hefyd gwyno i'r FOS neu'r Ombwdsmon Pensiynau.

Os cewch gyngor gan ymgynghorydd a reoleiddir mewn gwlad arall, bydd rhaid cyflwyno unrhyw gŵyn a wnewch yn erbyn y cyngor i'r awdurdodau yn y wlad honno.

Os oes gennych gŵyn ynglŷn â sut mae’ch QROPS yn cael ei redeg, bydd rhaid i chi gwyno i'r rheolydd yn y wlad mae'r QROPS wedi'i lleoli.

Nol i’r brig

Dewis ymgynghorydd ariannol

Ar gyfer ymgynghorwyr yn y DU, gallwch chwilio yn ôl cod post ac yna defnyddio hidlydd i chwilio am y rhai sydd ag arbenigedd mewn cyllid alltud yn y cyfeirlyfrau canlynol:

  • Personal Finance Society
  • HelpwrArian

Y tu allan i’r DU, efallai y gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd Saesneg ei iaith .   

Nol i’r brig

Trosglwyddo pensiynau i'r DU o wlad arall

Os ydych wedi cronni pensiwn mewn gwlad arall ac yn byw yn y DU bellach, efallai eich bod yn meddwl a allwch ddod â hyn â chi.

A gaf i drosglwyddo fy mhensiynau o wlad arall i'r DU?

Mae'n bosibl trosglwyddo i gynllun pensiwn cofrestredig y DU o gynllun pensiwn tramor (y tu allan i’r DU). Fodd bynnag, bydd yn dibynnu ar delerau’r cynllun pensiwn rydych am drosglwyddo iddo a ydynt am dderbyn y trosglwyddiad. Ac efallai y bydd yn anodd i chi ddod o hyd i ddarparwr pensiwn sy’n barod i dderbyn yr arian.

Efallai y bydd angen i’r darparwr pensiwn gynnal gwiriadau gwrth-wyngalchu arian i wirio ffynhonnell yr arian sy'n cael ei drosglwyddo.

Pan fydd pensiwn eisoes yn cael ei dalu dramor, gallai fod cymhlethdodau ychwanegol wrth ddod o hyd i ddarparwr yn y DU sy’n barod i dderbyn y trosglwyddiad a pharhau â’r taliadau yn y DU.

Hefyd, gwiriwch â darparwr y pensiwn yn y wlad dramor rydych am drosglwyddo ohoni. Er enghraifft, fel rheol ni all dinasyddion Awstralia drosglwyddo cynlluniau pensiwn Awstralia i wlad dramor cyn 55 oed. (Mae’r oedran y gall dinesydd Awstralia drosglwyddo pensiynau dramor yn amrywio yn ôl eu dyddiad geni.)

A yw’n syniad da trosglwyddo fy mhensiwn?

Mae trosglwyddo pensiwn yn gwestiwn pwysig ac mae’n bwysig gwirio a ydych yn debygol o fod yn well neu'n waeth eich byd ar ôl trosglwyddo .

Bydd p’un a yw trosglwyddiad yn addas yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch amcanion unigol.

Pethau i’w hystyried

Os symudwch i’r DU, gwiriwch a ydych yn gallu gadael eich pensiwn yn y wlad y gwnaethoch ei gronni ynddi.

  • Gellir rheoli comisiwn risg arian a chyfnewid trwy sefydlu cyfrif cyfnewid tramor a throsglwyddo arian i'ch arian lleol, yn ôl yr angen .
  • Os ydych yn trosglwyddo’ch pensiwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y nodweddion a'r opsiynau yn y cynllun newydd rydych yn trosglwyddo iddo a sut mae'n wahanol i'ch pensiwn cyfredol.
  • Cadwch lygad am unrhyw daliadau y gallech eu talu i wneud y trosglwyddiad a gwirio beth yw'r taliadau sefydlu a pharhaus ar y pensiwn newydd.
  • Darganfyddwch sut y bydd eich arian yn cael ei fuddsoddi ym mhensiwn y DU ac a oes gennych unrhyw ddewis yn y math o fuddsoddiadau. Ystyriwch lefel y risg rydych yn hapus â hi. Efallai y byddwch yn waeth eich byd os trosglwyddwch eich pensiwn i’r DU.
  • Mae’r rheolau ynghylch faint y byddwch yn cael eich trethu a phryd y gallwch dynnu arian o'r pensiwn yn wahanol o wlad i wlad ac y gall trosglwyddiadau i QROPS fod yn destun nifer o daliadau treth (a restrir isod).
  • Ymhob achos, argymhellir eich bod yn cael cyngor ariannol rheoledig cyn trosglwyddo'ch pensiwn i’r DU oherwydd gall rhai o’r materion hyn fod yn gymhleth. Mewn rhai achosion, gallai hyn arwain at gael cyngor rheoledig yn y DU a’r wlad rydych yn trosglwyddo ohoni. Gall safonau cyngor amrywio mewn gwahanol wledydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hyderus o statws proffesiynol, cymwysterau a phrofiad unrhyw ymgynghorydd rydych yn siarad ag ef. 
Nol i’r brig

A fydd rhaid i mi dalu treth pan drosglwyddaf fy mhensiwn?

Triniaeth dreth yn y DU

Ni fyddai’r taliad trosglwyddo yn cael ei drin o dan reolau treth fel cyfraniad i’ch pensiwn ac felly: 

  • ni fyddai rhyddhad treth yn daladwy  
  • ni fyddai’n cyfrif tuag at eich lwfans blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn (y swm y gellir ei gyfrannu at bensiynau bob blwyddyn wrth elwa o ostyngiad treth a chyn y gallai fod rhaid i chi dalu tâl treth).

Gall fod yn bosibl i’ch lwfans oes gynyddu oherwydd y trosglwyddiad. Er na fydd y trosglwyddiad yn achosi tâl treth, bydd y swm a drosglwyddir yn rhan o’ch cynilion pensiwn yn y DU. Mae hyn yn golygu y caiff ei asesu yn erbyn eich lwfans oes os cymerwch arian o’ch pensiwn yn y DU, neu yn 75 oed.

O 6 Ebrill 2024, mae uchafswm y cyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd yn ystod eich oes yn cael ei gyfyngu gan y lwfans cyfandaliad. I'r rhan fwyaf o bobl mae hyn yn £268,275. Efallai y bydd yn bosibl i'ch lwfans gynyddu oherwydd y trosglwyddiad.

Bydd y lwfans oes yn cael ei ddiddymu o Ebrill 2024. Bydd y llywodraeth yn gwneud cyhoeddiadau pellach am drethiant pensiynau cyn hynny.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfandaliadau di-dreth ar gyfer phensiynau

Triniaeth dreth yn y wlad dramor

Gwiriwch â'ch darparwr pensiwn a’r awdurdodau treth yn y wlad dramor. Mewn rhai gwledydd, er enghraifft, yr Unol Daleithiau America, mae tâl treth ar unwaith yn aml yn berthnasol ar drosglwyddiad pensiwn i wlad arall.

Trosglwyddo Cynllun Pensiwn Tramor Cydnabyddedig (ROPS)

Mae cynllun pensiwn tramor cydnabyddedig (ROPS) yn gynllun pensiwn a sefydlwyd y tu allan i’r DU sy'n debyg yn fras i gynllun pensiwn sydd wedi’i gofrestru yn y DU.

Mae CThEM yn cyhoeddi rhestr o ROPS. Maent yn diweddaru’r rhestr o hysbysiadau ROPS ar ddechrau a chanol pob mis.

Dewch o hyd i'r rhestr hysbysu lawn o ROPS ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os trosglwyddwch o ROPS, efallai y gallwch wneud cais i GThEF am lwfans cyfandaliad uwch, lle mae wedi cynyddu gan ffactor trosglwyddo cynllun tramor cydnabyddedig.

Darganfyddwch fwy am y Llawlyfr Treth Pensiynau ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

A fydd Brexit yn cael effaith arnaf wrth drosglwyddo fy mhensiwn i’r DU ?

Gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ffurfiol ddydd Gwener 31 Ionawr 2020.

Mae’r Cytundeb Ymadael y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth y DU a’r UE yn nodi telerau ymadawiad y DU â’r UE.

Roedd yn darparu ar gyfer cyfnod pontio yn para tan 31 Rhagfyr 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fu unrhyw newid i’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo pensiynau i’r DU, gan gynnwys o wledydd yn yr 

Trosglwyddiadau i’r DU cyn 31 Rhagfyr 2020

Mae'r Cytundeb Tynnu’n ôl y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth y DU a’r UE yn nodi telerau tynnu’r DU allan o'r UE.

Mae'n darparu ar gyfer cyfnod pontio wnaeth bara tan 31 Rhagfyr 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd unrhyw newid i’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo pensiynau i’r DU, gan gynnwys o wledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a’r Swistir. 

Trosglwyddiadau i’r DU o 1 Ionawr 2021 ymlaen

Mae trosglwyddiadau o’r AEE neu’r Swistir yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau Llywodraeth y DU â’r UE. 

Nol i’r brig

Pryd a sut allai gael mynediad i arian yn y DU?

Fel arfer, ni allwch gychwyn cymryd arian allan o bensiwn DU tan yn 55 mlwydd oed (bydd hyn yn cynyddu i 57 mlwydd oed o 2028 ymlaen).

Bydd sut y gallwch gymryd arian allan o’ch pensiwn yn dibynnu ar y pensiwn rydych wedi ei drosglwyddo i mewn i’r DU.

Trosglwyddiadau i Gynllun Buddion wedi ei ddiffinio

Os ydych wedi trosglwyddo i mewn i Gynllun Buddion wedi ei ddiffinio, fel arfer byddwch gyda hawl i incwm am oes o’r oed ymddeoliad a osodwyd gan y cynllun.

Fel arfer, bydd yr incwm yn cynyddu yn flynyddol am weddill eich oes.

Gall cyfandaliad di-dreth gael ei ddarparu. Gall hyn fod yn ychwanegol i unrhyw incwm, neu all fod yn opsiwn yn gyfnewid am dderbyn incwm wedi ei leihau.

Trosglwyddiadau i Gynllun Cyfraniadau wedi ei ddiffinio

Gallwch fel arfer gymryd 25% o werth eich pensiwn fel cyfandaliad di-dreth.

Mae pob arian arall gaiff ei dynnu allan yn cael ei drethu fel incwm. Gallwch fel arfer ddewis i gymryd yr arian fel:

  •  Un cyfandaliad
  •  Incwm gwarantedig rheolaidd am oes (blwydd-dal)
  •  Incwm ymddeoliad hyblyg heb ei warantu (tynnu i lawr pensiwn)
  •   Nifer o gyfandaliadau

Os ydych yn agos i oed 50 neu drosodd a gyda Cynllun Cyfraniadau wedi ei ddiffinio wedi’i leoli yn y DU gallwch gael apwyntiad Pension Wise yn rhad ac am ddim i siarad drwy eich opsiynau mewn manylder. Mae Pension Wise yn wasanaeth annibynol a diduedd wedi sefydlu gan y llywodraeth.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Adeiladu eich cronfa bensiwn

Trosglwyddo ac uno pensiynau

  • Trosglwyddo pensiwn ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
  • Symud eich pensiwn o’r DU dramor
  • Trosglwyddiadau pensiwn y DU
  • Beth i'w wneud os caiff eich trosglwyddiad pensiwn ei atal neu ei oedi
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Trosglwyddo ac uno pensiynau

  • Trosglwyddo pensiwn ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
  • Symud eich pensiwn o’r DU dramor
  • Trosglwyddiadau pensiwn y DU
  • Beth i'w wneud os caiff eich trosglwyddiad pensiwn ei atal neu ei oedi
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau