Mae pris hanfodion bob dydd yn cynyddu, mae'n debyg eich bod wedi sylwi arno yn yr archfarchnad ac yn eich biliau misol. Mae chwyddiant a chyfradd llog yn cynyddu yn golygu efallai na fyddai eich arian yn ymestyn mor bell ag yr arferai wneud.
Os ydych chi ar ei hôl hi ar eich biliau neu'n mynd i ddyled i'w talu, y peth gorau y gallwch ei wneud yw gweithredu. Efallai y byddwch yn gallu hawlio cymorth ychwanegol, grantiau costau byw neu daliadau i'ch helpu i gynyddu eich incwm.
P'un a ydych chi'n poeni am gynnydd mewn rhenti, talu costau ynni uwch neu fynd i'r afael â dyledion, rydym wedi dod â'n teclynnau, cyfrifianellau a'n canllawiau mwyaf defnyddiol at ei gilydd i'ch helpu i gadw mewn rheolaeth o’ch arian.
Archwilio ein canllawiau costau byw
Defnyddio ein teclynnau costau byw
Am ragor o help gyda chostau byw, mae gan wefan Help for HouseholdsYn agor mewn ffenestr newydd y llywodraeth awgrymiadau i arbed ynni, a gwybodaeth am y daliadau a chymorth ychwanegol y gallwch fod yn gymwys iddo.
Canllawiau costau byw
Darganfyddwch ble rydych nawr, beth i’w wneud nesaf a dod o hyd i gysylltiadau yn ein canllaw hawdd i’w hargraffu.
Teclynnau a chyfrifianellau costau byw
Cymorth Ychwanegol gan y Llywodraeth
Yn ansicr beth sydd ar gael i gefnogi chi gyda chostau byw?
Ewch i Cael help gyda chostau byw ar LLYW.CYMRUYn agor mewn ffenestr newydd sy’n rhoi gwybodaeth am:
- budd-daliadau a thaliadau
- cymorth am gostau gofal plant
- costau cludiant
- costau cadw tŷ
- help i ddod o hyd i waith
- gostyngiadau a chynigion