Os ydych yn cael trafferth talu’ch ad-daliadau morgais a ddim yn gallu cael trefn ar bethau mae'n bwysig peidio ag anwybyddu'r broblem. Mae llawer o help ar gael .
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam 1 – Cysylltu â’ch benthyciwr
- Cam 2 – Gwirio a oes gennych yswiriant
- Cam 3 – Cymryd gamau i leihau’ch costau
- Cam 4 – Siarad â gwasanaeth cwnsela am ddim ar ddyledion
- Cam 5 – Holi i weld a allwch gael help â’ch taliadau morgais
- A ydych yn poeni caiff eich cartref ei adfeddiannu?
- Gwerthu’ch cartref pan fydd popeth arall wedi methu
- Pethau i’w hosgoi
Cam 1 – Cysylltu â’ch benthyciwr
Bydd eich benthyciwr morgais yn awyddus i helpu a bydd yn egluro’ch opsiynau .
Mae rhaid iddynt wneud ymgais rhesymol i ddod i gytundeb â chi, gan gynnwys ystyried a ddylid newid sut rydych yn gwneud taliadau a phryd rydych yn eu gwneud.
Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn diffinio ôl-ddyledion o fewn contract morgais rheoledig neu gynllun prynu cartref fel diffyg sy'n cyfateb i ddau neu fwy o daliadau misol.
Os ewch i ôl-ddyledion, o fewn 15 niwrnod mae rhaid i’ch benthyciwr :
- rhoi gwybod i chi am gyfanswm eich ôl-ddyledion
- rhestru’r holl daliadau rydych wedi’u methu enu eu talu'n rhannol
- rhoi gwybod i chi am yr union swm sy’n weddill dan eich morgais
- rhoi gwybod i chi am unrhyw ffioedd a godir oherwydd methu unrhyw daliadau (a rhoi gwybod i chi am y ffioedd tebygol yn y dyfodol os na thelir yr ôl-ddyledion).
Hefyd, mae rhaid i’ch benthyciwr beidio â chymryd camau i adfeddiannu oni bai fod pob ymdrech resymol arall i ddatrys y sefyllfa wedi methu, ac mae rhaid iddynt roi rhybudd rhesymol i chi cyn cymryd y camau hynny.
Sut i ofyn am cymorth os na allwch wnedu eich taliadau morgais misol
Mae rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac ystyried unrhyw gais a wnewch i newid y ffordd rydych yn talu'ch morgais.
- Cynigiwch ad-dalu'r hyn y gallwch ei fforddio wrth drafod eich opsiynau â'ch benthyciwr - mae'n well parhau i dalu rhywfaint o arian yn ôl na thalu dim a bydd yn helpu i leihau eich ôl-ddyledion.
- Ystyriwch sut a phryd y gallwch ddychwelyd i wneud eich taliadau misol llawn.
- Meddyliwch pryd y gallwch fforddio talu mwy i wneud taliadau sy'n fwy na'ch taliad misol arferol i dalu unrhyw ôl-ddyledion.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau gallai eich benthyciwr hefyd wneud awgrymiadau ar eich rhan, er enghraifft ymestyn eich tymor morgais.
Peidiwch ag oedi - mae'n bwysig cysylltu â'ch benthyciwr cyn gynted â phosibl.
Cam 2 – Gwirio a oes gennych yswiriant
Gall Yswiriant Diogelu Taliadau Morgais, sy’n cael ei alw hefyd yn Yswiriant Damweiniau, Salwch a Diweithdra, eich helpu â’ch ad-daliadau morgais os yw eich incwm wedi lleihau oherwydd damwain, salwch neu os ydych wedi colli’ch gwaith.
Efallai gwnaethoch drefnu’r yswiriant pan gawsoch eich morgais – edrychwch drwy waith papur eich morgais a holwch eich benthyciwr eto neu’r brocer a ddefnyddiwyd gennych pan drefnoch y morgais .
Cam 3 – Cymryd gamau i leihau’ch costau
Bydd treulio amser yn ystyried eich arferion gwario yn helpu i weld a oes modd i chi arbed arian mewn le.
I’ch helpu i weld ble y gallwch arbed arian, edrychwch ar eich treuliau mewn perthynas â’r arian sydd gennych yn dod i mewn ac wedyn rhannu’ch gwariant yn eitemau hanfodol ac eitemau heb fod yn hanfodol.
Lleihau eich gwariant ar eitemau nad ydynt yn hanfodol
Mae cyllidebu’n hollbwysig os ydych yn cael trafferth talu’ch treuliau. Dyma rai ffyrdd o dorri’n ôl.
- Edrychwch ar y Debydau Uniongyrchol sy’n mynd allan o’ch cyfrif bob mis – pethau fel aelodaeth o gampfa a thanysgrifiadau i gylchgronau. Ystyriwch yn awr a ydych y cael gwerth am arian o’r holl bethau hyn. Os nad ydych, dylech eu canslo.
- Ceisiwch restru’r eitemau llai nad ydynt yn hanfodol rydych yn eu prynu bob dydd – coffi parod o siop neu ddiodydd ar ôl y gwaith. Trefnwch hwy yn ôl eu blaenoriaeth. Dewiswch yr eitemau blaenoriaeth is yn gyntaf a’u torri allan, un ar y tro.
Dysgwch fwy yn ein canllaw ar Fyw ar gyllideb
Lleihau eich gwariant ar eitemau hanfodol
Am bethau fel bwyd a biliau ynni - edrychwch ar beth mae cwmnïau eraill yn eu cynnig er mwyn ceisio cael cytundeb gwell.
Fodd bynnag, meddyliwch yn ofalus cyn lleihau eich yswiriant, yn enwedig yswiriant bywyd.
Gofynnwch i chi’ch hun a fyddai gwario ychydig ar y premiwm yn well na’r risg o beidio â derbyn taliad llawn petaech yn marw neu dalu miloedd o bunnoedd allan o’ch arian eich hun petai rhywbeth yn digwydd i’ch cartref.
Darganfyddwch fwy yn Sut i arbed arian ar filiau cartref
Cam 4 – Siarad â gwasanaeth cwnsela am ddim ar ddyledion
Yn ogystal â siarad â’ch benthyciwr, mynnwch gyngor gan un o’r nifer o sefydliadau neu elusennau sy’n rhoi cyngor am ddim ar ddyledion.
Gall cynghorydd ariannol hyfforddiedig o asiantaeth annibynnol, fel Cyngor ar Bopeth neu Shelter, roi cyngor diduedd am ddim i chi.
Mae elusennau eraill ar gael hefyd a fydd yn gallu’ch helpu chi a rhoi gwybodaeth am ble i ddod o hyd i atebion.
Cam 5 – Holi i weld a allwch gael help â’ch taliadau morgais
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym pa gefnogaeth gallech fod â hawl iddo.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai eich bod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau – a/neu i gael help gan y llywodraeth tuag at eich taliadau llog.
Trowch at Turn2Us gwasanaeth elusennol sy’n helpu pobl i gael at fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth arall
Mae gennym ganllaw hefyd ar gymorth y Llywodraeth os na allwch dalu'ch morgais
A ydych yn poeni caiff eich cartref ei adfeddiannu?
Os ydych yn poeni y gallech golli’ch cartref oherwydd nad ydych wedi bod yn gwneud eich ad-daliadau, gall elusennau roi cymorth a chyngor i chi, ac mae digon o help ar gael mewn mannau eraill hefyd.
Ewch i wefan Shelter am fwy o wybodaeth ar adfeddiannu tai, neu ar wefan Housing Rights os ydych yng Ngogledd Iwerddon.
Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu rhoi cymorth a chyngor.
Gwerthu’ch cartref pan fydd popeth arall wedi methu
Os ydych yn gwybod na fydd eich sefyllfa’n newid yn yr hirdymor, ystyriwch werthu’ch cartref eich hun a rhentu neu symud i eiddo rhatach.
Os ydych yn ystyried yr opsiwn hwn, gofynnwch i’ch benthyciwr a gewch aros yn eich eiddo nes y byddwch wedi’i werthu a gofyn a yw’n cynnig help drwy gynllun Gwerthiant Gwirfoddol â Chymorth.
Ond gwnewch yn siŵr fod gennych le i fyw cyn symud allan. Os byddwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r benthyciwr a gwneud popeth yn eich gallu i’w werthu, dylai roi digon o amser i chi werthu.
Chwiliwch am fanylion cyswllt eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Pethau i’w hosgoi
Ceisiwch gyngor ar ddyledion am ddim os ydych yn meddwl am droi i unrhyw un o’r opsiynau isod – mae’n debygol bydd datrysiad gwell a byddant yn gallu helpu.
- Cymryd benthyciad ychwanegol i dalu'ch dyledion - gall y rhain leihau eich ymrwymiadau misol, gan eu gwneud yn fwy fforddiadwy - ond gallant fod yn ddrud iawn dros y tymor hir ac yn aml fe'u sicrheir ar eich cartref.
- Trosglwyddo'r allweddi yn ôl - byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am yr ad-daliadau morgais cyn i'ch cartref gael ei werthu, ac o bosibl y balans sy'n weddill os nad yw'r arian a godir trwy werthu eich cartref yn ddigon i dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych.
- Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl - dyma lle rydych yn gwerthu'ch cartref i gwmni a'i rentu'n ôl oddi wrthynt. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau gwerthu a rhentu yn ôl.