Mae'n bwysig eich bod yn gwybod eich hawliau a darganfod sut i wneud cwyn am ofal a ddarperir gartref, mewn cartref gofal, yn yr ysbyty, neu gynnyrch gofal rydych wedi'i brynu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Eich hawliau i gael gofal o safon dderbyniol
Oeddech chi’n gwybod?
Mae gennych hawl i gwyno am unrhyw agwedd ar ofal, triniaeth neu wasanaethau’r GIG.
Mae cartrefi gofal a gofal yn y cartref yn cael eu rheoleiddio:
- Yn Lloegr, gan y Care Quality Commission
- Yn Yr Alban, gan y Care Inspectorate
- Yng Nghymru, gan yr Arolygiaeth Gofal
- Yng Ngogledd Iwerddon, gan y Regulation and Quality Improvement Authority
Maent oll yn gyfrifol am sicrhau bod y gofal rydych yn ei gael, p’un ai’n cael ei ddarparu adref neu mewn cartref gofal, yn cwrdd â safonau sylfaenol cenedlaethol.
Nid dim ond canllawiau yw’r safonau hyn – mae gan ddarparwyr oblygiadau cyfreithiol i sicrhau eich bod yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn cael eich trin â pharch.
Ac os bydd pethau’n mynd o chwith, mae gennych hawl cyfreithiol i gwyno.
Rôl comisiynau ansawdd gofal y DU
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cyfrifoldeb y cyrff rheoleiddio yw gwirio bod pob darparwr gofal cofrestredig yn cwrdd â safonau ansawdd a diogelwch pwysig.
Ond nid yw eu cyfrifoldebau yn cynnwys ymdrin â chwynion unigol ynglŷn â gwasanaethau’r darparwyr.
Serch hynny, bydd y Care Inspectorate yn yr Alban yn ymchwilio i gwynion yn erbyn darparwyr, ac mae ganddo’r pŵer i orfodi argymhellion neu hyd yn oed ddirymu trwydded gweithredu’r darparwr.
Sut i wneud cwyn
Dechrau arni
Gallwch ddatrys nifer fawr o broblemau trwy gael sgwrs anffurfiol gydag aelod o staff neu reolwr y cartref gofal neu’r gwasanaeth.
Ond os na fydd hynny’n gweithio, neu os mai’r aelod o staff neu’r rheolwr yw’r broblem, bydd angen i chi wneud cwyn ffurfiol.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob darparwr iechyd a gwasanaeth gofal cymdeithasol cofrestredig gael trefn gwyno sydd ar gael i chi ei gweld.
Dylai hyn fod wedi ei esbonio i chi pan symudoch i mewn neu pan gychwynnoch ddefnyddio’r gwasanaeth.
Gofynnwch am gopi o bolisi cwynion y darparwr fel y byddwch yn gwybod beth i’w wneud.
Cwyno i’ch cyngor lleol
Os ydych yn dal i fod yn anhapus gyda’r ateb a gewch gan eich darparwr gofal, a bod y cyngor lleol yn talu’n llwyr neu yn rhannol am eich gofal, fe ddylech gwyno trwy eu hadran gwasanaethau cymdeithasol.
Byddant yn ymchwilio i’r gŵyn ac yn gweithredu fel bo’n briodol. Os nad ydych yn hapus â’r canlyniad, gallwch fynd â’r cwyn i’r Ombwdsmon.
Cwyno os ydych yn ariannu eich gofal eich hun
Os ydych yn ariannu ac yn trefnu eich gofal eich hun fe ddylech gyflwyno eich cwyn yn uniongyrchol i’r Ombwdsman Llywodraeth Leol ac/neu Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd. Ond dim ond ar ôl i’ch darparwr gofal gael cyfle teg i ddatrys y materion.
Cwynion i’r Ombwdsmon
Yn Lloegr, yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf petaech yn teimlo y dylid mynd â’r gŵyn am ofal preswyl neu nyrsio gam ymhellach na’ch cyngor lleol.
Darganfyddwch fwy yn wefan Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol
Dim ond cwynion am y GIG y gall Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd eu hystyried.
Yn yr Alban, cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Yr Alban
Yng Nghymru, cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch ag Ombwdsmon Gogledd Iwerddon
Gweithrediadau cyfreithiol
Os ydych yn meddwl bod eich achos yn cynnwys esgeulustod troseddol neu dwyll, dylech siarad â chyfreithiwr.
Ac os ydych yn credu bod gweithredoedd troseddol difrifol yn digwydd, cysylltwch â'r heddlu. Er enghraifft, camdrin corfforol, lladrata neu fathau eraill o weithgaredd troseddol.
A ddylwn barhau i dalu am gynnyrch gofal neu’r gwasanaeth os wyf yn anhapus amdanynt?
Peidiwch ag atal talu am unrhyw gynnyrch gofal neu wasanaeth heb yn gyntaf gael gyngor proffesiynol ynglŷn â’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau.
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol - os mai nhw sy’n rhedeg y cartref gofal.
Yng Nghymru a Lloegr, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Yn yr Alban, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan mygov.scot
Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan nidirect
Neu mynnwch gyngor gan eich Cyngor ar Bopeth lleol.
Darganfyddwch eich cangen agosaf ar wefan Cyngor ar Bopeth
Cael cymorth a chyngor i wneud cwyn
Awgrym da
Cadwch gopïau o unrhyw negeseuon e-bost a llythyrau rydych yn eu hanfon, a sicrhewch eich bod yn anfon unrhyw bost drwy’r gwasanaeth dosbarthu wedi’i gofnodi.
Mae’n syniad da gofyn i ffrind neu berthynas eich helpu gyda’r gŵyn. Yn enwedig os yw’n ymwneud â chyfarfod wyneb yn wyneb gyda rheolwr y cartref gofal neu’r gwasanaeth rydych yn cwyno amdano.
Gallwch hefyd gael cyngor gan:
- Cyngor ar Bopeth
- elusennau neu sefydliadau cefnogol, fel Age UK
- Hourglass – yr elusen ledled y DU am atal niwed a cham-drin pobl hŷn
Cwyno am ofal iechyd GIG
Mae gennych hawl i gwyno am unrhyw agwedd ar ofal, triniaeth neu wasanaeth y GIG - mae hyn wedi’i ysgrifennu yng Nghyfansoddiad y GIG.
Os ydych yn anfodlon gyda gwasanaeth GIG, fel arfer mae’n syniad da trafod eich pryderon yn gynnar gyda’r darparwr gwasanaeth. Efallai y gallant ddatrys y mater yn gyflym.
Os nad ydych yn fodlon â’u hymateb gallwch gwyno. Darganfyddwch sut i gwyno ble rydych yn byw:
- Lloegr – gweler gwefan GIG
- Gogledd Iwerddon – gweler gwefan indirect
- Yr Alban– gweler gwefan mygov.scot
- Cymru – gweler gwefan Iechyd yng Nghymru
Yn aml mae’n ddefnyddiol siarad â rhywun sy’n deall y broses gwynion yn gyntaf, i gael rhywfaint o arweiniad a chymorth. Gallwch weld Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) yn y mwyafrif o ysbytai.
Darganfyddwch fwy am PALS ar wefan GIG
Cyrff rheoleiddio
Mae’r GIG yn cael ei reoleiddio:
- yn Lloegr, drwy’r Care Quality Commission
- yn yr Alban, drwy Healthcare Improvement Scotland
- yng Nghmru, drwy’r Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
- yng Ngogledd Iwerddeon, drwy’r Regulation and Quality Improvement Authority
Cwyno am gynnyrch gofal
Pan brynwch rhywbeth, mae’r gyfraith yn rhoi rhai hawliau penodol i chi sy’n eich diogelu petai’r eitem wedi torri neu ddim yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys offer neu gymhorthion i helpu gyda symudedd neu dasgau dyddiol.
Os mai’r awfurdod lleol drefnodd ac a brynodd y nwydd gofal ar eich cyfer - gadewch iddynt wybod ac fe ddylent gael un arall i chi.
Os mai chi brynodd y cynnyrch gofal gan manwerthwr, gofynnwch iddynt am eich arian yn ôl neu un arall yn ei le.
Os nad ydych yn fodlon gyda’r canlyniad, cysylltwch â’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth leol am gymorth i fynd â’r mater ymhellach.
Darganfyddwch eich cangen agosaf ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os wnaethoch dalu am y cynnyrch neu’r gwasanaeth gyda cherdyn credyd, a bod y manwerthwr yn bod yn anodd, cysylltwch â’ch darparwr cerdyn i weld sut allan nhw helpu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Diogelwch cerdyn credyd a debyd wedi’i esbonio
Cwyno am gynnyrch gofal ariannol
1. Os ydych wedi prynu cynnyrch ariannol i dalu am eich gofal a’ch bod yn anfodlon gyda’r gwasanaeth, gofynnwch am gopi o drefn gwyno’r cwmni. Yna nodwch gŵyn yn uniongyrchol gyda nhw. Mae cwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn gorfod cael un yn ôl y gyfraith.
Darganfyddwch fwy ar wefan FCA
2. Os nad ydych yn fodlon gyda’r canlyniad, cysylltwch â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i wneud cwyn.
3. Os ydych yn dal i fod yn anfoldon ar ôl i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ystyried eich cwyn, gallwch fynd â’r mater i’r llys. Serch hynny, cofiwch y bydd y llys gan amlaf yn debygol o gytuno gyda phenderfyniad Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, a gall fod yn broses hir a chostus.