Os ydych chi a’ch partner yn gwahanu, mae’n debygol y bydd gennych rywfaint o gyllid ar y cyd i gael trefn arnynt – er enghraifft, cyfrifon banc neu fenthyciadau. Efallai eich bod hefyd wedi cymryd polisïau yswiriant a bod gennych filiau yn enwau eich dau y bydd angen i chi eu canslo neu drosglwyddo. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wybod a gwneud.
Pam y gallai fod angen i chi weithredu’n gyflym
Mae’n well siarad â’ch gilydd am sut hoffech gael trefn ar eich arian ar y cyd. Ceisiwch osgoi cau cyfrifon ar y cyd yn gyflym, gan adael eich cyn-bartner i ddod i wybod nes ymlaen.
Ond mae’n bwysig eich bod yn gweithredu’n fuan os ydych yn meddwl y gallai’ch cyn bartner fynd i ddyled ar gyfrifon ar y cyd. Mae hynny oherwydd os oes gennych unrhyw fenthyciadau neu orddrafftiau ar y cyd, gellir gofyn i’r naill neu’r llall ohonoch ad-dalu’r swm llawn.
Dylech hefyd feddwl am effaith unrhyw ddyled ar y cyd ar eich graddiad credyd. Mae hyn oherwydd fod sgôr credyd da yn golygu y byddwch yn fwy tebygol o gael cynigion rhatach wrth ymgeisio am gredyd.
Rheswm i wirio eich sgôr yw byddwch yn gallu gweld sut rydych wedi’ch ‘cysylltu’n ariannol’. Mae hyn oherwydd pan fyddwch yn agor cyfrif ar y cyd, cewch eich ‘cyd-sgorio’ a dewch eich graddiadau credyd yn gysylltiedig hefyd.
Gallwch wirio eich sgôr credyd am ddim, ac mae pethau eraill gallwch eu gwneud i’w wella.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wella eich sgôr gredyd
Trefnu’ch cyfrifon banc ar y cyd
Ceisiwch gytuno â’ch cyn bartner ar beth hoffech wneud â chyfrif banc ar y cyd.
Os na allwch gytuno, mae cyfryngu (defnyddio rhywun diduedd) yn aml yn ffordd dda o ddatrys y materion ymarferol hyn.
Darganfyddwch am gyfryngu ar wefan Cyngor ar Bopeth
Mae’n werth i chi neu’ch cyn bartner gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn gwahanu.
Dyma rai pethau i’w hystyried:
- Newid sut mae’r cyfrif wedi ei sefydlu – fel bod rhaid i chi eich dau gytuno i gymryd unrhyw arian allan neu gynyddu terfynau gorddrafft.
- Gwneud yn siŵr bod eich cyflogau neu fudd-daliadau yn mynd i mewn i gyfrif yn eich enw chi yn unig yn y dyfodol.
- Gofyn i’r banc atal bancio ffôn ac ar-lein ar unrhyw gyfrif ar y cyd.
- Cyfrifo sut fyddwch yn talu biliau sy’n cael eu talu o’ch cyfrif ar y cyd ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn cytuno i ddal i dalu biliau penodol – er enghraifft, eich rhent neu forgais.
- Fel dewis olaf, rhewi’r cyfrif os ydych yn poeni y bydd eich cyn bartner yn tynnu arian allan. Gall un ohonoch ofyn i’r banc rewi cyfrif, ond fel arfer bydd angen i chi’ch dau lofnodi llythyr i’w ‘ddad-rewi’. Ystyriwch hefyd unrhyw anawsterau y gallech wynebu os oes gennych Ddebydau Uniongyrchol neu archebion sefydlog yn dod allan o’r cyfrif neu os ydych yn gwneud taliadau rheolaidd – er enghraifft eich morgais neu rent, biliau, neu siopa bwyd.
- Cau’r cyfrif os nad oes llawer o arian ynddo neu os na fyddwch yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae rhaid i chi’ch dau gytuno – fel arfer yn ysgrifenedig – i gau cyfrif ar y cyd. Ni fyddwch yn gallu gwneud hyn nes bydd unrhyw orddrafft wedi ei dalu.
Rhannu cynilion
Gobeithio y byddwch yn gallu cytuno ar sut i rannu unrhyw gynilion ar y cyd sydd gennych.
Mae sut mae’r gyfraith yn trin eich hawl i arian mewn cyfrif ar y cyd yn ddibynnol ar ble rydych yn byw yn y Deyrnas Unedig.
Cymru a Lloegr
Os ydych yn gwahanu o’ch partner, mae arian mewn cyfrif ar y cyd yn perthyn i’r sawl a’i talodd i mewn.
Ond gallai partner nad yw wedi gwneud cyfraniad i gyfrif ar y cyd hawlio cyfran ohono.
Fodd bynnag, gall fod yn anodd iddynt brofi bod ganddynt hawl i’r arian mewn cyfrif ar y cyd os nad ydynt wedi talu arian i mewn iddo.
Byddai angen iddynt ddangos mai bwriad clir y cyfrif ar y cyd oedd cael cronfa a rennir y gallai pob person ei defnyddio.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, mae arian mewn cyfrif ar y cyd yn perthyn i’r ddau ohonoch yn gyfartal.
Gogledd Iwerddon
Os ydych yn gwahanu o’ch partner, yn ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil, mae arian mewn cyfrif ar y cyd yn perthyn i bob un ohonoch yn gyfartal. Mae hyn oni bai fod llys yn penderfynu fel arall.
Yr Alban
Mae arian sydd gan bâr priod neu’r sawl mewn partneriaeth sifil mewn cyfrif cynilo ar y cyd – a agorwyd yn ystod y briodas neu bartneriaeth sifil – yn perthyn i ddeiliaid y cyfrif mewn cyfrannau cyfartal.
Os gallwch brofi eich bod wedi talu mwy o arian i mewn, gallech hawlio mwy o arian o'r cyfrif.
Os ydych yn gwahanu ar ôl byw gyda’ch gilydd, fe dybir bod arian sydd gennych mewn cyfrifon ar y cyd ar gyfer biliau’r cartref neu debyg yn perthyn i chi’ch dau mewn cyfrannau cyfartal.
Gallai sut rydych yn rhannu’ch cynilion ddibynnu ar y math o gyfrif sydd gennych.
Edrychwch ar ein canllaw Rhannu buddsoddiadau a chynilion pan fyddwch yn gwahanu os oeddech yn cyd-fyw
Ail gardiau ar gyfrifon cardiau credyd a chardiau siop
Os oes gennych gyfrif cerdyn credyd neu siop ac mae gan eich cyn bartner gerdyn ar y cyfrif i’w ddefnyddio, rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am dalu am ei wariant/gwariant yn ogystal â’ch gwariant chi.
Gallwch naill ai:
- gofyn i’ch cyn-bartner i roi’r cerdyn yn ôl i chi, neu
- cysylltu â chwmni’r cerdyn i weld beth sydd rhaid i chi ei wneud i chi flocio’r cerdyn neu i dynnu’ch cyn-bartner o’ch cyfrif.
Hyd yn oed os credwch fod cyfrif yn eich enw chi yn unig, gwiriwch â’r benthiciwr i sicrhau nad yw’ch partner wedi ei rhestru fel deilydd cerdyn awdurdodedig.
Y peth pwysicaf yw sicrhau y gwneir taliadau’n brydlon ar gyfer unrhyw gyfrif ar y cyd cyhyd â bod eich enw arno. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi biliau neu ffioedd annisgwyl.
Trefnu yswiriant ar y cyd
A oes gennych bolisi yswiriant cartref yn eich enw chi’ch dau, ac mae’ch cyn-bartner yn symud allan? Efallai y bydd angen i chi ofyn iddo neu iddi lofnodi ffurflen neu lythyr yn dweud ei fod neu ei bod yn fodlon i’w enw neu ei henw ddod oddi ar y polisi.
Efallai’ch bod yn yrrwr a enwir ar yswiriant car eich cyn bartner – neu ef neu hi ar eich polisi chi. Os yw’r polisi yn eich enw chi, cysylltwch â’ch yswiriwr a gofyn i gael tynnu enw’ch cyn bartner (os na fydd yn gyrru eich car yn y dyfodol.)
Cytuno ar sut i rannu’r biliau
Os ydych chi, neu'ch cyn-bartner, yn symud allan, nodwch ddarlleniadau’r mesuryddion ar gyfer nwy a thrydan – fel na chodir arian ar y person sy’n symud allan am ynni nad ydynt wedi ei ddefnyddio.
Dylai dod yn gyfrifol am gyfrif oedd yn eich enwau chi’ch dau fod yn syml.
Fel arfer, gallwch wneud hyn ar-lein neu dros y ffôn – ond byddwch chi a’ch cyn-bartner yn gyfrifol am dalu unrhyw arian sy’n ddyledus hyd at y pwynt hwnnw.
Os ydych eisiau dod yn gyfrifol am fil yn enw’ch cyn bartner, bydd angen cau’r hen gyfrif ac agor un newydd.