Os nad oeddech chi a’ch cyn bartner yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ond wedi bod yn rhedeg busnes gyda’ch gilydd neu fod gennych ddiddordebau busnes a rennir, efallai y byddwch yn gallu hawlio cyfran o werth y diddordebau hynny.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Asesu a allwch wneud cais
Os buoch yn byw gyda’ch gilydd fel cwpl heb briodi neu heb fod mewn partneriaeth sifil, a byddwch yn gwahanu, nid oes gennych yr hawl fel mater o drefn i wneud cais ar gyfran eich cyn bartner o unrhyw ddiddordebau busnes.
Ond efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am iawndal mewn llys os na fydd eich cyn bartner yn anrhydeddu ymrwymiadau maent wedi'u gwneud os:
- buoch yn rhedeg busnes gyda’ch gilydd
- cawsoch addewid cael cyfran ohono, neu
- os cyfrannoch yn ariannol tuag ato.
Yng Nghymru a Lloegr, byddai angen i chi ddangos fod gennych ‘ddiddordeb buddiannol’ ym musnes eich cyn bartner.
Yn yr Alban, byddai angen i chi ddangos eich bod wedi dioddef yr hyn a elwir yn ‘anfantais economaidd’. Neu fod eich cyn bartner wedi cael ‘mantais economaidd’. Enghraifft o hyn fyddai pe baech wedi stopio gweithio er mwyn gofalu am blant fel bod gyrfa eich cyn bartner medru parhau. Byddai gennych flwyddyn i brofi hyn o ddyddiad y gwahaniad.
Gallai gwneud cais fod yn ddrud. Felly dylech gymryd cyngor cyfreithiol cyn i chi ddechrau gweithredu trwy’r llys.
Os ydych angen cyngor cyfreithiol ond rydych yn methu ei fforddio, gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Efallai y bydd angen i chi drefnu i brisio’r busnes hefyd. Gall hyn fod yn gymhleth a gallai gostio miloedd o bunnoedd.
Cyn i chi dalu am arbenigwyr, mae’n syniad da cael ychydig o gyngor cyfreithiol ar hyn hefyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol ar ysgariad neu ddiddymiad
Prisio busnes
Os ydych chi'ch dau yn berchen ar y busnes, gallwch chi neu’ch partner drefnu prisiad.
Yn gyffredinol, os yw’r busnes yn perthyn i un ohonoch - yn gyfan gwbl neu ynghyd ag eraill - mae rhaid iddynt ofyn am y prisiad.
Efallai na fydd y broses yn un syml, yn enwedig os mai perchnogaeth breifat sydd i’r busnes.
Gall prisio busnes ddibynnu ar:
- ei asedau – er enghraifft, yr eiddo neu’r stoc sy’n perthyn iddo
- ei enillion - yr elw disgwyliedig i’r dyfodol, a
- strwythur y busnes - ai cwmni cyfyngedig ydyw, unig fasnachwr neu bartneriaeth
Deall y gwahanol fathau o strwythur busnes
Mae gwahanol ffyrdd i roi strwythur ar fusnes.
Os buoch ynghlwm â’r busnes, mae’n debygol y byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhyngddynt. Ond os mai busnes eich cyn bartner ydyw, efallai na fyddwch yn gwybod sut sefydlwyd y busnes.
Dyma drosolwg sydyn.
- Unig fasnachwr: mae’r perchennog yn rheoli asedau’r busnes, ond maent hefyd yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw ddyledion busnes. Yr incwm a’r proffidioldeb yw’r ffigurau pwysicaf ond gellir hefyd ystyried asedau busnes – er enghraifft, safle neu gerbydau.
- Partneriaeth: gall hyn fod yn bartneriaeth anffurfiol, heb gytundeb ysgrifenedig, neu yn un ffurfiol. Os bydd pobl eraill – ar wahân i chi neu eich cyn bartner – ynghlwm, yna bydd prisio’r busnes yn fwy cymhleth ac mae’n fwy tebygol y byddwch angen cymorth arbenigol.
- Cwmni cyfyngedig: fel â phartneriaethau, bydd prisio cwmni cyfyngedig yn fwy cymhleth os oes gan bobl eraill gyfran o’r busnes. Os ydych chi neu eich cyn bartner yn berchen ar y cyfranddaliadau i gyd, gall y cyfan fod yn eithaf syml i’w brisio.
Anghytuno â phrisiad busnes
Efallai na fydd cyplau sy’n gwahanu ddim bob amser yn cytuno ar werth busnes. Mae hyn yn neilltuol o wir os bu i un partner gael llai o ran yn y busnes hwnnw.
Weithiau, honnir bod perchennog y busnes yn tanbrisio’u busnes (yn sylweddol efallai).
Mae’n werth ystyried y canlynol:
- Gall defnyddio arbenigwyr i roi cymorth i chi geisio gwir werth y busnes fod yn ddrud. Gwariodd rhai pobl filoedd o bunnoedd ar gyfrifwyr arbenigol.
- Efallai na fu’r busnes yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar. Er y llwyddodd y busnes y llynedd neu’r flwyddyn flaenorol, nid yw hyn yn golygu bod y busnes yn gwneud yn dda ar hyn o bryd.
- Gall perchnogion busnes fod yn optimistaidd ynglŷn â’u busnes eu hunain ac efallai y cawsoch eich arwain i gredu ei fod yn fwy llwyddiannus nag yw mewn gwirionedd.
Datrys anghydfod drwy gyfryngu
I osgoi achos llys hirfaith a chostus, gallech chi a’ch cyn bartner roi cynnig ar gyfryngu er mwyn datrys eich anghydfod ynglŷn â sut i rannu diddordebau busnes a rennir.
Mae cyfryngwr yn berson diduedd a all roi cymorth i chi a’ch partner ddod i gytundeb. Ni all cyfryngwr roi cyngor cyfreithiol i chi, ond gallwch drafod â’ch cyfreithiwr (os oes gennych un) cyn neu ar ôl y sesiynau cyfryngu.
Byddai’ch cyfreithiwr yn eich cynghori ynglŷn â sut i droi unrhyw beth a gytunoch arno yn gytundeb a rwymir yn gyfreithiol.