Beth i’w wneud os ydych yn poeni am eich biliau ynni ar ôl ycyhoeddiad cap ar brisiau’n codi
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
03 Tachwedd 2022
Os ydych yn meddwl tybed sut yr effeithir ar gyllid eich cartref dros y misoedd nesaf, darganfyddwch am y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni Ofgem, ad-daliad biliau’r dreth cyngor a pha gymorth arall y mae llywodraeth y DU wedi’i gyhoeddi.
Gwarant Pris Ynni i gapio’r bil cyffredin i £2500
Ar 1 Hydref 2022, cyhoeddodd y llywodraeth bydd bil ynni cyffredin yn cael ei gapio ar £2,500 am gwsmeriaid ynni tariff diofyn (tariff amrywiol safonol) a rhagdaledig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (gwelwch isod am newidiadau a fydd yn effeithio ar gwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon).
Fodd bynnag, dylech gadw mewn cof y gallwch dalu mwy neu lai na £2,500, yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio.
Os ydych ar dariff cyfradd sefydlog ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich symud i dariff amrywiol safonol eich darparwr pan ddaw’r cyfnod sefydlog i ben.
Caiff y Warant Pris Ynni ei ddal ar £2,500 hyd at Ebrill 2023.
Cynnydd mewn prisiau ynni yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r Rheoleiddiwr Cyfleustodau sy’n rheoleiddio ynni yng Ngogledd Iwerddon wedi dweud y bydd y cwsmer nwy cyfartalog yn ardal y Ten Towns a gyflenwir gan Firmus Energy yn gweld eu bil blynyddol yn cynyddu i £1,293 y flwyddyn.
Hyd yn hyn ni fu cyhoeddiad tebyg ar gyfer cwsmeriaid yn ardal Greater Belfast.
Darganfyddwch fwy am y help sydd ar gael ar gyfer biliau ynni yng Ngogledd Iwerddon (Agor mewn ffenestr newydd) ar wefan y Cyngor Defnyddwyr
Cynllun cymorth biliau ynni £400
O 1 Hydref 2022, bydd y llywodraeth yn ariannu ad-daliad £400 i’r holl gwsmeriaid trydan domestig yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban (disgwylir ariannu tebyg ar gyfer Gogledd Iwerddon flwyddyn nesaf).
Os ydych yn talu’ch biliau trwy Ddebyd Uniongyrchol, caiff yr arian ei gredydu i’ch cyfrif unwaith y mis o Hydref 2022 i Fawrth 2023. Yn dibynnu ar eich cwmni ynni, byddwch naill ai’n cael y gostyngiad fel taliad arian parod neu gredyd bil.
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig deallus, caiff £66 neu £67 o gredyd ei ychwanegu at eich mesurydd unwaith y mis am chwe mis o Hydref. Os oes gennych fesurydd rhagdaledig traddodiadol, byddwch yn cael un daleb neu Special Action Message (SAM) y mis am chwe mis i ddefnyddio am daliadau atodol.
Bydd aelwydydd yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn cael gostyngiad £400 ar filiau trwy’r cynllun. Nid oes angen ad-dalu’r arian.
Taliad o £200 ar gyfer biliau tanwydd gaeaf yng Nghymru
Os ydych yn byw yng Nghymru ac yn hawlio budd-daliadau penodol fel Credyd Cynhwysol neu Gymhorthdal Incwm, yna gallwch hawlio taliad un-tro ychwanegol o £200 gan eich awdurdod lleol i’w roi tuag at eich biliau tanwydd gaeaf.
Taliad o £400 ar gyfer biliau tanwydd gaeaf yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac yn hawlio budd-daliadau penodol fel Credyd Cynhwysol neu Gymhorthdal Incwm, yna byddwch yn cael taliad un-tro o £400 gan eich awdurdod lleol i’w roi tuag at eich biliau ynni.
Taliad o £214.10 ar gyfer biliau tanwydd gaeaf yn yr Alban
Os ydych yn byw yn yr Alban, yn hawlio budd-daliadau penodol a bod gan eich cartref blentyn o dan 19 oed, yna dylech gael taliad Cymorth Tanwydd Gaeaf Plant un-tro o £214.10 gan Nawdd Cymdeithasol yr Alban.
Dylai’r taliad fod wedi bod yn awtomatig ac wedi’i dalu ym mis Tachwedd 2021, ond gallwch gael rhagor o wybodaeth am y taliad (Opens in a new window) ar wefan MyGOV.Scot
Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi cynyddu i £150
Os ydych ar incwm isel ac yn hawlio budd-daliadau penodol mae’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn tynnu arian oddi ar eich bil trydan ar gyfer biliau cyfnod y gaeaf rhwng mis Hydref a mis Mawrth.
O fis Hydref 2022 mae’r llywodraeth yn bwriadu cynyddu’r gostyngiad i £150 (o £140) a chynyddu nifer y cartrefi a fydd yn gymwys yn y DU. Nid yw’r Cynllun Cartrefi Cynnes ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Am ragor o wybodaeth darllenwch ein hadran am y Cynllun Cartrefi Cynnes yn ein canllaw
Mwy o help os ydych chi’n cael trafferth i dalu eich bil nwyneu drydan
Gall methu â fforddio gwresogi neu bweru eich cartref fod yn bryderus ac yn straen mawr. Mae’n bwysig parhau i dalu’r biliau hyn, ac mae help ar gael gan eich cyflenwr os ydych yn cael trafferthion cyn i chi fynd i ddyled.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i dalu eich bil nwy neu drydan
Os ydych eisoes wedi methu mwy nag un taliad ar eich bil nwy, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion.
Ad-daliad Treth Cyngor £150
Ym mis Ebrill, bydd pob cartref yn Lloegr ar fandiau Treth Cyngor A i D yn cael ad-daliad un-tro o £150 ar eu bil Treth Cyngor am y mis hwnnw. Ni fydd angen i chi ei dalu’n ôl.
Gallwch wirio ym mha fand treth y mae eich cartref (Agor mewn ffenestr newydd) ar wefan GOV.UK
Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, dylai’r ad-daliad gael ei ddiystyru’n awtomatig o’ch bil ym mis Ebrill gan eich awdurdod lleol. Os ydych yn talu llai na £150 y mis, byddwch yn cael y gostyngiad ar draws dau daliad. Os nad ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, dylai eich cyngor ddechrau prosesu’r gostyngiad o fis Ebrill ymlaen.
Os ydych yn rhentu neu os nad ydych yn talu eich bil Treth Cyngor yn uniongyrchol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’r person (fel eich landlord) sy'n gwneud hynny i drosglwyddo’r gostyngiad i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth talu Treth Cyngor
Yn yr Alban, bydd eiddo ym mandiau A-D yn ogystal â chartrefi ym mhob band sy’n cael Gostyngiad Treth Cyngor hefyd yn cael £150 tuag at eu Treth Cyngor. Mae cynghorau unigol wedi cael dewis naill ai anfon y £150 fel taliad neu ei roi fel gostyngiad ar filiau Treth Cyngor. Dylech ddechrau derbyn eich gostyngiad neu daliad ym mis Ebrill 2022.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymeradwyo taliad o £150 i gartrefi ym mandiau Treth Cyngor A-D a’r rhai ym mandiau E neu F sy’n cael Gostyngiad Treth Cyngor. Nid oes llawer o wybodaeth am sut y gallwch hawlio’r £150 eto, ond dylai eich cyngor lleol gysylltu â chi.
Cymorth ariannol i gartrefi nad ydynt yn gymwys i gaelad-daliad Treth Cyngor
Os yw eich eiddo ym mandiau Treth y Cyngor E i H neu os ydych yn byw yng Ogledd Iwerddon, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael cymorth i dalu eich Treth Cyngor (neu eich ardrethi yng Ngogledd Iwerddon).
Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i £144miliwn o gyllid dewisol i awdurdodau lleol yn Lloegr ei ddefnyddio. Mae £715miliwn pellach ar gyfer cymorth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu fesul achos. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ddod o hyd i’r cymorth y mae’n ei ddarparu.
Dewch o hyd i'ch cyngor lleol (Agor mewn ffenestr newydd) ar wefan GOV.UK
Cyfradd sylfaenol Banc Lloegr yn codi i 3%
Mae Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog o 2.25% i 3% (o'r 3 Tachwedd 2022). Gallai hyn effeithio arnoch os oes gennych forgais ar gyfradd amrywiol safonol.