Beth mae Datganiad yr Hydref yn ei olygu i chi
17 Tachwedd 2022
Gyda chostau byw yn cynyddu, efallai y byddwch yn pendroni pa mor hir y bydd cyllid eich cartref yn cael ei wasgu. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod am Ddatganiad Hydref 2022 y Llywodraeth.
Treth
Mae'r Canghellor presennol, Jeremy Hunt, wedi gostwng y trothwy ble mae'r gyfradd uchaf o dreth incwm sy'n 45c yn cael ei dalu o £150,000 i £125,140, sy'n dechrau ym mis Ebrill 2023.
Mae trothwyon treth hefyd wedi’u rhewi –gyda'r trothwyon Lwfans Personol, Yswiriant Gwladol, a Threth Etifeddiant ddim yn newid tan Ebrill 2028.
Bydd lwfansau difidend yn cael eu torri o £2,000 i £1,000 yn 2023-2024, ac yna i £500 yn 2024-2025.
Bydd toriad Treth Stamp y cyn ganghellor Kwasi Kwarteng yn cael ei wrthdroi ar 31 Mawrth 2025. Felly, er nad oes rhaid i chi dalu Treth Stamp ar eiddo cartref cyntaf ar hyn o bryd sy'n costio llai na £250,000 neu £400,000 i brynwyr tro cyntaf, bydd yn mynd yn ôl i £125,000 neu £300,000 i brynwyr tro cyntaf.
O Ebrill 2025 ni fydd cerbydau trydan sy wedi cael eu prynu ar ôl 2017 bellach yn cael eu heithrio rhag talu Treth Cerbyd (a elwir yn dreth car). Bydd ceir allyriadau sero newydd sydd wedi'u cofrestru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2025 yn agored i dalu'r gyfradd blwyddyn gyntaf isaf o VED, sef £10 y flwyddyn ar hyn o bryd. O'r ail flwyddyn ymlaen, byddant yn symud i'r gyfradd safonol sy'n £165 y flwyddyn ar hyn o bryd.
Bydd ceir trydan sy'n costio dros £40,000 hefyd yn gorfod talu Atodiad Car Drud o 1 Ebrill 2025. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Bydd y swm eithrio blynyddol ar gyfer treth enillion cyfalaf yn cael ei ostwng o £12,300 i £6000 y flwyddyn nesaf ac yna i £3,000 o Ebrill 2024.
Biliau ynni
Cyhoeddodd y Canghellor gymorth pellach gyda biliau ynni heddiw - a fydd yn £500 o gymorth ychwanegol i bob cartref ar gyfartaledd.
Mae'r 'Gwarant Pris Ynni' (EPG) wedi'i ymestyn am flwyddyn arall tan 31 Mawrth 2024. O Fis Ebrill 2023, bydd y Gwarant Pris Ynni yn cynyddu o £2,500 y flwyddyn i £3,000 ar gyfer aelwyd sydd â defnydd arferol. Bydd eich bil terfynol yn dibynnu ar faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio; mae'r cap ond yn berthnasol i gost yr uned. Mae hyn yn golygu y gallech dalu mwy na £3,000 os ydych yn defnyddio mwy o ynni neu gael bil is os byddwch yn defnyddio llai.
Bydd y Llywodraeth yn monitro effaith yr EPG ar bobl sy’n defnyddio llawer iawn o ynni, megis y rhai ag anghenion meddygol, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu rhoi mewn perygl.
Mae'r Llywodraeth wedi addo £100 o gymorth ychwanegol i aelwydydd sy'n defnyddio tanwyddau amgen – fel olew gwresogi, nwy petrolewm hylifedig, glo neu fiomas – i wresogi eu cartrefi. Cyhoeddodd y Canghellor y dylai'r taliad o £200 gael ei anfon allan cyn gynted â phosibl y gaeaf hwn.
Bydd pob cartref yng Ngogledd Iwerddon yn derbyn y taliad o £200, hyd yn oed os ydynt wedi eu cysylltu â phrif gyflenwad nwy. Byddwn yn diweddaru ein canllaw ar wresogi eich cartref os ydych yn defnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig pan fyddwn yn gwybod mwy.
Taliadau costau Byw
Bydd taliadau costau byw yn cael eu hymestyn i'r flwyddyn nesaf, gyda chymorth o £900 i’r rhai ar fudd-daliadau penodol (o'i gymharu â £650 eleni). Bydd pensiynwyr hefyd yn cael £300 yn ychwanegol a bydd taliad o £150 i'r rhai sy'n cael budd-daliadau anabledd penodol.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Energy Bills Support Scheme Northern Ireland (EBSS NI), sef Cynllun Cymorth Biliau Ynni'r Llywodraeth, yn darparu gostyngiad o £400 nad yw'n ad-daladwy i aelwydydd cymwys i helpu gyda'u biliau ynni dros aeaf 2022-23. Bydd cymorth cyfatebol yn cael ei ddarparu i aelwydydd cymwys yng Ngogledd Iwerddon drwy'r Energy Bills Support Scheme NI.
Pensiynwyr
Mae budd-daliadau'n cael eu cynyddu gan gyfradd chwyddiant 10.1% ym mis Medi. Dim ond o fis Ebrill nesaf y bydd yn cychwyn.
Newyddion da i bensiynwyr sy'n poeni am eu pensiynau, am fod clo triphlyg Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei gadw. Mae hynny'n golygu cynydd o 10.1% o fis Ebrill - £203.85 yr wythnos o £185.15.
Byddwch hefyd yn cael taliad Costau Byw o £300 yn 2023/24.
A yw costau byw cynyddol yn effeithio'n negyddol ar eich iechyd meddwl? Nid ydych ar eich pen eich hun. Gwelwch ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol am fwy o wybodaeth am sut i gael help.
Budd-daliadau
I helpu pobl gyda chyfraddau llog cynyddol, o Wanwyn 2023, bydd perchnogion tai ar Gredyd Cynhwysol yn gallu gwneud cais am fenthyciadau Cymorth ar gyfer Llog Morgais ar ôl tri mis yn hytrach na naw mis, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio.
Bydd y Llywodraeth yn rhoi cap ar gynnydd mewn rhent i bobl mewn tai cymdeithasol i 7%, roedd rhenti i fod i godi 10% cyn i hyn gael ei gyhoeddi.
Mae'n bwysig cofio, os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, y dylech gysylltu â'ch cyngor lleol cyn gynted ag y byddwch yn dechrau cael trafferth i ofyn am gymorth ychwanegol.
Bydd y cap ar fudd-daliadau hefyd yn gweld 10.1% o gynnydd o fis Ebrill 2023. Bydd y cap yn codi o £20,000 i £22,020 i deuluoedd yn genedlaethol ac o £23,000 i £25,323 i deuluoedd yn Llundain.
Tra ar gyfer pobl sengl bydd yn cynyddu o £13,400 i £14,753 yn genedlaethol ac o £15,410 i £16,967 yn Llundain.
Bydd y Gronfa Cymorth i Aelwydydd yn cael ei hymestyn tan fis Mawrth 2024, gan alluogi pobl ar fudd-daliadau ac incwm isel i gael cymorth gyda chostau hanfodol. Yn Lloegr rydych yn gwneud cais trwy eich cyngor lleol. Mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhedeg eu cynlluniau eu hunain.
O fis Medi 2023, os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, yn gweithio’r hyn sy’n cyfateb i 15 a 35 awr yr wythnos ac yn ennill y Cyflog Byw Cenedlaethol bydd yn rhaid i chi gwrdd ag anogwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith leol.
Bwriad y cyfweliad hwn yw edrych ar ffyrdd o gynyddu eich oriau neu gael gwaith gyda chyflog gwell gyda'r nod o ddod oddi ar fudd-daliadau yn gyfan gwbl.
Cyflog Byw Cenedlaethol
Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn gweld cynnydd, yn cael ei godi i £10.42 (£1,600 yn ychwanegol bob blwyddyn) i weithwyr llawn amser. Bydd yr holl gyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol hefyd yn cael hwb o fis Ebrill 2023.
Morgeisi
Bydd y trothwyon Treth Stamp presennol a gyhoeddwyd yn y Gyllideb fach ym mis Medi yn aros yn eu lle tan fis Mawrth 2025 ac yna’n cael eu hadolygu.
O Wanwyn 2023, os ydych yn cael trafferth talu eich morgais ac yn cael Credyd Cynhwysol, byddwch yn gallu gwneud cais am Gymorth ar gyfer Llog Morgais - benthyciad sy'n helpu gyda thaliadau llog - ar ôl tri mis yn lle naw. Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn gweithio.
Treth Cyngor
Os ydych yn byw yn Lloegr, rydych yn debygol o dalu mwy o Dreth Cyngor y flwyddyn nesaf gan fod y Llywodraeth wedi rhoi hyblygrwydd i gynghorau wneud cynnydd cyffredinol o 3%, yn ogystal ag ychwanegu 2% ychwanegol i ariannu costau gofal cymdeithasol, a allai gynyddu biliau hyd at uchafswm o 5%.