Bydd rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych dros 16 oed ac yn ennill neu fod gennych elw hunan-gyflogedig dros swm penodol. Mae hyn yn helpu i adeiladu'ch hawl i rai budd-daliadau, fel Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth.
Beth yw Yswiriant Gwladol?
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dreth ar enillion ac elw hunan-gyflogedig a delir gan gyflogeion, cyflogwyr, a'r hunangyflogedig. Gallant helpu i adeiladu'ch hawl i rai budd-daliadau gan ddibynnu a ydych yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig, fel Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Mamolaeth. Bydd rhai budd-daliadau nawdd gymdeithasol yn dibynnu ar dalu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Gall sawl ffactor bennu lefel a math y cyfraniad yswiriant gwladol sy'n daladwy gan gynnwys:
- statws cyflogaeth
- oed
- lefel enillion
- statws preswylio
Pryd fyddaf yn talu Yswiriant Gwladol?
A ydych yn cael eich talu trwy system Talu Wrth Ennill (TWE)? Yna bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu tynnu o'ch cyflog yn awtomatig, felly nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.
Mae'n berthnasol i bod cyfnod talu. Gan ddibynnu faint cewch eich talu, gall fod yn wythnosol, neu gyfnod gwahanol o amser.
Mae hyn yn golygu os byddwch yn ennill fwy mewn mis, byddwch yn talu mwy o Yswiriant Gwladol. Ond ni allwch hawlio'r arian yn ôl, hyd yn oed os yw'ch tâl yn is yn ystod misoedd eraill yn y flwyddyn treth.
A ydych yn hunangyflogedig? Yna bydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu cyfrif yn seiliedig ar eich ffurflen dreth Hunanasesiad. Fe'u telir ar yr un pryd â Threth Incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ac Yswiriant Cenedlaethol pan ydych yn hunangyflogedig
Faint yw Yswiriant Gwladol?
Mae faint byddwch yn talu mewn Yswiriant Gwladolyn dibynnu ar ba fath o Yswiriant Gwladol rydych yn talu.
Mae pedair prif ddosbarth o Yswiriant Gwladol:
- Telir Dosbarth 1 gan gyflogeion a chyflogwyr
- Telir Dosbarth 2 os ydych yn hunan-gyflogedig
- Mae Dosbarth 3 yn gyfraniad wirfoddol
- Telir Dosbarth 4 os ydych yn hunan-gyflogedig a bod gennych elw dros swm penodol
Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Os ydych yn gyflogai, byddwch yn dechrau talu Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn ennill mwy na £242 yr wythnos (2022/23).
Mae'r gyfradd Yswiriant Gwladol rydych yn ei thalu yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill, ac mae'n cynnwys:
- 13.25% o'ch enillion wythnosol rhwng £242 a £967 (2022/23)
- 3.25% o'ch enillion wythnosol sy'n uwch na £967.
Caiff y cynnydd i gyfraddau Yswiriant Gwladol a ddaeth i rym yn Ebrill 22 ei ddadwneud o 6 Tachwedd 2022. Mae hwn yn meddwl bydd y brif gyfradd am Yswiriant Gwladol yn newid yn ôl i 12% o 13.25% o 6 Tachwedd 2022. Nid yw’r trothwyon yn cael eu newid y flwyddyn hon a byddent yn aros yn gyson ar gyfer y flwyddyn dreth 2022/23.
Yn ogystal, mae’r Ardoll Gofal Iechyd a Chymdeithasol a oedd i’w chyflwyno o fis Ebrill 2024 wedi’i sgrapio.
Er enghraifft, os ydych yn ennill £1,000 yr wythnos, rydych yn talu:
- dim byd ar y £242 cyntaf
- 13.25% (£102.95) ar y £777 nesaf
- 3.25% (£1.070) ar y £33 nesaf.
Gallai’r cyfradd Yswiriant Gwladol rydych yn ei dalu fod yn is os gwnaethoch ddewis Cyfradd Gostyngedig Merched Priod cyn Ebrill 1977. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Fel cyflogai, bydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dod i ben pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy am eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar wefan GOV.UK
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
Os ydych yn hunan-gyflogedig, efallai y gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 2 yn lle. Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn cael eu gosod ar gyfraniadau wythnosol cyfradd unffurf o £3.05 yr wythnos yn 2021-22 (£3.15 yr wythnos yn 2022-2023).
Bydd rhaid i chi eu talu am bob wythnos neu wythnos rannol o hunan-gyflogaeth mewn blwyddyn dreth. Mae hyn os yw'ch elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan yn £6,515 (y Trothwy Elw Bach) neu fwy yn 2021-22 (£6,725 yn 2022-23).
Mae talu cyfraniadau Dosbarth 2 yn wirfoddol i bobl hunan-gyflogedig sydd ag elw islaw'r Trothwy Elw Bach. Gall talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, hyd yn oed os yw'ch elw yn is, eich helpu i adeiladu hawliau cyfrannol at fudd-daliadau.
Gall hwn fod yn faes arbenigol ond os ydych yn defnyddio cyfrifydd i wneud eich llyfrau neu helpu â'ch ffurflen dreth, byddant yn gallu rhoi rhywfaint o arweiniad i chi ar hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig
Cyfraddau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ‘Dosbarth 3’
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol Dosbarth 3 wedi eu llunio i lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Y nod yw sicrhau Pensiwn y Wladwriaeth uwch i chi.
I gael Pensiwn y Wladwriaeth newydd llawn, bydd angen i chi gael 35 mlynedd cymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae'n daladwy i bobl sydd wedi cyrraedd eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016.
Bydd unrhyw un sydd â llai na hyn yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth ostyngedig. I dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth newydd mae angen i chi gael o leiaf deng mlynedd cymwys.
Os nad oes gennych chi ddigon o flynyddoedd cymhwyso, efallai yr hoffech dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 i gynyddu'ch hawl i bensiwn.
Am 2022/23, bydd cyfraniadau Dosbarth 3 yn daladwy ar gyfradd wythnosol o £15.85. Dyma'r uchafswm y gallwch ei dalu bob wythnos. Weithiau mae’n rhaid talu ar gyfradd y flwyddyn rydych yn talu ynddo yn lle cyfradd y flwyddyn rydych yn talu amdano. Mae’r cyfraniadau’n cael eu casglu gan CThEF gan alw chwarterol neu ddebyd uniongyrchol misol.
Efallai na fyddwch bob amser yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 3 am flwyddyn dreth.
Dyna pam ei bod yn bwysig darganfod:
- a allwch wneud taliadau tuag at unrhyw fylchau
- faint fydd angen i chi ei dalu
- pa fudd (os o gwbl) y byddech yn ei gael trwy wneud taliad gwirfoddol.
Darganfyddwch fwy am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol a phensiwn y wladwriaeth – a gwirio'ch rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth – ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4
Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw o £9,569 neu fwy yn 2021-22 (£9,880 yn 2022-23), byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4.
Os ydych dros y trothwy hwn, byddwch yn talu 9% ar elw rhwng £9,569 a £50,270 yn 2021-22 (£9,800 a £50,270 yn 2022-23).