Os byddwch yn gadael eich cyflogwr, neu'n stopio talu cyfraniadau i'ch cynllun pensiwn, ni fyddwch yn colli'r hyn rydych wedi'i adeiladu yn y cynllun bryd hynny.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gadael eich cynllun pensiwn neu stopio cyfraniadau
Gall eich amgylchiadau newid ar unrhyw adeg. Gallai hyn olygu bod angen i chi stopio talu i'ch pensiwn, neu ddewis gwneud hynny.
Nid oes rhaid i chi aros yn aelod o'ch cynllun pensiwn a gallwch stopio talu cyfraniadau ar unrhyw adeg. Cofiwch y bydd eich cyflogwr hefyd yn stopio talu i mewn iddo hefyd.
Os byddwch yn stopio talu cyfraniadau, neu'n gadael eich cyflogwr, rydych yn cael eich trin fel pe baech wedi gadael eu cynllun pensiwn gweithle.
Bydd beth byddwch wedi cronni yn parhau i fod yn eiddo i chi, a bydd gennych amryw o opsiynau.
Mae'n werth bod yn ymwybodol, os byddwch yn gadael y cynllun, y gallech golli buddion eraill - er enghraifft, yswiriant bywyd.
Ar ôl i chi adael y cynllun – eich opsiynau
Ar ôl i chi adael y cynllun, mae gennych amryw o opsiynau:
Fel arfer, gallwch ddechrau cymeryd arian allan o’ch pensiwn o 55 oed ymlaen (codi i 57 oed o 2028 ymlaen).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth sy’n digwydd i’ch arian a buddion pensiwn pan fyddwch yn gadael eich cynllun?
Efallai gallech symud eich pensiwn i bensiwn gweithle cyflogwr newydd, neu i bensiwn unigol rydych wedi ei sefydlu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Adeiladu eich cronfa bensiwn
A ydych yn aelod o bensiwn personol? Mae hyn yn cynnwys pensiwn personol hunan-fuddsoddedig a chynllun pensiwn rhanddeiliaid. Yna dylech gallu parhau i gyfrannu ato. Ond ni chewch unrhyw gyfraniadau pellach gan eich (hen) gyflogwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau: Pensiynau personol, Pensiynau personol hunan-buddsoddi a Cynlluniau pensiynau cyfranddeiliaid
Os ydych wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn gweithle am lai na dwy flynedd, efallai y gallwch ofyn am ad-daliad gwasanaeth byr o'ch cyfraniadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn
A oeddech wedi’ch ymrestru'n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr a phenderfynu stopio talu cyfraniadau? Os ydych yn dal i weithio i'r un cyflogwr, byddant yn eich ailymrestru'n awtomatig i'r cynllun bob tair blynedd, os ydych yn gymwys. Os nad ydych eisiau ail-ymuno, gallwch optio allan, neu stopio cyfrannu eto.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymuno – ymrestru awtomatig
Os ydych yn dal i weithio i'r un cyflogwr, efallai gallwch ail-ymuno â'r cynllun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ail-ymuno â chynllun pensiwn gweithle
Os byddwch yn gadael eich pensiwn lle y mae, fel arfer mae gennych yr opsiwn i drosglwyddo'ch pensiwn yn ddiweddarach.
Os oes gennych gynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio y sector cyhoeddus, efallai na fydd yn bosibl trosglwyddo'ch buddion i gynllun pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio.
Darganfyddwch fwy am y pensiynau hyn yn ein canllaw Ymuno â chynlluniau pensiynau gweithle
A yw'ch cyflogwr wedi mynd allan o fusnes? Er enghraifft, efallai eu bod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, y derbynnydd, neu’n cael eu diddymu. Bydd sut mae hyn yn effeithio arnoch yn dibynnu a oes gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio neu gyfraniadau wedi'u diffinio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth sy'n digwydd i'ch pensiwn os yw'ch cyflogwr yn mynd allan o fusnes?
Gallai rheolau eraill fod yn berthnasol os yw'ch cyflogwr yn cau eu cynllun pensiwn gweithle os ydynt wedi cymryd drosodd neu'n uno â chwmni arall. Gelwir y rheolau hyn yn reoliadau Trosglwyddo Ymrwymiadau Diogelu Cyflogaeth.