Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Esbonio pensiynau
Pensiynau ac ymddeoliad Esbonio pensiynau

SIPPs wedi’u hegluro: pensiynau buddsoddi personol

Mae pensiwn buddsoddi personol (SIPP) yn eich caniatáu i benderfynu sut mae eich arian pensiwn yn cael ei fuddsoddi – fel arfer yn cynnig dewis ehangach na mathau eraill o bensiynau. Gallwch naill ai adael i'ch darparwr ddewis drosoch, dewis eich buddsoddiadau eich hun neu dalu ymgynghorydd ariannol i'ch helpu.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw SIPP?
  • Sut mae SIPP yn gweithio?
  • Sut mae SIPP yn wahanol i bensiynau personol eraill?
  • Sut ydw i’n dewis fy muddsoddiadau fy hun ar gyfer SIPP?
  • Faint ddylwn i arbed i mewn i SIPP?
  • Sut mae sefydlu SIPP?

Beth yw SIPP?

Mae pensiwn buddsoddi personol (SIPP) yn fath o bensiwn y gallwch ei sefydlu eich hun. Mae'n gadael i chi gynilo dros nifer o flynyddoedd i roi arian i chi fyw pan fyddwch chi'n hŷn.

Rydych chi'n gallu dewis y darparwr pensiwn ac yn aml gallwch benderfynu:

  • faint a pha mor aml i dalu i mewn
  • sut mae eich arian yn cael ei fuddsoddi – gan gynnwys os ydych chi am ei reoli eich hun.

Fel arfer gallwch ddechrau SIPP o 18 oed, neu agor un ar ran rhywun iau – yn aml ar gyfer plentyn neu ŵyr.

Fel arfer, ni allwch ddechrau a thalu i mewn i SIPP ar ôl i chi gyrraedd 75 oed, oni bai eich bod yn trosglwyddo ar draws pensiwn presennol.

A allaf gael SIPP a phensiwn yn y gweithle?

Gallwch gael pensiwn gweithle gan eich cyflogwr a SIPP – neu unrhyw nifer o wahanol fathau o bensiynau.  

A yw SIPP yn well na phensiwn gweithle fy nghyflogwr?

Os oes gennych gyflogwr, mae talu i mewn i'w pensiwn yn y gweithle fel arfer yn well na phensiwn buddsoddi personol – oni bai eich bod eisiau pensiwn ar wahân ac ochr yn ochr â'r un hwnnw.

Mae hyn oherwydd y byddwch fel arfer yn cael cyfraniadau ychwanegol gan eich cyflogwr ac mae’r ffioedd yn aml yn is. Efallai y bydd eich cyflogwr hyd yn oed yn talu mwy i'r cynllun os gwnewch hynny. Gelwir hyn yn paru cyfraniadau.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am gynlluniau pensiwn yn y gweithle.  

Faint o SIPPs y gallaf ei gael?

Gallwch gael cymaint o gynlluniau pensiwn ag y dymunwch, ond byddwch fel arfer yn talu ffioedd i bob darparwr pensiwn.

Gall dewis eich buddsoddiadau eich hun ar gyfer SIPP fod yn gymhleth, felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr amser a'r arbenigedd i reoli cynlluniau lluosog cyn penderfynu agor mwy nag un.

Nol i’r brig

Sut mae SIPP yn gweithio?

Mae SIPP yn fath o  bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Mae hyn yn golygu bod y swm y bydd yn ei dalu i chi yn dibynnu ar:

  • faint sy'n cael ei dalu i mewn
  • pa mor dda y mae eich arian a fuddsoddwyd yn perfformio
  • y ffioedd y mae eich darparwr yn eu codi
  • sut a phryd rydych chi'n cymryd eich arian pensiwn.

Mae rhyddhad treth yn rhoi hwb i’ch cyfraniadau SIPP

Os ydych chi'n talu i mewn i bensiwn, mae'r llywodraeth fel arfer yn ychwanegu taliad ychwanegol o'r enw rhyddhad treth. Dyma'r arian y byddech chi'n ei dalu fel arall mewn Treth Incwm.

Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr pensiwn personol yn hawlio rhyddhad treth yn awtomatig i chi, ar gyfradd sefydlog o 20%. Mae hyn yn golygu y bydd cyfraniad o £100 i'ch pensiwn yn costio £80 i chi.

Os ydych chi'n talu Treth Incwm dros 20%, gallwch hawlio'r rhyddhad treth ychwanegol drwy gysylltu â CThEFYn agor mewn ffenestr newydd neu gwblhau ffurflen dreth Hunanasesu. Os ydych chi'n talu Treth Incwm ar 40%, mae hyn yn golygu y bydd cyfraniad pensiwn o £100 yn costio £60 i chi.

Bob blwyddyn dreth nes eich bod yn 75 oed, fel arfer gallwch gael rhyddhad treth ar eich holl gyfraniadau pensiwn cyn belled â:

  • nad ydych yn talu mwy nag yr ydych yn ei ennill ac
  • mae'r holl daliadau yn llai na'r lwfans blynyddol – £60,000 i'r mwyafrif.

Os ydych chi'n ennill llai na £3,600, gallwch gael rhyddhad treth ar hyd at £2,880 o'ch cyfraniadau pensiwn.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Beth yw manteision cynllun pensiwn?
  • Sut mae rhyddhad treth yn rhoi hwb i'ch cynilion pensiwn.

Gallwch ddewis eich buddsoddiadau neu adael i’ch darparwr benderfynu

Mae eich arian pensiwn yn cael ei fuddsoddi felly dylai dyfu dros nifer o flynyddoedd. Twf buddsoddi yw un o'r ffyrdd mwyaf y gall eich pensiwn gynyddu, ond nid yw'n gwarantedig.

Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr SIPP yn rheoli eich arian ac yn dewis y buddsoddiadau i chi, oni bai eich bod am ddewis eich hun.

Mae'n debygol y bydd eich darparwr pensiwn yn cymryd ffioedd o'ch cronfa bensiwn i dalu cost buddsoddi. Mae hyn fel arfer yn cynnwys ffi rheoli flynyddol a ffioedd os ydych am newid eich buddsoddiadau. 

Pryd alla i gymryd arian o SIPP?

Y cynharaf y gallwch chi gymryd eich pensiwn fel arfer yw 55 oed (57 o Ebrill 2028), oni bai bod angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael. Ond mae llawer o gynlluniau wedi'u cynllunio i ddechrau talu o tua 65 oed.

Pan fyddwch chi'n barod, gallwch ddewis sut i ddefnyddio'ch arian. Mae hyn yn cynnwys cymryd hyd at 25% fel arian parod di-dreth ac:

  • adael y gweddill mewn fuddsoddiad nes bod ei angen arnoch
  • trosi'r gweddill yn incwm gwarantedig
  • sefydlu incwm hyblyg y gallwch ei atal neu ei newid ar unrhyw adeg
  • cymryd y gweddill fel un cyfandaliad neu fwy.

Am eich holl opsiynau, gweler ein canllaw am gymryd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.

Os ydych chi'n 50 oed neu'n hŷn, gallwch hefyd gael apwyntiad Pension Wise am ddim. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd eich pensiwn. 

Nol i’r brig

Sut mae SIPP yn wahanol i bensiynau personol eraill?

Mae SIPP yn cynnig dewis ehangach o opsiynau buddsoddi i ddewis ohonynt. Ond os nad ydych eisiau reoli eich pensiwn yn weithredol, mae mathau eraill o bensiwn personol i'w hystyried:

  • pensiynau personol safonol – mae'r rhain yn cynnig amrywiaeth o gronfeydd buddsoddi parod fel y gallwch benderfynu ble mae eich arian yn cael ei fuddsoddi
  • pensiynau rhanddeiliaid – mae'r rhain gyda ffioedd wedi'i gapio, isafswm taliadau is, trosglwyddiadau di-ffi ac fel arfer yn cynnig ystod o gronfeydd buddsoddi i ddewis ohonynt.

Bydd pa un sydd orau yn aml yn dibynnu ar faint y bydd pob darparwr yn ei godi arnoch a'r ystod o opsiynau buddsoddi maent yn eu cynnig.

Nol i’r brig

Sut ydw i’n dewis fy muddsoddiadau fy hun ar gyfer SIPP?

Bydd llawer o ddarparwyr SIPP yn rheoli'ch arian drosoch yn ddiofyn, felly nid oes rhaid i chi ddewis eich buddsoddiadau eich hun oni bai eich bod eisiau.

Gallwch ddewis a newid eich buddsoddiadau SIPP drwy fewngofnodi i blatfform ar-lein eich darparwr, ap symudol neu drwy eu ffonio. Bydd eich opsiynau yn dibynnu ar yr hyn y mae eich darparwr yn ei gynnig, ond fel arfer gallwch ddewis buddsoddi mewn:

  • cronfeydd – grwpiau o fuddsoddiadau, yn aml yn cael eu dewis a'u rheoli gan weithwyr proffesiynol
  • cyfranddaliadau cwmni – lle rydych chi'n prynu cyfran o gwmni
  • bondiau'r llywodraeth neu gorfforaethol – lle mae sefydliadau'n talu i fenthyg eich arian
  • eiddo masnachol a thir – lle rydych chi'n prynu eiddo eich hun neu gyda'i gilydd ag eraill.

Gan eich bod yn rheoli, gallwch newid eich buddsoddiadau mor aml ag y dymunwch - ond byddwch fel arfer yn talu ffioedd bob tro.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun 
  • Esboniad o ffioedd a thaliadau’r cynllun pensiwn.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall y risgiau o fuddsoddi

Cyn penderfynu dewis eich buddsoddiadau pensiwn eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfforddus â'r cysyniad o fuddsoddi a pha mor ymglymedig y gallai fod angen i chi fod.

Mae yna lawer o bethau y mae angen i chi eu hystyried wrth fuddsoddi, gan gynnwys:

  • lefel y risg rydych chi'n fodlon ei gymryd – efallai y bydd buddsoddiadau risg is yn llai tebygol o ostwng mewn gwerth ond bydd eich arian fel arfer yn tyfu ar gyfradd arafach
  • sut orau i ledaenu'ch arian rhwng gwahanol fathau o fuddsoddiadau neu lefelau risg
  • sut y bydd y ffioedd y byddwch chi'n eu talu i'w buddsoddi yn effeithio ar eich cynilion.

Gall pob buddsoddiad godi a gostwng, felly mae yna bob amser risg y gallech gael llai yn ôl nag yr ydych chi'n talu i mewn.

Ystyriwch dalu am gyngor ariannol

Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i ddewis a rheoli eich opsiynau buddsoddi pensiwn. Rhaid i chi gael gwybod faint fydd hyn yn ei gostio cyn i chi ymrwymo i unrhyw beth.

Gall ein teclyn eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd ymddeol neu gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi'n talu am gyngor ac nid yw’n profi i fod yn addas, efallai y byddwch chi'n gallu hawlio iawndal os ydych wedi colli arian. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i hawlio iawndal am broblem bensiwn neu gyngor gwael.   

Nol i’r brig

Faint ddylwn i arbed i mewn i SIPP?

Efallai y bydd gan eich darparwr SIPP isafswm y mae'n rhaid i chi ei dalu bob mis i'w gadw'n weithredol, ond fel arfer mae angen i chi gynilo llawer mwy na hyn ar gyfer ymddeoliad cyfforddus.

Bydd ein cyfrifiannell Pensiwn yn dangos i chi:

  • faint y gallai fod ei angen arnoch wrth ymddeol
  • faint y gallai eich pensiwn ei dalu i chi
  • faint yn ychwanegol y gallech ei gael drwy newid eich cyfraniadau.

Mae'r Retirement Living StandardsYn agor mewn ffenestr newydd hefyd yn dangos i chi faint y gallai fod angen i chi gael:

  • ffordd o fyw 'lleiafswm' - digon o arian i fyw arno, ynghyd ag adloniant a gwyliau
  • ffordd o fyw 'cymedrol' - diogelwch ychwanegol ac arian ar gyfer mwy o wyliau ac adloniant, neu
  • ffordd o fyw 'cyfforddus' - digon o arian fel y gallwch chi wneud rhan fwyaf o’r pethau rydych chi eisiau eu gwneud.

Gallwch gyfuno SIPP gyda ffyrdd eraill o gynilo

Mae pensiwn fel arfer yn tyfu'n gyflymach na mathau eraill o gynilion neu fuddsoddiadau wrth i ryddhad treth roi hwb i'ch cyfraniadau. Yn ogystal, mae ffioedd yn gyffredinol yn is na chynhyrchion buddsoddi eraill.

Ond gan fod yr arian wedi'i gloi nes eich bod o leiaf yn 55 (57 ar ôl Ebrill 2028), mae'n syniad da cael cynilion eraill y gallwch eu cyrchu.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau cynilo a buddsoddi. 

Nol i’r brig

Sut mae sefydlu SIPP?

Y prif wahaniaethau rhwng darparwyr SIPP yw eu ffioedd a'r ystod o fuddsoddiadau maent yn eu cynnig, felly dylech ‘siopa o gwmpas’ bob tro cyn dewis cynnyrch.

Yn nodweddiadol, bydd 'SIPPs cost isel' yn cynnig llai o opsiynau buddsoddi a bydd 'SIPPs llawn' yn cynnig opsiynau buddsoddi mwy cymhleth gyda ffioedd uwch.

Sut i ddod o hyd i ddarparwyr SIPP a’u cymharu

Nid yw safleoedd cymharu sy'n cwmpasu'r farchnad bensiynau gyfan yn bodoli, felly bydd angen i chi naill ai:

  • chwilio a chymharu eich opsiynau â llaw – mae llawer o gwmnïau yswiriant, banciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig SIPPs
  • talu ymgynghorydd ariannol i argymell darparwr a chynnyrch i chi – gallwch hefyd eu talu i ddewis a rheoli eich buddsoddiadau.

Mae canllaw rhataf SIPPsYn agor mewn ffenestr newyd MoneySavingExpert  yn rhestru darparwyr SIPP rhad, felly gallai hwn fod yn lle da i ddechrau eich ymchwil.  

Am gymorth cam wrth gam, gweler ein canllaw Sut i ddechrau eich pensiwn eich hun. 

Trosglwyddo pensiynau presennol i SIPP

Byddwch yn ofalus cyn trosglwyddo'ch pensiynau presennol, efallai y byddwch chi'n colli buddion gwerthfawr wrth adael eich darparwr presennol.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw am drosglwyddo pensiynau. 

Beth sy’n digwydd i’m SIPP pan fyddaf yn marw?

Bydd eich darparwr pensiwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen mynegi dymuniadau. Mae hyn yn dweud wrthynt pwy hoffech chi dderbyn eich pensiwn ar ôl i chi farw, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddiweddaru.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys faint fyddai'n cael ei drethu, gweler ein canllaw Beth sy'n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw?  

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 756 1012Yn agor mewn ffenestr newydd neu defnyddiwch ein gwe-sgwrs. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

 

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Esbonio pensiynau

Sefydlu eich pensiwn eich hun

  • Sut i ddechrau eich pensiwn eich hun
  • Canllaw i bensiynau os ydych chi’n hunan-gyflogedig
  • Pensiynau personol: sefydlu eich pensiwnpreifat eich hun
  • SIPPs wedi’u hegluro: pensiynau buddsoddi personol
  • Pensiynau SSAS: cynlluniau hunan-weinyddu bach wedi’u hesbonio
  • Sut mae contract blwydd-dal ymddeol yn gweithio
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Sefydlu eich pensiwn eich hun

  • Sut i ddechrau eich pensiwn eich hun
  • Canllaw i bensiynau os ydych chi’n hunan-gyflogedig
  • Pensiynau personol: sefydlu eich pensiwnpreifat eich hun
  • SIPPs wedi’u hegluro: pensiynau buddsoddi personol
  • Pensiynau SSAS: cynlluniau hunan-weinyddu bach wedi’u hesbonio
  • Sut mae contract blwydd-dal ymddeol yn gweithio
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau