Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Adeiladu eich cronfa bensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Adeiladu eich cronfa bensiwn

Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun

Bydd llawer o ddarparwyr pensiwn yn rheoli eich arian ar eich rhan, felly nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Ond os ydych chi eisiau dewis sut y caiff eich arian ei fuddsoddi, neu os gofynnwyd i chi benderfynu, dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Mae darparwyr pensiwn yn defnyddio buddsoddiadau i dyfu eich arian
  • Gwiriwch a allwch chi ddewis eich buddsoddiadau eich hun
  • Gwiriwch a ydych yn hapus gyda chronfa ‘rhagosodedig’ eich cynllun
  • Eich prif opsiynau buddsoddi os ydych chi am ddewis eich hun
  • Beth i'w ystyried cyn dewis eich buddsoddiadau
  • Adolygwch eich dewisiadau buddsoddi o leiaf unwaith y flwyddyn

Mae darparwyr pensiwn yn defnyddio buddsoddiadau i dyfu eich arian

Bydd darparwr eich pensiwn (neu’r ymddiriedolwyr) fel arfer yn defnyddio amrywiaeth o fuddsoddiadau i helpu i dyfu eich arian – neu eu harian os ydynt wedi addo incwm ymddeoliad i chi yn lle.

Ar gyfer llawer o bensiynau, ar ôl unrhyw gyfraniadau gennych chi a/neu eich cyflogwr, twf buddsoddiad fydd fel arfer yn cael yr effaith fwyaf ar faint fydd gennych pan fyddwch yn ymddeol.

Mae’r mathau o fuddsoddiadau y gallai darparwyr pensiwn eu defnyddio yn cynnwys:

  • bondiau'r llywodraeth neu fondiau corfforaethol – lle mae darparwr eich pensiwn yn rhoi benthyg arian i eraill
  • stociau a chyfranddaliadau – lle maent yn prynu a gwerthu rhannau o gwmnïau gwahanol
  • nwyddau – lle maen nhw'n prynu a gwerthu rhywbeth ffisegol, fel aur neu nwy
  • eiddo
  • arian parod.

Gan y gall buddsoddiadau fynd i fyny ac i lawr mewn gwerth, mae cronfeydd pensiwn fel arfer yn defnyddio cymysgedd o fuddsoddiadau i gydbwyso'r risg. Gelwir hyn yn arallgyfeirio ac yn ei hanfod mae'n golygu os bydd rhai buddsoddiadau'n mynd i lawr, gobeithio y bydd y lleill yn aros yr un peth neu'n cynyddu.

Nol i’r brig

Gwiriwch a allwch chi ddewis eich buddsoddiadau eich hun

Pan fyddwch yn ymuno â phensiwn, bydd eich arian yn aml yn cael ei fuddsoddi’n awtomatig ar eich rhan – fel arfer yng nghronfa ‘rhagosodedig’ eich cynllun pensiwn. Mae cronfeydd rhagosodedig fel arfer yn defnyddio ystod o fuddsoddiadau sy'n bodloni anghenion y rhan fwyaf o aelodau'r cynllun.

Efallai y bydd gennych hefyd yr opsiwn i ddewis ble y caiff eich arian ei fuddsoddi, yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych. Gall eich darparwr pensiwn neu gyflogwr ddweud wrthych ba fath o bensiwn sydd gennych os nad ydych yn siŵr.

Efallai y gallwch ddewis eich buddsoddiadau eich hun os oes gennych:

  • bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio neu
  • pensiwn personol

Ni allwch ddewis eich buddsoddiadau eich hun os oes gennych:

  • bensiwn buddion wedi’u diffinio (a elwir yn aml yn gynllun cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa) neu
  • cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol.

Os hoffech yr opsiwn hwn, gallech ystyried sefydlu cynllun pensiwn ar wahân fel cynllun pensiwn buddsoddi personol  (SIPP).

Nol i’r brig

Gwiriwch a ydych yn hapus gyda chronfa ‘rhagosodedig’ eich cynllun

Os ydych chi’n ystyried dewis eich buddsoddiadau eich hun, gwiriwch yn gyntaf a ydych chi’n hapus gyda chronfa ‘rhagosodedig’ eich darparwr pensiwn – lle mae’ch arian fel arfer yn cael ei roi’n awtomatig.

Gelwir y rhain yn aml yn gronfeydd ‘ffordd o fyw’ neu ‘ddyddiad targed’, gyda rheolwyr cronfeydd proffesiynol yn rheoli eich arian ar eich rhan. Mae hyn yn golygu y gallant ddefnyddio eu profiad o fuddsoddi i:

  • ledaenu eich arian ar draws ystod o fuddsoddiadau
  • gwirio na fydd eich arian ymddeol yn cael ei leihau gan chwyddiant
  • ystyried ffioedd a thaliadau.

Mae cronfeydd rhagosodedig fel arfer yn cymryd llai o risgiau wrth i chi nesáu at oedran ymddeol

Bydd llawer o gronfeydd rhagosodedig yn gwneud dewisiadau buddsoddi yn seiliedig ar eich dyddiad ymddeol disgwyliedig.

Mae hyn fel arfer yn golygu y bydd eich darparwr pensiwn yn cymryd llai o risgiau gyda’ch arian po agosaf y byddwch yn cyrraedd ymddeoliad, gan fod llai o amser i adennill unrhyw golledion buddsoddi.

Er enghraifft, gallai darparwr eich pensiwn:

  • buddsoddi mewn buddsoddiadau mwy peryglus pan fyddwch yn iau – mae’r rhain yn debygol o dyfu dros gyfnodau hir o amser ond gallent fynd i fyny ac i lawr yn y tymor byr
  • symud eich arian i fuddsoddiadau mwy sefydlog wrth i chi nesáu at eich oedran ymddeol, fel bondiau'r llywodraeth ac arian parod.

Efallai na fydd aros yn y gronfa rhagosodedig yn iawn i chi

Mae cronfa rhagosodedig fel arfer yn tybio y byddwch yn:

  • ymddeol ar eich ‘oedran pensiwn arferol’ – mae hyn yn dibynnu ar reolau eich cynllun, ond yn aml mae’r un peth â’ch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
  • tynnu eich arian pensiwn i gyd allan pan fyddwch yn ymddeol, felly na fydd arian ar ôl i’w fuddsoddi – er enghraifft, efallai y byddwch yn cymryd cyfandaliad arian parod a defnyddio'r gweddill i gael incwm gydol oes (blwydd-dal).

Mae hyn yn golygu efallai y byddwch am ystyried ffordd wahanol o fuddsoddi eich arian os ydych yn bwriadu:

  • ymddeol yn gynharach neu'n hwyrach na'ch oedran pensiwn arferol – fel arfer gallwch gael mynediad at eich pensiwn o 55 oed (57 oed o fis Ebrill 2028)
  • cymryd incwm ymddeoliad hyblyg – lle rydych yn cael rhywfaint o'ch arian ac yn gadael y gweddill wedi'i fuddsoddi nes eich bod am ei gymryd allan (a elwir yn tynnu pensiwn i lawr).

I gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau, gweler ein canllaw Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa bensiwn?

Os ydych yn 50 oed neu’n hŷn, gallwch hefyd drefnu apwyntiad Pension Wise am ddim a diduedd i drafod y gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd arian o’ch cronfa bensiwn.

Nol i’r brig

Eich prif opsiynau buddsoddi os ydych chi am ddewis eich hun

Os ydych wedi penderfynu peidio ag aros gyda chronfa bensiwn rhagosodedig eich darparwr pensiwn, neu os gofynnwyd i chi ddewis, bydd angen i chi wneud rhai penderfyniadau eich hun.

Bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn cynnig amrywiaeth o gronfeydd eraill y gallwch ddewis rhyngddynt, yn aml gyda themâu gwahanol, megis:

  • buddsoddiadau moesegol sy'n osgoi rhai diwydiannau fel gamblo, tybaco neu fwyngloddio
  • buddsoddiadau o wlad benodol
  • buddsoddiadau sy'n dilyn cyfraith Islamaidd (Sharia).

Bydd y dewis o fuddsoddiadau o fewn pob cronfa yn cael ei reoli gan reolwyr cronfa proffesiynol.

Fel arfer gallwch fuddsoddi mewn sawl cronfa 

Fel arfer gallwch ddewis buddsoddi mewn un gronfa neu wasgaru eich arian dros nifer o gronfeydd. Fel arfer bydd gan eich darparwr pensiwn lwyfan ar-lein neu ap symudol y gallwch ei ddefnyddio i newid eich opsiynau, neu gallwch eu ffonio.

Er mwyn eich helpu i benderfynu, dylai eich darparwr pensiwn restru gwybodaeth fel:

  • sut mae pob cronfa yn cael ei buddsoddi
  • sut mae'r gronfa wedi perfformio yn y gorffennol
  • y costau rheoli cronfa y bydd angen i chi eu talu – canran a godir yn flynyddol fel arfer
  • os yw'r gronfa yn risg uchel, canolig neu isel.

Efallai y bydd opsiwn robo-fuddsoddi hefyd, lle caiff eich arian ei ddewis yn awtomatig ar eich cyfer yn seiliedig ar faint o risg rydych chi'n fodlon ei gymryd. Mae hyn fel arfer yn seiliedig ar holiadur risg y byddwch yn ei lenwi pan fyddwch yn cofrestru.

Nol i’r brig

Beth i'w ystyried cyn dewis eich buddsoddiadau

Cyn penderfynu dewis eich buddsoddiadau eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfforddus â’r cysyniad o fuddsoddi eich arian pensiwn. Cofiwch:

  • gall eich buddsoddiadau fynd i fyny ac i lawr mewn gwerth, felly mae risg y byddwch yn cael llai yn ôl na’r hyn rydych wedi’i dalu i mewn
  • ni fyddwch yn gallu cael mynediad at eich pensiwn tan o leiaf 55 oed (57 o Ebrill 2028)
  • byddwch yn talu taliadau am bob cronfa rydych yn buddsoddi ynddi – er enghraifft, 1% o'r arian rydych wedi'i fuddsoddi fel ffi reoli flynyddol.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ystyried llawer o bethau wrth reoli eich buddsoddiadau pensiwn, gan gynnwys:

  • lefel y risg rydych yn fodlon ei chymryd – mae buddsoddiadau risg is yn llai tebygol o ostwng mewn gwerth, ond fel arfer bydd eich arian yn tyfu ar gyfradd arafach
  • y ffordd orau o rannu'ch arian rhwng gwahanol fathau o fuddsoddiadau neu lefelau risg
  • faint sydd ei angen ar eich arian i dyfu bob blwyddyn i guro chwyddiant – mae prisiau'r gyfradd yn cynyddu dros amser (£1 nawr yn prynu llai i chi yn y dyfodol).

Am fwy o help a gwybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Canllaw dechreuwyr i fuddsoddi
  • Buddsoddi mewn ymddeoliad
  • Ffioedd cynllun pensiwn

Ystyriwch dalu am gyngor buddsoddi

Gall ymgynghorydd ariannol roi cyngor i chi ar sut i fuddsoddi eich arian.

Gall ein teclyn Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad eich helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn cynllunio ymddeoliad ar-lein, wyneb yn wyneb a thros y ffôn.

I gael mwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol.

Nol i’r brig

Adolygwch eich dewisiadau buddsoddi o leiaf unwaith y flwyddyn

O leiaf unwaith y flwyddyn, mae’n werth gwneud yn siŵr eich bod dal yn gyfforddus gyda manylion eich cronfeydd a ddewiswyd:

  • lefel risg
  • perfformiad (faint mae eich arian pensiwn wedi newid), a
  • taliadau a ffioedd.

Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon ar eich datganiad blynyddol. Efallai y byddwch am wirio’n amlach po agosaf y byddwch at gyrraedd eich ymddeoliad, neu os ydych yn rheoli eich buddsoddiadau pensiwn eich hun.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Adeiladu eich cronfa bensiwn

Adeiladu cronfa ymddeol

  • Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun
  • Aberthu cyflog a’ch pensiwn
  • Gwneud y gorau o’ch pensiynau
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Adeiladu cronfa ymddeol

  • Sut i ddewis eich opsiynau buddsoddi pensiwn eich hun
  • Aberthu cyflog a’ch pensiwn
  • Gwneud y gorau o’ch pensiynau
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau