Efallai bod eich bargen morgais wedi bod yn gystadleuol pan ei chawsoch gyntaf. Ond gallai adolygu eich morgais yn rheolaidd, ac ailforgeisio pan fydd bargen well ar gael arbed llawer o arian i chi.
Pa mor aml ddylech adolygu eich morgais?
Yn ddelfrydol dylech chwilio am well bargeinion morgais yn gyson.
Mae rhai newydd yn dod ar y farchnad o hyd ac os nad ydych wedi eich cloi mewn bargen gyfradd sefydlog neu ddisgownt gyda thâl ad-dalu’n gynnar gall fod yn werth i chi newid eich benthycwyr (ail-forgeisio) ar unrhyw adeg.
Dylech o leiaf adolygu eich morgais:
- pan fydd cyfraddau llog yn newid – oherwydd bydd hyn yn effeithio ar ba mor gystadleuol yw’ch cynnig presennol
- pan fydd eich cynnig morgais presennol yn dod i ben – oherwydd gallai eich cyfradd godi, ac
- unwaith y flwyddyn os nad ydych wedi’ch clymu i ddelio â chosbau am ad-dalu’n gynnar – i weld sut mae eich cynnig presennol yn cymharu â chynigion newydd sydd wedi dod ar y farchnad
Os na fyddwch chi’n gwneud dim byd pan fydd cyfraddau’n newid neu eich cynnig morgais yn dod i ben, gallech golli’r cyfle i gael nifer o gynigion gwell sydd ar gael ar y farchnad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth ail-forgeisio
Cael eich atgoffa i adolygu’ch morgais
Trefnwch nawr i gael eich atgoffa i adolygu’ch morgais unwaith y flwyddyn – neu cyn i’ch cynnig sefydlog presennol ddod i ben. Gallech arbed cannoedd o bunnoedd i’ch hun!
Trefnwch nodyn yn eich dyddiadur i ddechrau chwilio o leiaf dri mis cyn y bydd eich cynnig sefydlog neu ddisgownt presennol yn dychwelyd i gyfradd amrywiol safonol y benthyciwr.
Faint allwch ei arbed drwy ail-forgeisio?
Awgrym wrth newid
Pan fyddwch yn newid, os bydd y taliadau misol yn is gallwch ddewis naill ai talu taliadau llai neu – yn well fyth – gadw at eich taliadau gwreiddiol a lleihau cyfnod y morgais.
Dywedwch fod gennych £175,000 yn dal ar ôl i’w ad-dalu ar eich morgais, gyda chyfnod o 20 mlynedd ar ôl. Rydych ar gynnig o 5% ac yn ad-dalu £1,115 y mis.
Mae hyn yn golygu bod cytundebau mwy cystadleuol bellach ar gael i chi ac, os gwnaethoch adolygu eich morgais heddiw, efallai y gallwch newid i fargen llawer rhatach o ddim ond 3%.
Taliadau misol ar £175,000 ar y gyfradd 5% | Taliadau misol ar £175,000 ar y gyfradd 3% | Arbedion (ar ôl unrhyw ffioedd ail-forgeisio)* |
---|---|---|
£1,115 |
£971 |
£144 y mis neu |
Defnyddiwch y dolenni isod i weld beth yw gwerth eich eiddo ac i weld faint allech ei arbed wrth ail-forgeisio i gyfradd is.
Fodd bynnag, cyn unrhyw newid dylech bob amser ymchwilio i weld pa ffioedd fydd yn rhaid ichi eu talu – gweler ‘Cadw llygad ar gostau ail-forgeisio’ isod.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell morgeisi i weld faint fyddech yn ei arbed ar gynnig rhatach.
- Edrychwch ar Zoopla i weld a yw gwerth eich eiddo wedi codi.
- Chwiliwch am fathau tebyg o eiddo sydd ar werth yn ardal eich cod post ar Rightmove
- Defnyddiwch gyfrifiannell mynegai prisiau tai Nationwide
Cadw llygad ar gostau ail-forgeisio
Er eich bod yn aml yn gallu lleihau eich taliadau wrth newid, cofiwch fod llawer o gostau’n gysylltiedig ag ail-forgeisio.
- Efallai y bydd rhaid talu costau uchel am ad-dalu’n gynnar os byddwch yn gadael cyn i gyfnod cloi gwreiddiol eich morgais ddod i ben. Mae’n annhebygol y bydd costau os ydych ar gyfradd amrywiol safonol eich benthyciwr.
- Mae’n bosibl y bydd eich benthyciwr newydd yn codi ffioedd prisio a chyfreithiol arnoch, ond bydd y rhain yn cael eu hanwybyddu’n aml os byddwch yn cwblhau’r ail-forgeisio’n llwyddiannus. Dylech bob amser holi am y ffioedd hyn wrth gymharu cynhyrchion.
- Mae’n debygol y bydd yn rhaid talu ffi gadael pan fyddwch yn gadael eich benthyciwr presennol. Dylech gynnwys hyn yn eich costau.
- Fel arfer, mae’n rhaid talu ffi archebu neu drefnu hefyd ar y cynnig newydd – gallwch ddewis cynnig heb ffi er mwyn osgoi ffioedd archebu neu drefnu ond mae’n bosibl y byddwch yn talu cyfradd llog uwch o ganlyniad i hynny.
Felly cofiwch ystyried cyfanswm cost unrhyw ail-forgeisio o’i gymharu â’r arbedion y byddwch yn eu gwneud, cyn mentro ac ail-forgeisio.
Meddyliwch yn ofalus am ail-forgeisio a chloi i mewn i fargen newydd gyda thaliadau ad-dalu cynnar mawr os ydych yn ystyried symud tŷ yn y dyfodol rhagweladwy.
Mae’r rhan fwyaf o forgeisi bellach yn ‘gludadwy’, sy’n golygu y gellir eu symud i eiddo newydd. Ond, mae symud yn dal i gael ei drin fel cais newydd am forgais felly bydd angen i chi fodloni gwiriadau fforddiadwyedd y benthyciwr a meini prawf eraill i gael eich cymeradwyo ar gyfer y morgais.
Os na fyddwch chi’n pasio’r gwiriadau, yna efallai mai’ch unig opsiwn fydd cysylltu â benthycwyr eraill, a fydd yn golygu y byddwch yn talu tâl ad-dalu’n gynnar eich benthyciwr presennol.
Yn aml gall ‘cludo’ morgais olygu mai dim ond y balans presennol sy’n weddill ar y cytundeb sefydlog neu ddisgownt presennol, felly mae angen i chi ddewis bargen arall ar gyfer unrhyw fenthyciad ychwanegol ar gyfer y symud ac mae’r fargen newydd hon yn annhebygol o gyd-fynd ag amserlen y fargen bresennol.
Os ydych yn gwybod eich bod yn debygol o symud tŷ o fewn y cyfnod ad-dalu cynnar ar gyfer unrhyw fargen newydd, yna efallai y byddwch am ystyried bargeinion gyda thaliadau ad-dalu isel neu ddim taliadau ad-dalu cynnar sy’n rhoi mwy o ryddid i chi siopa o gwmpas ymhlith benthycwyr pan ddaw’r amser i symud.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ffioedd a chostau cysylltiedig â morgais
Os nad oes gennych awydd gwneud y symiau eich hun, darllenwch ein canllaw Cyngor morgais: a ddylech ddefnyddio cynghorydd morgais?
Cyn i chi newid
Ers mis Ebrill 2014, mae darparwyr benthyciadau wedi edrych yn fwy gofalus i weld a allwch fforddio morgais oherwydd rheoliadau newydd.
Mae hyn yn golygu y gallai gymryd mwy o amser nag yr oeddech wedi arfer ag ef a bydd yn rhaid i chi ddarparu prawf o'ch incwm a'ch holl dreuliau.
Efallai y bydd gofyn i chi:
- ddangos eich slipiau cyflog a chyfriflenni banc i brofi eich incwm, neu
- eich ffurflenni treth a chyfrifon busnes wedi eu llunio gan gyfrifydd os ydych yn hunangyflogedig.
Bydd eich alldaliadau yn cael eu rhoi yn erbyn eich incwm i weld pa mor fforddiadwy yw eich morgais.
Byddant yn edrych ar eich:
- biliau’r cartref
- ad-daliadau dyled eraill, a
- costau byw fel teithio, gofal plant ac adloniant.
Byddant hefyd yn gwirio sut y byddech yn ymdopi â chynnydd yn y gyfradd llog neu newidiadau yn eich ffordd o fyw fel colli incwm un unigolyn i gyplau.
Mae hyn yn golygu y gallwch ei chael hi’n anodd ail-forgeisio gyda benthyciwr newydd.
Felly, cyn ichi newid, gwiriwch eich costau ail-forgeisio a chysylltwch â’ch benthyciwr presennol i weld beth y gall ei gynnig i chi
Os ydych ar forgais llogau yn unig fe welwch fod benthycwyr yn edrych yn fanwl ar eich cynllun ad-dalu i sicrhau ei fod ar y llwybr iawn i dalu’r benthyciad gwreiddiol ar ddiwedd y morgais.
Os nad ydyw, fe allwch ei chael hi’n anodd newid i forgais llogau yn unig newydd.
Bydd benthycwyr yn derbyn cynlluniau ad-dalu gwahanol fel:
- cynilion a buddsoddiadau cyson;
- defnyddio taliadau bonws yn y dyfodol gyda thystiolaeth; a
- gwerthiant ased gwerthfawr yn y dyfodol gyda thystysgrif gyfredol yn nodi ei werth.
Os byddwch yn penderfynu newid i forgais newydd eich hun bydd raid i chi ymchwilio i’r farchnad a dewis cynnyrch heb unrhyw help na chyngor.
Ar ôl i chi ddewis, bydd raid i chi roi cyfarwyddiadau manwl i’r benthyciwr am:
- gwerth eich cartref
- y morgais yr ydych am ei gael,
- faint yr ydych yn ei fenthyca, ac
- am ba mor hir y bydd y morgais yn parhau.
Gelwir hyn yn weithredu yn unig felly bydd y benthyciwr yn ysgrifennu atoch i gadarnhau nad ydych wedi cael cyngor nac asesiad a yw’r morgais newydd yn addas i chi, a bydd raid i chi gadarnhau hynny.
Ble gallwch gymharu cynigion morgeisi
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i morgais addas.
Mae gwefannau poblogaidd ar gyfer cymharu morgeisi, yn cynnwys:
Cofiwch:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Felly mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
- Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar wefannau cymharu.