Gall ailforgeisio arbed cannoedd o bunnoedd i chi. Ond mae llawer o bethau y mae rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt i sicrhau eich bod yn cael y fargen orau.
Pam ddylwn ailforgeisio?
Pan wnaethoch gymryd eich morgais am y tro cyntaf, efallai eich bod wedi bod wedi cael bargen dda. Ond dros amser, mae'r farchnad morgeisi yn newid, ac mae bargeinion newydd ar gael. Mae hyn yn golygu y gallai fod bargen well ar gael i chi nawr, a allai arbed cannoedd o bunnoedd i chi.
Ni fydd rhaid i chi newid benthyciwr o reidrwydd.
Cofiwch wirio a oes unrhyw drefniant neu ffioedd cynnyrch ar unrhyw forgeisi newydd rydych yn edrych arnynt, ac os ydych yn dod â'ch cytundeb morgais i ben yn gynnar, unrhyw daliadau ad-dalu cynnar gan eich benthyciwr presennol.
Gall y ffioedd hyn ychwanegu at gost ailforgeisio ac efallai’n gwneud ailforgeisio'n ddrytach nag aros ar eich bargen gyfredol.
Pryd ddylwn ailforgeisio?
Gallwch ailforgeisio ar unrhyw adeg. Ond, os nad ydych ar ddiwedd eich tymor cyfradd sefydlog, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cost ad-daliad cynnar.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ailforgeisio pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu tymor cyfradd sefydlog neu gyfradd gostyngiad gan mai dyma pryd y gallai'ch morgais roi'r gorau i fod yn fargen dda.
Pam mae’n werth newid a phryd nad yw’n werth newid
Felly, sut allwch weithio allan a yw ailforgeisio mewn gwirionedd yn cael bargen well i chi?
Yn yr enghraifftiau isod gallwch weld y gwahanol symiau y byddech yn eu talu mewn cyfanswm, dros y cyfnod penodol, y mis ac mewn llog, yn dibynnu a wnaethoch lynu â'ch bargen wreiddiol neu symud i un o'r ddau opsiwn ailforgeisio.
Mae opsiwn 1 ac opsiwn 2 yn arbed arian i chi o gymharu â glynu ar eich bargen wreiddiol. Fodd bynnag, mae'r ffi trefniant ar opsiwn 2 yn ei gwneud hi'n ddrutach nag opsiwn 1.
Swm Benthyciad Morgais | Aros ar y fargen bresennol £175,000 | Opsiwn 1: £175,000 | Opsiwn 2: £175,000 |
---|---|---|---|
Cyfnod y Benthyciad |
20 mlynedd |
20 mlynedd |
20 mlynedd |
Llog yn ystod y Cyfnod Sefydlog |
5% |
3% |
3% |
Ffioedd Trefnu neu Gynnyrch |
0 |
0 |
£2000 o ffi drefnu wedi’i hychwanegu at y morgais |
Cyfanswm Cost y Morgais dros Gyfnod o 20 Mlynedd |
£291,196 |
£271,719 |
£274,824 |
Cyfanswm y Llog a Godir dros Gyfnod o 20 Mlynedd |
£116,196 |
£96,719 |
£97,824 |
Cyfanswm y Taliad Misol |
£1,155 |
£971 |
£982 |
Cost Morgais dros gyfnod sefydlog o 5 mlynedd gan gynnwys llog |
£69,295 |
£58,233 |
£58,898 |
Os byddwch yn newid eich morgais cyn diwedd eich bargen efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi (a elwir yn ‘dâl ad-dalu cynnar’).
Mae cyfanswm cost credyd wedi’i seilio ar unrhyw ffioedd cysylltiedig â morgais sy’n cael eu talu o flaen llaw ac nad ydynt yn cael eu hychwanegu at y morgais. Gall costau cysylltiedig â morgais amrywio rhwng darparwyr ac yn gwneud eich ad-daliadau’n fwy os ydych yn eu hychwanegu at y benthyciad. Mae’r gost dros gyfnod y ddêl wedi’i seilio ar y gyfradd gychwynnol sy'n aros yr un peth dros y cyfnod hwnnw ac yn tybio y bydd yn dychwelyd i gyfradd dychweliad safonol benthycwyr neu SVR o 6%. Mae’r gyfrifiannell ar gyfer morgais ad-dalu pan fydd llog yn cael ei gyfrifo’n fisol. Mae’r canlyniadau yn gymwys i log dyddiol pan fydd un taliad yn unig yn cael ei wneud bob mis. Mae’r ffigurau a ddyfynnir wedi’u talgrynnu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth ail-forgeisio
Gwiriwch y costau
Cyn newid, cofiwch wirio beth fydd y costau.
Efallai y bydd rhai benthycwyr yn cynnig bargen heb ffi i’ch temtio, ond os na fyddant, bydd gennych gostau cyfreithiol, costau prisio a chostau gweinyddu i’w talu.
Gallwch ddefnyddio’r Cyfradd Codi Tâl Ganrannol Flynyddol (APRC) i’ch helpu i gymharu cynigion.
Mae’r APRC yn ffordd o gyfrifo cyfraddau llog sy’n ymgorffori rhai ffioedd ynghlwm â morgeisi yn y cyfrifiad, gan eich galluogi i gymharu gwahanol gynigion morgeisi.
Gallai cynnig sy’n ymddangos fel un sy’n arbed arian i chi, achosi i chi fod ar eich colled yn y pen draw os na fyddwch yn cyfrifo’n gywir i gychwyn arni.
Dysgwch fwy drwy ein canllaw ar Ffioedd a chostau cysylltiedig â morgais
Lleihau eich benthyciad yn ôl gwerth i gael cyfradd well
Mae gan bob cytundeb morgais derfyn i faint y gallwch ei fenthyca o’i gymharu â gwerth presennol yr eiddo.
Dangosir hyn fel canran, a’r enw arno yw benthyciad yn ôl gwerth.
Pan fyddwch yn ail-forgeisio, yr isaf yw’r benthyciad yn ôl gwerth fydd ei angen arnoch, y mwyaf o gytundebau morgeisi fydd ar gael i chi – a ddylai roi bargen morgais rhatach i chi.
Sut i gyfrifo’ch benthyciad yn ôl gwerth
- Rhannwch y swm sy’n weddill ar eich morgais â gwerth presennol eich eiddo.
- Lluoswch y swm â 100.
Enghraifft
- Y swm sy’n dal yn weddill ar eich morgais yw £150,000
- Ym marn eich benthyciwr £200,000 yw gwerth eich eiddo
- 150,000 wedi ei rannu â 200,000 = 0.75
- 0.75 x 100 = 75 – felly eich benthyciad yn ôl gwerth yw 75%.
Defnyddiwch y dolenni hyn i gael syniad am werth presennol eich cartref:
Edrychwch ar Zoopla i weld a yw gwerth eich eiddo wedi codi
Chwiliwch am fathau tybyg o eiddo sydd ar werth yn ardal eich cod post ar Rightmove
Defnyddiwch gyfrifiannell mynegai prisiau tai Nationwide
Cofiwch ystyried y costau a’r ffioedd cysylltiedig.
Prisiad eich benthyciwr
Pan fyddwch yn gwneud cais am forgais, gallai prisiad y benthyciwr olygu edrych ar du allan yr eiddo o’r stryd yn unig.
Os ydych yn teimlo bod y prisiad yn rhy isel – ac felly’n colli cael cyfradd well – gofynnwch i’r benthyciwr ailystyried.
I gefnogi’ch achos, gallech ddarparu tystiolaeth o bris gwerthu ambell i eiddo tebyg yn eich ardal. Hefyd, os yw’n berthnasol, rhestrwch gost unrhyw welliannau rydych wedi’u gwneud i’ch eiddo.
Os ydych wedi arbed arian trwy ailforgeisio, ac rydych yn pendroni a ddylech dalu'ch morgais yn gynnar, darllenwch ein canllaw A ddylech ad-dalu’ch morgais yn gynnar?
Ail-forgeisio er mwyn cael cyfradd llog well
Pan fyddwch yn cymryd morgais newydd, byddwch fel arfer yn cael bargen gychwynnol.
Yn fwyaf tebygol cyfradd ostyngol neu gyfradd sefydlog is neu gyfradd tracio isel am flynyddoedd cyntaf eich morgais.
Fel arfer, bydd y bargeinion cychwynnol yn para rhwng dwy a phum mlynedd.
Ar ôl i’r fargen ddod i ben mae’n debyg y byddwch yn cael eich symud i gyfradd amrywiol safonol y darparwr, sydd fel arfer yn uwch na chyfraddau eraill gallech eu cael yn rhywle arall.
Felly, pan ddaw eich cyfnod cychwynnol i ben, tarwch olwg ar y farchnad i weld a fydd newid i forgais newydd yn arbed arian i chi.
Os oes gennych ddim ond swm bychan i’w ad-dalu eich morgais, efallai nad yw’n werth i chi newid oherwydd gallai’r swm y byddwch yn ei arbed fod yn rhy fach.
Mae hefyd yn werth adolygu opsiynau Cyn i gyfraddau llog newid
Ail-forgeisio er mwyn cael mwy o hyblygrwydd
Gallai ail-forgeisio hefyd eich helpu i gael bargen fwy hyblyg - er enghraifft os ydych eisiau gordalu.
Neu efallai eich bod am newid i forgais gwrthbwyso neu forgais cyfrif cyfredol, lle rydych yn defnyddio’ch cynilion i leihau’r llog yr ydych yn ei dalu yn barhaol neu dros dro – a’r opsiwn gennych i gael eich cynilion yn ôl os bydd eu hangen arnoch.
Darganfyddwch fwy yn Canllaw i forgeisi gyda nodweddion arbennig
Ail-forgeisio i gyfuno dyledion
Os oes gennych lawer o ddyledion, efallai y cewch eich temtio i gymryd benthyg rhagor o arian a’i ddefnyddio i dalu’ch dyledion eraill.
Er bod cyfraddau llog ar forgeisi yn is fel arfer na’r cyfraddau ar fenthyciadau personol – ac yn llawer is na chardiau credyd – efallai y byddwch yn talu llawer mwy ar y cyfan os yw’r benthyciad dros dymor hwy.
Yn hytrach nag ychwanegu’ch dyledion at eich morgais, ceisiwch flaenoriaethu’ch benthyciadau a’u clirio fesul un.
Dysgwch Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
Darganfyddwch Ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Gwiriwch y farchnad am fargeinion morgais
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais i ddarganfod faint y gallwch chi fforddio ei fenthyg.
Rydym yn argymell y gwefannau canlynol ar gyfer cymharu morgeisi:
Cofiwch:
- nid yw gwefannau cymharu i gyd yn rhoi'r un canlyniadau i chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un safle cyn gwneud penderfyniad.
- Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a'r nodweddion rydych eu hangen cyn prynu neu newid cyflenwr.
Meddyliwch yn ofalus am ail-forgeisio neu gloi mewn i gytundeb newydd gyda thaliadau ad-daliad cynnar mawr os ydych yn meddwl am symud cartref yn y dyfodol agos.
Mae’r rhan fwyaf o forgeisi nawr yn ‘gludadwy’, sy’n meddwl gallent gael eu symud i eiddo newydd. Ond, mae symud yn cael ei drin fel cais morgais newydd, felly bydd rhaid cwrdd â gwiriadau fforddiadwyedd y benthyciwr a meini prawf arall er mwyn cael eich derbyn am y morgais.
Os nad ydych yn pasio’r gwiriadau, efallai yr unig opsiwn fydd i fynd at fenthycwyr eraill, a fydd yn arwain atoch yn talu’r tâl ad-daliad cynnar i’ch benthycwr presennol.
Yn aml gall ‘trosglwyddo’ morgais olygu mai dim ond y balans sy’n weddill ar eich cytundeb sefydlog neu ddisgownt presennol felly mae angen dewis cytundeb arall am fenthyciad ychwanegol am y symud ac mae’r cytundeb newydd yn annhebygol o gyd-fynd ag amserlen y cytundeb presennol.
Os ydych yn gwybod eich bod yn annhebygol o symud cartref o fewn y cyfnod ad-daliad cynnar efallai y byddwch am ystyried cytundebau gydag ad-daliadau cynnar isel neu heb ad-daliadau cynnar gan roi mwy o ryddid i chi i siopa o gwmpas ymhlith benthycwyr pan ddaw’r amser i symud.
Mynnwch gyngor
Mae cymryd cyngor gan arbenigwr cymwys yn cynnig amddiffyniad ychwanegol i chi oherwydd os yw'r morgais yn anaddas, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).
Os dewiswch fynd i lawr y llwybr ‘gweithredu heb gyngor’ (lle byddwch yn gwneud penderfyniadau ar eich pen eich hun heb gyngor), bydd llai o amgylchiadau lle gallwch gwyno i FOS.