Os na allwch newid i forgais mwy fforddiadwy, er eich bod yn gyfoes â’ch taliadau, mae rheolau newydd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn golygu efallai eich bod wedi derbyn llythyr o’ch benthyciwr yn rhoi gwybod efallai rydych nawr yn gymwys i newid i fargen well gyda benthycwyr sydd wedi cofrestru i gynllun Modified Affordability Assessment.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Ydw i’n gaeth i forgais?
A gymeroch forgais i brynu eich cartref cyn 2014 a’ch bod bellach yn ei chael yn anodd newid i gytundeb gwell, hyd yn oed os ydych yn gyfoes â’ch taliadau? Efallai bod hwn oherwydd rheoliadau fforddiadwyedd newydd a gyflwynwyd gan yr FCA.
Mae profion fforddiadwyedd, neu asesiadau, yn edrych ar eich incwm a’ch treuliau i gyfrifo os gallwch fforddio ad-daliadau morgais.
Ers 2014, mae’r profion hyn wedi cael eu gwneud yn llawer mwy llym. Mae hyn yn golygu er efallai gwnaethoch basio’r prawf fforddiadwyedd pan gaethoch y morgais, efallai ni fyddwch nawr.
Yn Hydref 2019, cyflwynodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) newidiadau i’r rheolau gall helpu rhai benthycwyr newid i fargen morgais mwy fforddiadwy. Mae’r rheolau newydd hyn yn seiliedig ar eich hanes taliad morgais, yn hytrach na’r asesiad fforddiadwyedd.
Os ydych wedi’ch effeithio, byddwch wedi derbyn llythyr cyn Ionawr 2020 yn cadarnhau nad yw’n bosib i chi newid ac efallai gallwch elwa o'r newidiadau hyn.
Os ydych wedi derbyn llythyr, nid yw’n golygu eich bod yn gymwys i newid i fenthyciwr arall yn awtomatig.
A wyf yn gymwys i newid morgeisi o dan y rheolau newydd?
Os ydych wedi derbyn y llythyr ‘carcharor morgais’ ac yn gwneud cais i newid eich morgais, bydd benthycwyr yn defnyddio amrywiaeth o feini prawf gwahanol i benderfynu a fyddant yn derbyn eich cais morgais. Mae’r rhain yn amrywio o fenthyciwr i fenthyciwr, ond gallent gynnwys:
- Copi o’r llythyr mae’ch cwmni morgais wedi anfon atoch yn esbonio nad oes modd i chi newid ac efallai gallwch elwa o’r newid diweddar mewn rheolau.
- O leiaf 5 mlynedd yn weddill ar eich morgais.
- Morgais sy’n weddill o £50,000 o leiaf.
- Isafswm gwerth eiddo o £60,000.
- Benthyciad i werth (y swm rydych am ei fenthyg o’i gymharu â gwerth eich cartref) o ddim mwy nag 85%.
- Mae’r morgais ar eich cartref presennol (felly nid yw ar gael ar gyfer symudwyr cartref neu os ydych ar hyn o bryd yn gosod allan eich cartref).
- Nid yw eich morgais yn forgais prynu i rentu.
- Dim newidiadau i bwy gymerodd y morgais gwreiddiol (dim benthycwyr wedi’u hychwanegu na’u tynnu o’r morgais).
- Ni fethwyd unrhyw daliadau morgais yn ystod y 12 mis diwethaf. Nid yw hyn yn cynnwys gwyliau taliadau (gohirio) y cytunwyd arnynt â’ch benthyciwr ac a gymerwyd oherwydd yr achosion o goronafeirws.
- Gallu dangos cynllun ad-dalu clir os ydych ar, ac eisiau aros ar, forgais llog yn unig.
Os oes gennych forgais llog yn unig
Os ydych ar forgais llog yn unig, bydd benthycwyr newydd yn disgwyl i chi gael cynllun ad-dalu i ad-dalu’r morgais sy’n ddyledus ar ddiwedd ei dymor a gallu darparu prawf o’ch gallu i ad-dalu.
Os na fedrwch ddangos cynllun ad-daliad, mae’n annhebygol y byddwch yn elwa o’r opsiynau newid newydd.
Fodd bynnag, gallai rhai benthycwyr gynnig opsiynau sy’n cynnwys newid rhan o’ch morgais i ad-daliad (cyfalaf a llog).
Bydd hyn yn cynyddu eich taliadau misol ond yn eich gadael mewn gwell sefyllfa i ad-dalu’ch morgais yn ddiweddarach neu drwy drefnu i wneud gordaliadau i leihau’r ddyled gyfan a fydd yn ei gwneud yn haws i ail-forgeisio yn y dyfodol.
Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu ad-dalu’r morgais, ac/neu rydych wedi cyrraedd neu bron â chyrraedd diwedd tymor eich morgais, dylech weithredu nawr i ddeall eich opsiynau a’r hyn y gallwch ei wneud i wella’ch sefyllfa.
Bydd gweithredu’n gynnar yn eich rhoi yn y sefyllfa orau bosibl ar ddiwedd eich morgais, neu’n gwella eich opsiynau i gael cytundeb morgais newydd well yn y dyfodol.
Os ydych yn teimlo eich bod yn garcharor morgais oherwydd eich bod yn cael trafferth newid i fenthyciwr newydd, neu fod gennych forgais llog yn unig a methu ei ad-dalu, cysylltwch â ni. Gallwn eich cyfeirio at gyngor arbenigol i archwilio eich opsiynau.
Os oes gennych forgais Prynu i Rentu
Os oes gennych forgais Prynu i Rentu, ni fyddwch yn gymwys o dan y rheolau hyn.
Os oes gennych forgais preswylio â ‘chaniatad i rentu’ ac yn bwriadu parhau i rentu allan eich eiddo, ni fyddwch yn gymwys am y newidiadau hyn.
Sut gallai’r newidiadau fforddiadwyedd morgais fy helpu?
Gall benthycwyr morgeisi gynnal asesiad fforddiadwyedd wedi’i addasu os ydych:
- wedi derbyn llythyr ‘carcharor morgais’ o’ch cwmni morgais
- â morgais preswyl ar eich cartref
- yn gyfoes â’ch taliadau morgais ac wedi bod am y 12 mis diwethaf
- ddim eisiau benthyca mwy - heblaw talu am unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig â’r morgais
- ddim yn edrych i symud cartref.
Gall benthycwyr ddefnyddio’r rheolau hyn i gynnig morgais newydd i chi cyhyd ag y bydd yn fwy fforddiadwy i chi na’ch cytundeb presennol.
Mae cynnig unrhyw forgais newydd yn benderfyniad i fenthycwyr, felly bydd yr hyn sydd ar gael yn amrywio rhwng cwmnïau ac ni fydd pob un sy’n gaeth i’w morgais yn gymwys ar gyfer pob morgais.
Pa opsiynau newid eraill sydd ar gael?
Mae nifer o ffyrdd eraill y gallai benthyciwr helpu. Er enghraifft, gallai benthyciwr:
- ystyried opsiynau eraill ar gyfer benthycwyr hŷn, er enghraifft morgeisi llog yn unig wedi ymddeoliad neu ryddhau ecwiti
- ystyried trosi’n llwyr neu’n rhannol i forgais ad-daliad o forgais llog yn unig
- edrych ar bob cais yn unigol yn lle defnyddio dull awtomataidd.
Sut mae cael help a beth rwyf yn ei wneud nesaf?
Beth bynnag yw’ch amgylchiadau rydym am sicrhau eich bod yn cael y cyngor morgais arbenigol sydd angen arnoch mor gyflym â phosibl. Felly, mae’n rhaid i chi weithredu nawr os:
- Nad ydych wedi derbyn llythyr carcharor morgais ond yn cael trafferth newid i forgais mwy fforddiadwy.
- Mae gennych hanes credyd gwael ac am wybod pa help y gallwch ei gael.
- Mae gennych forgais llog yn unig, dim cynllun ad-daliad ac angen cyngor.
- Rydych dros 55, gan efallai bod cynnyrch morgais amgen ar gael i chi, gan gynnwys y sawl sydd yn benodol ar gyfer benthycwyr hŷn, fel morgeisi Gydol-oes (a adnabyddir hefyd fel Rhyddhad Ecwiti) a morgeisi ymddeol llog yn unig.
Cael cyngor am ddim
I drafod eich opsiynau gyda chynghorwr morgais sydd wedi’i rheoleiddio gan yr FCA am ddim gallwch gysylltu â StepChange Financial Solutions (rhan o elusen ddyled StepChange). Maent yn rhoi cyngor morgais ac ail-forgeisi diduedd ac am ddim a gallent ymchwilio’r farchnad morgais i gyd.
Bydd y cynghorwr morgais yn cymryd yr amser i ddeall eich amgylchiadau personol a’ch sefyllfa ariannol i’ch tywys trwy’r proses cyflawn, gan sicrhau bod y math o forgais yn gywir i chi ac ond awgrymu cynnyrch sy’n addas ar gyfer eich anghenion a’ch amgylchiadau, felly y gallwch deimlo’n hyderus eich bod wedi gwneud y penderfyniad cywir.
Maent hefyd wedi’i rheoleiddio i roi cyngor ar ddyledion felly gallent helpu datrys unrhyw broblemau arian sydd gennych hefyd.
I siarad â chynghorwr am eich morgais gallwch gysylltu â StepChange ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd neu ei ffonio ar 0808 1686 719Yn agor mewn ffenestr newydd
Siaradwch â brocer morgais
Os ydych wedi derbyn llythyr carcharor morgais ac am drafod eich opsiynau gyda chynghorwr morgais sydd wedi’i rheoleiddio, lawrlwythwch restr o gwmnïoeddYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 1.4MB) a all drafod eich opsiynau mewn mwy o fanylder.
Gall gynghorwyr morgais codi tâl am eu gwasanaeth, yn dibynnu ar y cynnyrch rydych yn ei ddewis a gwerth y morgais. Gall y gost hon fod yn gyfradd unffurf neu fesul awr, neu ganran o’r swm rydych yn ei fenthyg.