Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Morgais
Defnyddiwch ein cyfrifiannell morgais i ddarganfod faint y gallwch ddisgwyl ei dalu os yw eich cyfradd llog wedi newid
Last updated:
23 Rhagfyr 2022
Mae costau byw cynyddol yn pryderu’r rhan fwyaf ohonom, a nid yw’n wahanol i berchnogion tai, gyda chyfraddau llog ar eu lefel uchaf ers dros ddegawd. Cynyddodd Banc Lloegr y gyfradd sylfaenol er mwyn mynd i'r afael â chwyddiant cynyddol, sy'n golygu y byddwch yn debygol o weld cynnydd yn eich taliadau morgais misol os nad oes gennych gyfradd sefydlog neu'n dod i ddiwedd un.
Y gyfradd sylfaenol bresennol a osodwyd gan Fanc Lloegr yw 3%Yn agor mewn ffenestr newydd, cynnydd o'r gyfradd o 2.25% yn gynharach eleni, ac yn llawer uwch na'r gyfradd o 0.15% yn Rhagfyr 2021. Newidiodd y gyfradd ar 3 Tachwedd 2022 mewn ymateb i 'gyllideb fach' y llywodraeth.
Cytunir ar gyfraddau morgeisi gyda'ch benthycwr ac maent yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Gall morgeisi newydd fod rhwng 4 a 6%, neu hyd yn oed yn uwch.
Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â morgais yn cael eu heffeithio gan y cynnydd mewn cyfraddau llog mewn rhyw ffordd. Bydd faint yn fwy y bydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych, ymhlith ystod o ffactorau eraill.
Gosodir Cyfradd Amrywiol Safonol gan y benthycwr morgais ac fel arfer mae'n dilyn symudiadau cyfradd sylfaen Banc Lloegr.
Er efallai na fydd cyfraddau'n cynyddu cymaint â morgeisi cyfradd tracio, bydd benthycwyr yn debygol o drosglwyddo'r cynnydd yn y gyfradd llog i'w cwsmeriaid. Mae hyn yn golygu y gallai eich taliadau gynyddu cyn gynted â'ch taliad nesaf.
Dylai eich benthycwr morgais anfon llythyr atoch yn esbonio'r gyfradd newydd a'r hyn y gallwch ddisgwyl ei dalu. Os oes gennych forgais SVR ac nad ydych wedi clywed gan eich benthycwr, cysylltwch â nhw cyn gynted â phosibl.
Mae morgeisi cyfraddau tracio yn symud newid mewn cysylltiad â chyfradd arall - fel arfer cyfradd sylfaenol Banc Lloegr, ynghyd ag ychydig o ganrannau.
Ers i'r gyfradd sylfaenol gynyddu 0.75%, bydd eich cost fisol yn cynyddu'r un swm.
Mae cyfraddau tracio fel arfer yn para rhwng dwy i bum mlynedd cyn dychwelyd i SVR, felly gallech geisio newid i gyfradd sefydlog os ydych ar ddiwedd eich tymor. Fodd bynnag, mae rhai cyfraddau tracio yn para am fywyd eich morgais.
Nid yw morgais cyfradd sefydlog yn newid pan fydd cyfraddau llog yn newid, sy'n gallu helpu pan fydd yr economi mewn cynnwrf. Os ydych ar forgais cyfradd sefydlog, ni ddylai eich taliadau newid am y tro.
Fodd bynnag, os ydych chi'n dod at ddiwedd eich tymor cyfradd sefydlog, gallwch siarad ag ymgynghorydd morgais am ail-forgeisio cyn i'r cyfraddau gynyddu eto. Mae'n werth ei wneud cyn gynted â phosibl.
Os nad ydych yn ailforgeisio, bydd eich cyfradd yn newid yn awtomatig i SVR, a fydd yn cynyddu (neu'n gostwng) gyda chyfraddau llog.
Mae cyfraddau gostyngol yn cael eu gosod ychydig yn is na SVR, ond dim ond am amser penodol. Mae cyfraddau gostyngol yn cynyddu pan fydd cyfraddau SVR a chyfradd Banc Lloegr yn cynyddu, felly byddwch yn talu mwy bob mis.
Banc Lloegr sy'n gosod y gyfradd llog meincnod. Mae hefyd yn cael ei henwi’r 'gyfradd sylfaenol' neu'r 'Gyfradd Banc'. Er bod y gyfradd sylfaenol wedi bod yn isel ers dros ddegawd, ansicrwydd economaidd a achosodd i Fanc Lloegr ei chynyddu. Mae cynyddu cyfraddau llog yn un ffordd o geisio rheoli chwyddiant.
Mae newidiadau yn y gyfradd llog yn effeithio nid yn unig ar forgeisi, ond hefyd cardiau credyd, benthyciadau a faint y gallwch ei ennill ar gynilion. Mae'n annhebygol y byddwch yn gweld effaith yn syth ar y cynhyrchion eraill hyn, fodd bynnag.
Mae cyfraddau llog wedi bod yn isel ers 2009 mewn ymateb i'r argyfwng ariannol. Gwnaethant aros yn isel, gan gyrraedd eu pwynt isaf, 0.1% rhwng mis Mawrth 2020 a mis Rhagfyr 2021Yn agor mewn ffenestr newydd fel rhan o ymdrech i helpu'r economi yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae'n amhosib gwybod yn bendant beth sy’n mynd i ddigwydd, ond mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd angen iddynt gynyddu'r gyfradd sylfaenol eto yn 2023Yn agor mewn ffenestr newydd, pan all gyrraedd dros 4%. Mae hyn oherwydd bod disgwyl i gynnyrch mewnwladol crynswth y DU (GDP) ostwng tra bod chwyddiant yn cynyddu.
Nid ydynt wedi cyhoeddi rhagfynegiadau ar gyfer 2024 eto. Mae'r ansefydlogrwydd economaidd hwn yn golygu y gallai mwy o bobl geisio dod o hyd i forgeisi cyfradd sefydlog gyda thelerau hirach fel na fydd eu taliadau'n newid.
Os yw'r cyfraddau llog uwch wedi gwneud eich taliadau morgais yn anfforddiadwy, mae'n bwysig gofyn am help cyn gynted â phosibl.