Dylai pob un ohonom fod yn meddwl am bwy y byddem eisiau i wneud penderfyniadau ariannol ar ein rhan pe na allem eu gwneud ein hunain mwyach. Dyma sut.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw atwrneiaeth?
- Beth ellir ei wneud ar fy rhan ag atwrneiaeth arhosol?
- Pryd rwyf yn sefydlu atwrneiaeth arhosol?
- Dewis rhywun i weithredu ar eich rhan
- Faint mae’n ei gostio i sefydlu atwrneiaeth arhosol?
- Sut rwyf yn cael fy amddiffyn rhag i bethau fynd o chwith?
- Canslo atwrneiaeth arhosol
- Os oes gennych atwrneiaeth barhaus eisoes
- Rhy hwyr i sefydlu atwrneiaeth?
Beth yw atwrneiaeth?
Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i chi roi’r pŵer i un neu fwy o bobl wneud penderfyniadau a rheoli:
- eich arian a’ch eiddo, a/neu
- eich iechyd a’ch lles.
Cyn belled â’ch bod yn 18 oed neu’n hŷn, gallwch sefydlu un ar unrhyw adeg, ar yr amod eich bod yn gallu pwyso a mesur gwybodaeth a gwneud penderfyniadau eich hun.
Gall atwrneiaeth eich helpu â:
- sefyllfaoedd dros dro – er enghraifft, byddwch yn yr ysbyty neu dramor a bydd angen help arnoch â thasgau bob dydd fel talu biliau
- sefyllfaoedd tymor hwy – er enghraifft, byddwch am gynllunio ar gyfer yr annisgwyl neu wedi cael diagnosis o ddementia ac efallai y byddwch yn colli’r galluedd meddyliol i wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.
Atwrneiaeth – egluro’r termau
- Atwrneiaeth arhosol (testun y canllaw hwn) – trefniant parhaus heb ddyddiad dod i ben. Bydd yn caniatáu i’r unigolyn/pobl rydych yn eu dewis wneud penderfyniadau ar eich rhan os byddwch yn colli galluedd meddyliol.
- Atwrneiaeth gyffredin (neu gyffredinol) – mae hyn ar gyfer pan nad oes ond angen help dros dro arnoch. Nid yw ond yn ddilys cyn belled â bod gennych alluedd meddyliol.
- Disodlwyd atwrneiaeth barhaus yn 2007 gan atwrneiaethau arhosol. Gwelwch ein hadran isod ar ‘Os oes gennych atwrneiaeth barhaus eisoes’ i gael mwy o fanylion.
- Pan rowch awdurdodiad i rywun arall weithredu ar eich rhan, chi yw’r rhoddwr.
- Yr atwrnai yw’r person rydych yn ei ddewis i weithredu ar eich rhan. Gall unrhyw un â galluedd meddyliol sy’n 18 oed neu’n hŷn fod yn atwrnai. Mae hyn yn cynnwys gwraig, gŵr, partner sifil, partner, ffrind, aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol fel cyfreithiwr.
- Mae galluedd meddyliol yn golygu’r gallu i ddeall y penderfyniadau y mae rhaid i chi eu gwneud, pam mae angen i chi eu gwneud, a chanlyniad tebygol eich penderfyniadau.
Os nad ydych yn siŵr a oes gan rywun alluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau ei hun, mae rhagor o fanylion ar wefan GIG
Sut mae atwrneiaeth yn gweithio?
Rydych yn llenwi’r ffurflenni, naill ai ar-lein neu ar bapur, gan roi’r holl fanylion am bwy rydych eisiau i weithredu ar eich rhan.
Pan fyddwch wedi llofnodi’r rhain, byddwch yn cofrestru’r ffurflenni â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae rhaid i chi gadw’r ddogfen yn ddiogel a pharhau i wneud penderfyniadau yn y ffordd arferol nes bod ei hangen.
Os a phryd y mae angen i’ch atwrnai weithredu ar eich rhan, bydd yn rhoi copïau ardystiedig o’r atwrneiaeth i’ch banc a’r holl sefydliadau y mae angen iddynt ddelio â hwy. Mae hyn er mwyn profi bod ganddynt awdurdod cyfreithiol i weithredu ar eich rhan.
Beth ellir ei wneud ar fy rhan ag atwrneiaeth arhosol?
Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol. Gallwch gael un neu’r ddau. Fel rheol, mae’n syniad da sefydlu’r ddau ar yr un pryd.
Eiddo ac ariannol
Mae hyn yn rhoi’r pŵer i’r person rydych yn ei ddewis i wneud pethau fel:
- casglu’ch budd-daliadau neu’ch pensiwn
- talu biliau, newid darparwyr cyfleustodau a datrys materion treth
- rheoli eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu yswiriant
- prynu a gwerthu buddsoddiadau
- gwerthu eich cartref
- rhoi anrhegion i’ch perthnasau, er enghraifft ar ben-blwyddi a phriodasau.
Iechyd a lles
Mae hyn yn rhoi’r pŵer i’r person rydych yn ei ddewis i wneud penderfyniadau am bethau fel:
- symud i gartref gofal
- gofal meddygol, gan gynnwys triniaeth cynnal bywyd
- eich trefn ddyddiol, er enghraifft, ymolchi, gwisgo a bwyta.
Gwneud yn siŵr bod eich dymuniadau’n cael eu cyflawni
Gallwch ddewis defnyddio’ch dogfen atwrneiaeth i roi cyfarwyddiadau ychwanegol i’ch atwrneion neu gofnodi’ch dewisiadau. Er enghraifft:
- mae rhaid i’m hatwrneion ymgynghori â chynghorydd ariannol cyn buddsoddi dros £10,000
- Hoffwn i’m hanifeiliaid anwes fyw gyda mi cyhyd ag y bo modd. Os af i gartref gofal, hoffwn fynd â hwy gyda mi.
Neu, gallwch siarad â’ch atwrneion ac egluro sut yr hoffech iddynt weithredu ar eich rhan. Yna bydd eich atwrneion yn rhydd i wneud penderfyniadau y maent yn meddwl sy’n iawn, a byddant yn gwybod beth rydych eisiau.
Pryd rwyf yn sefydlu atwrneiaeth arhosol?
Oeddech chi’n gwybod?
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn colli galluedd meddyliol i wneud penderfyniad penodol - ni chaniateir i’ch partner wneud y penderfyniad hwnnw ar eich rhan yn awtomatig heb atwrneiaeth arhosol.
Gorau po gyntaf.
Mae’n llawer mwy anodd ac yn ddrytach i rywun eich helpu â’ch arian a’ch eiddo os ydych eisoes wedi colli galluedd meddyliol.
Mae’n bwysig iawn sefydlu’r cyfan ymlaen llaw. Mae bywyd yn ansicr, a nid ydych byth yn gwybod pryd y gallai rhywbeth fel damwain neu strôc ddigwydd.
Hefyd, mae’n cymryd rhwng wyth a deg wythnos i gofrestru atwrneiaeth arhosol. Felly nid ydych am ei adael i’r funud olaf.
Dewis rhywun i weithredu ar eich rhan
Mae bod yn atwrnai yn rôl gyfrifol ac mae’n bwysig meddwl yn ofalus am bwy i’w ddewis.
- Dewiswch rywun rydych yn ymddiried yn llwyr ynddynt. Mae angen i chi wir ymddiried ym mhwy bynnag rydych yn ei ddewis gan y byddant yn gwneud penderfyniadau difrifol i chi. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis teulu neu ffrindiau agos. Gallech hefyd ddewis cwmni, fel banc – ond gall hyn fod yn ddrud.
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn barod i weithredu ar eich rhan. Mae angen i chi drafod â hwy beth rydych am iddynt eu gwneud. Mae angen iddynt wybod beth sydd dan sylw, beth yw eich dymuniadau a ble mae’ch holl waith papur.
- Ystyriwch oedran. Os ydych yn hŷn, byddwch yn wyliadwrus o ddewis rhywun sydd ag oedran tebyg i chi (neu’n hŷn). Efallai na fyddant yn y pen draw y person cywir i weithredu ar eich rhan, os a phryd mae angen eu help arnoch, oherwydd eu problemau iechyd eu hunain.
Dewis mwy nag un person i weithredu ar eich rhan
Manteision
-
Nid oes rhaid i chi adael pobl allan o’r broses.
-
Gall ehangu’r gwaith.
Anfanteision
-
Gallant anghytuno ar ba gamau i’w cymryd.
-
Yn dibynnu ar eu lleoliad, gallai fod yn anodd iddynt gwrdd i lofnodi dogfennau.
- Ar y cyd – mae rhaid iddynt wneud penderfyniadau gyda’i gilydd bob amser. Mae’n golygu, os bydd un ohonynt farw, y byddai’r atwrneiaeth yn dod yn annilys – oni bai eich bod wedi penodi rhywun yn ei le.
- Ar y cyd ac yn unigol – maent yn gwneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd a rhai yn unigol. Mae hyn yn golygu pe bai un ohonynt farw, byddai’r atwrneiaeth yn dal i fod yn ddilys.
- Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac yn unigol ar gyfer popeth arall – bydd angen gwneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd. Chi sy’n dewis beth yw’r rhain pan fyddwch yn sefydlu atwrneiaeth. Os na all rhywun weithredu ar eich rhan mwyach neu’n marw, ni fydd eich atwrneion sy’n weddill yn gallu gwneud unrhyw un o’r penderfyniadau ar y cyd – oni bai eich bod wedi penodi rhywun yn ei le.
- Amhenodol – os dewiswch ddau atwrnai neu fwy, ond nad ydych yn cwblhau’r adran yn dweud sut y dylent weithredu, y sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith yw bod rhaid iddynt weithredu ar y cyd.
Dewis atwrneion newydd
Gallwch ddewis atwrnai wrth gefn. Dylai hwn fod yn rhywun rydych wir yn ymddiried ynddo. Byddent yn cymryd dros wneud penderfyniadau pe bai un o’r atwrneion ‘gwreiddiol’ yn ymddiswyddo o’r atwrneiaeth arhosol neu’n marw.
Mae dewis atwrnai newydd yn amddiffyn rhag canslo’r atwrneiaeth, os na all y rhai gwreiddiol weithredu mwyach.
Mae gan atwrneion newydd yr un lefel o awdurdod â’r atwrneion maent yn eu disodli. Maent fel arfer yn camu i mewn cyn gynted ag y bydd un o’ch atwrneion gwreiddiol yn stopio gweithredu ar eich rhan.
Sut mae sefydlu atwrneiaeth arhosol?
Pan fyddwch wedi cael yr holl drafodaethau pwysig, wedi siarad â’r bobl rydych am eich cynrychioli ac o bosib wedi ceisio cyngor, mae angen i chi:
- Fynd i wefan GOV.UK – bydd y gwasanaeth ar-lein yn darparu’r ffurflenni ac yn eich tywys trwy’r broses.
- Ddewis eich atwrneion a gwneud yn siŵr bod gennych eu henwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni llawn.
- Ddewis rhywun i weithredu fel ‘darparwr tystysgrif’. Mae hwn yn berson diduedd sydd yno i amddiffyn eich buddiannau a gwirio eich bod yn gweithredu o’ch ewyllys rydd eich hun.
- Benderfynu a ydych am roi gwybod i unrhyw un arall am yr atwrneiaeth arhosol. Gall hyn fod yn ffrindiau neu aelodau o’r teulu nad ydych yn gofyn iddynt weithredu fel eich atwrnai, ond yr hoffech roi cyfle iddynt godi unrhyw bryderon.
- Gael ac argraffu llofnodion, a chyflwyno’r ffurflenni i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus â thaliad. Byddant yn gwirio bod popeth wedi’i wneud yn iawn ac yn dychwelyd y ffurflen atoch os oes unrhyw wallau y mae angen i chi eu trwsio.
- Yna byddwch yn cael copi wedi’i stampio o’r atwrneiaeth, yn dangos ei fod wedi’i dderbyn a’i gofrestru.
A oes angen cyngor cyfreithiol arnoch i sefydlu atwrneiaeth arhosol?
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio cyfreithiwr ond efallai yr hoffech ddefnyddio un os ydych yn cael trafferth â’r broses neu eisiau i rywun wirio’ch ffurflen.
Gallwch chwilio am gyfreithwyr sy'n arbenigo yn y maes hwn ar gyfeirlyfr ar-lein y Law Society
Faint mae’n ei gostio i sefydlu atwrneiaeth arhosol?
Bydd angen i chi dalu £82 am bob atwrneiaeth arhosol.
Os ydych am gofrestru atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol, yn ogystal ag atwrneiaeth arhosol iechyd a lles, bydd yn costio £164 i chi.
Eithriadau a gostyngiadau mewn ffioedd
Mae sefydlu atwrneiaeth yn rhad ac am ddim – a elwir yn eithriad – os ydych ar rai budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd fel Cymhorthdal Incwm.
Os na allwch ei gael am ddim, efallai y gallwch gael gostyngiad o 50% yn y ffi os ydych yn ennill llai na £12,000 y flwyddyn.
Rhestrir y rheolau ar gyfer pwy sy’n gymwys ar y ffurflen ar wefan GOV.UK
Sut rwyf yn cael fy amddiffyn rhag i bethau fynd o chwith?
Mae rhaid i’ch atwrnai:
- eich cefnogi i wneud eich penderfyniadau eich hun
- gwneud pob penderfyniad er eich budd gorau
- ystyried eich dymuniadau a’ch teimladau.
Os na fyddant yn gwneud y pethau hyn, gellir eu cyfeirio at y Llys Gwarchod.
Darganfyddwch fwy am y Llys Gwarchod ar wefan GOV.UK
Canslo atwrneiaeth arhosol
Cyn belled â bod gennych alluedd meddyliol o hyd, gallwch ganslo atwrneiaeth arhosol ar unrhyw adeg.
Ar ôl i chi golli galluedd, dim ond â chytundeb y Llys Gwarchod y gellir canslo’r atwrneiaeth arhosol.
Am gyfarwyddiadau ar ganslo atwrneiaeth arhosol, ewch i wefan GOV.UK
Os oes gennych atwrneiaeth barhaus eisoes
Yng Nghymru a Lloegr, os ydych wedi yn sefydlu atwrneiaeth arhosol cyn 1 Hydref 2007, bydd yn cael ei alw’n atwrneiaeth barhaus. Ni allwch sefydlu’r math hwn mwyach. Ond os oes gennych un, a’i fod wedi’i lenwi’n gywir, gallwch ei gofrestru a’i ddefnyddio – cyhyd â bod gennych alluedd meddyliol o hyd.
Fodd bynnag, cofiwch mai dim ond penderfyniadau am eiddo a materion ariannol y bydd yn eu cynnwys. Os ydych am benodi rhywun i wneud penderfyniadau am eich iechyd a’ch lles, bydd angen i chi sefydlu atwrneiaeth arhosol ar gyfer iechyd a lles.
Pan fydd wedi’i sefydlu, bydd angen i chi ganslo’ch atwrneiaeth barhaus, felly nid oes dryswch, a rhoi gwybod i’ch atwrneion.
I ddarganfod mwy am sut i ddefnyddio neu ganslo atwrneiaeth barhaus sy’n bodoli’n barod, ewch i wefan GOV.UK
Rhy hwyr i sefydlu atwrneiaeth?
Os nad oes gan rywun y galluedd i wneud ei benderfyniadau ei hun mwyach, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod. Efallai y gallant benodi ‘dirprwy’ i wneud penderfyniadau ar eu rhan.