Dylai pob un ohonom fod yn meddwl am bwy y byddem eisiau i wneud penderfyniadau ariannol ar ein rhan pe na allem eu gwneud ein hunain mwyach. Dyma sut.
Beth yw atwrneiaeth?
Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i chi roi’r pŵer i un neu fwy o bobl wneud penderfyniadau a rheoli:
- eich arian a’ch eiddo, a/neu
- eich iechyd a’ch lles.
Cyn belled â’ch bod yn 18 oed neu’n hŷn, gallwch sefydlu un ar unrhyw adeg, ar yr amod eich bod yn gallu pwyso a mesur gwybodaeth a gwneud penderfyniadau eich hun.
Gall atwrneiaeth eich helpu â:
- sefyllfaoedd dros dro – er enghraifft, byddwch yn yr ysbyty neu dramor a bydd angen help arnoch â thasgau bob dydd fel talu biliau
- sefyllfaoedd tymor hwy – er enghraifft, byddwch am gynllunio ar gyfer yr annisgwyl neu wedi cael diagnosis o ddementia ac efallai y byddwch yn colli’r galluedd meddyliol i wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.
Atwrneiaeth – egluro’r termau
- Atwrneiaeth barhaus – trefniant parhaus heb ddyddiad terfyn. Bydd yn caniatáu i’r person/pobl a ddewiswch wneud penderfyniadau am eiddo a chyllid ar eich rhan. Gellir ei ddefnyddio naill ai tra’ch bod yn dal i allu gwneud y penderfyniadau hynny eich hun, neu ar ôl i chi golli galluedd meddyliol.
- Atwrneiaeth lles – trefniant parhaus heb ddyddiad terfyn. Bydd yn caniatáu i’r person/pobl a ddewiswch wneud penderfyniadau am iechyd a lles ar eich rhan. Gellir ei defnyddio dim ond ar ôl i chi fynd yn analluog i wneud y penderfyniadau hynny eich hun.
- Atwrneiaeth gyfun – mae hyn yn cyfuno atwrneiaeth barhaus a lles. Mae’n cynnwys penderfyniadau am eiddo a chyllid, yn ogystal ag iechyd a lles.
- Atwrneiaeth gyffredinol (neu gyffredin) – mae hyn ar gyfer pan nad oes ond angen help dros dro arnoch. Nid yw ond yn ddilys cyn belled â bod gennych alluedd meddyliol.
- Pan roddwch awdurdod i rywun arall weithredu ar eich rhan, chi yw’r ‘granter’.
- Yr atwrnai yw’r person rydych yn dewis i weithredu ar eich rhan. Gall unrhyw un â galluedd meddyliol sy’n 16 oed neu’n hŷn fod yn atwrnai yn yr Alban. Mae hyn yn cynnwys gwraig, gŵr, partner sifil, partner, ffrind, aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol fel cyfreithiwr.
- Mae galluedd meddyliol yn golygu’r gallu i ddeall y penderfyniadau y mae rhaid i chi eu gwneud, pam mae angen i chi eu gwneud, a chanlyniad tebygol eich penderfyniadau.
Os nad ydych yn siŵr a oes gan rywun alluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau ei hun, mae mwy o fanylion ar wefan Office of the Public Guardian (Scotland)
Sut mae atwrneiaeth yn gweithio?
Rydych chi (neu’ch cyfreithiwr) yn llunio’r dogfennau gan roi’r holl fanylion am bwy rydych am weithredu ar eich rhan. Yna byddwch yn eu cofrestru â’r Office of the Public Guardian in Scotland.
Mae rhaid i chi gadw’r dogfennau’n ddiogel ac yn parhau i wneud penderfyniadau yn y ffordd arferol nes bod eu hangen.
Os a phryd y mae angen i’ch atwrnai weithredu ar eich rhan, bydd rhaid iddo roi copïau ardystiedig o’r atwrneiaeth i’ch banc a’r holl sefydliadau y maent yn delio â hwy. Mae hyn er mwyn profi bod ganddynt awdurdod cyfreithiol i weithredu ar eich rhan.
Beth ellir ei wneud ar fy rhan ag atwrneiaeth?
Mae atwrneiaeth barhaus yn rhoi’r pŵer i’r person rydych yn ei ddewis reoli eich eiddo neu faterion ariannol. Gallai hyn fod, er enghraifft, rheoli eich biliau a’ch cyfrif banc, neu werthu eich tŷ.
Mae atwrneiaeth lles yn rhoi’r pŵer i’r person rydych yn ei ddewis i wneud penderfyniadau am eich gofal personol ac iechyd. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn penderfynu ble byddwch yn byw, neu’ch triniaeth feddygol a’ch gofal personol.
Wrth feddwl pa bwerau (parhaus, lles, neu gyfuniad) i’w rhoi, meddyliwch am y tymor byr a’r tymor hwy. Bydd hyn yn sicrhau bod gan eich atwrneion ddigon o bwerau i wneud penderfyniadau ar eich rhan.
Pryd wyf yn sefydlu atwrneiaeth?
Oeddech chi’n gwybod?
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn colli galluedd meddyliol i wneud penderfyniad penodol - ni chaniateir i’ch partner wneud y penderfyniad hwnnw ar eich rhan yn awtomatig heb atwrneiaeth barhaol.
Gorau po gyntaf.
Mae’n llawer mwy anodd ac yn ddrytach i rywun eich helpu â’ch arian, eiddo a lles os ydych eisoes wedi colli galluedd meddyliol.
Mae’n bwysig iawn sefydlu’r cyfan ymlaen llaw. Mae bywyd yn ansicr, a nid ydych byth yn gwybod pryd y gallai rhywbeth fel damwain neu strôc ddigwydd.
Hefyd, mae’n cymryd sawl wythnos i sefydlu atwrneiaeth. Felly nid ydych am ei adael i’r funud olaf.
Dewis rhywun i weithredu ar eich rhan
Mae bod yn atwrnai yn rôl gyfrifol ac mae’n bwysig meddwl yn ofalus am bwy i’w ddewis.
- Dewiswch rywun rydych yn ymddiried yn llwyr ynddynt – mae angen i chi wir ymddiried ym mhwy bynnag rydych yn ei ddewis gan eu bod yn gwneud penderfyniadau difrifol i chi. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis teulu neu ffrindiau agos. Gallech hefyd ddewis cwmni fel banc, ond gall hwn fod yn gostus. Ac ni chaniateir hynny yn achos atwrneiaeth lles (lle mae rhaid i’r atwrnai fod yn unigolyn).
- Sicrhewch eu bod yn barod i weithredu ar eich rhan – mae angen i chi drafod â hwy beth rydych am iddynt eu gwneud. Mae angen iddynt wybod beth sydd dan sylw, beth yw eich dymuniadau a ble mae’ch holl waith papur.
- Ystyriwch oedran - os ydych yn hŷn, byddwch yn wyliadwrus o ddewis rhywun sydd ag oedran tebyg i chi (neu’n hŷn). Efallai na fyddant yn y pen draw y person cywir i weithredu ar eich rhan, os a phryd mae angen eu help arnoch, oherwydd eu problemau iechyd eu hunain.
Dewis mwy nag un person i weithredu ar eich rhan
Manteision
-
Nid oes rhaid i chi adael pobl allan o’r broses.
-
Gall ehangu’r gwaith.
Anfanteision
-
Gallant anghytuno ar ba gamau i’w cymryd.
-
Yn dibynnu ar eu lleoliad, gallai fod yn anodd iddynt gwrdd i lofnodi dogfennau.
- Ar y cyd – mae rhaid iddynt wneud penderfyniadau gyda’i gilydd bob amser. Mae’n golygu os bydd un ohonynt farw, y byddai’r atwrneiaeth yn dod yn annilys (oni bai eich bod wedi penodi rhywun yn ei le).
- Ar y cyd ac yn unigol – maent yn gwneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd a rhai yn unigol. Mae hyn yn golygu pe bai un ohonynt farw, byddai’r atwrneiaeth yn dal i fod yn ddilys.
Gallwch benderfynu cael atwrneion ar wahân i reoli’ch cyllid a’ch eiddo, a’ch iechyd a’ch lles.
Dewis atwrneion newydd
Gallwch ddewis atwrnai wrth gefn. Dylai hwn fod yn rhywun rydych wir yn ymddiried ynddo. Byddent yn cymryd drosodd gwneud penderfyniadau pe bai un o’r atwrneion ‘gwreiddiol’ yn ymddiswyddo o’r atwrneiaeth neu’n marw.
Mae dewis atwrnai newydd yn amddiffyn rhag canslo’r atwrneiaeth, os na all y rhai gwreiddiol weithredu mwyach.
Mae gan atwrneion newydd yr un lefel o awdurdod â’r atwrneion maent yn eu disodli. Maent fel arfer yn camu i mewn cyn gynted ag y bydd un o’ch atwrneion gwreiddiol yn stopio gweithredu ar eich rhan.
Sut mae sefydlu atwrneiaeth?
Nid yw Office of the Public Guardian in Scotland yn darparu dogfennaeth safonol ar gyfer sefydlu atwrneiaeth.
Gallwch ei ysgrifennu eich hun, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cyfreithiwr.
Os penderfynwch ei ysgrifennu eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr holl ganllawiau ar wefan Office of the Public Guardian (Scotland)
Os penderfynwch ddefnyddio cyfreithiwr, gallwch chwilio am un sy’n arbenigo yn y maes hwn ar wefan Law Society of Scotland
Fel rhan o’r broses atwrneiaeth, bydd angen i chi hefyd fod wedi cael cyfweliad ag un o’r canlynol:
- cyfreithiwr sydd wedi’i gofrestru i ymarfer cyfraith yn yr Alban
- aelod gweithredol o’r ‘Faculty of Advocates’
- meddyg sydd wedi ei gofrestru yn y DU a sydd â thrwydded i ymarfer.
Mae hyn er mwyn cadarnhau eich bod yn deall yr hyn rydych yn ei wneud. Yna byddant yn cwblhau tystysgrif gallu, sy’n rhan o’ch dogfen atwrneiaeth.
Pan fydd wedi ei llunio, mae angen i chi (neu eich cyfreithiwr) gofrestru eich dogfen atwrneiaeth â’r Office of the Public Guardian in Scotland.
Faint mae’n ei gostio i sefydlu atwrneiaeth?
Bydd angen i chi dalu £81 am bob atwrneiaeth barhaol.
Mae amgylchiadau penodol lle gallech fod yn gymwys i hawlio cael eich eithrio rhag ffioedd. Darganfyddwch fwy ar wefan yr Office of the Public Guardian in Scotland
Bydd angen i chi hefyd ystyried ffioedd unrhyw gyfreithiwr am greu’r ddogfen. Efallai y bydd eich cyfreithiwr hefyd yn gofyn i chi ymweld â’ch meddyg teulu neu asesydd galluedd meddwl annibynnol i benderfynu ar eich galluedd meddyliol. Mae’n debygol y codir tâl am y gwasanaeth hwn.
Eithriadau ffioedd
Mae sefydlu atwrneiaeth am ddim – a elwir yn eithriad – os ydych ar rai budd-daliadau meini prawf fel Cymhorthdal Incwm.
Rhestir yr holl rheolau ar gyfer pwy sy'n gymwys i'w eithrio ar wefan yr Office of the Public Guardian (Scotland)
Sut rwyf yn cael fy niogelu rhag i bethau fynd o chwith?
Mae rhaid i’ch atwrnai:
- eich cefnogi i wneud eich penderfyniadau eich hun
- gwneud pob penderfyniad er eich lles
- ystyried eich dymuniadau a’ch teimladau.
Os na fyddant yn gwneud y pethau hyn, gellir eu cyfeirio at yr Office of the Public Guardian in Scotland
Penderfynu beth yw ystyr ‘analluogrwydd’
Os ydych am i’ch atwrneiaeth ddechrau os byddwch analluog, gallwch gynnwys ‘datganiad analluogrwydd’. Byddai hyn yn nodi’n union sut rydych am i’ch analluogrwydd gael ei bennu a phwy ddylai wneud hyn. Mae’n ei gwneud yn glir beth yw eich dymuniadau fel y gellir eu dilyn.
Canslo atwrneiaeth
Cyn belled â bod gennych alluedd meddyliol o hyd, gallwch ganslo atwrneiaeth ar unrhyw adeg.
Cewch gyfarwyddiadau ar ganslo atwrneiaeth ar wefan yr Office of the Public Guardian (Scotland)
Rhy hwyr i sefydlu atwrneiaeth?
Os nad oes gan rywun y gallu i wneud ei benderfyniadau ei hun mwyach, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Siryf am naill ai:
- gorchymyn ymyrraeth – i alluogi rhywun arall i wneud penderfyniad unwaith yn unig ar eu cyfer, neu
- gorchymyn gwarcheidiaeth – i alluogi rhywun arall i wneud penderfyniadau drostynt am gyfnod penodol o amser.