Yn yr Alban, os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol - gallwch gael cynnig rhai opsiynau ar sut i’w dalu i chi.
Sut y telir Credyd Cynhwysol fel arfer
Fel arfer bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu mewn un taliad misol, a all gynnwys elfen ‘costau tai’ – cyfraniad tuag at eich rhent neu forgais.
Byddwch yna’n gyfrifol am dalu eich rhent neu forgais eich hun i’ch landlord neu’ch darparwr morgais.
Yr opsiynau ar gyfer ceisiadau Credyd Cynhwysol yn yr Alban
Os gwnewch gais newydd neu bod gennych gais presennol am Gredyd Cynhwysol, cewch gynnig dau opsiwn ynghylch sut y caiff ei dalu.
Gallwch ddewis rhwng:
- cael eich talu’n fisol, neu
- gael eich talu ddwywaith y mis.
Rhoddir dewis i chi hefyd rhwng:
- cael yr elfen costau tai Credyd Cynhwysol wedi’i dalu i’ch cyfrif banc, neu
- gael yr elfen costau tai wedi’i dalu yn uniongyrchol i’ch landlord.
Gallwch ddewis ar ôl i chi gael eich taliad misol cyntaf o Gredyd Cynhwysol.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Dewis trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael cynnig y dewisiadau hyn trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Nid oes yn rhaid i chi wneud unrhyw newidiadau. Os na fyddwch yn gwneud unrhyw newidiadau bydd eich taliadau’n parhau i gael eu gwneud yn fisol. Bydd yr elfen costau tai yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc yn rhan o’ch taliad misol unigol.
Pan wneir cynnig ar eich cyfrif ar-lein, bydd gennych 60 diwrnod i benderfynu beth rydych am ei wneud.
Ond gallwch ddal i ofyn am wneud newidiadau i’r ffordd y telir eich Credyd Cynhwysol ar unrhyw adeg. I wneud hyn, gallwch ddefnyddio eich dyddlyfr ar-lein.
A gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg. Er enghraifft, gallwch ofyn i fynd yn ôl at daliadau misol unigol gyda’ch elfen costau tai wedi ei dalu’n uniongyrchol i chi.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i’ch talu’n wahanol.
Mae hyn ond yn berthnasol os yw eich Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu drwy ddefnyddio Trefniant Talu Amgen. Gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith os yw hyn yn berthnasol i chi.
Darganfyddwch fwy ar wefan mygov.scot
Cael trafferth rheoli eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein?
Ydych chi’n cael trafferth wrth ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein? Yna gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith eich helpu i newid sut rydych yn cael eich talu.
Gallwch siarad gyda hwy'n bersonol yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu dros y ffôn.
Y llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Os ydych angen help gyda’ch cais, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 6pm (ar gau ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim.